Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 21, Nadolig 2006

 

TAITH O GWMPAS FFYNHONNAU SIR DDINBYCH  

(A HEN SIR FEIRIONNYDD)

Eirlys Gruffydd

 

  FFYNNON GYNHAFAL

Ar gais Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych bu Ken a minnau’n arwain taith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r sir ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Roedd yn ddiwrnod bendigedig a da oedd hynny gan fod gennym dipyn o waith cerdded a’r ffordd i ambell ffynnon yn ddigon llaith a llithrig, hyd yn oed wedi tywydd sych. 

Cychwynnwyd o Ruthun a nodwyd bod Ffynnon Bedr, oedd rhyw chwarter milltir o’r dref, mewn bri a pharch mawr ar un adeg. Cariwyd dŵr ohoni i fedyddio yn yr eglwys. Erbyn 1886, fodd bynnag, roedd wedi sychu ac aeth ei safle’n angof. Wedi gadael Rhuthun aeth y bws â ni ar hyd y lonydd culion i Langynhafal ac i Blas Dolben ar odre Moel Dywyll. Yno mae Ffynnon Gynhafal (SH1363). Gadawyd y bws ar y ffordd fawr ychydig wedi mynd heibio i’r groesffordd ar ganol y pentref a cherdded y chwarter milltir i fyny at Blas Dolben a chael croeso cynnes gan Gareth a Iona Pierce. Daeth Iona gyda ni i’r berllan a dangos lleoliad Ffynnon Gynhafal i ni.

Roedd Cynhafal yn byw yn y seithfed ganrif a dethlir ei ŵyl ar Hydref y pumed. Mae’r ffynnon yn un fawr, hirsgwar ac yn ddeunaw troedfedd wrth ddeg. Ar un adeg roedd yn faddon agored i’r awyr, yna codwyd to bwaog o frics drosti. Dros y blynyddoedd tyfodd glaswellt dros y to a bellach mae’r ffynnon yn ymestyn i mewn i ochr y bryn. Roedd ei dŵr yn enwog am wella defaid ar ddwylo a chrydcymalau yn ogystal â nifer o anhwylderau eraill. Rhaid oedd dilyn defod arbennig wrth geisio gwella dafaden, sef mynd at y ffynnon, trywanu’r ddafaden â phin, offrymu gweddi yn gofyn i Gynhafal Sant gael gwared â’r ddafaden ac yna taflu’r pin i’r ffynnon. Yn ddi-ffael byddai’r ddafaden yn diflannu. Bu pobl yn cyrchu at y ffynnon i’r union bwrpas hwn yn gymharol ddiweddar. Cariwyd dŵr o’r ffynnon i fedyddio yn yr eglwys.

Wedi gadael Llangynhafal aethom yn ôl i Ruthun a dilyn y ffordd drwy Bwll-glas i gyfeiriad Gwyddelwern. Wrth deithio rhaid oedd nodi bod ffynnon enwog yn Llanelidan unwaith. Dywed un traddodiad mai Ffynnon y Pasg oedd yr enw arni a bod modd i rywun werthu ei enaid i’r diafol a chael y ddawn i ddewino dim ond wrth boeri’r dŵr sanctaidd allan o’i geg deirgwaith yn olynol. Ond yn ôl y traddodiad lleol Ffynnon y Pasg oedd yr enw arni gan fod y dŵr yn arbennig o dda at wella’r salwch hwnnw. Erbyn hyn diflannodd y ffynnon ac nid oes sicrwydd am ei lleoliad.

Wrth deithio drwy Wyddelwern (SJ0746) nodwyd bod yr eglwys wedi ei chysegru i Feuno Sant a bod dwy ffynnon yn dwyn ei enw yn y pentref. Mae’r ffynnon uchaf yn un gref ac fe’i gwelir ar yr ochr dde islaw’r ffordd ar dro sydyn wrth ddod i mewn i’r pentref o gyfeiriad Rhuthun. Gosodwyd barrau haearn cryf drosti. Nid oes cofnod o unrhyw draddodiadau am rinwedd ei dŵr wedi goroesi. Roedd y ffynnon isaf ar dir corsog ychydig islaw’r ysgol. Ar un adeg roedd adeilad o frics coch drosti. Eto nid oes unrhyw hanes fod ei dŵr yn gallu gwella wedi ei gofnodi.

Wedi gadael Gwyddelwern buan y daethom i gyffiniau Corwen (sydd bellach yn sir Ddinbych) i weld Ffynnon Sulien (SJ0644). Mae’r ffynnon ar dir bwthyn o’r un enw. Parciwyd y bws mewn cilfach ar ochr chwith y ffordd ychydig bellter o Gapel Rug a cherdded i lawr y ffordd garegog at Ffynnon Sulien. Mae’r perchennog, Helen Constantine, yn awyddus iawn i wneud rhywbeth i achub y ffynnon. Yn anffodus, mae rhai o’r cerrig mawrion sydd ar ochr y ffynnon wedi dechrau llithro dan bwysau’r tir uwchben ac os na wneir rhywbeth cyn hir bydd ei chyflwr yn dirywio. Ein gobaith yw y bydd modd cofrestru’r ffynnon fel crair hanesyddol a thrwy wneud hynny gael rhywfaint o gyllid i wneud y gwaith. Roedd gan bawb ddiddordeb yn hanes y ffynnon a’r ffaith fod ganddi’r enw o wella crydcymalau. Cysegrwyd eglwys Corwen i’r seintiau Mael a Sulien felly hon yw ffynnon gysegredig y plwyf.

 

FFYNNON SULIEN

Wedi seibiant dros ginio yng Nghorwen aethom ar hyd yr hen A5 i Gerrigydrudion i ymweld â Ffynnon Fair Magdalen (SH954491). Gyferbyn â’r ysgol a’r ganolfan mae llwybr cyhoeddus yn arwain i lawr at y ffynnon drwy giât mochyn. Rai blynyddoedd yn ôl bellach ailagorwyd y ffynnon gan ddau ddyn a oedd yn arbenigo mewn codi waliau cerrig. Yn anffodus ni lwyddwyd i orffen y gwaith o adfer y ffynnon a bellach mae’n agored i’r elfennau a’i chyflwr yn dirywio’n gyflym. Mae wedi ei rhestru yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Sir Ddinbych. Dywedir bod waliau ar dair ochr iddi a dwy garreg fawr ar y bedwaredd ochr a thri gris yn mynd i lawr at y dŵr. Mae’r llwybr cyhoeddus sy’n arwain ati yn awgrymu mai o’r ffynnon hon y câi’r pentrefwyr eu dŵr. Yn sicr mae angen i ni fel Cymdeithas wneud rhywbeth i ddiogelu’r ffynnon. Roedd pawb a gerddodd ati yn gweld pa mor ddigalon yw ei chyflwr a hefyd yn gweld pam mae angen cael cymdeithas i ddiogelu ein ffynhonnau. Tybed a oes rhai o’n haelodau sy’n adnabod cyfeillion yng Ngherrigydrudion yn ddigon da i fedru awgrymu gyda phwy y dylem gysylltu i adfer Ffynnon Fair Magdalen?

 

FFYNNON FAIR MAGDALEN

Wedi gadael Cerrigydrudion aethom drwy Lanfihangel Glyn Myfyr i Glawddnewydd a throi i’r lôn gul sy’n arwain oddi yno i bentref Derwen. Cyn cyrraedd daethom at leoliad Ffynnon Sara (SJ066517) ar fin y ffordd. Mae hon yn ffynnon a chanddi faddon o faint sylweddol. Glanhawyd ac adnewyddwyd hi a thacluswyd y tir o’i chwmpas yn ddiweddar ac mae adeiladwaith y ffynnon mewn cyflwr arbennig o dda. Credid bod y dŵr yn gallu gwella crydcymalau a chancr. Gerllaw roedd tyddyn ac ynddo trigai’r wraig a oedd yn gofalu am y ffynnon. Yn aml gadawai’r bobl gloff a gafodd wellhad yn y ffynnon eu baglau yn y tŷ fel prawf o effeithiolrwydd dŵr y ffynnon. Llosgodd y bwthyn yn 1860. Cred rhai mai ar ôl yr hen wraig a drigai yn y bwthyn yr enwyd y ffynnon ond cred eraill mai enw Saeren Sant sydd arni. Ef yw sant eglwys Llanynys yn Nyffryn Clwyd. Yn ddiweddar mae pobl wedi bod yn ymweld â’r ffynnon gan adael cerpyn ar y coed gerllaw iddi. Credir bod salwch yn diflannu wrth i’r cerpyn yn pydru. Dyma hen draddodiad a oedd wedi diflannu ers blynyddoedd yn cael ei adfer. Wrth gwrs, arferiad paganaidd ydyw ond un hynod ddiddorol serch hynny.

FFYNNON SARA, DERWEN

Y ffynnon olaf yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (SJ0763). Gellir dod o hyd i’r llwybr sy’n arwain at y ffynnon drwy gerdded o gwmpas yr eglwys a dringo i’r gorllewin drwy’r coed. Wedi cerdded am ryw ddau gan llath gwelir baddon o faint sylweddol. Rhaeadr sy’n bwydo’r baddon a deuai’r dŵr i lawr o’r graig uwchben. Yn anffodus bu tirlithriad a diflannodd rhan o’r adeiladwaith. Yn ffodus mae gennym lun o’r safle cyn i’r tir lithro felly gallwn gofio sut beth oedd yno ugain mlynedd yn ôl.

 

Y FFYNNON CYN Y TIRLITHRIAD

 

Y BADDON YN LLANRHAEADR

Roedd y ffynnon yn enwog yn yr Oesoedd Canol fel man i bererinion ddod iddo i geisio gwellhad o anhwylderau’r croen yn ogystal â mudandod a byddardod. Dywedir bod Dyfnog Sant yn arfer sefyll o dan y rhaeadr bob dydd fel penyd. Ar un adeg roedd adeilad o gwmpas y fan ble llifai’r dŵr. Wedi ymweld â’r ffynnon byddai’r pererinion yn mynd i’r eglwys a rhoi offrwm yng nghyff y sant yno. Cymaint oedd gwerth eu rhoddion nes i’r eglwys fedru fforddio cael ffenestr liw arbennig sy’n dangos achau Iesu yn ôl at Jesse, tad y brenin Dafydd. Rhaid oedd i ninnau ymweld â’r eglwys hefyd ac yno yn ein cyfarfod yr oedd Helen Jenkins Jones o Lanrhaeadr, sy’n aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Cawsom ein tywys ganddi o gwmpas yr adeilad ac eglurodd hanes y ffenestr i ni. Y farn gyffredinol oedd ein bod wedi cael diwrnod i’w gofio. Tybed a oes modd argyhoeddi cymdeithasau hanes eraill i drefnu teithiau tebyg?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DYDDIADUR DARLITHOEDD

Ers mis Awst cynhaliwyd nifer o ddarlithoedd gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru:

Medi 6ed – Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Darlith ar Ffynhonnau Llŷn.

Hydref 27ain – Cymdeithas Ddiwylliannol Capel Peniel, ger Dinbych.

Tachwedd 6ed – Cymdeithas Hanes Dolwyddelan.

Tachwedd 13eg – Clwb Cinio Treffynnon.

Tachwedd 14eg – Cymdeithas Pensiynwyr Llanferres.

Tachwedd 21ain – Cymdeithas Chwiorydd Capel Penbryn, Treffynnon.

Rhagfyr 14eg – Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a’r Cylch.

Cafwyd nifer o aelodau newydd o ganlyniad i’r darlithoedd hyn.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Morfydd Owen, Llanfarian

Elinor Williams, Rhiw

John Eric Williams, Pwllheli

R.G. Williams, Rhoshirwaun

M.P. Jones, Nefyn

Elwyn Ashford Jones, Pwll-glas

John Griffith Jones, Abergele

Roberta a Glyn Owen, Treffynnon.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  DWY FFYNNON YN LLYDAW

  Dewi Lewis

Tra oeddwn ar wyliau yn Llydaw eleni cefais gyfle i ymweld â dwy ffynnon. Mae’r ddwy ffynnon yn debyg iawn i’w gilydd. Lleolir y ddwy ohonynt reit ar yr arfordir – y cam nesaf fyddai’r môr mawr! Mae’r gyntaf ohonynt wedi ei lleoli nid nepell o bentref Le Conquet. Mae hon mewn pant cysgodol sy’n arwain i’r traeth gerllaw. Mae’n ffynnon fawr, tua deugain troedfedd o hyd ac ugain troedfedd o led. O’i chwmpas mae waliau wedi eu hadeiladu gyda dwy fynedfa ar ffurf camfa i ymwelwyr fentro at y dŵr. Erbyn hyn mae canol y ffynnon yn llawn berw’r dŵr ond mae modd cyrraedd y dŵr yn ddigon hawdd. Fel y digwyddodd un diwrnod, roedd hen wraig ger y ffynnon felly dyma fentro mewn Ffrangeg digon bratiog i ofyn iddi am y ffynnon. Wrth lwc roedd ei Saesneg hi tipyn gwell na fy Ffrangeg i. Yn ôl yr hyn a ddywedodd roedd hi’n naw deg oed ac yn ymweld â’r ffynnon bron bob diwrnod. Roedd hi’n meddwl bod y ffynnon yno ers yr ail ganrif ar bymtheg. Doedd hi ddim yn ymwybodol o unrhyw gysylltiadau crefyddol â’r ffynnon ond roedd bri mawr yn gymdeithasol ar y safle. Yma y deuai pobl i gymdeithasu yn yr hen ddyddiau – merched i sgwrsio a golchi dillad a’r dynion i fwynhau mwgyn neu getyn. Y rheswm dros adeiladu’r waliau oedd cadw anifeiliaid draw a chadw’r cyflenwad yn bur. Fe ddywedodd fod pobl yn dal i ymweld â’r ffynnon gan eu bod yn credu bod rhinweddau llesol yn y dŵr. Yn ei barn hi roedd berw’r dŵr yn arwydd o’i burdeb. Beth bynnag, fe ddywedodd ei bod hi’n ‘cymryd o’r dŵr’ yn rheolaidd a doedd o ‘ddim ’di gwneud drwg iddi hi’!

Tua thair milltir ar hyd yr arfordir ceir ffynnon arall sy’n hynod debyg o ran ffurf ond sydd ychydig bach yn llai o ran maint. Mae hon wedi ei lleoli ar benrhyn St Matthieu. Dyma lecyn godidog gyda golygfeydd gwych o’r arfordir. Yma ceir goleudy, abaty a ffynnon. Mae Abaty St Matthieu yn dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg ond adfeilion sydd yma heddiw gyda’r capel yn parhau i gael ei ddefnyddio. Mae’r ffynnon wedi ei lleoli yn agos i’r abaty a’r goleudy. Mae’n debyg bod y ffynnon wedi bod mewn bri ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ddiweddarach daeth yn bwysig fel safle cymdeithasu i’r ardal gyfan gyda phobl yn tyrru yma fel yn achos ffynnon Le Conquet. O ddarllen yr wybodaeth am y ffynnon ni ddeuthum ar draws unrhyw arwyddocâd neu gysylltiad crefyddol iddi. Tybed a oedd hi wedi bod yma tua’r un cyfnod â’r abaty – tybed pa un oedd yma gyntaf? Mae ei phensaernïaeth yn debyg iawn i ffynnon Le Conquet ac unwaith eto roedd yn llawn berw’r dŵr. Tra oeddwn yn eistedd gerllaw ar brynhawn braf yn ystod y Pasg eleni daeth nifer o bobol heibio i’r ffynnon ac yfed y dŵr gan aros am ennyd i fyfyrio. Amharwyd ar y distawrwydd rhywfaint pan ddaeth gŵr a’i wraig heibio yn llawn sŵn a chynnwrf gyda chamera fideo a oedd digon mawr i fod yn Hollywood. Ni ddeallais yr un gair ond roedd hi’n amlwg eu bod wedi’u plesio â’r ffynnon! Braint i minnau oedd cael gweld y ddwy ffynnon yn Llydaw.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

 

FFYNNON FAIR, DOLGELLAU (SH727175)

Aeth aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru i Ddolgellau ar Awst 24ain i gyfarfod â chriw brwdfrydig sy’n awyddus i lanhau ac adfer Ffynnon Fair. Maent wedi casglu gwybodaeth hanesyddol am y ffynnon ac wedi darganfod bod to drosti ar un adeg. Adeiladwyd waliau o’i chwmpas tua 1837 ac fe’i hatgyweiriwyd yn 1850. Roedd wedi cael ei hesgeuluso erbyn 1890 fodd bynnag. Mae hyn yn dangos yn glir bod angen gofal a chynnal a chadw cyson ar ffynnon, fel pob adeilad arall. Ni ddylsem ofni mynd ati i adfer ffynnon. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y bydd yn goroesi ein cyfnod ni. Daethpwyd o hyd i ddarnau arian o gyfnod y Rhufeiniaid yn y ffynnon rai blynyddoedd yn ôl. Bellach mae cynlluniau ar y gweill i geisio cael arian i adfer y ffynnon arbennig hon a oedd yn enwog am ei gallu i wella’r crydcymalau.

Mae gwaith cloddio a glanhau sylweddol wedi digwydd ar safle’r ffynnon yn ddiweddar ac edrychwn ymlaen at gael adroddiad llawn ar y gweithgareddau yn Llygad y Ffynnon yn y dyfodol

FFYNNON BEUNO, TREFFYNNON  (SJ1876)

Mae pawb yn gwybod am Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon ond faint tybed sy’n ymwybodol bod ffynnon i Feuno Sant yno hefyd? Mae safle’r ffynnon ar dir uchel uwchben Ffynnon Gwenfrewi, ychydig islaw’r fan a elwir o hyd yn Gerddi Beuno. Mae Roberta Owen o Dreffynnon yn awyddus i dynnu sylw at y potensial o ddiogelu’r rhan hon o’r dref a’i hagor fel man cyhoeddus o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol. Ar hyn o bryd dim ond twll go fawr mewn anialdir yw safle’r ffynnon ond credir mai yma y dienyddiwyd Gwenfrewi. Am ganrifoedd byddai’r pererinion a ddeuai i Dreffynnon, neu Lanwenfrewi i roi i’r lle ei enw gwreiddiol, yn dringo’r bryn tuag at Ffynnon Beuno ac yn taro darnau o arian i goeden gysegredig fel offrwm cyn mynd ymlaen at y ffynnon. Lladdwyd y goeden oherwydd yr holl ddarnau arian a ddyrnwyd iddi ac fe’i dymchwelwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn y pumdegau. Nhw yw perchnogion y safle. Bellach mae pwyllgor wedi cael ei sefydlu i edrych ar y posibilrwydd o ddenu arian loteri i weddnewid y safle, creu llwybrau a chael cloddfa archeolegol ar safle’r ffynnon. Gan fod cynrychiolaeth o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y pwyllgor byddwn yn cael gwybod am y datblygiadau diddorol hyn. Gall cymunedau eraill sy’n awyddus i ddatblygu safle o gwmpas ffynnon sanctaidd hefyd elwa o brofiad cyfeillion Treffynnon. 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

MEWN SACHLIAIN A LLUDW

Oherwydd bod nifer fawr o gamgymeriadau wedi eu gwneud wrth deipio erthygl o waith Howard Huws yn Rhif 20 o Lygad y Ffynnon, ailgyhoeddir hi eto. Arnaf fi mae’r bai am y camgymeriadau felly dyma ofyn am faddeuant mewn sachliain a lludw. Eirlys Gruffydd (Golygydd)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON SANCTAIDD YCHWANEGOL YM MANGOR?

  Howard Huws

Ymysg cofnodion plwyf Bangor yn arolwg yr Inventory of Ancient Monuments (Sir Gaernarfon, Cyfrol ii, tud.12), ceir a ganlyn:

The early monastery probably consisted of a scatter of small buildings, showing no regular arrangement; the foundations of which survive on the slope below the University College may be one of these... The Cathedral, and the old parish church, probably occupy part of the early monastery. So also may the holy well, now a marshy hollow at the foot of the college grounds; in modern times, however, it has been known as St. John’s Well.

Felly y tybiwyd pan gyhoeddwyd y Rhestr Henebion ym 1958. Y farn heddiw yw y saif y Gadeirlan bresennol yn y man lle sefydlodd Deiniol Sant ei fynachlog yng nghanol y chweched ganrif, a bod ffiniau’r gymuned gyntaf honno eto i’w gweld ym mhatrwm strydoedd canol y ddinas. At hynny, ceid is-sefydliadau yn y cyffiniau, gan gynnwys eglwys Llanfair Garth Branan (yr old parish church uchod) ar lethrau gogledd-orllewinol y dyffryn, o fewn Parc y Coleg.

Amlinellir hanes cynnar y fynachlog yn erthygl Enid Pierce Roberts, ‘The Tradition of Saint Deiniol’ yn y llyfr Bangor: from a Cell to a City (Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Bangor, 1994). Ar un o fapiau’r erthygl, ceir ‘St. Deiniol’s Well’ ychydig y tu allan i ben gogleddol ffin y fynachlog, fwy neu lai lle safai canolfan siopa ‘Cae Ffynnon’ hyd yn ddiweddar iawn. Hyd yn hyn, ni lwyddais i ganfod y dystiolaeth y seiliwyd y map hwn arni. Gwir y bu yno dŷ a elwid ‘Wellfield House’, a cheir ‘Stryd y Ffynnon’ y tu cefn i’r ganolfan siopa: ond ar y mapiau cynnar o’r ardal a welais hyd yn hyn, ‘Cae Knowl(e)s’ yw’r enw ar y tir hwnnw, nid ‘Cae Ffynnon’. Gwyddys fod Ffynnon Ddeiniol ym Mangor, ond yr oedd honno tua milltir i’r gorllewin o’r canol, yng Nghae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda. Yn ôl archif Melville Richards digwydd yr enw ‘Ffynnon Ddeiniol’ ym Mhentir hefyd, eto o fewn hen blwyf Bangor ar un adeg, ond ymhellach fyth o ganol y ddinas.

Y mae daeareg Parc y Coleg yn gyfryw ag i ganiatáu tarddelli, ond ni sylwais erioed ar un wrth droed allt y parc, ac ni chlywais erioed am unrhyw ‘St John’s Well’ na ‘Ffynnon Ioan’ yno. Wn i ddim ychwaith pa dystiolaeth fu gan lunwyr y Rhestr Henebion i’r perwyl hwnnw, ond gyda’u trylwyrdeb arferol bu iddynt gynnwys Cyfeirnod Arolwg Ordnans ar gyfer y ffynnon, sef SH57157188, gan nodi’r lleoliad ar fraslun. Euthum i chwilio’r fan cyn gynted ag y medrwn, ac er gwaethaf y coed a’r llwyni, credaf imi ganfod y llecyn yn union gyferbyn â chongl ogleddol adeilad Swyddfa’r Post ar Ffordd Deiniol. Nid oes i’w weld ar hyn o bryd ond twll crwn ymysg prysgwyddau godre’r llethr, tua dwy droedfedd ar draws, yn llawn dail pydredig, gwlybion hydrefoedd lawer; gwlybion, hynny yw, pan oedd y ddaear ogylch yn sych grimp ddechrau Chwefror eleni. 

Os yw’n ffynnon sanctaidd, byddai’n ailddarganfyddiad diddorol. Ond rhaid gofalu peidio â mentro gormod ar rhy ychydig o dystiolaeth, felly bwriadaf ymchwilio rhagor i’r pwnc cyn awgrymu dim. Gwnaed ymchwil helaeth i enwau lleoedd ardal Bangor gan Mrs Garmon Jones a Glyn Roberts tua hanner canrif yn ôl, ac y mae eu cofnodion ar gael yn archifdy’r Brifysgol. Yno hefyd ceir dogfennau Ystâd Penrallt (yr adeiladwyd y Coleg arni), a’r eiddo’r Coleg ei hun. Os caf hwyl ar y chwilio, rhoddaf wybod i chi. Yn y cyfamser, fe allai darllen cynnwys yr Inventory of Ancient Monuments ddwyn tystiolaeth ynghylch ffynhonnau anghofiedig eraill i’r amlwg. Cyhoeddwyd o leiaf un gyfrol ar gyfer holl siroedd Cymru, a dylent fod ar gael ym mhrif lyfrgelloedd cyhoeddus ein gwlad.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GOHEBIAETH

Annwyl Gyfeillion,

Caniatewch i mi ddweud mai yma yn lleol mae Ffynnon Ddeiniol, ym Mhant Tan Dinas yn union islaw Dinas Dinorwig ar yr ochr orllewinol ac yng ngheg Lôn Bach y Gof lle byddai ceffylau pwn yn cario llechi i’r Felinheli cyn sefydlu Lein Smith i Lanberis. Mae ’na ffrwd yn rhedeg drwy’r ffynnon ac ar draws gwlad i arllwys yng Nghaernarfon. Tros y ffordd mae hen ffermdy Tan Dinas, gynt a oedd yn gapel Rhyd Fawr. Mae fframwaith y drws o hyd yn bigfain. Yma y deuai fy hynafiaid tros yr esgair o’r Gors i’r cyrddau cyn adeiladu Capel y Glasgoed, felly mae lleoli’r ffynnon ym Mhentir yn anghywir. Byddem yn mynd heibio i’r fan ar Suliau i Landdeiniolen.

Cofion Gorau,

John E. Williams, Allt Riwth, Llanrug.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  BYGYTHIAD I FFYNNON BACH

Ysgrifennwyd at Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd i ofyn iddynt a oedd gwaith ar y A470 yn debygol o amharu ar Ffynnon Bach ar y Crimea rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog. Byddai dynion yn arfer dod at y ffynnon a cherfio eu henwau ar garreg gyfagos cyn mynd i ffwrdd i faes y gad.

Cafwyd llythyr gan David Hopewell, y Prif Archeolegydd, a oedd yn ein sicrhau fod yr Ymddiriedolaeth yn gwybod am fodolaeth y ffynnon. Mae’n dweud mai’r un yw Ffynnon Bach a Ffynnon Mihangel ac mae’n rhoi’r cyfeirnod SH70324954 iddi. Dywed fod carreg a channoedd o enwau wedi eu cerfio arni wedi syrthio i mewn i’r ffynnon. Dywed hefyd ei fod wedi gwneud datganiad swyddogol er mwyn ddiogelu’r safle rhag unrhyw niwed o ganlyniad i’r gwelliannau ar y ffordd. Er mai’r ochr draw i’r ffordd sy’n cael ei gwella mae wedi hysbysu’r contractwyr o bwysigrwydd y safle. Bydd yr holl waith ar y safle yn cael ei arolygu gan archeolegwr.

Tybed ai’r un yw Ffynnon Bach a Ffynnon Fihangel? A oes unrhyw un yn gwybod i sicrwydd ai un ffynnon sydd yma neu a yw’r archeolegydd yn sôn am ddwy ffynnon wahanol? Rwyf wedi bod ger Ffynnon Fihangel a doedd honno ddim ar y Crimea. A yw’n bosib mai Ffynnon Fihangel yw’r enw ar y ddwy ffynnon?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

MEWN SACHLIAIN A LLUDW – UNWAITH ETO!

Oherwydd pwysau gwaith a galwadau amrywiol ar y Golygydd ni lwyddwyd i gael y rhifyn hwn o Lygad y Ffynnon allan cyn y Nadolig fel arfer. Blin gennym am hyn a mawr obeithiwn y bydd y rhifyn nesaf allan mewn da bryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH

Is-Olygydd: Esyllt Nest Roberts de Lewis (esylltnest@yahoo.co.uk)

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWSCOLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up