Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

 Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif  6   Haf 1999

 

RHIFYN ARBENNIG SY’N CANOLBWYNTIO AR

ADFER FFYNHONNAU

 

SUT I FYND ATI?

                 BETH YW’R CAMAU PWYSIG I’W CYMRYD?

 

CYNGOR ARBENIGWR.

PROFIAD PERSONOL O ADFER FFYNNON.

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

 

Ffynnon Gyngar, Llangefni

 

Derbyniwyd llythyr gan Gyngor Tref Llangefni yn ein hysbysu mai Cyngor Sir Môn yw perchnogion y ffynnon. Cynigiodd cangen Llangefni o Sefydliad y Merched fynd ati i lanhau’r ffynnon. Cynhaliwyd cyfarfod i drafod y cynlluniau ar gyfer y ffynnon ac aeth cynrychiolaeth o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru yno a da gennym ddweud fod brwdfrydedd y merched yn heintus. Roedd hefyd bosibilrwydd y byddai gan Gyngor Môn ddiddordeb mewn ffynhonnau eraill ar yr ynys. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn.

Ffynnon Gemig, Llan Sain Siôr, Abergele

Buom ar ymweliad answyddogol â’r safle ddechrau mis Ebrill i weld a oedd unrhyw ddatblygiad wedi digwydd (Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 5). Heb fynd yn agos ati gallem weld bod tyfiant dros y ffynnon fel o’r blaen ond roedd y tir islaw iddi wedi ei gloddio i wneud lle i ddŵr o’r ffynnon gronni i ffurfio’r llyn arfaethedig. Byddwn yn dal i fonitro’r gwaith addawedig ar y ffynnon yn y dyfodol.

Ffynnon Fihangel, Caerwys, Sir y Fflint

yn ddiweddar nodwyd ei bod bron yn amhosib mynd at Ffynnon Fihangel yng Nghoed Maesmynan ar gyrion Caerwys. Yn y gorffennol arferid bedyddio unigolion yn y ffynnon ei hun. Yn fwy diweddar cludwyd dŵr o’r ffynnon i’r eglwys ar gyfer bedyddio a parhaodd yr arferiad tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Credid yn lleol fod rhinweddau gwyrthiol i’r dŵr a allai wella llygaid poenus a chodi defaid oddi ar ddwylo. Gallai yfed y dŵr buro’r cyfansoddiad a rhoi adnewyddiad iechyd i’r claf. Mae’r ffynnon ei hun mewn cilfach goediog a’r dŵr yn codi o’r graig ac yn syrthio i bwll bychan islaw iddi. Mae olion adeiladau o’i chwmpas. Mae Cyngor Tref Caerwys am ofyn i berchennog stad Coed Maesmynan ei helpu i ailagor y fynedfa at y ffynnon. Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi cael gwahoddiad i gyfarfod â’r cyngor i drafod dyfodol y ffynnon.

Ffynnon Gynfran, Llysfaen, Bae Colwyn

Bu aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru yn chwilio am y ffynnon hon a oedd gerllaw’r eglwys. Hyd yma ni chafwyd hyd iddi ond credwn fod ei lleoliad ar dir islaw tŷ o’r enw Cartref sydd gyferbyn â’r tro i Ffordd Cynfran. Yn anffodus daeth yn law trwm a gorfod i ni ohirio’r dasg o chwilio am y ffynnon. Er i ni anfon at y Cyngor Cymuned yn gofyn am wybodaeth, ni chafwyd ymateb. Tybed a oes rhywun a all ein helpu i ddarganfod union leoliad y ffynnon arbennig hon? Ers talwm roedd pobl yn dod â’u gwartheg at y ffynnon i gael eu bendithio. Wedi taenu dwr o’r ffynnon drostynt arferid dweud ‘Rhad Duw a Sant Cynfran ar y da’.

Ffynnon Gybi, Llannerch-y-medd, Môn.

Cyfeiriwyd yn y rhifyn diwethaf o Llygad y Ffynnon at Ffynnon Gybi ger Clorach, Llannerch-y-medd. Cafwyd gwybod mewn llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymdeithas Llannerch-y-medd nad yw’r ffynnon hon yn eu dalgylch hwy ond bod Ffynnon Gybi ar dir Tŷ-croes, Carmel, Llannerch-y-medd. Mae traddodiad yn yr ardal mai wrth y ffynnon hon yr arferai Cybi a Seiriol gyfarfod, yn hytrach nag wrth Ffynnon Clorach.

Ffynnon y Priordy, Aberhonddu

Yn ddiweddar bu cymdeithas Wellsprings yn clirio’r baw a’r llanast o’r ffynnon hon sydd ger yr Eglwys gadeiriol yn Aberhonddu. Maent wedi cael caniatâd i wneud hynny gan y perchnogion, sef Cyngor Sir Powys.

Ffynhonnau Trelech, Mynyw

Roedd cynllun carthffosiaeth yn bygwth y Ffynnon Rinweddol (Virtuous Well) yn Nhrelech. Bu Wellsprings yn gweithredu i sicrhau nad oedd dim yn digwydd i’r ffynnon hon nac i nifer o ffynhonnau eraill yn yr ardal. Mae posibilrwydd y gall y ffynhonnau hyn gael eu glanhau os ceir caniatâd gan y perchennog.

Mae Wellsprings wedi gweithio ar nifer o ffynhonnau yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Morgannwg. Byddant yn trefnu i gyfarfod mewn lleoliad arbennig gerllaw ffynnon ac yn mynd ati i lanhau’r safle a harddu’r amgylchedd.

Oes ffynnon yn eich hardal sydd o ddiddordeb arbennig i chi? Rhowch wybod i’r Golygydd fel y gallwn sôn amdani yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DYDECHO

Tristan Grey Hulse

Mae gan Tristan Grey Hulse ddiddordeb mawr mewn ffynhonnau. Bu’n olygydd y cylchgrawn Saesneg Source am nifer o flynyddoedd. Mae wedi ymweld â nifer fawr o ffynhonnau ym Mhrydain a thramor. Cafodd hefyd y profiad anhygoel o gael iachâd yn Ffynnon Wenfrewi, Treffynnon. Mae’n byw yng Nghefnmeiriadog ger Llanelwy. Nid yw’n rhugl yn y Gymraeg ond mae’n mwynhau darllen Llygad y Ffynnon ac mae ganddo ddiddordeb yng ngweithgareddau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Mae wedi caniatáu i ni gyfieithu’r erthygl hon o’i eiddo sy’n sôn am Ffynnon Dydecho, Llanymawddwy, a’r ardal o’i chwmpas.

Ychydig o bobl sy’n gwybod am Ffynnon Dydecho eto mae’n un o’r ffynhonnau mwyaf rhyfeddol a swynol ein gwlad. Mae safle’r ffynnon yn un hudolus ond yn ogystal mae’r tirwedd o’i hamgylch yn drysorfa o hen chwedlau yn ymwneud â bywyd y sant. Yn wir, nid yw’r ardal wedi newid fawr mewn canrifoedd lawer, ac yma mae’n bosib gweld o hyd leoedd a gysylltir â’r sant ei hun. Nid yw hyn yn bosib yn unlle arall yng Nghymru.

Daeth Tydecho i Feirion yng nghwmni ei gefnder, Cadfan yn y chweched ganrif. Daeth i Lanymawddwy gyda’i chwaer, Tegfedd. Oddi yma sefydlodd gymunedau Cristnogol yng Ngarthbeibio a Chemais lle mae ffynhonnau eraill wedi eu cysegru iddo. Cadwyd nifer o’r chwedlau amdano ar gof mewn cerdd o’r enw ‘Cywydd i Dydecho Sant’ gan Dafydd Llwyd o Fathafarn (1420 – 1500). Yn wir, mae’r cywydd yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth am fywyd Tydecho.

Mae hanesion amdano yn sôn iddo gael ei erlid gan Faelgwn Gwynedd. Gofynnodd Maelgwn i’r sant ofalu am ei geffylau dros y gaeaf. Trodd y sant yr anifeiliaid i’r mynydd a phan ddaeth Maelgwn i’w nôl yn y gwanwyn roeddynt yn gryf a holliach a’u cotiau gwyn wedi troi’n felyn euraidd. Mewn dialedd lladrataodd Maelgwn ychain y sant ond daeth ceirw o’r goedwig i dynnu’r aradr yn eu lle a blaidd yn eu dilyn i lyfnhau’r tir:

Dwg Maelgwn wedi digiaw

Ychen y gŵr llên gerllaw,

A’r ail ddydd, bu arial dig,

Yr ydoedd geirw yn’redig.

Blaidd llwyd heb oludd, lledwar,

Ar ôl oedd yn llyfnu’r âr.

Hysiodd Maelgwn ei gŵn ar yr anifeiliaid ac eisteddodd ar sedd y sant yn uchel uwchben y dyffryn i wylio’r helfa, ond pan geisiodd godi oddi yno cafodd na fedrai. Ni chafodd ei ryddhau gan y sant nas iddo addo roi holl diroedd yr ardal i Dydecho fel hafan ddiogel i ddyn ac anifail. Gellir gweld Cadair Tydecho ar Bumrhyd uwchben pentref Llanymawddwy tra bo Dôl-y-ceirw yn enw ar gae gyferbyn â’r eglwys.

Cofnodir un arall o wyrthiau Tydecho yn yr enw Llaethnant. Dywedir bod newyn yn yr ardal ar un adeg a bod y forwyn wedi llithro wrth groesi rhyd gan dywallt y llefrith. Ond llwyddodd y sant i droi’r dwr yn y nant yn llaeth o’r fan honno hyd at yr eglwys fel bod digon i bawb. Roedd y cof am y traddodiad yma yn fyw yn yr ardal ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Wedi iddo farw claddwyd Tydecho mewn capel bychan ger ei eglwys yn Llanymawddwy a bu’r fangre yn gyrchfan i bererinion hyd yn oed ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Disgrifiodd yr hanesydd George Owen (1552 – 1613) y lle fel hyn:

There is a chapell called capel tydacho in the churche yard

 now beginninge to decaye – there was watchinge eu’y Friday nighte.

Roedd gwylnosau ger creirfeydd seintiau yn gyffredin iawn ers talwm fel rhan o’r gwyliau Mabsant, ond roedd eu cynnal yn wythnosol yn dangos parch anghyffredin i goffadwriaeth Tydecho.

Awn ar ymweliad â mannau arbennig yn yr ardal sy’n gysylltied â’r sant. Rhaid yw dilyn y ffordd rhwng Llanuwchllyn a Dinas Mawddwy, drwy Cwm Cynllwyd a thros Fwlch y Groes. Tua milltir i’r gogledd o Lanymawddwy mae bachdro yn y ffordd ger nifer o goed (Landranger 125: 905214). Gallwn barcio’r car yma, a mynd drwy’r glwyd ar y tro i gyfeiriad y gorllewin. Dilynwn y llwybr heibio i ffermdy Blaen Pennant. O’n blaen mae gallt serth o’r enw Rhiw y March lle y dywedir i Dydecho gadw ceffylau Maelgwn. Mae’r llwybr yn troi i’r chwith islaw’r Rhiw ger rhaeadr, yna’n troi’n serth i’r dde yn gyfochrog â nifer o raeadrau yn y Llaethnant – a’r dŵr yn dal i lifo’n wyn fel yn y chwedl. Wrth gyrraedd y brig a rhaid troi ac edrych ar wyneb y graig lle gellir gweld amlinelliad pen anferth. Dyma tydecho sy’n dal i warchod dros ei ddyffryn. Wedi dringo i’r copa cawn ein hunain mewn dyffryn dwfn a’r Llaethnant yn gwyro yma a thraw wrth lifo’n dawel cyn cyrraedd y rhaeadrau. I’r chwith, ar draws yr afon, mae hen gorlan o gerrig mawrion. Dyma Fuches Tydecho lle bu’r forwyn yn godro’r gwartheg cyn iddi rhydio’r afon a cholli’r llaeth ychydig uwchben y rhaeadr. Wedi cyrraedd y copa rhaid yw troi i’r dde ac i’r dde drachefn i mewn i hollt yn y graig y tu ôl i’r pen. (894218) Ar ei gwaelod mae basn mae pump o dyllau crwn bychain ar ffurf croes. Dyma Ffynnon Dydecho. Pe gwegir y basn bydd yn raddol lanw eto â dŵr. Credir mai ol bysedd tydecho yw’r tyllau bach yn y graig. Yn ôl un traddodiad credir mai’r sant, a’i ddwylo ei hun, a naddodd y ffynnon o’r graig. Yn y gorffennol roedd ei dŵr yn llesol at wella amryw anhwylderau.

Ar ben y llethr serth uwchben y ffynnon, ar waelod clogwyn, mae ffurf petryal yn y graig o dan gysgod criafolen. Dyma Wely Tydecho. Mae’r gwely a’r ffynnon yn allweddol i ddeall arwyddocâd y tirwedd arbennig yma. Yn ôl traddodiadau’r seintiau Celtaidd, nid lle i orffwyso arnynt oedd gwelyau’r seintiau ond mannau lle’r elent i encilio am gyfnodau, megis yn ystod y Grawys, er mwyn ymprydio a myfyrio. Tra parchai cof gwerin draddodiadau’r seintiau, byddai sôn am y lleoedd hynny yn yr ardaloedd a fu’n gysylltiedig â digwyddiadau ym mywydau’r seintiau. Daeth manylion y tirwedd yn bwysig i’r mynaich cynnar a ddilynai’r sant. Yn ddiweddarach byddai lleoliad hanesion y seintiau yn fannau arbennig lle ymwelai’r pererinion â nhw. Cerddent yn ôl traed y sant gan ymweld â lleoliad y digwyddiadau pwysig yn ei fywyd. Hyd heddiw, yn Iwerddon, ac yn Llydaw, lle mae’r traddodiadau yma wedi parhau yn ddi-dor, ceir pererindodau preifat a chyhoeddus i fannau cysegredig i’r sant lleol a rhaid offrymu gweddi ym mhob un o’r mannau hyn. Credir bod gwneud hyn yn ailadrodd yr hyn a wnâi’r sant yn feunyddiol yn ystod ei fywyd.

Mae digon o dystiolaeth brin wedi goroesi yng Nghymru i brofi mai dyma oedd y traddodiad yma hefyd. Ar Ynys Llanddwyn, er enghraifft, mae digon o fannau arbennig yn y tirwedd o gwmpas Ffynnon Ddwynwen i’n galluogi i atgynhyrchu’r darlun o’r daith a wnâi’r pererinion. Ond dim ond yn Llanymawddwy y gellir ailgreu’r darlun cyflawn a gallwn ddychmygu’r pererinion yn symud o Gadair Tydecho i’r ffynnon ac yna i’r gwely. Yno byddent yn cynnal gwylnos mewn edifeirwch gan weddïo am adferiad iechyd neu ffafr arall gan y sant yn dâl am gyflawni pererindod i’w anrhydeddu.

Rhaid ystyried pwysigrwydd y pererindodau hyn cyn y gallwn yn llawn ddeall arwyddocâd cwlt y ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru. Mae gennym nifer fawr o ffynhonnau sy’n gysylltiedig â saint ond cymharol ychydig ohonynt sydd â thraddodiadau arwyddocaol neu hanes o iacháu yn perthyn iddynt. Yn aml dim ond eu henwau sy’n tystio i’w cysylltiad â seintiau Cymru yn y gorffennol. Eto gall ffynnon sanctaidd fod yn rhan o dirwedd arbennig lle y gallwn o hyd brofi rhin oes y seintiau. Gallwn droi atynt eto i ddeisyf am eu cymorth ac i dderbyn eu bendith.

Eled bawb o’r wlad y bo

I duchan at Dydecho.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ACHUB FFYNNON FIHANGEL, Cilcain.

 Eirlys Gruffydd

Yn 1987 aethom i ymweld â safle Ffynnon Fihangel ym mhentref Cilcain, sir y Fflint. I bob pwrpas roedd y ffynnon hon wedi diflannu ond bod ei lleoliad islaw’r eglwys, ger bwthyn o’r enw Tyddyn Mihangel yn wybyddus. Mae’r eglwys yng Nghilcain wedi ei chysegru i Fair a pheth rhyfedd yw cael ffynnon wedi ei chysegru i Fihangel gerllaw iddi. Mae’r ffynnon ar dir preifat ond bod modd mynd iddi o’r ffordd, felly mae’r fynedfa yn dod o dan ofal Adran Briffyrdd y Cyngor Sir.

Mae nifer o bobl yn y pentref wedi bod yn awyddus i adfer y ffynnon ers tro byd. Casglwyd gwybodaeth a’i gyflwyno i’r Cyngor Cymuned rai blynyddoedd yn ôl ond teimlwyd bod y gôst o geisio achub y ffynnon yn llawer gormod. Mae sycamorwydden yn tyfu yng nghanol y ffynnon. O bosib dyma sy’n ei dal at ei gilydd, ond ni ellir adfer y ffynnon heb dorri’r goeden i lawr. Ni ellir torri coeden i lawr heb ganiatâd a rhaid cael offer arbennig i wneud hynny. Hefyd mae gwifrau trydan a ffôn yn cyffwrdd brigau’r goeden. Dyma fyddai un rhan o’r gôst. Gan fod y ffynnon yn hen iawn byddai’n rhaid cael archeolegwr i oruchwilio’r gwaith o’i hadfer, felly penderfynodd y Cyngor Cymuned beidio a mynd ymlaen â’r gwaith.

Nawr mae’r ffynnon wedi dirywio mwy a rhywun wedi ei defnyddio fel man i adael sbwriel adeiladu, a dweud y gwir, prin bod modd ei hadnabod fel ffynnon erbyn hyn. Mewn ymgais i achub y ffynnon daeth nifer o bobl leol, gan gynnwys perchennog y tir, at ei gilydd. Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i fod yn un o’r criw gan y gwyddwn fod angen i mi gael profiad uniongyrchol o geisio achub ffynnon.

FFYNNON MIHANGEL, CILCAIN

Y peth cyntaf sy’n taro rhywun yw bod adfer ffynnon yn fater cymhleth iawn a bod rhaid cael cydweithrediad nifer o bobl cyn cychwyn ar y gwaith. Chwech ohonom oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd mewn tŷ preifat yn y pentref ar Ebrill y 9fed. Y person pwysicaf o ddigon yno oedd y perchennog tir, oherwydd heb ei ganiatâd ef nid oedd modd symud cam. Roedd yn gefnogol iawn i’r syniad o adfer y ffynnon. Hyd y gallai weld doedd y goeden ddim yn broblem. Pe bai modd cael caniatâd i’w thorri, ar ôl gwneud yn siŵr nad oedd perygl i’r gwifrau uwchben, gellid gadael iddo syrthio ar ri dir. Coeden ifanc yw hon, un sydd wedi tyfu’n gyflym iawn am fod ei gwreiddiau’n sugno’r dŵr o’r ffynnon. Un o’r pethau cyntaf i’w gwneud, felly, yw cael caniatâd i dorri’r goeden. Mae llawer o’r cerrig a fu unwaith ym muriau’r ffynnon bellach wedi eu gwasgaru dros y cae lle mae’r dŵr yn llifo. Bydd angen casglu rhain at ei gilydd ar gyfer yr adeiladu. Gan fod y tir o gwmpas y ffynnon yn wlyb byddai adfer y ffynnon yn sychu’r ddaear o’i chwmpas a byddai hyn yn gwella cyflwr y tir i’r ffermwr.

Cynigiodd un o’r grŵp gysylltu ag archeolegydd i weld a fedrid cael cymorth gwirfoddol i arolygu’r gwaith. Mae cyfeiriad at y ffynnon yn The Ancient Monuments of Flintshire, arolwg o henebion y sir a wnaed yn 1912. Roedd aelod arall am gael gafael ar yr wybodaeth oedd eisoes wedi ei gasglu am y ffynnon. Fy nghyfraniad i oedd archwilio i’r wybodaeth am hanes y ffynnon a chael Ken i wneud llun o sut un oedd y ffynnon wreiddiol a sut y byddai’r ffynnon yn gallu edrych ar ôl ei hadfer.

Roedd dau beth y gallem ei wneud heb ofyn caniatâd neb, sef codi’r sbwriel a daflwyd i’r ffynnon a chasglu’r cerrig o’r ffynnon a wasgarwyd gan draed gwartheg a defaid ar hyd y cae lle mae’r dŵr o’r ffynnon yn goferu. Yn ystod y cyfarfod penderfynwyd ffurfio cymdeithas – Cyfeillion Ffynnon Fihangel – a byddem yn hysbysu’r Cyngor Cymuned ein bod yn bwriadu adfer y ffynnon. Byddai’n rhaid i ni gael cefnogaeth a chydweithrediad y pentrefwyr gan mai ei ffynnon nhw ydi hi ac mae ar eu hysgwyddau nhw y bydd y cyfrifoldeb o gynnal a chadw’r ffynnon yn y dyfodol. Yn naturiol trafodwyd ochr ariannol y fenter. Cytunwyd y byddai angen swm rhwng £6,000 ac £8,000 i wneud y gwaith. Ystyriwyd ceisio statws elusen i Gyfeillion Ffynnon Fihangel gan fod hyn yn fantais fawr pan yn ceisio codi arian i adfer y ffynnon. Ar Galan Mai ymddangosodd erthygl mewn papur Saesneg lleol yn sôn am y ffynnon a’r ymgais i’w hadfer.

Ar Fai y 5ed cafwyd cyfarfod arall o’r Cyfeillion. Penderfynwyd ysgrifennu at y Cyngor Cymuned yn gofyn iddynt a hoffent anfon cynrychiolydd i’n cyfarfodydd ni. Drafftiwyd llythyr yn ystod y cyfarfod. Penderfynwyd mai un person oedd i fod yn berson cyswllt i’r Cyfeillion. Nid oedd hyn yn golygu mai’r person hwnnw neu honno fyddai’n gorfod gwneud y gwaith gohebu i gyd ond mai’r unigolyn yma fyddai’n arwyddo unrhyw lythyr ac a anfonid yn enw’r Cyfeillion. Bu trafodaeth hir am y goeden sycamorwydden sydd wedi tyfu ger y ffynnon am flynyddoedd lawer. Teimlai rhai u byddai’n bechod ei thorri gan ei bod yn harddu amgylchedd y ffynnon. O blaid ei thorri dadleuwyd y byddai’r sycamorwydden yn dal i dyfu’n am ddegau o flynyddoedd eto ac y byddai, ymhen amser, yn dinistrio unrhyw waith adfer a wneid i’r ffynnon, a bwrw ei bod yn cael ei hailadeiladu ar ei safle bresennol. Nid coeden frodorol yw’r sycamorwydden. Ni fyddai ei thynnu i lawr yn andwyo ecoleg yr ardal. Pe byddai’r ffynnon wedi parhau i gael ei defnyddio byddai’r goeden wedi ei thorri i lawr pan oedd yn lasbren ac felly ni fyddai coeden yn tyfu ar y safle. y dadleuon yn erbyn torri’r goeden oedd y byddai hyn yn llai o waith. Byddai cael gwared â gwreiddiau’r goeden, sydd tua 50 troedfedd o uchder, yn amhosibl ac felly byddai rhaid eu gadael yn y ddaear. Wrth geisio eu codi byddid yn dinistrio yr hyn sy’n weddill o’r ffynnon. Wrth geisio difa’r gwreiddiau heb eu codi byddai’n rhaid sicrhau na ddefnyddid unrhyw gemegyn a allai lygru dŵr y ffynnon gan fod gwartheg y ffermwr yn yfed o’r nant sy’n llifo o’r gofer. Fel bydd y gwreiddiau’n pydru gall y tir o gwmpas y ffynnon symud a gallai hyn ddinistrio’r adeiladwaith newydd. 

Penderfynwyd gohirio’r dyfarniad i dorri’r goeden neu beidio nes i ni gael barn arbenigwr ar dyfiant coed. Gallem gael gwybod i ba faint mae’r goeden yn debygol o dyfu ac felly rhagweld niwed i’r ffynnon yn y dyfodol. Nododd perchennog y tir na fyddai torri’r goeden yn costio dim gan fod ganddo’r offer i wneud hynny. Yn yr adnewyddu rhaid cynnwys sianel well i gario’r dŵr o’r ffynnon er mwyn sychu’r tir. Trafodwyd materion ariannol. Penderfynwyd, er mwyn bod yn ffurfiol, y dylai’r Cyfeillion gael swyddogion a chyfrif banc. Byddai ceisio cael arian gan gyrff ariannu gwahanol yn siŵr o gymryd cryn amser. Rhaid fyddai gwneud gwaith i glirio’r safle cyn y gellid gwneud cais am grant. Ni fyddai angen archeolegwr i oruchwylio’r gwaith oni bai ein bod yn dod ar draws rhywbeth o werth hanesyddol. Ein blaenoriaeth oedd clirio’r grisiau oedd yn arwain i lawr at y ffynnon. Byddai’n rhaid gwneud hyn â thrywel.

Ar Fai y 26 ain daeth cadeirydd Pwyllgor Mileniwm y pentref i’n cyfarfod ac roedd yn gefnogol i’n bwriad o adfer y ffynnon. Bydd yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor. Hefyd cafwyd ar ddeall fod rhaid torri’r goeden i lawr am y byddai’n dal i dyfu am ganrif arall ac yn difetha unrhyw waith adnewyddu a wneir ar y ffynnon. Rhaid aros i gael trwydded i’w thorri ond ni ddylai hynny fod yn anodd. Daeth crefftwr sy’n arbenigo mewn adeiladu waliau sychion i edrych ar y safle. Roedd yn gweld posibilrwydd o adfer y ffynnon, a daw i weld y lle unwaith eto pan fydd y goeden wedi ei symud. Trefnwyd i ddod at ein gilydd i godi cerrig o’r ffynnon sydd wedi eu gwasgaru dros y cae a’u gosod mewn un man ger y ffynnon er mwyn iddynt fod yno pan fydd eu hangen i ailadeiladu’r waliau. Peth arall y dechreuwyd ei wneud oedd clirio’r grisiau sy’n arwain at y ffynnon a datgelu’r waliau cerrig ar ochr y ffordd sy’n arwain ati.

Gyda chymaint o weithwyr brwdfrydig a chefnogaeth gref o’r pentref mae gobaith y bydd Ffynnon Fihangel, Cilcain unwaith eto yn denu ymwelwyr ati.

Cewch wybod beth fydd wedi digwydd dros y misoedd nesaf yn rhifyn Nadolig o Llygad y Ffynnon – os byw ac iach.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU – MÔN 1999

CYFARFOD CYFFREDINOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

DYDD MERCHER, 4 AWST 12.30-1.30 PABELL Y CYMDEITHASAU

Darlithir ar

FFYNHONNAU MÔN A’U TRADDODIADAU

gan

Gwilym T. Jones

Llangefni

Mawr obeithiwn weld nifer dda o aelodau’r Gymdeithas yn y cyfarfod arbennig yma.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWASG CARREG GWALCH * LLYFRAU LLAFAR GWLAD 43

FFYNHONNAU CYMRU – CYFROL II

FFYNHONNAU’R GOGLEDD

gan

Eirlys a Ken Lloyd Gruffydd

(Siroedd: Caernarfon, Dinbych, Y Fflint, Môn)

Pris: £4.95

Yr ail gyfrol mewn cyfres o dair.

Ar werth ar Faes yr Eisteddfod. Mynnwch gopi yn gwmni i Ffynhonnau’r Canolbarth.

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CHWILIO HANES FFYNHONNAU SANCTAIDD

gan

Howard Huws

Mae Howard Huws yn aelod o Gyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i hanes Ffynnon Ddeiniol ym Mangor. Diolch iddo am fod mor barod i rannu ei wybodaeth a’i brofiad gyda aelodau’r Gymdeithas.

Difyr iawn yw chwilio hanes ffynhonnau sanctaidd, er gwaethaf yr aml rwystredigaethau. Y mae’n waith sy’n rhaid ei gyflawni mewn modd trylwyr a disgybledig: braidd fel rhoi jig-so at ei gilydd heb syniad o’r darlun gorffenedig a chyda rhan helaeth o’r darlun ar goll, ond heb drwydded i lenwi unrhyw fylchau o’n dychymyg ein hunain.

Prinder tystiolaeth yw’r bwgan pennaf. Rhaid felly wrth ddyfalbarhad er mwyn chwilio pob ffynhonnell berthnasol bosib, hyd yn oed os y golyga hynny lawer o ddarllen, gohebu helaeth, a thalu am gopïau o ddogfennau, treuliau teithio, ac yn y blaen. Gall y tamaid lleiaf o wybodaeth fod yn allweddol, felly rhaid chwilio’n drylwyr. Cofier y gall diffyg tystiolaeth hefyd fod yn arwyddocaol.

Hunanddisgyblaeth yw’r angen arall. Yn ein hawydd hawdd yw inni roi mwy o bwys ar dystiolaeth simsan neu annigonol nag y dylid, gan hawlio inni ailddarganfod ffynnon sanctaidd heb fod gennym digon o ffeithiau i’n cefnogi. Gellir dweud, ‘y mae’n bosib mai hon yw’r ffynnon…’ neu ‘y mae’n debyg gennyf mai dyma ffynnon…’, ond fy hunan, yn absenoldeb tystiolaeth bendant, yr wyf yn dueddol o osgoi hyd yn oed ymadroddion felly rhag ofn imi fy nghamarwain fy hun, neu’n waeth fyth, camarwain eraill. Weithiau, y cwbl y gellir ei ddatgan yw bod tystiolaeth sy’n awgrymu lleoliad ffynnon, a’i gadael felly. Cofiwn ba mor niferus oedd ffynhonnau ers talwm, a chyn lleied ohonynt, mewn cymhariaeth, a ystyrid yn rhai sanctaidd.

Wedi dweud cymaint, carwn awgrymu rhai ffynonellau gwybodaeth y tâl i’r ymchwilydd fwrw golwg drostynt wrth geisio hanes ffynhonnau sanctaidd:

LLAFAR: Buddiol yw ceisio holi pobl leol yr ardal dan sylw rhag ofn bod unrhyw atgof ganddynt, waeth pa mor amhendant, ynghylch ffynhonnau’r fro. Gorau oll os oes modd holi mwy nag un, yn enwedig os ydynt wedi mynd i oed mawr a’u cof efallai heb fod cystal ag y bu. Wrth holi rhaid peidio ag awgrymu pa ateb yr ydych yn ei ddisgwyl, rhag rhoi geiriau yng ngenau’r tyst, a rhag rhoi mwy o arwyddocâd i’r ymateb nag y dylid. Cofiwch y gall rhai tystion ddweud wrthych yr hyn y tybiant yr ydych eisiau ei glywed, rhag eich siomi.

Er enghraifft, dylid holi’n gyffredinol ac yn bwyllog ynghylch ffynhonnau a ffynonellau      dwr lleol, gan ofyn a yw’r tyst yn cofio eu henwau a’u lleoliadau, cyn symud ymlaen i ofyn a oes cof fod i unrhyw un ohonynt nodwedd neu rinwedd neilltuol. Y mae’n talu i holi pobl fwy nag unwaith, rhag ofn fod yr holi cyntaf wedi eu hysgogi i gofio mwy yn y cyfamser.

YSGRIFENEDIG: Eto, rhaid bod yn wyliadwrus ynghylch safon ffynonellau ysgrifenedig, rhag ofn eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth annibynadwy, tybiaethau lled-ddysgedig, neu freuddwydion gwrach. Carwn awgrymu serch hynny y talai i’r ymchwilydd fwrw golwg ar y canlynol:

            Cyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales. Adargraffiad Gwasg Prifysgol Cymru

1992, ISBN 0 7083 1145 8. Rhestr ddiddorol a chynhwysfawr, ond anghyflawn.

 

 Ôl-rifynnau cylchgronau arbenigol megis Llafar Gwlad, Source, Bye-Gones, Llygad

Ffynnon, ac ati sydd yn cynnwys llawer o wybodaeth o Gymru, ac wrth gwrs, colofn hanes

lleol eich papur newydd lleol neu’ch papur bro.

 

 Trafodion y gymdeithas hanes leol neu sirol. Holwch yn eich llyfrgell leol neu archifdy

sirol. Cyhoeddir mynegion i rai o’r cyhoeddiadau hyn o bryd i’w gilydd

 

Y rhestr henebion sirol o dan y teitl Inventory of Ancient Monuments… . Eto, yn eich llyfrgell neu archifdy lleol.

 

Cyfeiriaduron Masnachol: Bu bri mawr ar werthu dŵr ‘iachaol’ gwahanol ffynhonnau ar un adeg, ac yn sgîl hynny gosodwyd hysbysebion mewn cyfeiriaduron masnachol lleol, papurau newydd, cylchgronau ac ati.

Map a Chofnodion Arolwg y Degwm: Gwnaed arolwg ar ddiwedd y 1830au ym mhob plwyf yng Nghymru. Cynhyrchwyd map a chofrestr tir ar gyfer pob plwyf, a’r rhestr fel arfer yn enwi pob cae. Os nad oes copi yn eich archifdy, yna holwch y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle gellir cael llungopïau am bris rhesymol. Cofiwch fod y map plwyf o’r cofrestr tir yn ddogfen sylweddol.

Dogfennau Ystad: Defnyddiol iawn yw cofnodion gwerthu, gosod ac etifeddu tir, ac fe allant ddyddio o’r cyfnod cyn-Brotestannaidd, hyd yn oed. O ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen gwnaed cofnodion manwl gan rai ystadau ynghylch union faint, lleoliad, ac enwau eu heiddo tiriogaethol. Eto, eich archifdy, eich llyfrgell, Y Llyfrgell Genedlaethol neu adrannau archifol sefydliadau megis Coleg y Brifysgol. Cofier fod sefydliadau o’r fath yn aml yn llunio mynegion a chrynodebau o gynnwys y dogfennau a ddelir ganddynt.

Unrhyw lyfrau sy’n ymwneud â hanes neu lên gwerin plwyf neu ardal. Gall eich archifdy lleol gynorthwyo yma. Cofier hefyd fod cofnodion hanes lleol ar ffurf llawysgrifau anghyhoeddedig, tapiau, ac ati hefyd y tu hwnt o werthfawr i’r ymchwilydd.

Cofnodion cynghorau plwyf, a chyn hynny cyfarfodydd festri y plwyf, lle’r arferid trafod pynciau megis trwsio a glanhau ffynhonnau. Yr archifdy sirol, neu’r Llyfrgell Genedlaethol (dogfennau yr Eglwys yng Nghymru).

Cofiannau pregethwyr a hanesion achosion crefyddol: Yn aml ceir disgrifiad ynddynt o arferion a choelion gwerin ardaloedd neilltuol.

Y Rhestr Etholwyr Lleol: Ar gael i’r cyhoedd ei weld yn swyddfa’r Cyngor Sirol. Ffordd hwylus o ddarganfod pwy’n union sy’n byw ar safle y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Cofrestrfa Tir Ddosbarthol Cymru, Tŷ Tawe, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe, SA7  9FQ. Rhif Ffôn (ar gyfer ymholiadau): 01792 335095. Gallwch holi dros y ffôn a oes ganddynt wybodaeth ynghylch unrhyw dŷ neu ddarn o dir neilltuol yng Nghymru, a gorau po fwyaf o fanylion sydd gennych ynghylch yr union leoliad. Os oes gwybodaeth ganddynt, yna, am dâl rhesymol, gall y gofrestrfa hon yrru copi atoch gan gynnwys manylion megis perchnogaeth, hawliau cyhoeddus, ac yn y blaen. Mewn rhai achosion y mae gan y cyhoedd hawl tramwy ar draws tir at ffynhonnau.

Wedi dweud hynny, rhaid cofio, wrth gwrs, mai ar eiddo preifat y lleolir llawer i hen ffynnon, ac y dylid yn wastad geisio caniatâd y perchennog cyn tramwyo’r fan, archwilio’r safle, neu wneud gwaith adfer. Gall sefydlu perthynas dda â’r perchennog tir neu’r deiliad arwain at gydweithrediad buddiol. Gall anwybyddu dymuniadau’r perchennog, neu roi achos iddo amau eich cymhellion, arwain at eich gwahardd o’r safle neu hyd yn oed at gau yr union ffynnon yn ydych yn ceisio ei diogelu. Dylid gofyn caniatâd i fynd ar dir preifat.

Crynodeb yn unig yw’r rhestr uchod. Fe all fod gan y rhai profiadol awgrymiadau buddiol pellach i’w cynnig i’r rhai ohonom sydd newydd ymddiddori yn y maes. Os oes gwybodaeth ychwanegol gennych, beth am roi gwybod inni? Gallwch arbed llawer o amser a thrafferth i eraill trwy gymwynas o’r fath.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NEWYDDION DRWG

AM GRANTIAU BACH GŴYL Y MILENIWM

Ni chaiff cynghorau tref a chymuned ymgeisio am y rhain bellach. Rhaid i grŵp cymunedol wneud y cais. Gall hyn fod yn bwyllgor, clwb neu gymdeithas leol – pwyllgor neuadd y pentref neu glwb henoed efallai. Rhaid wrth gyfansoddiad a chyfrif banc. Gall unrhyw grŵp ymgeisio ond bydd yn rhaid iddynt fod yn weithredol yn y maes priodol. Os nad oes grŵp addas yn y gymuned sy’n fodlon gweithredu ystyriwch ffurfio un. Byddai’n rhaid iddo fod yn annibynnol a’r y Cyngor, er y gallai’r Cyngor bennu un neu fwy o gynghorwyr i fod yn aelodau o’r pwyllgor.

OES YNA FFYNNON YN EICH ARDAL CHI SYDD ANGEN EI HADNEWYDDU?

A FEDRWCH CHI EI HADFER AR ÔL DILYN Y CYNGOR A RODDIR YMA?

Chewch chi ddim arian heb dystiolaeth fod y gymdogaeth o blaid eich cynllun, felly awgrymir i chi alw cyfarfod cyhoeddus. Bydd gofyn i’r cyfarfod ffurfio pwyllgor ymysg y rhai sydd yno, ac enwi cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd. Gellwch ddewis enw ar y gymdeithas newydd – Cyfeillion Ffynnon XXX – Pwyllgor Gwelliannau Llan…, er enghraifft. Gwaith cyntaf y pwyllgor fydd llunio cyfansoddiad syml, yn nodi beth yw pwrpas sefydlu’r pwyllgor yn y lle cyntaf, a threfnu i gael cyfrif banc. Efallai y bydd y Cyngor Cymuned yn barod i gyfrannu ychydig o arian i gychwyn pethau. Gall y Cyngor lleol gyfrannu ar yr amod fod y fenter yn mynd i fod o fudd i drigolion y gymuned ac nad oes arian yn mynd i boced unigolion ar ffurf elw.

DYMA’R FFORDD I ACHUB FFYNNON. FFURFIWCH GYMDEITHAS I’R PWRPAS HWNNW. O GAEL CYDWEITHREDIAD CYMUNEDAU A BRWDFRYDEDD UNIGOLION GALLWN ACHUB NIFER O FFYNHONNAU RHINWEDDOL CYMRU RHAG DIFLANNU AM BYTH.        

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN …

Daeth yn amser talu tâl aelodaeth 1999-2000.

Byddai’r Trysorydd yn falch iawn o dderbyn y taliadau mor fuan â phosibl, os gwelwch yn dda.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

Anfonwch eich gohebiaeth at Y Golygydd: 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH.

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Y Siswrn, 2 Stryd Watling, Llanrwst, Dyffryn Conwy.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argraffwyd gan H.L. Boswell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up