Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 18, Haf 2005 

 

_____________________________________________________________________  

 

CADARNHAU DILYSRWYDD, SAFLE AC ENW

  FFYNNON DYSILIO, RHUAL, YR WYDDGRUG

SJ 227649  

Ken Lloyd Gruffydd

 Ar gyrion y cae lle bu maes carafannau Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug yn 1991 mae ffynnon o faint sylweddol. Mae wedi ei hatgyweirio a’i waliau wedi eu hailgodi mewn mannau. Cyngor Sir Clwyd ymgymerodd â’r gwaith maen yn dilyn anogaeth y perchennog tir, yr Uwch Gapten Basil Heaton o Rhual, a hynny i ddathlu cynnal y brifwyl ar ei diroedd. Dywed y plac sydd yno mai’r Bedyddiwr adnabyddus Thomas Edwards II o’r plasty hwnnw a gododd y muriau cyntaf oddeutu 1677-88, ac mai tad y sgweiar presennol a fu’n gyfrifol am ailgodi’r waliau yn 1931. Disgrifiwyd hwy ddwy flynedd ynghynt fel ‘adfeilion’. Mewn dogfen sy’n dyddio o 1493 o Gasgliad Rhual yn Archifdy Penarlâg (D/HE/22) ceir prydles wedi ei llunio am bedair blynedd rhwng John ap Dafydd ap Llywelyn ap Gruffudd ab Ifan ar y naill law, a Dafydd ap Rhys ap Rheinallt (nai yr enwog Rheinallt o’r Tŵr, Broncoed) ar y llaw arall. Lleolir ynddi ddau barsel o dir yn nhrefgordd Rhual a oedd ‘yn gorwedd ar draws, rhwng ffos sy’n arwain at Felin Rhyd-y-golau a’r afon Alun, ac ar ei hyd, tiroedd yr Arglwydd yn un pen a thiroedd Llywelyn ap Gruffudd ab Ifan yn y pen arall’. Disgrifir yr ail barsel fel ‘Keytkay fennon dessilio’ a’i fod yn gorwedd ‘yn lled rhwng tiroedd Dafydd ap Rhys ap Rheinallt yn un pen, a ffos y Felin yn y pen arall’.

  

 

Mae’r wybodaeth yma yn rhoi sawl trywydd i ni i’w dilyn.Yn gyntaf, gwelwn mai enw blaenorol Ffynnon Rhual oedd Ffynnon Dysilio ac fe wyddom i Tysilio (fl.642) fod yn sant Cymreig gydag eglwysi wedi eu cysegru iddo o Feifod yn y canolbarth hyd at Landysilio ar lannau culfor Menai. Ef hefyd yw nawddsant Bryn Eglwys a Llandysilio-yn-Iâl, y ddau le o fewn ugain milltir i’r Wyddgrug. Dichon mai’r Normaniaid a ddisodlodd Tysilio fel y sant lleol ac ailgysegru eglwys yr Wyddgrug i’r Santes Fair yn yr unfed ganrif ar ddeg.

Rydym yn ffodus fod yr enwau lleoedd y cyfeirir atynt yn y ddogfen wedi goroesi. Saif ffatri gemegol ar safle’r hen felin ac mae olion y ffos i’w gweld hyd heddiw. Gwyddys i ‘diroedd yr Arglwydd’ ymestyn o Fryn y Beili drwy’r Dreflan a Maes-y-dre nes cyrraedd afon Alun.Yn ôl pob tebyg trigai Dafydd ap Rhys ap Rheinallt ar safle’r Rhual presennol neu’n agos iawn iddo. Gelwid ei fab yn Ieuan ap Dafydd ‘of Rhual’ (fl.1530). Y syndod mwyaf yw fod yr enw ‘Ffynnon Dysilio’ wedi parhau cyhyd. Ar y llaw arall, hwyrach nad oedd yr enw ar lafar gwlad yn niwedd y bymthegfed ganrif ond bod y cyfreithiwr a luniodd y les wedi trosglwyddo disgrifiad o’r Keytkay (coedcae: ‘cae wedi ei amgylchynu â gwrych’) o un ddogfen i’r llall. Pa un bynnag, mae’r ddogfen hon wedi ein galluogi i gadarnhau lleoliad, dilysrwydd ac enw ffynnon sanctaidd a fu ar goll am ganrifoedd.

  Cyfeirnod map Ffynnon Dysilio, Rhual yw SJ 227649

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU LLŶN

  Mae Llŷn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol; y mae hefyd yn fro sy’n gyforiog o hanes a thraddodiadau’r seintiau a’r pererinion. Y mae hefyd yn fro gyfoethog ei ffynhonnau. Yn ddiweddar gwnaeth yr hanesydd Elfed Gruffydd, Pwllheli, astudiaeth fanwl a chynhwysfawr o ffynhonnau’r ardal o dan nawdd Cyngor Dwyfor.

     Gobeithiwn y caiff nifer o ffynhonnau sylw o dan y cynllun adfer. Os am wybod mwy am yr ymchwil a’r cynllun arfaethedig dewch i wrando ar Elfed yn siarad ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cylch, ddydd Mercher, Awst y 3ydd rhwng hanner dydd ac un o’r gloch. Yn yr un cyfarfod hefyd byddwn yn lansio gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru: www.ffynhonnau.org.uk www.ffynhonnau.org.uk . Diolch i Dennis Roberts, Felinheli am ei holl waith dros y gymdeithas.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CARIO DŴR O FFYNNON SANCTAIDD 

AR GYFER BEDYDDIO

Mae’r hen arfer traddodiadol hwn ar gynnydd unwaith eto. Dyma rai ffynhonnau lle mae unigolion wedi ceisio dŵr ohonynt ar gyfer bedyddio baban yn ddiweddar:

Ffynnon Engan, Llanengan, Llŷn  - SH 932708

Ffynnon Rhedyw, Llanllyfni, Arfon  -SH 468519

Ffynnon Armon, Llanfechain, Maldwyn-SH 0797

Os oes gennych chi wybodaeth am ffynhonnau eraill lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddiadau, rhowch wybod i’r Golygydd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O AMGYLCH Y FFYNHONNAU

Diolch i Gadeirydd ein cymdeithas, Howard Huws, am gasglu’r wybodaeth ganlynol:

FFYNNON GYBI, CLORACH, MÔN  - SH 446842

Ffynnon sgwâr mewn cae yw hon. Dywedir mai yma’r oedd Cybi a Seiriol yn arfer cyfarfod. Eisoes dinistriwyd Ffynnon Seiriol wrth i’r ffordd gael ei lledu flynyddoedd yn ôl. Bellach mae’r caead concrid sydd dros y ffynnon wedi cracio. Rhoddwyd y caead dros y ffynnon i’w hamddiffyn rhag y gwartheg. Bydd yn rhaid gwneud rhywbeth yn fuan rhag ofn i gyflwr y ffynnon ddirywio ymhellach ac iddi hithau hefyd gael ei cholli. Gellir gweld y ffynnon islaw’r bont ger ffermdy Clorach.

FFYNNON CAWRDAF, ABER-ERCH, LLŶN – SH 374402

Mae’r ffynnon wedi ei hesgeuluso ac angen ei glanhau. 

FFYNNON CHAD, HANMER, Maelor Saesneg  - SJ 4539

Mae hon yn ffynnon enwog sydd wedi ei chau ers blynyddoedd. Bellach mae gobaith ei hailagor gan fod y perchennog tir yn fodlon gwneud hynny.

FFYNNON BEUNO, CLYNNOG-FAWR, ARFON  - SH 423498

Caiff y ffynnon gryn sylw pan agorir canolfan yn Hen Ysgol, Clynnog.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON BEUNO, Y BALA (SH 923358)

Cafodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wahoddiad i fod yn bresennol pan ddadorchuddiwyd llechen i nodi safle Ffynnon Beuno ar Fehefin y 7ed. Derbyniwyd y llythyr canlynol gan Dr. Iwan Bryn Williams, un o swyddogion CANTREF, sef Cymdeithas Treftadaeth y Bala a Phenllyn, yn egluro sut y bu’n rhaid cau’r ffynnon. Dyma oedd ganddo i’w ddweud:

‘Fe welsoch y twll a agorwyd ar y llain uwchben y ffynnon ac efallai i chwi glywed sôn am rai o’n bwriadau i ddatblygu’r safle. Yn y diwedd penderfynwyd cau’r twll yn ôl a chodi muriau isel yn union uwchben y muriau gwreiddiol i ddangos beth oedd maint y ffynnon ac i gyfleu bod rhai stepiau yn un gornel i gerdded i lawr ati. Yr ydym wedi ceisio gwneud hyn yn union i’r ffigyrau a ddyfynnir yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Adeiladau Hanesyddol a gyhoeddwyd yn 1913. Mae canol y ffynnon yn dipyn is na’r tir y tu allan iddi. Ar y llechen dywedir mai dyma oedd safle Ffynnon Beuno. Darperir taflen wybodaeth yn nodi peth o hanes y ffynnon i’w rhoi yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r tir rhwng muriau’r “ffynnon” newydd bellach wedi ei guddio gan slabiau carreg a graean i leihau’r angen am gynnal a chadw. Gwnaed y gwaith gan Eilir Rowlamds, yr Hendre, Cefnddwysarn. Cafwyd grantiau gan Barc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Tref y Bala ac Ymddiriedolaeth D. Tecwyn Lloyd ond y grant mwyaf o ddigon oedd gan Cist Gwynedd, un o gronfeydd Cyngor Gwynedd.

Yr hyn a barodd i ni roi’r ffidil yn y to ynglŷn â cheisio adfer yr hen ffynnon wreiddiol oedd, yn gyntaf fod cryn chwe troedfedd o bridd wedi ei osod uwchben y waliau gwreiddiol pan wastatawyd y safle i godi tai. Yn ail nad oedd unrhyw arwydd bod y dŵr yn symud, ac efallai nad oedd y dŵr yng ngwaelod y twll yn ddim ond yr un math o beth ag y byddem yn ei weld pe byddem wedi palu i’r un dyfnder mewn unrhyw fan ar y safle. Yn drydydd, er i ni gynnig cynlluniau i greu rhwydwaith metel chwaethus dros y twll roedd gwrthwynebiadau o safbwynt iechyd a diogelwch ynglŷn â’r adeiladwaith ac ynglŷn â’r peryg i ymwelwyr ac yn ogystal roedd yr anhawster i gael grantiau ariannol i wneud y gwaith yn codi o hyd ac o hyd. Roeddem fel Ymddiriedolwyr yn gwybod bod ein methiant i symud ymlaen ac arafwch i gael y lle yn daclus yn codi gwrychyn y cymdogion ac yn peri gofid i ninnau. Yn y diwedd penderfynwyd mai’r cynllun gorau oedd ceisio codi strwythur o furiau fyddai’n dangos mai dyma oedd y safle a’i wneud yn y fath fodd fel y gallai sefyll heb ormod o angen cynnal a chadw. Mae hi’n agos i dair blynedd ar ddeg ers i’r saga yma ddechrau ac mae’n braf gweld carreg filltir bwysig wedi ei chyrraedd.’

Gallwn ddysgu llawer oddi wrth brofiadau cyfeillion CANTREF. Mae angen amynedd, dyfalbarhad, gwaith caled a gweledigaeth wrth geisio adfer ein hen ffynhonnau. Rhaid hefyd bod yn barod i gydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch. Credwn eu bod wedi llwyddo mewn modd eithriadol i gadw safle’r ffynnon a’i hanes ar gof a chadw. Hebddynt ni fyddai dim o hyn wedi digwydd a’r ffynnon a’i thraddodiadau wedi mynd yn angof o fewn cenhedlaeth.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 DATGANIAD CADW  

AM GOFRESTRU EIN FFYNHONNAU SANCTAIDD

Derbyniwyd yr wybodaeth ganlynol mewn llythyr gan CADW:

Er nad oes meini prawf penodol ar gyfer rhestru ffynhonnau, mae’n rhaid cael rhyw fath o strwythur uwch ben y ddaear a chysylltiad hanesyddol â sant, eglwys neu gapel a rhaid ei bod yn cael ei defnyddio ers amser. Er mwyn gwneud cais i restru ffynnon dylid ysgrifennu at Adran Restru Cadw a rhoi cymaint o wybodaeth am neu gyfeiriadau at unrhyw gysylltiadau hanesyddol.

Os oes ffynnon yn eich hardal chi sy’n cyfateb i’r meini prawf uchod gallwch wneud cais i’w chofrestru fel crair hanesyddol drwy anfon at Philip Hobson, Yr Uned Restru, CADW, Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QQ. Gall restru ffynnon ei diogelu a’i gwneud yn haws cael grantiau i’w hadfer.

Rhowch wybod os ydych yn llwyddiannus. Bwriadwn ofyn i CADW am restr o’r ffynhonnau cofrestredig er mwyn ei chyhoeddi yn Llygad y Ffynnon yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR

Dyma wybodaeth am FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN o gyfrol CASGLIAD O LÊN GWERIN SIR GAERFYRDDIN gan y Parch D.G. Williams. Cyhoeddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn 1895 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd copi argraffedig o’r gyfrol yn 1996 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Gwelir yr wybodaeth ganlynol ar dudalennau 83 i 85. (Cadwyd at y sillafu fel y’i ceir yn y gwreiddiol.)

FFYNNON ST. ANTWN

   

Yn Llanstephan y mae Ffynnon St. Antwn neu fel y gelwir hi’n gyffredin, Ffynnon Shon Antwn. Nodai Mr. T.L.D. Jones-Parry yn gywir am dani yn “Y Genhinen” yn ddiweddar, ei bod “wedi ei hadeiladu â cherryg a chymrwd; ac uwch ei phen y mae eilunfa, neu le ceuol, y tybid y cedwid delw y sant. Yr oedd yn enwog yn yr amser gynt am ei rhinwedd i iachau clefydau.” Pobl ieuainc sy’n glaf o gariad yn bennaf a ymwelant â’r ffynnon hon yn awr; wishing well yw. Os dymuna dyn ieuanc yn galonnog wrth Ffynnon St Antwn i gael calon rhyw ferch ieuanc wedi ei throi ato ni bydd hynny yn hir cyn dod i ben; ond rhaid cyflwyno pin cam yn offrwm i dduw neu sant y ffynnon. Y mae miloedd o binnau yng ngwaelod Ffynnon St Antwn, wedi eu dwyn yn offrymau gan ewyllyswyr pryderus o bob cwr o’r wlad.

FFYNNON BECA

Mewn gwaun fechan yn agos i Dre-fach y mae Ffynnon Beca. Bu hon yn enwog iawn gynt. Gwnaeth wyrthiau rhyfedd yn ei dydd. Gwna llawer ddefnydd o’i dŵr o hyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn y mae aml i gwmni bychan wedi bod ar eu taith drwy’r nos er mwyn yfed o ddwfr Ffynnon Beca cyn dydd. Cyfrifir fod ei dŵr lawer yn gryfach yn y bore cyn codiad haul. Y mae golwg digon gwylaidd arni heddyw. Nid yw ond ffrwd fechan ar waun ag ychydig gerryg o’i chylch. Ymwelais â hi yr haf diweddaf ac yfais o honi. Baich go drwm y cyfrifai fy nghylla i a’m cwmni ei dŵr. Defnyddir dwfr y ffynnon yma fel dwfr cyffredin ar wasanaeth y tŷ gan y trigolion pan y mae yn sych iawn a’r ffynhonnau ereill yn sychu. Cefais ymddiddan maith gan hen wraig hynaf y lle am y ffynnon. Ni chyfrifai hi fod fawr gwahaniaeth rhwng ei dŵr ag eiddo ffynhonnau cyffredin ond meddyliau “pobl dierth” fod y ffynnon yn rhinweddol dros ben, yn neillduol i wella’r “grafel”. Hefyd y mae y dwfr sydd yn aros ychydig droedfeddi nes lawr na llygad y ffynnon yn dda iawn i’r llygaid.

FFYNNON FRON LAS

Ffynnon fechan ar waun fferm o’r enw Bron Las, ym mhlwyf Trelech, yw hon. Nid yw y sôn am dani wedi mynd ymhell, ond credai’r hen bobl fod ynddi rinwedd iachaol rhyfedd, ond yfed o’i dŵr cyn codiad haul, yr un fath ag y nodais am Ffynnon Beca. Cyfetyb hyn i’r arferiad yn yr Alban gyda Loch Manaar.

FFOSANNA

Ym mhlwyf Cynwil y mae hon. A oes berthynas, fel y myn rhai, rhwng yr enw a’r geiriau Lladin fons sana – “ffynnon iach”? Bu hon yn enwog iawn ddegau o flynyddoedd yn ôl. Dywedai hen wraig wrthyf fod yma, yn gynnar yn y ganrif hon, hen ŵr go hynod yn byw yn agos i’r ffynnon: cadwai rywfath o ddelwau o’i chylch. Neu, fel y cefais yr hanes gan un arall, os byddai dyn ieuanc yn dyfod yn was o ryw ardal ddieithr i’r fferm y mae y ffynnon ar ei thir, rhoddai yr hen ŵr gart a cheffyl iddo ’mofyn cerryg o’i ardal enedigol, neu unrhyw ardal arall y gwyddai am dani os byddai yn gwybod am gerryg dipyn yn hynod o rhywle. Un yn neillduol a ai â’r cart i ’mofyn carreg fel yma, pan y dychwelai, sylwai ei feistr arno, ac edrychai ar y garreg; ystyriai ei bod yn rhagori ar ddim oedd yno eisoes, a dywedai y meistr wrth ei was newydd: “Was dierth, y mae bendith gyda thi os deli ymlaen.” Dyna’r esboniad traddodiadol ar y cylch mawr o gerryg sydd o gwmpas y ffynnon hyd heddiyw. A oes berthynas rhwng y traddodiad yma am ddod â cherryg ar Ffynnon Ffosanna a’r hen arferiad o daflu cerryg, yn fath o offrwm i’r gallu sy’n iachau, fel y gwneir gyda Ffynnon Yclaburn yn Ynysoedd Shetland? Y mae traddodiadau ar lafar gwlad am bobl yn cael eu hiachau yn rhyfedd gan ddwfr Ffynnon Ffosanna. Deuai pobl yno ar eu ffyn, ond taflent hwy ar ôl yfed y dŵr. Cawsai ymwelwyr lety mewn tŷ ffarm yn agos i’r ffynnon, ond un o amodau y llety oedd iddynt adael eu ffyn yno pan yn ymadael yn holliach.

FFYNNON FIL FEIBION

Y mae traddodiadau hen am hon. Saif yn agos i Gastell Dinefwr. Lladdwyd yma fil o feibion amser mawr yn ôl, medd traddodiad, a dyna darddiad ei henw.

NANT Y RHIBO

Dywed Giraldus fod yn ei amser ef Ffynnon ryfedd yn agos i Ddinefwr, ar yr ochr arall i’r Towi, yng Nghantref Bychan, ffynnon oedd fel llanw’r môr yn codi ac yn gostwng ddwy waith mewn 24 awr. Dywed Thomas Wright mewn nodiad, fod ffynnon yn agos i ochr ogleddol mur Parc Dinefwr, a elwir Nant y Rhibo (rheibio), ac mai at hon, efallai, y cyfeiriai Giraldus. Y mae y ffynnon honno’n adnabyddus ddigon.

FFYNNON Y PISTYLL

Yng nghantref Llandyfeilog, ar dir o’r enw Pistyll, yn agos i Gydweli, y mae ffynnon a fu yn enwog unwaith. Yr oedd ei dyfroedd yn gwella’r llygaid o bob math o ddolur y teimlent oddiwrtho. 

FFYNNON SUL

Y mae hon yn hen ffynnon enwog, a thraddodiadau ynglŷn â hi. Yn agos i Gydweli y mae. Lladdwyd yma dywysog o’r enw Benisel. Y traddodiad yw i ffynnon darddu yn y man y lladdwyd Benisel, ac iddi gael ei galw ar ei enw. Yn nhreigliad amser, llygrwyd y gair; gadwyd Ben allan ac ni arosai ond Sel. Yn derfynol, trodd y Sel yn Sul.

LLAN-NON

Pwyntir allan yma heddyw y ffynnon y cawsai Non, mam Dewi Sant, ddŵr ohoni.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Dyma gyfeirnod map y ffynhonnau o’r dyfyniad hwn mor agos ag sy’n bosib:

Ffynnon Antwn Llanstephan -SN 347098; Ffynnon Beca, Dre-fach- Mae sawl Drefach yn Sir Gaerfyrddin!; Ffynnon Fron Las, Tre-lech- SN295287; Ffynnon Ffosana, Cynwil Elfed- SN 357324; Ffynnon Fil Feibion, Castell Dinefwr-SN615225; Ffynnon Nant y Rhibo, Dinefwr- SN623233; Ffynnon Pistyll, Llandyfaelog SN4111; Ffynnon Sul, Cydweli-SN 4006; Ffynnon Non, Llannon- SN5408.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyfeiriadau at FFYNHONNAU yn y cylchgrawn CYMRU

(Casglwyd gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

Asiedydd o Walia, Hynafiaethau Cerrig y Drudion CYMRU, XVI (1904), tud. 231:

Uwchlaw llys Iefan Ddu mae ffermdy o’r enw Capelau – lle y cynhelid gwasanaeth crefyddol yr hen lys, ac ar dir Ty’n y Graig y mae Ffynnon a elwir Ffynnon Ifan, a rhyw draddodiad disail gan yr ardalwyr yn ei chylch. Ond mae’n debyg mai Ffynnon Iefan Ddu, arglwydd Hiraethog ydoedd. Mae y dŵr yn rhedeg drwy dir Ty’n y Graig a rhan o dir y Plas ac i lawr i’r rhyd Garegog.

John Thomas, Aberdaron; CYMRU, XII (1897) tud. 118-9:

Bydd llawer yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr hen Ffynnon Fair, yr hon sydd ar lan y môr ym mhen tir Lleyn, ryw ddwy filltir o Aberdaron. Bydd llawer yn cyrchu ati yn yr haf er mwyn cael eu “dymuniad”. Geilw y Saeson hi yn “Wishing Well.” Wedi i chwi ddod i ben y tir y mae y ffynnon i lawr yn y gwaelod, ac y mae yno agos i gant o risiau cerrig, a’r rhai hynny yn lled anwastad, cyn y dowch at ei dyfroedd. Mae croesaw i chwi yfed y faint ar a fynnwch o’r dŵr, ond cyn i chwi gael sicrwydd y cyflenwir eich dymuniad, rhaid i chwi gydymffurfio a’r amodau, sef yw hynny, llenwi eich genau yn llawn o’r dyfroedd, ac esgyn i fyny yr holl grisiau, a hynny heb golli yr un dafn; ac nid hawdd yw hynny, yn enwedig os bydd eich cyfeillion yn ymyl, yn gwneud eu gorau i beri i chwi chwerthin. Ond os methwch y tro cyntaf y mae ail gynnyg i Gymro, a thri os bydd taro, chwedl Syr Meurig. Clywais y byddai llawer o hen lanciau a hen ferched yn ymweld a hi yn aml yn yr hen amser gynt, a thipyn o orchest oedd cael ganddynt gyfaddef pa beth oedd eu dymuniad hwy; ond byddai rhai yn sibrwd fod a fynnai cariadau rywbeth a’r ymdrechion hyn.

Yng Ngwlad Eben Fardd CYMRU, IV (1893), tudalen 215:

Yno wrth fin y coed sydd ar y llethr y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu mewn i’r mur. Yn ymyl y tŷ – a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo, – lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.

Elfyn; Trefriw ac Oddeutu; CYMRU XXXVI (1909) tudalen 62:

Un o’r prif at-dyniadau i Drefriw, yn arbennig yn yr amseroedd hyn ydyw Ffynnon Cae Coch, yr hon a gyrhaeddir ar hyd y ffordd at Gonwy mewn chwarter awr o’r pentref. Yn Faunula Grustensis, yr hwn a gyhoeddwyd mor ddiweddar a’r flwyddyn 1830, yr holl a ddywedir am y ffynnon ydyw ei bod yno, ac mai Mr. E.T.Griffith, llawfeddyg, ddaeth o hyd iddi. Yn ddiweddar, mewn cydmariaeth. Fe ddaeth rhinweddau meddyginiaethol y ffynnon hon yn glodfawr ac yn adnabyddus trwy Brydain, ac ymhellach na hynny. Er y flwyddyn 1873, mae tŷ cyfleus a lleoedd pwrpasol i chwaraeu, adloni, ac i gadw cyfarfodydd, wedi eu darparu yn ymyl y ffynnon, am yr hon y canodd Trebor Mai –

O flaen Cae Coch a’i riniawl ddwfr

                  Yn llwfr aiff angen llym

             ac y canodd Gwilym Cowlyd –

     Dŵr i’w yfed i’r afiach

              Yn creu ffordd i gael corff iach.

Hefyd Dewi Arfon –

   Clywch, y mae dwfr Cae Coch – yn iachau pob

                  Rhyw nych pan ddaw arnoch;

                Fe all adfer claf llwydfoch;

                Wele’r fan i liwio’r foch.

 

          O ddrws y bedd i ris ban, – drwy’i yfed

                     Yr afiach ddaw’n fuan

                  I adfyw: – mewn dinod fan

                  Caiff rinwedd cyffyr arian.

Mae’n ddiameu na fyn y darllenydd sydd yn ddieithr i’r dwfr hynod hwn dderbyn testimonials y beirdd, gan fod y brodyr hynny, druain, yn euog o dynu gyda digwilydd-dra pleserus ar eu dychymyg ynglŷn â phopeth ymron. Ond os na chymerir gwyr braint a defod yr awdurdodau, ni fydd i’r teulu deimlo’n sur a dolurus o’r herwydd gan fod rhai o feddygon mwyaf adnabyddus y wlad wedi rhoddi sel eu cymeradwyaeth i rinwedd dŵr Cae Coch, yn arbennig at gryfhau y gwan, at ddiffyg treuliad a meithriniad gwaed. Er deugain mlynedd a mwy yn ôl, awdurdodau uchel, ar ddefnyddio y dŵr, drwy ei yfed ac wedi ymolchi ynddo, oedd y diweddar Doctor W.E. Hughes (Cowlyd), Llanrwst, a Doctor Pierce, Dinbych, dau feddyg galluog ag y cyrchai cleifion llawer ardal hyd atynt. Ar ôl hynny ysgrifennodd Dr. Hayward, Lerpwl, lyfr adnabyddus yn trafod rhagoriaethau arbennig Ffynnon Cae Coch. Mae y llyfr hwn yn eithaf hawdd ei gael; myned y darllenydd olwg arno. Ceir tystiolaeth i’r un perwyl gan y meddyg adnabyddus Dr. T.E. Jones, Henar, Llanrwst. Yn ôl dadansoddiad Dr. Hassall, y ffynnon hon yw y dwfr haiarn goreu ym Mhrydain fawr. Mae cannoedd lawer o gleifion, o bryd i bryd, wedi eu bendithio â nerth ac iechyd drwyddo. Mae pythefnos neu fis o yfed dŵr Trefriw, ac o sugno awelon iach yr ardal, wedi rhoddi gwrid newydd mewn llawer grudd lwyd, ac efallai gipio ambell un megis o borth y fynwent. O does rhywun yn wan o gorff neu feddwl, gadawed i Drefriw a’i dŵr dreio llaw arno.

Cyfeirnod map y ffynhonnau yn y dyfyniadau uchod yw:

Ffynnon Ifan, Cerrigydrudion: SH5948; Ffynnon Fair, Aberdaron: SH139252

Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd: SH427212; Ffynnon Cae Coch, Trefriw: SH7863

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 BWRLWM ERYRI

FFORWM TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL ERYRI

Gwahoddwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i fod yn bresennol mewn cynhadledd ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, o dan nawdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a oedd yn edrych ar bob agwedd o’n treftadaeth. Canlyniad y gynhadledd oedd y datganiad canlynol:

Cawsom wlad i’w chadw,

darn o dir yn dyst

ein bod wedi mynnu byw…

Ar Fawrth 5ed, 2005 penderfynodd aelodau Cynhadledd Treftadaeth Ddiwylliannol Eryri fod angen rhoi mwy o bwyslais ar warchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol Eryri a’r cyffiniau. Bydd hyn yn ei dro yn codi ymwybyddiaeth pobl o dreftadaeth ddiwylliannol Eryri ac yn cynnig cyfleoedd i gefnogi ac i hybu ffyniant economaidd yr ardal. I’r perwyl hwn yr ydym ni, aelodau’r gynhadledd, yn cefnogi’r egwyddor o sefydlu Fform Treftadaeth Ddiwylliannol Eryri.

Beth a olygir gan ‘dreftadaeth ddiwylliannol’?

Gall ‘treftadaeth ddiwylliannol’ olygu ein treftadaeth weledol; y tirlun, pensaernïaeth draddodiadol, safleoedd hanesyddol a chynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt. Ond mae angen treiddio’n llawer dyfnach, a thalu teyrnged i’r dreftadaeth anweladwy: ymdeimlad pobl o berthyn i’r ardal anhygoel hon drwy eu hiaith, llên, celfyddyd, cerddoriaeth, ymadroddion, enwau lleoedd, hanes, atgofion, chwedlau, arferion gwerin yn ogystal â’r drysorfa o ddoethineb llafar a gwybodaeth am grefftau o bob math. Yr elfennau anweladwy yma, a ddeilliodd o’n hetifeddiaeth, ein diwylliant a’n cymunedau, sydd wedi creu’r tirlun yr ydym mor awyddus i’w warchod.

Beth yw nod y fforwm?

Cofnodi, casglu, gwarchod a hyrwyddo’r ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Eryri yn ei chyfanrwydd, drwy gydweithredu â phartneriaid o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat.
Sicrhau fod cymunedau Eryri yn elwa’n economaidd o weithgareddau’r Fforwm.
Cynnal a hybu iaith a diwylliant gyfoes Eryri er mwyn gwarchod treftadaeth ddiwylliannol heddiw i genedlaethau yfory.
Gweithio mewn partneriaeth a chymunedau a chymdeithasau, gan sicrhau fod pawb yn rhannu profiadau ac arferion da.

Sut?

Drwy sefydlu Fforwm Treftadaeth Diwylliannol Eryri, a thrwy gyflogi Swyddog Treftadaeth Ddiwylliannol Eryri.

Bydd lawnsiad swyddogol y cynllun yn cael ei gynnal yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri, 2005.

(Mawr obeithiwn y bydd ffynhonnau’n cael eu hadfer o ganlyniad i waith y Fforwm ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio gydag asiantaethau amrywiol er mwyn sicrhau hynny. Cewch wybod am unrhyw ddatblygiad yn Llygad y Ffynnon. Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN . . . YW’R GEINIOG

Daeth yn amser talu’r tâl aelodaeth blynyddol am 2005-2006. Bydd y Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH yn falch o dderbyn eich cyfraniadau mor fuan â phosibl, os gwelwch yn dda, os nad ydych yn talu drwy archeb banc neu’n aelod am oes.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ERYRI A’R CYFFINIAU

DYDD MERCHER, AWST 3ydd am 12.00 ym MHABELL Y CYMDEITHASAU

CYFARFOD CYFFREDINOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

a sgwrs am

FFYNHONNAU LLŶN

gan

  ELFED GRUFFYD, Pwllheli

CROESO CYNNES IAWN I BAWB. DEWCH YN LLU I GEFNOGI’R GYMDEITHAS.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch bob gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH.

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Ty Camwy, Calle Michael D. Jones, Y Gaiman, Chubut, Argentina.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  Home Up