Home Up

LLYGAD  Y  FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 14. Haf  2003

 

AIL- DDARGANFOD FFYNNON BEDR, LLANBEDRYCENNIN

gan

Christopher Naish

Wantage, Swydd Rhydychen

 

 

Roedd penwythnos olaf mis Mawrth (29/30) yn anhymorol o gynnes a heulog a da o beth oedd hynny gan fod  rhai aelodau o gymdeithas Wellsprings, o dan arolygaeth effeithiol Jan Shivel a Pepper, y ci,  wedi dod at ei gilydd i glirio a glanhau  safle  Ffynnon Bedr (cyfeirnod map 763692). Mae’r ffynnon ar gyrion pentre Llanbedrycennin, Dyffryn Conwy, ychydig i’r gorllewin o’r B5106 yn Nhal-y-bont. O dafarn y Bedol (sy’n cynnig bwyd blasus a pheint arddechog o gwrw chwerw Burntwood, gyda llaw,) cymerwch y ffordd tua Llanbedr. Ar ol rhyw chwarter milltir, ac wedi mynd heibio i’r maes chwarae, trowch i’r chwith ar hyd wtra sy’n arwain at fferm o’r enw Ffynnon Bedr. Mae’r ffynnon  ei hun yn gorwedd  yng nghornel cae ar y dde i’r wtra  wrth droed coeden ywen anferth.Mae’r ywen yn tyfu yn ymyl nant fechan sy’n llifo ar hyd ochr y cae tua’r afon Conwy. Yn ffodus mae nifer o lwybrau cyhoeddus yn arwain at y safle. 

 Roedd Allen Meredith o sir Gaerfyrddin,sy’n arbenigwr ar goed yw, wedi dod yno fel aelod o’r criw i’n cynghori ac i sicrhau nad oedd yr ywen yn cael ei niwedidio. Hefyd wedi dod i’n cefnogi roedd Eirlys a Ken Gruffydd o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Pan fesurodd Ken y goeden a darganfod mai 28 troedfedd oedd ei chylchedd sicrhaodd Allen ni ei bod dros dwy fil o flynyddoedd oed a’r goeden ywen hynaf ym Mhrydain sy’n tyfu dros ffynnon sanctaidd. Roedd tarddiad y ffynnon yn ymyl yr ywen a’r dwr ohoni yn goferu ar hyd sianel fer i ymuno a’r nant. 

Yn ol  Harold Hughes a Herbert L. North, awduron The Old Churches of Snowdonia, a gyhoeddwyd yn 1924, roedd adeilad dros y ffynnon a’i fesuriadau mewnol oedd deg troedfedd wrth naw troedfedd a hanner. Roedd y ffynnon ei hun yn chwech troedfedd wrth bedair, ac roedd yn dair troedfedd o ddyfnder.  Dechreuodd yr adeilad oedd o gwmpas y ffynnon ddadfeilio  tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac erbyn  dechrau’r ugeinfed ganrif,doedd y muriau  fawr uwch na lefel y tir o’u cwmpas. Roedd drws yn wynebu’r dwyrain ond nid oedd unrhyw arwydd o ffenestri yn yr adeilad. Tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd rhieni yn dod a phlant  gwael eu iechyd at y  ffynnon i’w trochi ynddi ac yna byddent yn cael eu cario i gapel bach cyfagos i ddod atynt eu hunain. 

 Llanwyd y ffynnon a cherrig mawr ychydig wedi’r Rhyfel Mawr a hynny, mae’n debyg, gan dirfeddiannwr oedd yn ceisio rhwystro llif y dwr neu gadw ei anifieliaid rhag mynd iddo. Oherwydd hyn, meddai Allen, roedd yr ywen wedi ei chael hi’n anodd  goroesi ac nid oedd golwg iach iawn arni o’i chymharu  a choed yw eraill yn yr ardal.  Rhaid oedd dilyn ei gyngor wrth ddechrau symud y cerrig mawr o’u lle ger y goeden gan ddefnyddio rhawiau , picasau a pholion haearn. Ceisiais dynnu allan un neu dwy o’r meini mawr gan ddefnyddio fy modur a rhaff gan obeithio eu llusgo  o safle’r ffynnon ond ni lwyddais i wneud hynny am nad oedd yr olwynion yn gallu cael digon o afael ar y glaswellt. Yr adeg honno roedd rhaid cael cymorth pawb i dynnu ar y rhaff a chodi ambell garreg fawr o’i lle. Serch hynny ni lwyddwyd i symud pob carreg  oedd ger yr ywen na chlirio’r sianel lle goferai’r dwr. Ond  wrth symud y cerrig o siambr y ffynnon  roedd yn dda darganfod bod y  ddaear yn wlyb ar waetha’r diffyg glaw. Rydym yn gobeithio y gallwn glirio’r safle yn fwy trwyadl  yn y dyfodol. Yn y cyfamser rydym yn gobeithio y bydd symud y cerrig oedd wedi eu dodi o gwmpas y goeden yn ddigon i annog dwr o’r ffynnon i lifo unwaith eto. Bydd rhaid i ni aros a gweld.  

Er nad oedd safle Ffynnon Bedr yn un ddiddorol iawn ar yr olwg gyntaf – dim dwr, dim siambr ffynnon, dim byd- mi wnaethon ni fwynhau’r gwaith caled oedd yn rhaid ei wneud i achub yr hen ywen hynafol sy’n sefyll fel ceidwad drosti hi. Pwy a wyr na fedrwn ni ail adeiladu’r ffynnon ei hun yn y dyfodol. 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

FFYNHONNAU  STAD Y BRYNDDU, LLANFECHELL, MON.

 

[Diolch i’r Parch Emlyn Richards, Cemaes,Ynys Mon, am ganiatau i ni ddyfynu’r wybodaeth ganlynol am ffynhonnau  ar stad y Brynddu, o’i gyfrol ddifyr Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd)]

Mae’r ffynnon cyn hyned a gwawr gwareiddiad gan mor werthfawr yw i ffyniant dyn ac anifail. Fu erioed gymaint o werth ar ffynnon nag yng ngwledydd y dwyrain ac, yn naturiol, bu sawl anghydfod blin ynglyn a pherchnogaeth sawl un. Cyfrifid cau ffynnon yn weithred o ryfel yno ac mae’n debyg fod y gan honno yn Llyfr Numeri 21: 12-18 yn un o’r testunau hynaf yn yr Hen Destament:

 ‘ Tardda ffynnon, canwch iddi - y ffynnon a gloddiodd y tywysogion ac a agorodd penaethiaid y bobl a’u gwiail ar fryn.’

Gwyddom ninnau yng Nghymru yn dda am ddylanwad llen gwerin a thraddodiad ardal ar ein gwybodaeth am hanes ac enwau ffynhonnau (sydd ymysg yr enwau hynaf mewn unrhyw iaith, yngyd ag enwau afonydd a llynoedd). Nid yr Iddew yn unig a ganai i’r ffynnon a’i bendithion a’i rhamant hen, ac yn wir roedd i’r ffynnon swyddogaeth drifflyg: economaidd, cymdeithasol a chrefyddol. Gan bwysiced oedd y ffynnon roedd yn ffactor  bwysig ynglyn a lleoliad ferm neu dyddyn ac, yn wir, yn rheswm dros adeiladu sawl treflan. Gwelwn yn nyddiadur gwr y Brynddu bwysiced oedd y ffynhonnau.

     Yr oedd dwy ffynnon gyhoeddus ym mhentre Llanfechell a chan fod gan bob tyddyn a fferm eu ffynhonnau hefyd nid rhyfedd y ceir sawl cae ar stad y Brynddu gyda’r enw ‘Cae ffynnon’. Mae’n amlwg ddigon y sefydlwyd sawl eglwys gerllaw ffynhonnau a cheir enghreifftiau o hyn ym Mon, ac yn sgil codi eglwys byddai’n naturiol i anheddau eraill gael eu codi. Daeth y ffynhonnau eglwysig hyn yn atyniad i grefyddwyr yr oesoedd a’r traddodiadau yn gymysg o baganiaeth a Christnogaeth. Yr oedd  dwy ffynnon eglwysig o fewn cylch a chwmwd William bwcle, sef Ffynnon Padric a Ffynnon Eilian (neu Ffynnon y Cawr). O roi enw’r sant arni credid bod yn ei dyfroedd  ryw rin wyrthiol. Tua chanol y ddeunawfed ganrif y cydiodd y gred yn rhinwedd iachusol dwr y mor a thyrrwyd yno i ymolchi, rhai i yfed ei ddyfroedd hallt. Yn yr un modd credid bod dwr ambell ffynnon yn iachusol, os nad yn wyrthiol.

Ond i werin Cymru yn y ddeunawfed ganrif yr oedd ystyriaethau pwysicach o lawer nag unrhyw ystyr crefyddol, neu’n wir, feddyginiaethol. Yr oedd y ffynnon fel anadl einioes iddynt a dwr gloyw glan yn eu disychedu hwy a’u hanifeiliaid. Yr oedd mor gyffredin iddynt ag y mae’r tap dwr i ni heddiw. Go brin y byddai William Bwcle wedi son amdanynt o gwbl oni bai ei bod yn rhan gyson o ddyletswyddau’r dynion i ‘lanhau’r ffynnon’.Yr oedd yn ffactor bwysig bryd hynny hefyd i ‘gadw’r dwr rhag y baw’. Wrth fynd heibio ar ddamwain y cyfeiriodd at enw’r ffynnon honno yng Nghae Lloriau, Coeden, sef ‘Ffynnon Trinculo’. A dyna agor y drws i ddyfalu o ble y daeth yr enw hwn. Hen elyn gwyllt, i gwr eithaf Mon ar ganol y ddeunawfed ganrif? Dyma’r cofnod ar 30 Mehefin 1736:’I have people at work in clearing water – course of Ffynnon Trinculo in Coyden from the said well to the Bridge.’ Fe red afonig o’r llyn malu yng Nghoeden heibio i’r ffynnon hon gan gymryd ei gofer oer. Yn ddiddorol iawn mae’r ffynnon yno o hyd a’r gwaith cerrig celfydd yn cylchynnu ei dyfroedd clir. Mae hen wartheg powld wedi rhoi hergwd i’w chapan o faen a’i ogwyddo ar ochr ei phen fel dyn meddw. Un o dafelli’r graig o Gae’r Lloriau yw’r cap, brethyn cartre os bu un erioed! Fe fynn rhai yn ardal Llanfechell o hyd na sychodd ac na fu pall erioed  ar ddyfroedd y Trinculo; aiff ambell un mor hyf a dweud na sychith hon fyth!

. Ni ddywed William Bwcle iddi sychu chwaith yn ei gofnod am18 Awst 1741:

Yn ol cof ardal yr oedd haf 1911 yn eithriadol o sych ac fe sychodd y ffynhonnau, ond yn ol y son, yr oedd Ffynnon Trinculo yn goferu trosodd. Eto, ym 1959, bu’n haf anhygoel o sych. Ni chafwyd yr un diferyn o law o fis Mai hyd ddechrau Hydref, ac yn wir, yn ol y son eto, ni hysbyddodd y Trinculo:

           This summer and Autumn exceeds in heat and dryness all the summers

            in memory of man, for not only all the fresh water mills dryed thro’  

            the country but also in a manner all the rivers and most of the springs. My

           well by the Kiln that never was known to fail, now stands still and does not

           run out  and many other wells so that there is a great scarcity of water

           especially for cattle throughout the country.               

A dyna ddigon i gefnogwyr Trinculo ddweud nad yw’n enwi eu ffynnon fel un a sychodd. Yn ol disgrifiad y dyddiadurwr daeth y sychdwr mawr hwnnw i ben ar ol iddi‘Rained prodigious’ ar 7-8 Medi 1941. Dechreuodd fwrw tua deg o’r gloch ar 7 Medi a’i harllwys hi hyd bump ar yr wythfed gan adael afonydd yn rhedeg hyd y caeau. Wedi haf crasboeth 1976 daeth glaw direol ar ddyddiau cyntaf mis Medi’r flwyddyn honno hefyd.

Ond beth am yr enw – Trinculo? O ble y daeth hwn a phwy a’i bedyddiodd a dod a hi i amlygrwydd? Yn ol awduron Enwau Lleoedd Mon mae’r enw yn un cwbl unigryw ac yn cyfateb yn union i enw cymeriad yn y ddrama enwog The Tempest gan William Shakespeare. Yn ol F.G. Stokes mae enw’r cymeriad wedi ei fabwysiadu o’r gair Eidaleg ‘trincare’, sef ‘llymeitian’. Ar sail hyn mae’n naturiol tybied fod yma ryw flas neu werth arbennig i ddwr y ffynnon hon. Mae pob lle i gredu y byddai William Bwcle yn hyddysg yn nramau Shakespeare. Gwyddom y byddai’r dyddiadurwr yn ymwelydd cyson a’r theatr yn Nulyn ac fe allasai fod wedi mwynhau perfformiad o’r Tempest yno. Tybed ai ef a roddodd yr enw ar y ffynnon? Tybed ai ysfa gellweirus William Bwcle sydd ar waith yma? Gwyddom am ei hoffter o lasenwau a’i gellwair parhaus. Neu tybed a oes i’r enw ryw ystyr gyfrin nas gwyddom ac na chawn fyth wybod? Pam na fyddai’r dyddiadurwr hwn fel sawl un arall wedi ychwanegu gair neu ddau o eglurhad?

Ond beth bynnag am ystyr yr enw, byddai cryn amrywiaeth yn ansawdd dyfroedd y gwahanol ffynhonnau. Yr oedd dwr ambell un yn llawer pereiddiach na’r llall. Byddai cryfach tarddell i ambell ffynnon a ddaliai’r sychder yn well. Byddai trai a llanw’r mor yn effeithio ar ddwy ffynnon ym mhlwyf Llanfechell a hefyd ar ffynhonnau Bodelwyn a Tros y Mynydd ar stad y Brynddu. Yr oedd gan bob tyddyn a fferm eu ffynhonnau o fewn cyrraedd i’r ty a chai’r ffynhonnau hyn gryn sylw gan y perchnogion. Fe gawn gofnod diddorol iawn gan y ddyddiadurwr ynglyn a’i ffynnon ei hun yn y Brynddu, sy’n dangos y meddwl mawr a’r gofal a oedd gan bob teulu o’i ffynnon. Ar 28 Mai 1748, nododd: ‘the men are carrying stones to new making the old well by the kiln both larger and handsomer’. Y mae’r gair ‘harddu’ yn ddiddorol yn y cyswllt yma ac yn awgrymu, mae’n debyg, y byddai peth balchder ynglyn a ffynnon y teulu a thebygol y ceid addurniadau yng ngwaith y seiri maen a adeiladai’r math hwn o ffynhonnau.

Ond er pwysiced y ffynhonnau hyn, heb os yr oedd ffynnon y pentref yn bwysicach. Yr oedd gan bob pentref ei ffynnon neu ddwy ar safleoedd cyhoeddus, yn weddol agos os oedd modd, i groes y pentref. Daeth y rhain yn fannau cyfarfod poblogaidd iawn lle rhoid y byd yn ei le – rhyw Ffynnon Jacob Gymreig. Bu achlysur pwysig ynglyn a Ffynnon Mechell, yn ol y dyddiadurwr, ar 15 Mehefin 1736:

Today the Parson and others of the Inhabitants of the town of Llanfechell removed the Well – that lay betwixt Ann Warmingham’s house and the bridge (and just by the river) higher up and further from the river by 6 or 7 yards.

Mae’n anodd iawn gwybod paham y bu’n rhaid symud y ffynnon o gwbl. Yn ddiddorol iawn, mae hi yno o hyd, rai llathenni i fyny oddi wrth y ffordd fawr sy’n arwain i’r Mynydd. Wrth y ffordd y mae’r pwmp o hyd ac mae amryw o’r trigolion yn cofio’n dda am ddyddiau cyrchu dwr ohono. Mae’n rhaid ei fod yn ddigwyddiad o gryn bwys gan fod Richard Bwcle, y person, wedi ymuno a’r plwyfolion, a phur anaml y cawn ni gyfeiriad ato ef y tu allan i gyffiniau’r eglwys,. Gan nad oes son fod William Bwcle ei hun wedi ymuno a hwy, tybed ai cysegru’r lleoliad newydd oedd swydd y person ac, os felly, ni fyddai gan y dyddiadurwr fawr o ddiddordeb  mewn rhyw ddefod felly.

Chwaraeai’r ffynhonnau ran bwysig iawn yn hanes y pentrefi. Yr oedd cryn wahaniaeth ynddynt ac amrywient yn eu nodweddion. Enillodd ambell ffynnon gryn enw ar sail dwr nodedig ei flas a cheid ambell un ac arni waith hardd a chelfydd o gerrig addurnol. Yr oedd gwaith celfydd iawn ar Ffynnon Ty Hen, ym Mynydd Mechell. Yn wir, byddai’r plant, Richard a Huw, yn arfer reidio beic tair olwyn o gwmpas y ffynnon honno gan fod y wal mor llydan a chryf. Ond pennaf prawf unrhyw ffynnon fyddai cryfder ei ffrwd – y ffrydiau hynny a’i bwydai o eigion y ddaear. Yn wir, dyma fyddai sgwrs y trigolion ar blyciau o sychder – ‘Ydi’r ffynoon yn dal?’ Pryderai William Bwcle yn go arw yn haf 1741 gan fod y ffynhonnau yn sychu, a thestun siarad fu haf 1959 yn enwedig gan i Robert Owen, Ty Hen a Richard, y mab, fynd yn bur llechwraidd un bore o haf crasboeth i lawr i’r Llan i mofyn dwr o bwmp Mechell, ger Tal-y bont, gan i ffynnon Ty Hen fynd yn hesb.

Cyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhoed pwmp o haearn bwrw i godi’r dwr. Daeth y rhain yn addurn gorchestol ym mhentrefi cefn gwlad er y bu cryn wrthwynebu’r fath syniad, yn arbennig cuddio’r ffynnon hefo rhyw sowldiwr du! Mae’r ddau bwmp ar bob cwr o bentref Llanfechell o hyd yn nodi’r fan lle gynt, yn oes William Bwcle, y ceid y ddwy ffynnon – Ffynnon Mechell a Ffynnon Tal-y-bont. Canodd Ianto Soch – hen fardd gwlad gwreiddiol o Wlad Llyn – yn hiraethus i’r ffynnon pan bibellwyd y dwr i gartrefi Llyn:

                                               ’Rwy’n ofni mai dy bensiwn

                                                 Fydd llond dy fol o ro.

                                                ’Rol gwasanaethu’n ddistaw

                                                  Drigolion tlawd dy fro.

 

Dyma fanylion am y ffynhonnau a enwyd yn yr erthygl uchod fel eu ceir yn  Enwau Lleoedd Mon gan

Gwilym T. Jones a Tomos Roberts. Rhifau cyfeirnod drwy garedigrwydd Ken Lloyd Gruffydd ac mor gywir ac sy’n bosib heb adnabod yr ardal:

Ffynnon Padric (Badrig) – yn Llanbadrig /Cemais.  Ymddengys fod yna ddwy ffynnon yn coffau Padrig, y naill gerllaw Eglwys Llanbadrig (SH3794) a’r llall yn nes i  Borthwen  (SH4094) ar ochr ddwyreiniol y plwyf. 

Ffynnon Eilian – i’r gogledd orllewin o Eglwys Llaneilian ac o fewn chwarter milltir i Borth Newydd.(SH 466934)

Ffynnon Trinculo – Ar dir fferm yn dwyn yr enw Coeden ym mhlwyf Llanfechell. (SH368898)

Ffynnon Fechell – Llanfechell ar lecyn yn dwyn yr enw Waen fawr.( SH 369913)

Ffynnon Tal–y-Bont, Llanfechell (SH3694)

Ffynnon Ty Hen, Mynydd Mechell (SH3689)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff           

CROESO  I AELODAU NEWYDD

Meirick Lloyd Davies, Cefn Meiriadog, Abergele.

Doris  Thomas, Llangefni, Ynys Mon.

Dr. Mike B Rees-Jones, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn.

Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GAN…

Daeth yn amser i dalu tal aelodaeth am y flwyddyn Awst 2003 i Awst 2004. Diolch i’r rhai ohonoch a drefnodd dalu drwy archeb banc, neu sy’n aelodau am oes. cewch chi diystyry’r cais uchod. Os ydych yn talu’ch tal yn flynyddol byddai’r Trysorydd, Ken Gruffydd, yn falch o derbyn eich tal aelodaeth mor fuan a phosibl.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

 

Maes Eisteddfod maldwyn a’r gororau   -  Pabell y cymdeithasau

 

Dydd mercher, 6 awst AM 12.00 O’R GLOCH

 

Cyfarfod cyffredinol cymdeithas ffynhonnau cymru

A

SGWRS  AR  FFYNHONNAU MALDWYN

GAN

Nia rhosier   ac   Arfon Hughes 

 

Croeso cynnes i bawb

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 CYFARFOD Y  CYNGOR

 

 Ond does golwg braf arnyn nhw! – Ken Lloyd Gruffydd,  Gwyn Edwards, Dewi Lewis, Emrys Evans, Howard Huws, Ann Williams, Jane Hughes .(Eirlys Gruffydd y tu ol i’r camera.) Bu’r cyfarfod yn festri Capel y porth, Porthmadog brynhawn dydd Gwyl Ddewi – ac mi ddaeth i fwrw glaw’n drwm yn union yr un fath a diwrnod ein cyfarfod blynyddol yn yr Eisteddfod yn Nhyddewi llynedd! Wel, pethau gwlyb yw ffynhonnau onid e.  Yn ystod y cyfarfod dymunodd y Cadeirydd, Dewi Lewis gael ei rhyddhau o’i swydd  ac etholwyd Howard Huws, fel  yr Is-gadeirydd i lenwi’r swydd. Diolch i Dewi am ei waith da a’i ymrwymiad i’r Gymdeithas ers 1996 a diolch i Howard am gymryd at y gwaith.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff   

FFYNNON DYDECHO, CEMAES

Eirlys Gruffydd

                    

‘Ar brynhawngwaith  teg o haf hirfelyn tesog’ ddiwedd Mai aeth Ken a minnau i ymweld a Chemaes ym Maldwyn gyda’r bwriad o weld y ffynnon uchod. Rhai wythnosau yng nghynt roedd dau o aelodau’r Gymdeithas, Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, Ceredigion wedi bod yn ymweld a’r eglwys yng Nghemaes ac wedi digwydd cyfarfod a Dorothy Ryder Jones sydd a diddordeb mawr yn yr eglwys a’r ffynnon sydd islaw i fur gogleddol y fynwent. Soniodd Pat a Meurig wrthi am Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a rhoi ei henw a’i chyfeiriad i ni. Trefnwyd i ni gwrdd a Dorothy ac ymweld a’r ffynnon.

 Daeth Ceurwyn Hughes, Mallwyd a Wyn Evans hefyd i’n cyfarfod a mentrodd y pump ohonom i lawr yr allt serth goediog at y ffynnon. Roedd yn werth yr ymdrech. Gan ei bod mewn man digon anodd mynd ati mae’r ffynnon wedi cadw mewn cyflwr ardderchog. Mae tua chwech troedfedd o hyd a phedair o led ac unwaith bu o leiaf pedwar o risiau yn mynd i lawr at y dwr. Dyfnder y dwr ynddi yw dwy droedfedd. Mae’n goferu’n gryf i’r afon Ddyfi sy’n llifo rhyw ddeg llath ar hugain islaw .Mae muriau o’i chwmpas ar dair ochr o hyd ac mae olion o fur ar y bedwaredd ochr hefyd. Gan ei bod mewn lle gweddol dywyll o dan y coed nid oes tyfiant gwyllt yn ei llanw ond mae ei chyflwr da hefyd i’w briodoli i’r ffaith fod Wyn wedi bod yno yn ei glanhau’n achlysurol. Heb amheuaeth mae hon yn ffynnon hynafol o faint sylweddol a’i lleoliad mor agos a hyn i’r eglwys yn ei gwneud yn ffynnon sanctaidd. Er nad oes gennym brawf dogfennol ar hyn o bryd mae hon yw Ffynnon Dydecho rydym yn ffyddiog mai dyna ydyw. Os oes gan rhywun wybodaeth am y ffynnon arbennig hon byddem yn falch iawn o gael clywed gennych. Pob hwyl i gyfeillion Cemaes yn eu hymdrech i ddiogelu Ffynnon Dydecho a’i dwyn i amlygrwydd. Mae’n siwr y cawn fwy o’i hanes yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU  DIFYR

Diolch i Erwyd Howells am anfon y wybodaeth yma  atom o’r gyfrol Dinas Mawddwy a’i Hamgylchedd gan Tecwyn Davies. Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

Ffynon y Cae Gwyn. Saif hon rhwng ystablau y Plas a Dolhir, a  thua 30ain o latheni islaw i’r brif-ffordd. Nid ydyw mewn cyflwr dadfeiliol, er ei bod heb neb yn gofalu dim am dani er’s llawer o flynyddau. Buom yn ddiweddar yn ei golwg, ac yn golchi ein llygaid fel y buom lawer tro yn flaenorol. Mesura  tua llathen a chwarter ysgwar. Mae hon yn ffynon anwyl yn nghof llawer. Yn un o’r darnau barddonol goreu yn dal cysylltiad a Mawddwy a gyfansoddwyd yn Llundain yn 1844, lle y dengys y bardd ei hiraeth mawr am ei fro enedigol, dywedir –

                               Mor hoff ar dro cael rhodio rhawg,

                              Ryw grugawg fryniawg fryn:

                              Cael gloywon ffrydiau’n ddinacau,   

                               I’m genau o’r Cae Gwyn.

Cyfrifid y ffynon hon ar dro yn odiaeth o rinweddol at y llygaid, ac yr oedd llawer gynt yn cyrchu iddi o bell ac agos. Yr ydym yn cofio gweled dyn o Forgannwg wedi cael gwellhad o anhwylder ar ei lygaid. Gresyn na byddai hi yn rhydd ac agored  i’r neb a ewyllysia fyned iddi eto.  

Ffynon Tydecho. Y mae dwy o’r enw yma yn Llanymawddwy – un oddiar Aber Cywarch, a’r llall ar ben Rhiw’r March, yn ymyl gwely Tydecho. Math o gafn yn y graig ydyw, a dywedai yr hen bobl fod ei dwfr yn dra rhinweddol at amryw bethau, ac yn yr hen amser gynt bu llawer tyrfa o bererinion yn penlinio o’i blaen.  

Ffynon Bryn Uchaf. Dywedir fod dwfr hon yn hynod o ran cryfder mwnol.

Y Ffynon Oer, yn Nghwm Dynweid. Dywedir fod dwfr hon yn rhinweddol at y cryd-cymalau.  

Y Ffynon Fawr, neu y Murddwr, yn ymyl Ty’nddol, y Pennant. Bwrlyma hon ffrydlif fawr a chref, a dywedir ei bod yn rhinweddol.

Ffynon y Gwylliaid. Mae lle hon ar ben Bwlch-y-Groes, ac y mae ei dwfr yn llawn o ansawdd mwnol. Dywedir ei bod yn llesol i ryddhau y coluddion. Yn hon, medd traddodiad, y byddai y llu ysbeilgar a drygionus, y Gwylliaid Cochion, yn arfer golchi eu dwylaw gwaedlyd ar ol galanastra a chelanedd, a dyma’r achos fod y dwfr yn goch.

Ffynon Rhiw’r Cawr. Mae ei dwfr yn hynod loew, ac yn rhinweddol ay y llygaid er gwneyd y golygon yn fwy clir. Byddai yr hen bobl yn arfer a rhoi dwfr hom yn eu llygaid bob tro yr elent heibio iddi.

Pistyll Tynycoed. Mae hwn yn ymyl y ffordd o dan dderwen gysgodol. Nid oes ail iddo meddir at wella y cryd-cymalau. Y mae llawer ffynon a nant fu’n gysegredig i ryw hen sant gynt, ond nid oes neb yn myned i lawer ffynon, a wyddom am danynt i geisio lleshad mewn un dydd a blwyddyn; ond eto, gyda’r nos, adroddir yn ddifyr ryw ystor neu ystraeon rhyfedd am rin eu dyfroedd, neu am rywbeth ddygwyddodd yn agos iddynt, ac y mae parch ofergoelus hyd heddyw mewn llawer aelwyd i’r hen ffynhonau er gwaethaf nerth dylanwad y Beibl a’r Diwygiad.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DDEWI

Swydd Limerick, Iwerddon

gan

Howard Huws

Prin iawn yw’r arolygon trylwyr o holl ffynhonnau sanctaidd unrhyw ardal neilltuol.

Ymhlith yr ychydig mae gwaith Caoimhin O Danachair, The Holy Wells of County Limerick a gyhoeddwyd ym 1955. (1) Nid af i draethu ei rinweddau yma, yntu hwnt i ddatgan fod O Danachair wedi rhestru union leoliad, defnydd, cysegriad, cyflwr, arferion a thraddodiadau dros gant a thrigain o ffynhonnau y swyddf uchod. Yn eu plith, yn annisgwyl braidd, mae ffynnon wedi ei chysegru yn enw Dewi Sant. Daw’r cyfeiriad cyntaf wrth i’r awdur restru’r cysegriadau:

St David: A well at Newcastle West, which agrees with the parish dedication. This, almost certainly, came from the Fitzgeralds’association with Wales.’

Yna, wrth restru yn fanwl ffynhonnau Barwniaeth Glenquin meddai:

 113.Par. Newcastle, tld. Castle Demesne, sheet 36, “St David’s Well”. A holy well in the earl of Devon’s pleasure garden celebrated for curing those possessed by the fairies” – OSNB (2). The well still exists, in the garden of one of the houses in the town, but there are no traditions.’

Y mae buchedd ein nawddsant fel y’i ceir gan Rigyfarch (ac eraill) yn amlygu cysylltiadau cryfion ag Iwerddon. Yr oedd Dewi ei hun yn adnabyddus yno: cofnodwyd ei farwolaeth yn y croniclau Gwyddelig ac fe gysegrwyd eglwys Naas yn ei enw. (3) Gwyddom fel y mabwysiadwyd Dewi Sant gan Normaniaid fel disgynyddion Gerald de Windsor, a oresgynasant rannau o Ddyfed cyn iddynt oresgyn rhannau helaeth o Iwerddon hefyd. (4)  ‘Dewi Sant!’, yn ol un awdurdod, oedd bloedd ryfel Maurice de Prendergast (5), ac fe wyddom fod enw Dewi yn aml ar wefusau’r Normaniaid, Fflemiaid a ‘r Cymry hynny fu’n ymladd yn Iwerddon (6). Y mae’n debyg, felly, fod O Danachair yn gywir ei ddyfaliad ynghylch cysegriad y ffynnon.

Os yw un o’n haelodau neu’n darllenwyr am fentro i Iwerddon yn y dyfodol byddai’n ddiddorol gwybod beth yn union yw cyflwr y ffynnon heddiw. Saif Newcastle West tua hanner ffordd rhwng Limerick a Tralee ar y briffordd T28, felly ni fyddai angen i’r sawl sy’n anelu am Swydd Kerry fynd ddim o’i ffordd.

TROED  NODIADAU:

(1). O Danachair, Caoimhin. The Holy Wells of Limerick. The Journal of Royal Society of Antiquaries of Ireland, Vol LXXXV Part II, (1950).

(2) Ordnance Survey Name Books, Co. Limerick.

(3). Baring-Gould, S a Fisher, J. Lives of rhe British Saints. (2il arg. Llanerch Publishers, Felinfach 2000.), Cyf. 4, t. 305.

(4). Gw. Irish Family Names Map, Johnston & Bacon, am ddosbarthiad y teulu Fitzgerald yn ardal Limerick \ Kerry.

(5). Baring-Gould, S., a Fisher, J., op cit. t.311.

(6).Lloyd, J.E., A History of Wales from Earliest Times to the Edwardian Conquest. (3ydd arg. Longmans, Green & Co, London 1939), Cyfrol II,tt 537-541.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON GADFAN, LLANGADFAN.

Mae Eluned Mai Porter o Langadfan, Powys wedi bod yn brysur iawn yn sicrhau fod llechen ac ysgrifen arni yn y Gymraeg a’r Saesneg ger y ffynnon hon.Bydd yn nodi fod Cadfan Sant wedi dod  i Gymru yn y bumed ganrif a bod pererinion wedi bod yn ymweld a’r ffynnon drwy’r canrifoedd i gael gwellhad drwy rin ei dyfroedd. Achubwyd y ffynnon rhag cael ei dinistrio pan ledwyd y ffordd yn ybedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Parch Griffith Howel a fu’n ficer y plwyf rhang 1839 ac1863. Diolch o galon i Eluned Mai am wneud hyn a hithau yng nghanol bwrlwm y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod.

FFYNNON Y CLAWDD LLESG, MEIFOD.

Mae Nia Rhosier yn ceisio cael cyhoeddi  taflen fydd yn dangos y llwybr ay y ffynnon hon ar gyfer yr Eisteddfod ac mae Cymdeithas Edward Llwyd yn bwriadu cerdded y daith heibio iddi yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

FFYNNON BEUNO, Y BALA.

Yn araf bach y mae’r gwaith o adfer y ffynnon yn mynd yn ei flaen ar y foment ond mae’r safle wedi ei diogelu.

FFYNNON FAIR, CERRIGYDRUDION.

Nid oes fawr ddim wedi ei wneud i gario ymlaen a’r gwaith o adfer y ffynnon hon. Mae wedi ei hagor gan ddyn lleol ers rhai blynyddoedd ond nid yw’r gwaith o’i hadfer wedi ei gwblhau.

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN.

Mae safle’r ffynnon wedi ei chuddio o dan ddrain a mieri a’r brwdfrydedd a fu ynglyn a’i hadfer wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y flwyddyn diwethaf.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

                                                     FFYNNON

Doedd neb yn amau purdeb                                A thrist yw canfod heddiw,

Dy ddyfroedd, ddydd a fu,                                  Lle gynt roedd dyfroedd clir,

Ac nid oedd rhaid dy warchod                            Nad oes a faidd eu profi -

Rhag llaw y fandal hy’.                                       Mae’r gwenwyn yn ein tir.

 

Mor barod oet bob amser                                   A’m penbleth, sut y gwyddai

I ddi -sychedu’r plwy’                                        Y gwynt estronol, main

Yn rhoi, heb ofyn ceiniog                                   A ddaeth a llwch Chernobyl   

Na holi chwaith, i bwy?                                       Am ffynnon Tyddyn Drain.

Allan o CERDDI TRYWERYN  gan John Lewis Jones, Gwernymynydd, Yr Wyddgrug.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch bob gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Carreg Bach, Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan H.L. Bowell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up