Home Up

LLYGAD  Y  FFYNNON  

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

 Rhif 17

Nadolig 2004  

 

 FFILMIO’R FFYNHONNAU

  Eirlys Gruffydd

  Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Paratoi i fflimion ger Ffynnon Parc Mawr

John a Ken ger y ffynnon.

I Fon yr aethom gyntaf ac i gyfarfod a John Price Evans ger Ffynnon Parc Mawr (SH486871) ym Mhenrhosllugwy. Cafwyd tipyn o hanes y ffynnon hon yn Rhifyn 16 o Llygad y Ffynnon. Wrth ddilyn cyfarwyddiadau John cawsom hyd i’r man cyfarfod a drefnwyd; yna roedd llwybr yn arwain dros dir agored at y ffynnon. Mae’n ardal o ddiddordeb naturiaethol arbennig ac felly roedd yn bwysig i ni gadw at y llwybr. Hawdd oedd gweld y ffynnon gan mai dyma’r unig adeilad ar y safle. Bellach mae CADW wedi ei chofrestru’n grair hanesyddol Graddfa II ac mae’n werth ei diogelu. Mae rhai o’r cerrig mawr o ben yr adeilad eisoes wedi syrthio ac wrth gerdded o gwmpas y waliau hawdd oedd dod o hyd iddynt yn y tyfiant. Mae’r ffynnon ei hun oddi mewn i’r adeilad ac mae angen cryn lanhau arni. Ffynnon fechan sgwar gyda muriau o’i chwmpas a chapan garreg drosti ydoedd yn wreiddiol ac mae’r dwr cochlyd  yn dal i lifo allan ohoni. Diolch i John am ei frwdfrydedd a’i barodrwydd i rhoi o’i amser i warchod a ddioglelu’r ffynnon.

Ar ol gadael Penrhosllugwy aethom i Lanallgo a dod o hyd i Ffynnon Allgo (SH497848) ar faes carafanau nid nepell o’r eglwys. Y tro cyntaf i ni ymweld a’r lle, rhyw bymtheg mlynydd yn ol, roeddem yn ddigalon oherwydd fod tyfiant gwyllt yn gorchuddio’r ffynnon a dwy garafan fawr y naill ochr a’r llall iddi.  Bu cryn bryder am ei chyflwr yn y gorffennol ond da gennym ddweud ei bod bellach wedi ei glanhau ac mae ei phensaerniaeth yn fwy eglur. Gwelwyd bod sianel o gerrig yn dal y dwr sy’n goferu o’r ffynnon a’i bod yn llawer dyfnach nag oeddem wedi ei feddwl i ddechrau. Byddai’n dda o beth pe gellid rhoi enw’r ffynnon gerllaw iddi er mwyn i ymwelwyr fedru gwerthfawrogi’r ffaith fod yma grair hanesyddol o bwys. Darganfyddwyd cerflun carreg o ben dynol gerllaw’r ffynnon yn 1982 a heb amheuaeth roedd y fan yn lle cysegredig i’r hen dduwiau Celtaidd cyn dyfodiad Cristnogaeth i Gymru.

O Lanallgo aethom i chwilio am safle Ffynnon Gybi (SH401828) rhwng Llannerch -y- medd a Charmel ar ffordd B5112. Wedi holi’n lleol cafwyd ar ddeall fod y ffynnon ar dir preifat. Cawsom ganiatad i gerdded y tir i chwilio amdani ar yr amod nad oeddem yn amharu ar yr anifeiliaid. Roedd nifer o fustych ifanc ar y tir a minnau’n gwisgo cot goch! Wedi cerdded ar draws y cae ger y ffordd fawr a mynd i lawr i’r pant islaw gwelwyd fod tir corsiog yno ac yng nghornel cae roedd pwll sylweddol o ddwr. Hon yn siwr oedd Ffynnon Gybi ac yn ol un traddodiad dyma ble y cyfarfyddai’r sant a Seiriol ac nid ger Clorach. Mae yma darddiad cryf ac mae’n bosib bod yna waith cerrig yn dal i fodoli islaw’r dwr ond gan fod y ffynnon wedi gorlifo does dim modd gweld. Roedd yn ddiwrnod cymylog a gwyntog ac er fod y ffynnon mewn pant cysgodol roedd yn dal yn ddigon oer yno, ond wrth gwrs roedd yr hen saint yn llawer mwy gwydn na ni heddiw!

Roedd y tywydd yn dipyn mwy caredig yr wythnos ganlynol pan aethom ar ymweliad ag Arfon, Eifionydd a Llyn. Dechreuasom y daith yng Nghlynnog Fawr a cherdded ar hyd y ffordd brysur o’r eglwys at Ffynnon Beuno (SH 414494) Mae hon yn grair hanesyddol Graddfa II ac felly wedi ei ddiogelu. Erbyn heddiw nid yw’n lle braf iawn i orffwyso fel yn y dyddiau gynt oherwydd prysurdeb y ffordd a swn y drafnidiaeth. Byddai cryn gyrchu at Ffynnon Beuno ers talwm am fod ei dwr yn gwella plant oedd a ddioddefai o epilepsi. Byddai cleifion na allent gerdded yn cael eu cario at y ffynnon cyn cael eu gollwng i’r dwr. Yna rhaid oedd iddynt orwedd dros nos ar fedd Beuno oddi mewn i’r eglwys. Pe gallent gysgu yna byddent yn siwr o wella. Credid hefyd bod crafu llwch o’r colofnau yng nghapel Beuno yn yr eglwys a’i gymysgu gyda dwr o’r ffynnon yn effeithiol iawn at wella llygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnau lle gorffwysai’r pererinion ar eu ffordd i Enlli.

 

Ffynnon Beuno, Clynnog Fawr.

  Ar ol ddilyn y ffordd i Bwllheli am rhai milltiroedd rhaid oedd troi oddi arni a dilyn yr arwyddion at  Ffynnon Gybi, (SH428414) Llangybi. Y peth cyntaf sy’n taro rhywun wrth gerdded at y fynnon yw adfeilion yr adeilad a godwyd dros faddon y ffynnon a’r hyn sy’n weddill o dy ceidwad y ffynnon. Mae maint y cerrig a ddefnyddiwyd yn syfrdanol. Bu cymaint yn ymweld a’r ffynnon hon i geisio iachad nes y codwyd ty bach pwrpasol iddynt a’r dwr o’r gofer yn llifo drwyddo heb fod ym mhell iawn o’r ffynnon. Mae llygad y ffynnon y tu ol i’r adeilad a grisiau’n disgyn at y dwr. Yn y fan yma yr yfid y dwr i geisio cael gwellhad ac oddi yma y cariwyd galwyni ohono i gleifion drwy siroedd y gogledd a thu hwnt. Credid bod y dwr yn llesol at wella golwg gwan a defaid ar y dwylo. Llifa’r  dwr  o  lygad  y  ffynnon  drwy  agen  yn  y  mur  i mewn  i  faddon sgwar  o faint sylweddol ac ynddo byddai pobl a ddioddefai o grydcymalau a chloffni yn gorwedd yn yr ymgais i gael gwellhad.

 

 Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd.

  Wedi dod allan o’r dwr byddai’r cleifion yn mynd i’r ty drws nesaf i eistedd wrth y tan a chysgu. Ar ol bod yn y ffynnon dywedir bod llawer yn gadael eu baglau yno a cherdded adref hebddynt. Roedd lleoliad y ffynnon hon, ei phensaerniaeth a’i hanes o ddiddordeb i Michael a Sion ac yn yr heulwen gynnes daeth ymwelwyr eraill i chwilio am ei dyfroedd. Trueni na fyddai ffynhonnau ledled Cymru yn cael yr un parch a Ffynnon Gybi yn Eifionydd.

Ar ol mwynhau cinio ym Mhwllheli aethom draw i Fynytho a sefyll mewn digalondid ar safle Ffynnon Fyw. (SH309308) Fel y gwyddom mae’r muriau oedd yn amddiffyn y ffynnon wedi eu dymchwel ac mae’r rhedyn wedi gorchuddio’r safle. Gall y ffynnon arbennig hon ddiflannu’n llwyr a hynny o fewn ychydig flynyddoedd os na wneir rhywbeth i ‘w diogelu. Er ei bod ar dir preifat y mae hi hefyd yn grair hanesyddol a rhaid ceisio argyhoeddi CADW fod yma drysor gwerth ei hachub.

 

  Ffynnon Fyw, Mynytho – (fel y gallai fod)

Wedi gadael Mynytho aethom i Fynydd y Rhiw i weld Ffynnon Aelrhiw. (SH233284) sydd mewn cae ychydig bellter o’r eglwys wrth fynd ar y ffordd i gyfeiriad  pentref Rhiw. Mae’r olygfa o’r ffynnon hon yn fendigedig a Phorth Neigwl yn agor o’n blaenau. Roedd hon yn un o ffynhonnau’r pererinion ac fe allem ddychmygu teithwyr blinedig yn dod ati i geisio torri eu syched ar ol dringo i fyny o wastadedd Llanengan cyn gweld fod pen y daith yn Aberdaron ger llaw. Llwyddwyd i amddiffyn y ffynnon  rhag cael ei dinistrio gan draed gwartheg drwy osod ffens gref o’i hamgylch. Serch hynny roedd rhai o’r gerrig  o’r muriau wedi syrthio ac roedd y ffynnon ei hun yn llawn o ferw’r dwr. Roedd Michael yn falch o’r cyfle i’n ffilmio yn clirio’r tyfiant er mwyn gweld y dwr yn dechrau llifo’n loyw unwaith eto. 

 

Ffynnon Aelrhiw, Rhiw.

Y ffynnon olaf y buom yn yweld a hi y diwrnod arbennig hwn oedd Ffynnon Fair, Bryncroes. (SH 227315). Mae hon eto yn un o ffynhonnau’r pererinion ac mae yng nghanol y pentref. Mae’n amlwg fod trigolion Bryncroes yn gwybod fod ganddynt drysor oherwydd mae’r ffynnon ei hun a’r tir o’i hamgylch yn cael ei gadw’n dwt. Roedd y dwr yn bur a gloyw ac yn eich gwahodd i yfed ohono. Diwedd arbennig i ddiwrnod bendigedig.  

Ffynnon Fair, Bryncroes.

Ymhen pythefnos aethom ar daith dau ddiwrnod i’r de gan deithio drwy Bowys a galw i weld Ffynnon Fair yn Llanfair Caereinion (SJ104065) . Mae’r ffynnon islaw’r eglwys ac yn hawdd dod o hyd iddi am fod arwyddion yn dangos ei lleoliad. Rhaid dringo i lawr nifer o risiau cyn dod at y ffynnon ei hun. Mae ei ffurf yn anarferol, yn sgwar ar un pen lle mae’r grisiau’n mynd i lawr at y dwr ond yn grwn yn y pen arall. Plannwyd blodau a llwyni ar y llethr uwchben y ffynnon ac mae sedd garreg gerllaw iddi. Yn anffodus diflannodd y bwrdd gwybodaeth oedd yn son amdami. Roedd hon yn ffynnon a allai wella anhwylderau amrywiol ond gellid defnyddio’r dwr i felltithio hefyd! Mae hon yn ffynnon sydd wedi cael sylw yn Llygad y Ffynnon yn weddol ddiweddar ac yn un sy’n werth ymweld a hi os ydych yn digwydd teithio drwy Llanfair Caereinion. Buom yn ffodus i gael tywydd sych ond cymylog wrth ffilmio ac felly y parhaodd weddill y dydd.

Wedi teithio drwy’r canolbarth, gan osgoi Llanfair ym Muallt oherwydd y sioe, daethom i Landeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin. Ym mur y fynwent islaw’r eglwys mae Ffynnon Deilo (SN633224) Mae rhes o dai gyferbyn a’r ffynnon ac mae’n amlwg fod pobl yn  ymddiddori yn y lle gan fod planhigion mewn potiau yn cael eu gadael ar y cerrig ger y ffynnon . Llifa’r dwr o agen yn y mur ac mae’n llifo i faddon islaw. Heb amheuaeth dyma ffynnon sanctaidd Teilo Sant ac fe’i defnyddiwyd ganddo a’i ddilynwyr nid yn unig fel dwr yfed ond i fedyddio hefyd. Byddai arwydd yn cyfeirio’r cyhoedd at y ffynnon ac enw arni yn gymorth i ymwelwyr. Roedd dynion yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar dy gyferbyn a’r ffynnon a  swn morthwylio a llifio heb son am ambell frawddeg uwch na’i gilydd yn gwneud ffilmio yn anodd ar adegau.

 

 Ffynnon Deilo, Llandeilo Fawr.

O Landeilo taith fer oedd hi i Landyfan i weld Ffynnon Gwyddfaen.(SN643172)  Cafodd y ffynnon hon gryn sylw mewn ol-rifynnau o Llygad y Ffynnon  ond roedd maint y baddon a hynodrwydd y safle o ddiddordeb arbennig i Michael. Mae’n siwr fod y ffynnon hon yn gysegredig i’r hen dduwiau paganaidd ers talwm. Roedd yn arferiad i yfed y dwr o’r ffynnon mewn penglog dynol er mwyn cael iachad. Bu nifer o enwadau anghydffurfiol yn addoli yn y capel ger y ffynnon dros y blynyddoedd ac erbyn heddiw yr Eglwys yng Nghymru sy’n gofalu am yr adeilad. Bu’r dwr o’r ffynnon yn diwallu anghenion tref Llandeilo yn y gorffennol hefyd. Mae nifer o risiau yn arwain i lawr at y dwr ac mae dyfais fecanyddol yn y ffynnon i agor a chau drws yn y mur sy’n rheoli llif y dwr. Wedi diwrnod o deithio milltiroedd lawer a ffilmio tair ffynnon, da oedd cael  cyrraedd plasty Glyn Hir ger Llandybie lle roedd llety wedi ei drefnu ar ein cyfer. Ond nid oedd y gwaith wedi ei orffen. Rhaid oedd inn gael ein cyfweld gan son am y ffynhonnau a gwaith y gymdeithas cyn noswylio.

Roedd y tywydd yn braf a heulog drannoeth wrth inni adael Llandybie a Llandeilo a throi i  gyfeiriad  Llanbedr-Pont-Steffan ac oddi yno i Langybi yng Ngheredigion. Yno mae Ffynnon Gybi (SN605528) ar draws y ffordd i capel Maes y Ffynnon lle y priodwyd Ken a minnau flynyddoedd maith yn ol erbyn hyn. Mae’r gymuned wedi gwarchod y ffynnon ac mae arwydd yn arwain tuag ati. Rhoddwyd grisiau a chanllaw i alluogi ymwelwyr i fynd at y ffynnon a diddorol oedd gweld fod arian wedi ei daflu i’r dwr yn ddiweddar. Dyma arwydd fod ffynnon gysegredig yn troi i fod yn ffynnon ofuned yn ein dyddiau ni. Yn ol Edward Lhuyd roedd cleifion yn dod i ymolchi yn nwr y ffynnon i geisio cael gwellhad i lygaid poenus ac i anhwylderau’r esgyrn ac yna’n mynd a threulio’r noson o dan gromlech a elwid yn Llech Cybi. Pe baent yn llwyddo i gysgu yna byddent yn gwella. Dinistriwyd y gromlech ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a chodwyd ein cartref ni ar Bryn Llech. Yn y ddeunawfed ganrif byddai pererinion ar eu ffordd i Langeithio i wrando ar Daniel Rowland yn pregethu yn arfer gorffwyso ger y ffynnon ac yfed o’i dwr i dorri eu syched. Braint oedd cael ymweld a’r hen ffynnon unwaith yn rhagor.

 

  Ffynnon Gybi, Llangybi, Ceredigion.

Michael yn esgyn o’r ffynnon.

Ymlaen a ni a chyrraedd Tregaron yn y gobaith o fedru ymweld a Ffynnon Garon (SN 675595). Bu ieuenctid y fro yn gweithio i adfer y ffynnon rai blynyddoedd yn ol ac agorwyd llwybr i fynd ati gyferbyn a’r ty cyntaf cyn dod at yr arwydd 30 milltir yr awr  wrth deithio o gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan. Yn anffodus roedd y mynediad i’r llwybr wedi ei gau gan dyfiant trwchus felly rhaid oedd mynd i lawr y llethr serth at y ffynnon o’r ffordd fawr uwchben. Wedi cyrraedd yno gwelwyd fod y ffynnon wedi ei hesgeuluso a’r holl waith da a wnaethpwyd wedi ei orchuddio a drain a mieri. Mae pompren wedi ei chodi dros y  nant sy’n goferu o’r ffynnon ac mae hyn wedi costio mewn adnoddau, arian ac amser, ac eto’i gyd mae’r ffynnon  a’r llwybr ati wedi ei hesgeuluso. Mae ffynhonnau yn bethau byw a rhaid gofalu amdanynt yn gyson. Ar ddydd gwyl mabsant byddai pobl ifanc yr ardal yn arfer casglu at ei gilydd ger y fan yma flynyddoedd maith yn ol i yfed y dwr a thipyn o siwgwr ynddo a chael llawer o hwyl. Gallai’r ffynnon fod yn fodd i ddenu ymwelwyr eto pe cai’r ofal sydd ei angen.

Ar ol siom wrth Ffynnon Garon a seibiant i gael bwyd yn y dref ymlaen a ni i Swyddffynnon ac i fferm Cynhawdre (Gwenhafdre) i weld Ffynnon Ffraid ( SN675671). Cafodd ein cymdeithas y fraint o fedru helpu i adfer y ffynnon arbennig hon sy’n wyth cant oed. Mae ar ffurff cwch gwenyn a chafwyd tipyn o’i hanes yn ol-rifynnau Llygad y Ffynnon. Mae ei chyflwr yn parhau yn dda a nifer o ymwelwyr yn dod ati i gael dwr ohoni ac amryw yn teimlo fod yna awyrgylch arbennig o’i chwmpas. Bu rhai yma’n ddiweddar yn cymryd y dwr i’w ddefnyddio i fedyddio baban. Roedd y teulu newydd ddychwelyd ar ol bod yn y sioe yn Llanelwedd ac roedd Anwen Davies yn falch o’r cyfle i gael sgwrsio am y ffynnon sy’n golygu cymaint iddi.Roedd ymwela a Ffynnon Ffraid unwaith eto yn goron ar ddau ddiwrnod bendigedig o hel ffynhonnau.

 

Ffynnon Ffraid, Swyddffynnon, Ceredigion.

Ar ein ffordd yn ol i’r gogledd aethom i gael golwg ar Ffynnon Beuno, Y Bala (SH926357)  ond roedd wedi ei gorchuddio a deunydd gwyrdd ac felly nid oedd yn addas i’w ffilmio. Rydym yn gobeithio y bydd gennym newydd da i ddweud am y ffynnon arbennig hon cyn bo hir.

Wrth edrych yn ol ar y pedwar diwrnod o ffilmio bendigedig roeddem yn teimlo ein bod wedi cael gwyliau gwerth chweil. Diolch o galon i Michael a Sion am eu amynedd a’u  dyfalbarhad  wrth ffilmio’r ffynhonnau a’r modd proffesiynol  y llwyddwyd I wneud y gwaith. Bydd y rhaglen yn werth ei gweld a gobeithio y daw mwy o bobl i wybod am  Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ac i ymaelodi ynddi.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEITHGARWCH  WELLSPRINGS

Mae Wellsprings, ein chwaer - gymdeithas wedi bod yn brysur yn adfer y Ffynnon Ystyffan Sant ym mynwent eglwys Llanstephan (S0119422) yn sir Faesyfed. Cyn dechrau ar y gwaith roedd y ffynnon, sydd mewn cilfach islaw’r fynwent, wedi ei gorchuddio a thyfiant gwyllt ac roedd y gwaith cerrig o’i chwmpas wedi dirywio ac yn beryglus. Rhaid oedd tynnu’r cerrig oedd yn rhydd ac ailadeiladu’r waliau. Gwnaed hyn gan un dyn dros gyfnod o chwech diwrnod yn ym mis mis Mehefin. Mae’r gwaith gorffenedig yn wych a’r gymuned leol yn gwerthawrogi gwaith y gymdeithas. Llongyfarchiadau iddynt.

Roedd Ystyffan yn fab i Mawan neu Mawn ap Cyngen ap Cadell Ddyrnllug, tywysog Powys yn ol awduron Lives of the British Saints. Cysegrwyd eglwys arall iddo yn Llansteffan yn sir Gaerfryddin ac mae Ffynnon Ystyffan (SN 360107)  gerllaw’r eglwys honno hefyd. Roedd Ystyffan yn gyfaill mynwesol i Teilo Sant a cheir eglwysi wedi eu cysegru i Teilo ger y ddau Lansteffan – Llandeilo Abercowin yn sir Gaerfyrddin a Llandeilo Graban yn sir Faesyfed.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON REDYW SANT – LLANLLYFNI, ARFON.

Ym mis Mawrth buom yn ymweld a safle Ffynnon Redyw yn Llanllyfni (SH468517). Roeddem wedi bod yn chwilio am y ffynnon flynyddoedd lawer yn ol ac wedi mesur yr hyn y credem ni oedd y safle. Yna, beth amser yn ol, aethom i chwilio am y safle unwaith eto yng nghwmni’r ficerY Parchedig. Eric Roberts, ond heb fedru dod o hyd i’r ffynnon. Nawr mae ei olynydd yn y swydd, Y Parchedig. Ron Rees, yn awyddus i adfer y ffynnon fel rhan o gynllun i adnewyddu’r llwybrau cerdded yn y fro gyda’r bwriad o ddenu ymwelwyr i’r ardal. Yn ogystal a hyn cymerwyd dwr o’r ffynnon i’r eglwys i’w ddefnyddio mewn bedydd yn ddiweddar. Er bod baddon y ffynnon, sy’n ddeg troedfedd wrth wyth o faint, wedi llanw a cherrig a phridd, mae’r dwr yn dal i lifo drwy’r gofer i nant gyfagos ac felly mae modd cael dwr ohoni o hyd. Hyd y gwyddom dyma’r unig eglwys a  ffynnon yng Nghymru i’w cysegru i Redyw neu Credfyw Sant. Dymunwn bob llwyddiant i drigolion Llanllyfni yn eu hymdrechion i adfer y ffynnon a dod a swyddi i’r ardal.

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN.

Rhoddwyd cryn sylw  i Ffynnon Fihangel, Cilcain (SJ 175655) mewn ol-rifynnau o Llygad y Ffynnon. Fe gofiwch inni ddymchwel coeden fawr am fod ei gwreiddiau’n tyfu dryw furiau’r ffynnon. Methwyd a chodi’r goeden wrth ddefnyddio offer trwm ac felly defnyddiwyd cemegolyn arni. Mae hyn wedi ei lladd ond rhaid nawr i’w torri’r pren marw gyda bwyell er mwyn ei symud o’r safle. Bydd hyn yn waith hir a chaled ond rydym yn ffyddiog y gallwn adfer y ffynnon hon yn y dyfodol.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 CYFARCHION Y TYMOR 

I HOLL AELODAU CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch bob gohebiaeth at :   Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Ty Camwy, Calle Michael D Jones, Y Gaiman, Chubut, Argentina

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan Boswell Print & Design, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  Home Up