Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 19     Nadolig 2005

 

  FFYNHONNAU ARDAL DOLGELLAU

  Eirlys Gruffydd

Mae ardal Dolgellau yn un gyfoethog ei ffynhonnau ac maent yn sicr yn haeddu ein sylw fel Cymdeithas. Braint i Ken a minnau oedd cael ymweld â dwy ohonynt ddechrau mis Mehefin yng nghwmni Rhys Gwyn, swyddog ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac Aled Thomas, warden i’r Comisiwn Coedwigaeth. Roedd y ddwy ffynnon ym mhlwyf Llanfachreth, sef Ffynnon Llawr Dolserau (SH759199) a Ffynnon y Capel (SH751225). Heb arweiniad y ddau ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni ddod o hyd i’r ffynhonnau a mawr yw ein dyled iddynt am rhoi o’u hamser i’n tywys gerllaw y dyfroedd tawel.

 

GERLLAW FFYNNON LLAWR DOLSERAU

Rhaid oedd gadael y cerbydau ar ochr dde’r briffordd A494, rhyw ddwy filltir o Ddolgellau i gyfeiriad y Bala, ychydig wedi pasio’r arwydd i blasty Dolserau, a chroesi’r ffordd i ddilyn llwybr a oedd bron yn anweledig drwy dyfiant trwchus o lwyni. Enw’r goedwig lle mae’r ffynnon yw Coed Planfa Fawr. Rhaid oedd cerdded rhyw ganllath a hanner i’r gogledd cyn dod i dir mwy agored o dan gysgod y coed. Wedi dringo’r llethr am ychydig daethom at y ffynnon. Anodd oedd ei gweld yng nghanol yr holl dyfiant a dim ond llygaid cyfarwydd Rhys ac Aled a allai ei darganfod. Roedd wedi gorlifo gan fod dail a cherrig wedi cau’r gofer.

 

PENSAERNÏAETH FFYNNON LLAWR DOLSERAU

Amcangyfrir ei bod yn naw troedfedd o hyd wrth saith troedfedd o led ac mae chwech o risiau yn arwain i lawr at y dŵr. Wrth gwrs, am fod y ffynnon wedi gorlifo roedd y grisiau o dan lefel y dŵr. Rhyw dair troedfedd ddylai dyfnder y dŵr ynddi fod ond y diwrnod y buom yn ymweld â hi roedd y dyfnder yn nes at bum troedfedd. Gan fod gwaith yn y goedwig yn fygythiad i’r ffynnon, yn 1985 aeth dyn lleol o’r enw R.T. Wheeler ati i’w glanhau. Pan ymwelodd â’r ffynnon gyntaf ymddangosai ei bod yn wyth troedfedd sgwâr ac yn dair troedfedd o ddyfnder gyda thri gris i’w gweld uwchben y dŵr. Pan aeth ati i’w glanhau daeth y grisiau eraill i’r golwg. Wrth gerdded yn y ffynnon a tharo rhaw i lawr drwy’r mwd gallai deimlo’r cerrig mawr ar ei gwaelod. Wedi barrug caled rhewodd dŵr y ffynnon a llwyddwyd i’w dorri a’i godi oddi yno a gwagio’r ffynnon. Gwelwyd ei bod yn bum troedfedd o ddyfnder. Roedd y mur ar yr ochr ddwyreiniol wedi cael ei niweidio wrth i wreiddiau coeden helyg wthio drwyddo a syrthiodd darn o’r mur i’r ffynnon wrth iddynt geisio clirio’r mwd o’i gwaelod. Buan yr ailgodwyd y mur, fodd bynnag. Erbyn hyn maent angen peth gwaith i’w cryfhau a dyna obaith Rhys Gwyn, sef ei glanhau a’i hadfer gyda chymorth nawdd o dan gynllun gan y Parc Cenedlaethol.

Yn ôl un traddodiad fe ymddengys fod dyfroedd Ffynnon Llawr Dolserau yn feddyginiaethol ond cred eraill iddi gael ei hadeiladu ar gyfer diwallu angen cartrefi lleol. Dywed eraill iddi gael ei defnyddio i weithio swyngyfaredd. Credid hefyd fod boneddigion yr ardal yn arfer dod i ymdrochi ynddi. Roedd modd rheoli lefel y dŵr drwy ddefnyddio polyn pren fel plwg a’i osod mewn twll yng ngwaelod y ffynnon. O’i godi byddai’r dŵr yn llifo allan ohoni.

 

  GER FFYNNON Y CAPEL, LLANFACHRETH

Ar ôl bod yn ymweld â Ffynnon Llawr Dolserau ymlaen â ni i bentref Llanfachreth. Ar ôl cyrraedd canol y pentref troesom i lawr y ffordd ar y chwith a oedd yn mynd heibio i’r tai ac i lawr yr allt tua’r capel. Yno, ar ochr y ffordd ond mewn cae y tu ôl i wrych a choed uchel yr oedd y ffynnon. Yn ôl traddodiad cafodd ei henw am fod mynachod o Abaty Cymer wedi codi capel ar y safle. Yn ôl yr hanes daeth Gwynog Sant i ymweld â Machreth Sant ac ar yr achlysur hwnnw parodd Machreth i’r ffynnon darddu o’r ddaear. Mae’n glamp o ffynnon, yn mesur bron i ugain troedfedd sgwâr gyda phump o risiau yn mynd i lawr at y dŵr. Roedd yn enwog am wella llygaid poenus a bu cyrchu tuag ati tan yn gymharol ddiweddar. Cariwyd dŵr ohoni i fedyddio plant yn eglwys y plwyf. Erbyn heddiw mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion amaethyddol ac mae’r ffynnon wedi ei gorchuddio â tho sinc. Y bwriad yw gosod amgenach to drosti a fydd yn caniatáu i ymwelwyr weld y dŵr yn y ffynnon ond sydd ar yr un pryd yn eu diogelu rhag syrthio iddi. Edrychwn ymlaen at weld y cynlluniau arfaethedig a fydd yn adfer urddas y ffynnon ac yn bennod newydd yn ei hanes.

Dyma'r gweithgareddu sydd wedi eu trefnu gan y Gymdeithas yn y misoedd nesaf

Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf - Yr Ymfudo i Batagonia – Llanuwchlyn

Dydd Mawrth 4 Awst – Darlith Eisteddfod Genedlaethol Meifod

Dydd Sadwrn 10 Hydref – Ffair Lyfrau Borth - Porthaethwy

Am fwy o wybodaeth am yr uchod ewch i GWEITHGAREDD yn y rhes ar frig y dudalen hon ac yna cliciwch Gweithgareddau

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Elfed Gruffydd, Pwllheli

Eleri Carrog, Bontnewydd, Caernarfon

John Cyril Jones, Mynytho

Helen Jenkin Jones, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd

Robin ac Olwen Griffith, Creigiau, Caerdydd

Gobeithio y daw eraill atom ar ôl gweld y rhaglen am y ffynhonnau yn y gyfres Blas y Cynfyd ar S4C.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Yn rhifyn 18 o Llygad y Ffynnon gofynnwyd am wybodaeth am ffynhonnau lle mae’r dŵr yn dal i gael ei ddefnyddio i fedyddio babanod. Daeth ymateb gan Gwen Evans, Rhuthun. Defnyddiwyd dŵr Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd mewn bedydd yn ystod yr haf. Ar Orffennaf 10fed yng Nghapel Moreia, Llanystumdwy, bedyddiwyd Dyddgu Mari Morys a chanwyd emyn o waith ei thad, y Prifardd Twm Morys. Diolch am gael ei ganiatâd i gyhoeddi’r emyn yn Llygad y Ffynnon.

Ffynnon Gybi, Eifionydd

Yng nghysgod Garn Bentyrch ym mhlwyf Llangybi mae Ffynnon Gybi. Yno yng nghanol coed derw, a’r mynydd yn gwmpeini, y cododd Cybi Sant ei gell, fileniwm a hanner yn ôl. A dŵr o’i ffynnon o ydi dŵr y bedydd yn y gwasanaeth yma.

FFYNNON GYBI

ar y dôn Lausanne

Bûm yn eistedd wrth y Ffynno

Ac yn syllu i’r dŵr glân,

Ac yn meddwl am Greawdwr

 Derw mawr ac adar mân.

 

Gwrando twrw bach y Ffynnon

 A fu’n torri syched sant:

Tybio weithiau imi glywed

 Yn ei bwrlwm chwerthin plant.

 

Megis sŵn y dail yn tyfu,

 Megis sŵn adenydd bach,

Megis sŵn traed mân yn cerdded,

 Felly sŵn y Ffynnon iach.

 

Dyma ddafn o ddŵr y Ffynnon

 Ar dy dalcen di yn Groes:

Boed Creawdwr coed ac adar

 Gyda thi ar hyd dy oes

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DARGANFOD FFYNNON SANCTAIDD NEWYDD

FFYNNON ARMON, LLANARMON-YN-IÂL

Mae dwy ffynnon wedi eu cysegru i Garmon Sant yng nghyffiniau’r pentref hwn yn sir Ddinbych. Mae un wedi ei nodi ar y map mewn lle a elwir yn Groesffordd y Saint (SH195523) bron ar y ffin â phlwy Llandegla. Mae nifer o’r ardalwyr yn sôn hefyd am Ffynnon Armon ychydig yn is na’r eglwys ac yn nes at lan afon Alun (SH193563). Ar raglen deledu Saesneg yn ddiweddar gwnaed datganiad fod ffynnon sanctaidd newydd wedi ei darganfod gan archaeolegwyr a’i bod yn un hirsgwar gyda grisiau yn arwain i lawr at y dŵr. Dyma’r un sy’n is na’r eglwys. Bwriadwn ei mesur pan fo hynny’n bosibl.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR . . . PYTIAU DIFYR . . .

Diolch i Geraint Jones, Trefor am dynnu ein sylw at yr erthygl ddiddorol hon a ymddangosodd yn yr Herald Cymraeg, 26 Mehefin, 1900. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol.

FFYNHONNAU’R GEST YN EIFIONYDD

gan Alltud Eifion

Yr ydoedd ein henafiaid yn hynod am gael allan ffynhonnau gerllaw eu preswylfeydd, ac yr oeddynt yn rhoddi pwys mawr ar sefyllfa y ffynhonnau, i ba gyfeiriad y byddai eu gofer pa un ai gogledd, dwyrain a’i de a fyddai a golygent eu hachusrwydd wrth hynny. Y mae trefgordd y Gest, fel y gŵyr llawer o’ch darllenwyr yn nodedig o fryniog a dytiryniog – fel y dywed Eben Fardd am Eifionydd;

                        Eifionydd, Eifionydd, o f’annwyl Eifionydd,

                        Yn nentydd Eifionydd mae f’anian . . .

ac nis gwn am un man lle ceir mwy o springs neu ffynhonnau tarddedig na chantref y Gest. Cofnodais ychydig o amser yn ôl y rhai a gofiaf ac a wybyddaf, ac os bydd eu croniclo yn yr Herald yn cael ei werthfawrogi, bydd yn eithaf tal i mi am eu hanfon i’ch gofal i fod ar gof a chadw.

 

Dechreuwn gyda Ffynnon Dunawd ar ben tir y Gest sydd a gwaith ynddi ar derfyn Bach y Saint. Ffynnon Tyddyn Iolyn ac y bydd dwfr grisialaidd ynddi bob amser, yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Byddai llawer yn dod iddi i olchi eu llygaid dolurus gynt. Ffynnon Eisteddfa: Y mae hon tu isaf i’r tŷ a dwfr ynddi bob amser. Un haf sych, 1826, yr roedd trigolion Pentre’r Felin yn gorfod cario dŵr o Ffynnon Eisteddfa a Tyddyn Iolyn gan fod y rhai eraill wedi sychu. Ffynnon Cefn y Meusydd Isa: Byddai yr hynafiaethudd Ellis Owen yn credu ei bod yn iach iawn i anifeiliaid rhag rhwymedd. Ffynnon Bron y Gadair: Y mae hon islaw i’r farmyard. Gwelwyd hi wedi sychu ar droeon. Y mae hefyd yn y coed ar dir Tyddyn Yscuboriau, tu cefn bron i’r Efail, Pentrefelin, ffynnon neu spring a ddarganfuwyd gan y diweddar Robert Evans, yr hynafiaethydd yn yr haf sych 1868. Yr oedd y pentrefwyr yn y trybini mwyaf gan brinder dwfr. Yr ydoedd yr hynafiaethydd adref ar y pryd, a throdd allan i gloddio yma ac acw yn y gors yn agos i derfyn Bronygadair, ger gardd yr Efail Bach tua chan llath oddi wrth y bont ac yr ydoedd tywod bras arianaidd ar ei gwaelod a’i dwfr yn byrlymi ohoni. Y mae ei weithred hon o’i eiddo yn foddion, ymhlith eraill o’i gymwynasau cenedlaethol er cadw iddo enw bendithiol. Geilw hi yn Ffynnon y Gadair ac yr ydoedd yn meddwl rhoi carreg ar ei phen a’r enw a’r flwyddyn ei darganfyddwyd arni.Gall fod yno ffynnon ers oesau ond wedi ei chladdu. Pwy wyr?

Ffynnon Carreg y Felin:Yr ydoedd yma ddwy ffynnon gerllaw, un y tu isaf i’r tŷ a’r llall y tu uchaf i’r tŷ. Galwodd y preswylwyr un yn Ffynnon Ddiog gan ei bod yn mynd yn hesp ar dywydd sych  a’r llall yn Ffynnon Fyw gan y byddai yn llawn o spring bob amser. Ffynnon Tŷ Coch gerllaw Cross Keys, Pentrefelin: gelwir hi yn Ffynnon Tan y Clogwyn lle mae digon o ddwfr bob amser. Ffynnon Tyddyn Engan, Treflys: Bydd cyflawnder o ddwfr yn hon bob amser ac yn digoni’r tair fferm anneddau pa rhai sydd yn ymyl ei gilydd fel tri throed trybedd. Ffynnon y Rhianod, Bron y Foel: y mae dwy o’r rhain yn tarddu ar lethr y foel, y naill yn uwch na’r llall. Dywedir fod Rhianod o lys Bron y Foel yn yfed ohonynt wrth fyned i ben y foel. Ffynnon Cefn Cyfanedd: y mae sefyllfa hon i’r gogledd a’r dwfr yn gryfhaol a digonedd ohonno. Ffynnon Brynmelyn: y mae hon islaw i’r capel a’i gwyneb i’r gorllewin. Yr oedd gwraig a anesid yn Tŷ Capel, Brynmelyn, ac aeth i fyw flynyddau yn ôl i ardal Clwtybont, a phan yn sâl iawn ac ar ei gwely angau, meddyliodd ond cael dwfr o hen ffynnon Brynmelyn y medniai. Felly cafodd rhywun i fyned (dros ugain milltir) i gyrchu costreliaid ohono ond yr oedd dwfr yr Iorddonen hen yn analluog i’w gwella. Ffynhonnau Tu hwnt i’r Bwlch: Y mae un a elwir Ffynnon Beudy yr Uchain, y Ffynnon Uchaf a’r Ffynnon Isaf, lle’r oedd hen Du Hwnt i’r Bwlch, a digonedd o ddwfr ynddynt. Bu llawer o gario ohonynt (pan fyddai yr haf yn sych) o Borthmadog cyn cael y public water.

SGWÂR Y FARCHNAD, TREMADOG

 

Ffynnon Nant Adda, Penamser, y naill du i’r cemetery. Anghofiais am Ffynnon Dyddyn Adi uwchlaw’r tŷ gerllaw i hen dŷ aelwyd  Mur y Geifr lle roedd Thomas Humffra, y gwehydd yn byw. Ffynnon Bartlett: y mae hon o dan y graig gerllaw y turnpike gate, Tremadog. Gwnaed hi gan un Bartlett, (is-oruchwyliwr i Mr Alexander Maddocks) tua chan mlynedd yn ôl. Y mae hon yn ffynnon o ddwfr iachusol a chyflawnder ohono bob amser ac yn cyflenwi angen preswylwyr y pen gorllewinol o Dremadog. Ffynnon Llidiart yr Ysbyty: y tu uchaf i’r hen dŷ ger y lle lle a elwir Brynffynnon, Tremadog. Ffynnon Cil y Llidiart: y mae hon tu ôl i’r Maddock Arms Hotel, Tremadog. Yr ydoedd hon yn cyflenwi ei dwfr iachusol i holl drigolion Market Square gynt wrth fod ffos ohoni yn rhedeg at y Groes a phwmp ohoni at iws y trefedigion. Yn ddiweddar roedd pipes ohoni a phwmp wrth y Market Hall yr hwn sydd yn gymwynas fawr i’r trigolion nas gallai fforddio i gael y dwfr cyhoeddus ac mae hen ferched y dysgleidiau yn dywedyd y gwna well te na dwfr y pipes.

Ffynnon Penrhynheli: y mae hon ar y dde i gatehouse Tanrallt, y ffordd yr eir i risiau yr allor dderwyddol. Tua 70 mlynedd yn ôl syrthiodd plentyn iddi a bu iddo foddi, ond deallaf ei bod wedi ei hagor yn awr. Y mae yno ddwfr pur, grisialog ac ni welir hi’n hesp. Ffynnon Corlan y Geifr: Mae hon y tu uchaf i Tanrallt, Tremadog, gerllaw y lle y dywedir fod hen dŷ gynt. Y mae gwaith yn y ffynnon hon ac fe rhoid pibellau ohoni i gynorthwyo y dwfr o Lyn Cwmbach i gyflenwi dwfr i Gwmni Dwfr Porthmadog. Ffynnon Ynyscynhaearn: y mae hon y tu ôl i dŷ Ynystwywyn, gerllaw yr afon sydd yn mynd o dan bont y sluice.Gwnaeth y diweddar Dr. Roberts waith yno a chafodd ddytyniad (analyze) ohono. Dywedid ei fod yn feddyginiaethol (saline) ar y pryd. Ni wnaed fawr o brawf arni. Hefyd Ffynnon Bryn y Garth. Y mae islaw y gatehouse i Bronygarth, Porthmadog. Ffynnon Tyddyneithin ger Borth y Gest: dywedir y byddai ffynnon ar Ynys y Cerrygduon ger Porthmadog yn yr hen amser. Er olrhain hynny allan efallai fy mod wedi gadael allan lawer o fan ffynhonnau. Y mae cof henafgwr yn dirywio fel ei gorph. Gall yr hyn a groniclwyd fod o ddiddordeb i drigolion Eifionydd. Cedwais tu fewn i derfynnau Tre’r Gest.

*          *            *            *            *            *            *            *            *            *            *

Dyma gyfeirnodau’r ffynhonnau yn yr erthygl hon y llwyddwyd i ddod o hyd iddynt:

 

Ffynnon Ddunawd –SH514401                                     Ffynnon Tyddyn Iolyn SH518407

Ffynnon Eisteddfa SH518395                                        Ffynnon Tyddyn Adi SH540383

Ffynnon Cefn y Meusydd Isaf SH531402                 Ffynnon Bron y Gadair SH525395

Ffynnon Bryn y Garth SH?                                        Ffynnon Tan y Clogwyn SH?

Ffynnon Ty Coch SH?                                                    Ffynnon Carreg y Felin  SH521402

                                                                                                  & SH519404

Ffynnon Tyddyn Engan SH538383                              Ffynnon Bartlett SH?

Ffynnon y Rhianod SH546389                                       Ffynnon Cefn Cyfanedd:SH544395

Ffynnon Brynmelyn: SH541393                                     Ffynhonnau Tu Hwnt i’r Bwlch:                                                                                                       c.SH564387

Ffynnon Nant Adda SH554394                                      Ffynnon Llidiart yr Ysbyty SH558403

Ffynnon Cili Llidiart SH562403                                    Ffynnon Penrhynheli SH568405

Ffynnon Corlan y Geifr SH565405                               Ffynnon Ynyscynhaearn SH572386

Ffynnon Bron y Garth SH524396                                 Ffynnon Tyddyn-eithin SH?

Tybed faint o’r ffynhonnau hyn sy’n dal mewn bodolaeth heddiw? Os oes gwybodaeth ar gael am rai ohonynt, byddem yn falch o gael ei groniclo yn Llygad y Ffynnon. Tybed a wyddoch chi am wybodaeth debyg o ardaloedd eraill? (Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Y CYFARFOD CYFFREDINOL

Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes y brifwyl yn y Faenol. Daeth nifer calonogol ynghyd i wrando ar Elfed Gruffydd, Pwllheli, yn rhoi canlyniad ffrwyth ei ymchwil drylwyr i ffynhonnau Llŷn. Cafodd Elfed ei gyflogi i wneud y gwaith gan adran Dwyfor o Gyngor Gwynedd. Cafwyd nawdd i wneud hynny o dan gynllun Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyda chydweithrediad Bleddyn Jones, y swyddog sy’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun. Roedd maint y wybodaeth a’r manylion am y ffynhonnau a gasglodd Elfed yn syfrdanol a mawr obeithiwn y bydd y ffeil ar gael mewn man diogel ond agored i’r cyhoedd. Mae Elfed wedi cerdded milltiroedd lawer i ganfod lleoliadau’r ffynhonnau ac wedi siarad â nifer o bobl leol a oedd â gwybodaeth werthfawr. Mawr yw ein dyled i Elfed am ddarlith ragorol ac am ei holl waith gyda ffynhonnau Llŷn.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ADFER FFYNNON FYW, MYNYTHO (SH 90913087)

Fel rhan o’r gwaith adfer sy’n dilyn ymchwil Elfed penderfynwyd canolbwyntio ar rai ffynhonnau i’w hadfer. Yr un a oedd yn peri’r pryder mwyaf i’r Gymdeithas oedd Ffynnon Fyw, Mynytho a oedd wedi ei gorchuddio â thyfiant. Ychydig amser yn ôl daeth newyddion da o Benrhyn Llŷn fod y gwaith o adfer Ffynnon Fyw wedi dechrau. Dyma luniau sy’n cofnodi’r gwaith:

 

  Wedi clirio’r rhedyn, y drain a’r mieri oedd wedi tyfu dros y ffynnon.

   

Enw’r ffynnon a’r adeiladwaith i’w gweld unwaith eto.

Adwy i’r safle

 

 Y baddon wedi tagu â thyfiant

Y ffynnon wedi ei glanhau

Y safle yn dangos y ffynnon a’r baddon

       a seddau o gerrig mawrion yn y wal bellaf

Y bwriad nawr yw ailgodi’r waliau i tua thair i bedair troedfedd o uchder a rhoi giât haearn ynddynt i alluogi ymwelwyr i fynd at y ffynnon. Diolch i Bleddyn Jones a chronfa’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol am weld yr angen a gwneud y gwaith. Mae’r ffynnon hon wedi cael ei hadfer a’i handwyo fwy nag unwaith yn ei hanes. Gobeithio nawr y bydd y gymuned leol yn sylweddoli fod ganddynt drysor yn eu meddiant a ddylai gael ei warchod yn barhaol. Diolch i Bleddyn am y lluniau hyn o’r gwaith. Gwahoddwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i fod yn rhan o’r adfer.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI I GYD  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch bob gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH.

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Tŷ Camwy, Calle Michael D. Jones. Y Gaiman, Chubut, Argentina.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up