Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                                                   Rhif 31 Nadolig 2011

 

FFYNNON Y SANTES FAIR, LLANRHOS

(SH795805)

Cyfieithiwyd o fersiwn Saesneg Ken Davies (1994) gan Ifor Pugh Williams (Rhagfyr 2011)

Diolch i Gareth Pritchard, Llanrhos, Deganwy am anfon y wybodaeth a’r lluniau i Llygad y Ffynnon.

Ffynnon Y Santes Fair Llanrhos

Hanes byr yw hwn o ailddarganfod Ffynnon y Santes Fair yn Llanrhos yn Ionawr 1994 a’r gwaith a wnaed i glirio’r safle a datgelu’r ffynnon. Ym mis Medi 1970, symudodd fy ngwraig a minnau i 67 Hill View Road, Llanrhos, Deganwy, Conwy, Gogledd Cymru. Roedd fy nhad, a aned yn 1901, yn hanu o Ddeganwy ac roedd yn sôn droeon am hen ffynnon o’r enw Ffynnon Fair oedd wedi ei lleoli yn agos at y llwybr troed sy’n arwain at Eglwys Llanrhos. Pan adeiladwyd y tai ar ystad Hill View cafodd y llwybr hwn ei wyro i fynd rhwng rhifau 61 a 63 Hill View Road. Y canlyniad oedd i’r darn o dir i’r chwith a thu cefn i rif 61 gael ei adael i dyfu’n wyllt. Yn y cyfnod y bûm yn byw yno teimlais y byddai’n werth chwilio am y ffynnon, os mai dim ond i fodloni fy chwilfrydedd fy hun! Ond ni thrafferthais, ac eithrio darganfod y llythyren W ar fap OS yr ardal.

Fe gofnodwyd llawer o hanes am y llifogydd yn Llandudno ym Mehefin 1993 ond fe effeithiwyd ar Lanrhos hefyd. Cafwyd llifeiriant eithafol o ddŵr yn pistyllio i lawr o’r Faerdre gan drawsnewid y geuffos fechan i fod yn afon yn cludo pob math o geriach. Mae’r nant hon yn mynd y tu cefn i Rif 61 a thrwy gylfat o dan ardd Rhif 63. Roedd y llanastr a achoswyd mor ddrwg fel y bu’n rhaid i mi gysylltu â Bwrdd Dŵr Cymru ac a’r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol. I fod yn hollol deg, cliriwyd y rhan helaeth o’r sbwriel ganddynt neu eu contractwyr yn ogystal â thorri canghennau’r coed uwchben. Dyma’r adeg y penderfynais edrych o ddifri am Ffynnon Fair. Roedd gordyfiant y ddraenen wen, tagwydd a mieri o gwmpas y nant heb sôn am y gwastraff gerddi a daflwyd i’r nant dros y blynyddoedd. Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai’r cwbl oeddwn wedi ei ddarganfod oedd cors soeglyd o sbwriel! Fel ym mhob math o lafur, araf iawn oedd y gwaith o glirio hyd yn oed ychydig o’r gordyfiant am ei fod wedi cydblethu a’i gilydd. Wrth dorri’r rhain i lawr, a chlirio peth o’r gordyfiant, wele, adeiledd yn cynnwys hanner cylch o gerrig yn cynnal maen capan mawr iawn yn dod i’r golwg. Dyma wrth gwrs oedd Ffynnon Santes Fair, yn gweld golau dydd am y to cyntaf ers llawer o flynyddoedd.

Fel y gellid disgwyl, datblygodd diddordeb newydd a brwdfrydig yn y prosiect mewn nifer o bobl wrth iddynt gerdded heibio. Roedd eraill yn cynnig cyngor defnyddiol, a rhai, fel fy mrawd-yng-nghyfraith, Bryn Thomos, yn gweithio’n galed iawn i glirio’r safle. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Chwefror 1994. Y cam cyntaf oedd ceisio clirio’r ffynnon a chreu ffos fel bod y dŵr yn gallu llifo tuag at y cylfat. Roedd hyn yn golygu cloddio a chlirio tua phum deg llond berfa o sbwriel adeiladwyr oedd wedi ei daflu i’r ffynnon pan adeiladwyd tai Ystad Hill View gan orchuddio’r cylfat. Torrwyd grisiau i mewn i’r banc clai ar hyd y ffos fel y gallem ddringo allan o’r ffos wrth i ddyfnder y cloddio gynyddu. Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen darganfuwyd darnau bach o wydr. Yna daeth potel ‘Cod’ i’r golwg a honno mewn cyflwr oedd bron yn berffaith. Yr enw ar y botel oedd William Hill, Llandudno a’r dyddiad oedd 1876. Yn ddiweddarach darganfuwyd mwy o boteli dŵr, un ohonynt efo’r enw Kay’s, Llandudno arni, llawer o jariau jam, poteli meddygaeth raddedig, caeadau gwydr a phot inc gwydredd halen. Fe’n hysgogwyd trwy’r darganfyddiadau hyn i ymdrechu’n galetach.

Wrth i’r gwaith o gloddio’r ffynnon a’r geuffos fynd yn ddyfnach daeth yn fater o frys i ddiogelu’r safle i atal unrhyw berson anwyliadwrus rhag llithro i mewn iddynt. Fe wnaed hyn yn y lle cyntaf trwy ddefnyddio canghennau’r coed a dorrwyd. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, daeth cynnig o byst ffens gan Mr Ernie Jones o Benarth, Conwy, a derbyniwyd gwifrau ffens gan Glwb Beiciau Modur Conwy a'r Cylch. Trwy greu’r ffens fe wnaed y safle yn hollol ddiogel. Fe wnes giât fechan efo pren a roddwyd gan Mr John French o Hill View Road a hyn yn rhoi mynediad hwylus at y ffynnon. Achoswyd nifer o broblemau i ni gan y gwaith clirio. Y mwyaf oedd gwybod beth i’w wneud â’r pridd a godwyd o’r safle. Fe benderfynwyd ei ddefnyddio i godi clawdd i’r ffos. Defnyddiwyd yr holl friciau tŷ a cherrig i sadio a draenio’r tir i greu llwybr ar waelod y clawdd. Problem arall i’w datrys oedd sut i atal y clawdd clai rhag llithro’n ôl i’r nant. Fe wnaed hyn drwy docio’r clawdd yn ôl a gosod darnau o ddur a pholion i’w dal yn ei lle. Nid oedd yn atyniadol iawn ond roedd yn effeithiol. Wrth i lefel y llaid a’r sbwriel yn y ffynnon fynd yn is roedd y dŵr yn dod yn fwy clir. Yna daeth rhywbeth annisgwyl i’r golwg, sef darn o feic plentyn. Roedd y prif ddarnau yn dal i fod mewn cyflwr da a’r werthyd echel a’r pedalau rwber yn troi’n hwylus.

Er mwyn creu gwell mynediad at y ffynnon o’r giât, bu rhaid torri cyfres o risiau allan o’r clawdd clai. Roedd hyn yn golygu symud mwy o lwythi llond berfa i’w osod ar ben y gwastraff oedd yna eisoes. Fe wnaed y grisiau trwy osod slabiau pafin ar ben y cerrig a gloddiwyd o’r safle. Gosodwyd mwy o slabiau pafin i ddal y clawdd clai i fyny ar hyd ochrau’r grisiau gan ddatrys yn foddhaol y broblem o osod grisiau ar ochr clawdd oedd yn codi’n eithaf serth dros bellter mor fyr. O bromenâd Rhyl y daeth y slabiau pafin hyn. Wrth i’r gwaith o glirio’r llaid o’r ffynnon fynd ymlaen daeth carreg fawr i’r golwg, yn croesi o un ochr o’r ffynnon i’r llall, tua 300mm islaw lefel y dŵr. Er mwyn atal y dŵr o’r nant rhag llifo’n ôl i’r ffynnon, fe osodwyd slab pafin ar draws y ffynnon fel rhwystr dros dro. Ar ochr dde o’r ffynnon cafwyd hyd i garreg arall a marc saeth wedi’i naddu arni a hwn sy’n dangos lefel y dŵr. Mae’r lefel yn parhau i fod yn gyson hyd yn oed pan fo’r tywydd yn sych - teyrnged i’r un a naddodd y marc ar y garreg.

Erbyn Awst 1994 roedd mwy o waith cosmetig wedi ei wneud i’r safle, yn cynnwys gosod rheiliau pren ar ben pyst y ffens felly gallai unrhyw un oedd eisiau gweld beth oedd yn digwydd pwyso arnynt. O wneud hyn nid oeddynt yn pwyso ar y ffens wifr a’u thynnu i lawr! Tua’r adeg yma canfuwyd fod pobl yn taflu arian o werth isel i’r ffynnon ac efallai yn creu’r traddodiad o’i defnyddio fel ffynnon ofuned. Dangoswyd llawer iawn o ddiddordeb yn y ffynnon gan ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus sy’n mynd heibio’r safle. Cafwyd tri grŵp sylfaenol o gerddwyr. Y grŵp cyntaf oedd y rhai a ddefnyddiai’r llwybr yn rheolaidd ar eu ffordd i’r eglwys neu i Landudno neu at y siglenni neu i ymarfer eu cŵn yn y cae. Byddent yn dangos diddordeb cwrtais a hamddenol yn y gwaith oedd yn mynd ymlaen. Yr ail grŵp oedd y cerddwyr ar deithiau cerdded, yn dilyn eu teithlyfrau lleol, ac wrth weld y ffynnon eisiau gwybodaeth fanwl am yr hyn oedd yn digwydd! Y trydydd grŵp oedd y rhai oedd yn dod yn benodol i weld y safle - Mr Alan Jones, Cynrychiolydd o Barc gwledig Aberconwy, Mr David Haines, ysgrifennydd y gymdeithas hanes lleol a Mr David Atkinson oedd y frwdfrydig iawn am hanes lleol.

Yn ystod mis Awst fe wnaed mwy o waith clirio i wely’r nant. Roedd hyn yn waith araf oherwydd yr angen i symud cymaint o laid a cherrig. Gwireddwyd awgrym bryn y dylid creu ynys yng nghanol y nant. Roedd hyn yn ein galluog i ddefnyddio’r cerrig fel sylfaen a’r mwd i fewnlenwi ac ar gyfer tyfiant planhigion. Arbedodd hyn lawer o arian i ni tra ar yr un pryd fe grëwyd nodwedd ddeniadol yn y nant. Mewn ymdrech i atal gwely’r nant rhag cael ei erydu gan rym y dŵr oedd yn llifo o’r bibell i’r nant, fe luniwyd basged allan o hen wifrau. Yna fe’i llanwyd â cherrig mawr a’i gosod ar wely’r nant gyda phen uchaf y fasged ychydig yn is na lefel y dŵr wrth geg y bibell yn unol â llif yr afon. Bydd hyn, gobeithio, yn torri grym y dŵr ar adegau o law trwm a rhwystro unrhyw ddifrod i wely’r afon. Plannwyd nifer o fylbiau a phlanhigion o gwmpas y safle a dylai hyn greu golygfa liwgar yn y gwanwyn a’r haf.

Dyma enghraifft wych o frwdfrydedd nifer fechan o bobl yn adfer ffynnon - a hyn cyn i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ddod i fodolaeth yn 1996. Mae’n dangos nad ar chwarae bach y gellir ailagor ffynnon a’i bod yn hollbwysig gwneud gwaith cynnal a chadw cyson arnynt fel ar bob adeilad arall.(Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYNHADLEDD TREFFYNNON

Aelodau o'r Gymdeithas ger y ffynnon,2011

Cafwyd dau ddiwrnod cofiadwy a phleserus yn Nhreffynnon dros benwythnos Medi 17eg a 18fed 2011. Hon oedd y bedwaredd gynhadledd ffynhonnau flynyddol i’w chynnal ac mae’n mynd o nerth i nerth. Ar y bore Sadwrn cafwyd darlith a chyflwyniad Power Point gan y Parchedig Bill Pritchard, cyn Archddiacon Sir Drefaldwyn, sy’n awdur cyfrol nodedig a chynhwysfawr ar Wenffrewi a’i ffynnon yn Nhreffynnon. (SJ185763)Dangosodd hanes y ffynnon gan ddechrau gyda Gwenffrewi a’r traddodiad am ei dienyddio a’i chroniclo hanesion am wellhad yn nyfroedd y ffynnon a datblygiad y safle dros y blynyddoedd. Yn dilyn y ddarlith aeth pawb i lawr at y ffynnon ar gyfer y gwasanaeth dyddiol sy’n cael ei gynnal am hanner dydd o’r Pasg hyd ddiwedd Medi. Daethpwyd a chrair Gwenfrewi a’i osod ar yr allor a dilynwyd litwrgi’r santes. Diddorol oedd gweld pobl o amrywiol draddodiadau Cristnogol yn ymuno yn y gwasanaeth. Yn ystod y prynhawn cafwyd darlith gan Tristan Gray Hulse ar barhad a goroesiad ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru ac yn dilyn hynny darlith gan Jeremy Harte ar y berthynas symbolaidd rhwng bedydd a gwellhad. Yn dilyn cafwyd trafodaeth agored gyda’r bwriad o sefydlu ymddiriedolaeth genedlaethol i warchod ein ffynhonnau sanctaidd. Fel canlyniad dewiswyd cynrychiolwyr o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a Wellsprings, y Prifysgolion ac arbenigwyr yn y maes i ddod i gyfarfod yn Llangurig ar Hydref 15fed. (Gweler adroddiad o’r cyfarfod hwnnw isod.)

Cynhadleddwyr wrth Ffynnon Gwenfrewi  17 Medi 2011

Howard Huws  Sue Copp  Yr Hybarch Bill Pritchard  Dr Jonathan Wooding  Ann Owen

Dydd Sul cychwynnwyd o Dreffynnon gan ymweld yn gyntaf â Ffynnon Beuno,Tremeirchion. (SJ083724) gan edmygu’r baddon helaeth a’r cerflun carreg o ben dynol lle mae’r dŵr yn llifo allan.

 

Yna ymlaen at Ffynnon Fair, Wigfair ger Llanelwy (SJ028711). Roedd pawb wrth eu bodd gyda ffurf chwe ochr y ffynnon. Roedd Tristan wedi paratoi sylwadau cynhwysfawr ar bwysigrwydd y ffynnon a darllenwyd y rheini i bawb fedru gwerthfawrogi arwyddocâd y safle.

Ymlaen a ni wedyn i Lanrhaeadr yng Nghinmeirch i weld y ffenest Jesse enwog yn yr eglwys, ffynnon a dalwyd amdani drwy’r arian a offrymwyd gan y pererinion at Ffynnon Ddyfnog.(SJ082635) Yno yn yr eglwys yn aros amdanom roedd Helen Jenkins Jones , aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, sy’n warden yn yr eglwys ac yn arbenigo ar hanes ac arwyddocâd y ffenest.

Wedi cinio yn y dafarn gerllaw’r eglwys aethom i ymweld â Ffynnon Ddyfnog. Clywsom fod cynlluniau ar y gweill i hwyluso mynediad at y ffynnon ond mae hyn yn golygu gwaith mawr ar y dirwedd o gwmpas y ffynnon. (Gweler isod) Mae’r baddon o flaen y ffynnon mewn cyflwr da ond bod y pontydd dros y nant sy’n llifo o’r ffynnon mewn cyflwr mwy bregus. Wedi gadael Llanrhaeadr teithiodd y cwmni i Gefn Ffynnon, Llanelian yn Rhos, cartref Jane Beckerman, i ymweld â safle Ffynnon Elian (SH866774) a’r eglwys hynafol yno. Barnodd pawb ein bod wedi cael diwrnod i’w gofio.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYFARFOD LLANGURIG

Ar Hydref 15 daeth cynrychiolwyr o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, Wellsprings a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant at ei gilydd i geisio gweld ffordd ymlaen a sefydlu ymddiriedolaeth genedlaethol i warchod ein ffynhonnau. Wrth geisio diffinio rôl yr ymddiriedolaeth penderfynwyd mai ffynhonnau sanctaidd yn unig ac nid ffynhonnau yn gyffredinol ddylai fod yn gyfrifoldeb i’r ymddiriedolaeth. Dylai rôl yr ymddiriedolaeth fod yn gwbl glir ac ni ddylai ddyblygu gwaith cymdeithasau sy’n bodoli eisoes. Trafodwyd os mai “ymddiriedolaeth” oedd yr enw cywir ar yr hyn roeddem yn ceisio ei greu. Bydd angen mwy o wybodaeth cyn dod i benderfyniad terfynol. Teimlwyd mai gwaith yr ymddiriedolaeth fyddai codi ymwybyddiaeth o’r hyn oedd yn digwydd yn barod a hybu ymarfer dda mewn adnewyddu a gwarchod y ffynhonnau yn hytrach na gwneud y gwaith ei hun. Dylai hefyd hybu cydweithio rhwng y cymdeithasau sy’n bodoli eisoes. Byddai gan yr ymddiriedolaeth waith arbennig i’w wneud mewn addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd ffynhonnau gan gynhyrchu taflenni gwybodaeth printiedig ac ar y we ar gyfer cyrff cyhoeddus megis cynghorau , cyrff ymgynghorol, a thirfeddianwyr preifat. Gellid cynhyrchu gwybodaeth fyddai’n ateb cwestiynau fel ‘Beth yw ffynnon sanctaidd?’ neu ‘Pwy all gynnig cyngor i mi?’ Rhagwelid y byddid yn cynnal gweithdai yn dilyn creu taflenni ar bynciau unigol. Gwelid hefyd y byddai’r ymddiriedolaeth yn trefnu cynhadledd flynyddol a hynny yn esgor ar gynadleddau mwy uchelgeisiol fyddai’n hybu astudiaethau academaidd. Dylid datblygu a hybu safonau wrth gasglu a chofnodi gwybodaeth drwy gydweithrediad â grwpiau sy’n bodoli eisoes ac awdurdodau sy’n gwarchod ein hetifeddiaeth. Teimlwyd mai doeth fyddai cael cyfreithiwr i gynghori’r ymddiriedolaeth, yn ddelfrydol oddi fewn i aelodaeth y cymdeithasau sy’n ymddiddori yn y maes. Ar ddiwedd y cyfarfod gwelwyd bod angen tri pheth ar fyrder- diffiniad pendant o beth yw ffynnon sanctaidd; enw a logo i’r mudiad/ymddiriedolaeth/ sefydliad newydd a ffynhonnell o arian i gefnogi’r fenter. Penderfynwyd mynd a’r tri pheth yma yn ôl i’r ddwy gymdeithas i’w trafod yn ein cyfarfodydd. Mae croeso i chi fel aelodau rhoi eich barn ar y pethau yma drwy gysylltu â ni drwy lythyr, ffôn neu ebost. (Gweler y manylion ar ddiwedd y cylchlythyr.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Yn ein cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau ar ddydd Mercher Awst 6ed cafwyd darlith ddiddorol iawn gan Jane Beckerman ar y testun Ffynnon Elian- ‘Ffynnon Felltithio’: Ffaith Neu Ffuglen. Daeth nifer dda i’r cyfarfod a phawb wedi mwynhau’r ddarlith gafodd ei chyflwyno mewn arddull fywiog a hwyliog. Dyma lun o Jane yn traethu.

 

 

Eleni bu’r Gymdeithas yn rhan o stondin Fforwm Hanes Cymru ar y maes a daeth llawer i edrych a thrafod a rhannu ein diddordeb yn y ffynhonnau.

****************************************************************************

 

FFYNNON TŶ NANT, YSBYTY IFAN

(SH849481)

Helga Martin

(Addaswyd o’r ODYN rhif 401, Medi 2011 Tudalen32)

 

Fel aelod o Bwyllgor Gwaith Fforwm Hanes Cymru caf amser difyr wrth ofalu am ymwelwyr yn stondin y gymdeithas hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bob blwyddyn bydd wyth i ddeuddeg o gymdeithasau sy’n ymwneud â hanes yn arddangos yn stondin y Fforwm. Caiff ymwelwyr o bob ryw wybodaeth am wahanol agweddau ar hanes ein gwlad. Rhai ffyddlon i'r stondin yw Eirlys a Ken Gruffydd o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Fe’m hanogwyd gan eu brwdfrydedd i ddod yn aelod o’u cymdeithas. O ganlyniad dechreuais fagu diddordeb mewn ffynhonnau. Deallais yn fuan bod miloedd ohonynt yn dal i lifo fan hyn a fan draw, drwy Gymru benbaladr Yna sylweddolais â chywilydd fy mod i wedi byw yma yn Ysbyty Ifan ers 27 mlynedd a heb erioed ymweld â Ffynnon Tŷ Nant, a oedd ers talwm yn bwysig iawn i drigolion y gymuned ac sy’n cuddio ar y gweundir heb fod ymhell oddi wrth fy nghartref. Ym mis Gorffennaf, gyda chyfarwyddiadau gan Ellis Wyn Roberts sy’n ffermio Tŷ Nant, dyma ddringo’r allt heibio Capel Seion tuag at Dy’n Ffridd. O’r fan honno i’r chwith, croesi cae, trwy giât fferm, ac i’r dde ar hyd ffos sy’n amlwg yn arwain y dŵr lliw oren i waered o’r ffynnon llawn haearn.

 

Yn fuan camu dros y ffos at y ffens sy o’i hamgylch i gadw gwartheg Ellis Wyn draw. Dyma hi - wedi llechu o dan dyfiant anniben ers amser maith am nad oedd neb bron yn gweld ei heisiau bellach. Dringo’r ffens i nesáu ati a dyma weld pedair llechen las fawr o gwmpas twll hirsgwar, dwfn, sylweddol. Mae dŵr clir, oer iawn yn rhedeg yn rhydd o beipen dwy fodfedd, a osodwyd i’r mawn, ac mae’n ymgasglu yn yr ymdrochle, cyn mynd ar ei daith ar hyd y ffos drwy’r caeau. Dim ond ar ôl cyfarfod ag ocsigen mae’r dŵr tryloyw yn troi yn lliw oren sy’n dynodi bod canran uchel o haearn ynddo. O’i yfed clywir rhyw flas rhyfedd, braidd yn annifyr arno. Ffosfforws sy’n achosi hyn. Cefais ar ddeall bod yr un nifer ond un o wahanol fathau o fwynau yn nŵr ein ffynnon ni â Ffynnon Trefriw. Erbyn hyn mae clod a golud Ffynnon Trefriw wedi ymledu dros y byd i gyd, am eu bod yn gwerthu'r dŵr i feddygfeydd o dan yr enw Spatone ers blynyddoedd bellach, herwydd bod yr haearn ynddo yn haws i’r corff ymdopi â fo na’r un mewn tabledi.

Mae’r cwt pren a fu dros ein ffynnon ni wedi hen ddiflannu, wedi pydru tybiaf fi. Ni welais y stepen a oedd yno rywdro chwaith. Petai aelod o’r teulu yn wael cyn dyfodiad y Gwasanaeth iechyd, a phan ystyrid galw meddyg yn rhy ddrud, byddai ambell i blentyn yn cael ei anfon gyda photel neu din i “nôl peth o ddŵr y ffynnon” i wella’r claf. Byddai cariadon yn arfer ymlwybro hyd at y ffynnon ar ôl gwasanaeth yn y capel ar nos Sul - i gael llonydd, gredaf i. Lle bendigedig i brofi heddwch yw unigeddau’r gweundir a’r ffynnon yn eu canol. Credir heddiw bod y dŵr yn lles i’r rhai sy’n dioddef efo llid y cymalau ac mae Gruff Ellis, naturiaethwr Ysbyty Ifan, yn dal i ymddiried yn ei rinwedd. Yn fy nhyb i, oerni eithriadol y dŵr sy’n gallu lleddfu poen crydcymalau. Clywais am lawer o ffynhonnau yng nghyffiniau’r plwyf sy wedi mynd yn angof ers i ddŵr tap gyrraedd ond mae eu henwau’n dal efo ni. Dyna Ffynnon Pen Lladdfa Fain, y tu draw i dŷ’r gweinidog, er enghraifft, lle’r arferai Huw Selwyn gael ei ddŵr ers talwm. Dyma hanesyn difyr i orffen: cafodd tair merch Eifion (mab ieuengaf Ellis Wyn) a Wenda, sy’n byw gyferbyn â’r eglwys, eu bedyddio â dŵr ffynnon Tŷ Nant. Bendith arnynt!

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD:

Patricia D. Wright, Rhydychen           Mary Trinder, Cyffordd Llandudno

Sydney Davies, Glyn Ceiriog             Mona E. Jones, Weston Rhyn.

Jane Beckerman, Llanelian-yn-rhos   Olwen B. Jones, Coedpoeth

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIOLCH A FFARWELIO:

Gyda thristwch nodwn i ni golli aelod gweithgar ym marwolaeth Cledwyn Williams, cyn brifathro ysgolion Llanrug a Chwm y Glo, ar Dachwedd 24ain. Roedd yn 95 oed. Bu’n byw yn Nhŷ’r Ysgol Llanrug ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn Ffynnon Fair, Llanfair-is gaer, (SH5166)) rhwng y Felinheli a Chaernarfon, ac yn gofidio’n fawr fod gwaith i ledu’r ffordd wedi dinistrio’r ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON DUDWEN, LLANDUDWEN, Llaniestyn, Llŷn.(SH27474679)

Bu Bleddyn Prys Jones, Swyddog a gofal dros Ardal o Harddwch Naturiol, Eithriadol Llŷn, a’i dîm o weithwyr yn cloddio a glanhau Ffynnon Dudwen, Llandudwen am gyfnod o ddwy flynedd. (Gweler Llygad y Ffynnon 29). Erbyn hyn mae’r gwaith o adfer y ffynnon wedi ei orffen ac ar ddydd Llun, Mehefin 4ydd am 10.30 yn y bore, ailgysegrwyd y ffynnon gan Esgob Bangor mewn gwasanaeth yn yr eglwys. Yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol werthfawr Lên Gwerin Sir Gaernarfon roedd Ffynnon Dudwen yn gwella amrywiaeth eang o afiechydon. Roedd hefyd yn nodedig am gryfhau golwg gwan a rhoi esmwythâd i lygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnau’r pererinion wrth iddynt deithio drwy Ben Llŷn i Ynys Enlli. Credai Myrddin Fardd bod hanes y ffynnon wedi dod i ben, yn wir roedd wedi diflannu i ganol cors. Nid oedd fawr ddim ond tir gwlyb i ddangos ei lleoliad pan ymwelwyd â hi gyntaf roedd y ffermwr oedd yn amaethu’r tir yn gwybod am ei lleoliad gan fod ei wartheg yn mynd at y tarddiad i gael dŵr i’w yfed. Yn wir roedd wedi ceisio cael grantiau i ddatblygu’r ffynnon fel man cyfleus i ddyfrhau’r anifeiliaid ond bod rheolau'r Senedd Ewropeaidd yn rhwystro hynny. Diolch i Bleddyn a’i weithwyr diwyd, bellach mae’r gwaith cerrig wedi ei dwtio a’i ail godi mewn sawl lle a gosodwyd ffens i gadw’r anifeiliaid allan, giât i hwyluso mynediad i’r safle a sedd i eistedd arni i fwynhau’r olygfa.

FFYNNON DDYFNOG, LLANRHAEADR YNG NGHINMEIRCH (SJ0826350)

Yn ystod ein hymweliad â’r ffynnon ar Sul y Gynhadledd yn Nhreffynnon ym mis Medi daeth aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i gysylltiad ag Adrian Evans sy’n bwriadu gwneud rhywbeth i wella’r fynedfa at y ffynnon a thwtio’r tir o’i chwmpas. Mae’r llwybr at y ffynnon yn cychwyn wrth gornel orllewinol yr eglwys ac yn croesi’r nant dros fwy nag un bont cyn cyrraedd y ffynnon ei hun. Mae’r llwybr at y ffynnon yn troelli rhwng coed ac mae’n gallu bod yn llithrig os yw’r tywydd wedi bod yn wlyb. Does dim gwybodaeth fanwl am y cynllun hyd yma. Yn wir mae mwy nag un ymgais wedi ei gwneud i wella'r safle. Mae yma flas y cynfyd a rhyw deimlad o gamu i’r gorffennol wrth gerdded i fyny at y ffynnon. Yn sicr nid oes eisiau colli’r naws arbennig yma er mwyn iechyd a diogelwch ond ar yr un pryd rhaid amddiffyn y bensaernïaeth arbennig sydd i’r lle.

FFYNNON GEINIOG Sir Faesyfed.(Anscir o’i lleoliad ar hyn o bryd)

Yn ddiweddar daeth Erwyd Howels o hyd i’r ffynnon hon ar weindir wrth fugeilio defaid. Nid oes gofnod ohoni yng nghyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales. Clywodd Erwyd hanes diddorol am hen ŵr oedd yn byw yn lleol a ofynnodd am ddŵr o’r ffynnon i’w yfed pan oedd ar ei wely angau. Bwriada Erwyd lanhau’r ffynnon ac edrychwn ymlan at gael clywed mwy o’r hanes ganddo yn y dyfodol. Yn naturiol roedd gwybod am leoliad ffynhonnau yn holl bwysig i’r bugeiliaid ers talwm fel heddiw. Gwelodd Erwyd gyfeiriad at yr arferiad oedd gan fugeiliaid o daflu blodau i ddŵr ffynhonnau yn The Graphic and Historical Illustrator am y flwyddyn 1834. Yno dywedir am yr arferiad o fynd ar bererindodau i ffynhonnau ac am adeiladu capeli drostynt.

FFYNHONNAU TRISANT, PONTARFYNACH, Ceredigion (SN744744)

(Diolch i John Williams,Bwlchbach, Aberystwyth, am anfon y wybodaeth ganlynol i ni am y ffynhonnau uchod. Mae’r wybodaeth yn dod o’r Welsh Gazzette, Chwefror y cyntaf, 1923. )

Mae’r ffynhonnau i’w gweld gyferbyn â Dolcoion ond yr ochr arall i’r afon Cell yn agos i lan y dŵr. Ychydig yn is na’r ffynhonnau mae’r nant o Dolgors yn llifo i’r afon Cell. Tan ryw ganrif yn ôl roedd bri mawr ar y ffynhonnau oherwydd eu galluoedd meddyginiaethol. Deuai cleifion gorweddiog yma o bell ac agos. Byddai’r hen bobl yn cofio gweld ffyn baglau yn Nolcoion a adawyd yno gan bobl a iachawyd yn y ffynhonnau. Tua deugain mlynedd yn ôl bwriadodd y Parchedig J. Williams, ficer Tal-y-llyn, un a fagwyd yn Nolcoion, a Mr William Evans, New Row, marchnatwr lleol llwyddiannus, fanteisio ar y ffynhonnau a’u datblygu drwy godi adeilad i bwmpio’r dŵr . Yn ogystal roedd ganddynt gynlluniau i adeiladu gwesty gyda gerddi hardd o’i gwmpas a hysbysebu’r lle fel man delfrydol i gael gwellhad ac esmwythâd. Ond yn anffodus ni ddaeth dim o’r cynlluniau. Nid yw’r dŵr yn y ffynhonnau yn wahanol mewn lliw a blas i ddŵr ffynhonnau eraill. Mae’n bosib bod eu rhinwedd yn deillio o’u cysylltiad gyda’r tri sant. Pwy oeddynt nid oes neb heddiw a ŵyr ond gallwn fod yn sicr mai’r un rhai ydynt a’r tri y cysegrwyd eglwys Llantrisant iddynt. Roedd y ffynhonnau ger yr hen ffordd o Ysbyty Cynfyn, heibio Llaneithyr a Bodcoll a Nantarthur i Ysbyty Ystwyth ac Ystrad Meurig.

Mae’r ffynhonnau yn saith mewn nifer. Mae tair ohonynt yn llifo allan o dan dorlan uchel o bridd rhyw lathen neu ddwy o’r afon. Mae’r tair ffynnon gref yma ond rhyw droedfedd oddi wrth ei gilydd. Ers talwm roedd tair peipen wedi eu gosod i greu tri phistyll hwylus. Mae’r pedair ffynnon arall yn tarddu ar dir gwastad ychydig yn uwch i fyny’r afon. Roedd pob ffynnon yn gwella afiechyd neu gyflwr gwahanol. Ffynnon y Llygaid oedd un a Ffynnon y Crydcymalau oedd y llall. Roedd un yn gwella’r scyrfi. Yr enw ar un arall oedd Ffynnon y Wrach. Am flynyddoedd bellach mae’r ffynhonnau hyn wedi eu hanghofio a’i hesgeuluso ac wedi llanw a thyfiant lle mae lliw gwyrdd tywyll y planhigion yn dangos safle a maint y ffynhonnau. Ar adegau mae rhai cleifion yn dal i ddod atynt i geisio gwellhad i anhwylderau’r croen a’r cryd cymalau.

Meddai John,“Yn ychwanegol at hyn cofiaf fod yn agos iddynt yn blentyn yng nghwmni hynafgwyr oedd yn cyfeirio atynt - y saith-, ond ni wnes erioed ofyn i’r un ohonynt ddangos y ffynhonnau unigol i mi ond yr wyf yn meddwl fy mod wedi eu chwilio erbyn hyn.”

FFYNNON LLEUDDAD, Tudweiliog, Gwynedd (SH21973272)

Mae’r Parchedig Graham Murphy o Lerpwl yn un sy’n diddori’n fawr yn ffynhonnau Cymru. Yn ddiweddar ceisiodd ymweld â Ffynnon Lleuddad ger Tudweiliog ond cafodd fod y llwybr cyhoeddus ati wedi ei gau. Ysgrifennodd at Dewi Wyn Owen, Prif Swyddog Hawliau Mynediad Cyhoeddus Dwyfor ond cafodd ar ddeall fod y llwybr arbennig yma yn un nad oedd yn hawlio sylw yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Awgrymodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i Bleddyn Prys Jones mai hon fyddai’r ffynnon nesaf y dylid ei hadnewyddu ac y gallai hyn arwain at ail agor y llwybr.

FFYNNON AELRHIW, RHIW(SH23392848)

Derbyniwyd cais am gymorth gan Bleddyn Prys Jones, Swyddog a gofal am Ardal o Brydferthwch Eithriadol Penrhyn Llŷn, Cyngor Gwynedd, parthed Ffynnon Aelrhiw, Rhiw. Gwnaed gwaith adnewyddu ar y ffynnon ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae’r tirfeddiannwyr yn barod i adael i’r cyhoedd gael mynediadi’r ffynnon ond bod un cwmni yswiriant cyhoeddus yn bryderus ynglŷn â hyn ac yn gofyn am gael rhoi grille metel dros y dŵr. Yn naturiol ni fyddai hyn yn dderbynniol oherydd fod y ffynnon yn gofrestredig. Awgrymwyd hefyd y dylid rhoi arwydd ger y ffynnon ond heb ddweud beth yn union oedd natur na lleoliad yr arwydd hwnnw. Awgrymwyd i Bleddyn y dylid gosod giat bren, tebyg i’r un sy ar Ffynnon Fyw, Mynytho(SH2330913087) wrth fynediad Ffynnon Aelrhiw. Nid yw hon yn ffynnon arbennig o ddofn, rhyw droedfedd o ddŵr sy ynddi. Yn sicr gellid gosod arwydd yn rhybuddio’r cyhoedd mai eu cyfrifoldeb nhw yw eu diogelwcg tra’n ymweld â’r ffynnon. Edrychwn ymlaen at weld bedd fydd yn digwydd yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIFRODI FFYNHONNAU SANCTAIDD WHITEWELLS, Sir Wrecsam

gan Howard Huws (Cadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru)

Dymunaf roi gwybod i holl aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru bod ffynhonnau Whitewell yn Sir Wrecsam wedi eu difrodi’n fwriadol. Mae dwy ffynnon yng nghyfeirnod grid SJ 49506 41376 (ar lan yr afon gerllaw’r eglwys) a’r llall yn SJ 49482 41337 (mewn cae gyferbyn â’r eglwys, yr ochr draw i’r nant). Mae’r gyntaf wedi’i chladdu rhywbryd n y gorffennol gweddol ddiweddar, efallai gan y ffermwr sy’n dal y tir wrth iddo geisio codi lefel y cae. Mae’r ail wedi’i chladdu yn ystod y misoedd diwethaf gan ffarmwr gwahanol, oherwydd bod y ffynnon “yn y ffordd” wrth iddo geisio lladd gwair. Credaf na allwn fforddio colli’r henebion hyn, sy’n dyddio o gyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Credaf hefyd eu bod yn henebion rhestredig, nad rhyddid neb eu difrodi yn ôl eu dymuniad, a dymunaf i’r Ymddiriedolaeth ymyrryd er mwyn eu hadfer. Gallaf ddarparu lluniau o leiaf un ffynnon os oes angen. Rwyf wedi cysylltu â CADW ar y mater yma.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON ELAN, DOLWYDDELAN (SH737525)

Mae Bill Jones wedi llwyddo i gael grant i dorri i lawr y goeden sy’n tyfu ger y ffynnon. Mae hyn yn rhan o gynllun Menter Siabod i ddenu twristiaeth i’r fro. Da yw dweud bod perchennog y gwesty Elen’s Castle yn cefnogi’r fenter i adfer y ffynnon sydd ar dir y gwesty. Mae Bill wedi gweithio’n galed iawn i gael yr arian a bydd mwy o waith yn ei aros a’r criw o gloddwyr brwd fydd yn ei helpu gyda’r gwaith archeolegol o glirio ac ailadeiladu’r ffynnon. Edrychwn ymlaen at gael yr hanes i gyd yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NEWYDDION DA O LAWENYDD MAWR!

Derbyniwyd y neges e-bost isod gan Duncan Brown, Rheolwr Prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd:

Efallai eich bod wedi clywed am Llên Natur a’n hymdrechion i gofnodi ac i ddarparu pob math o wybodaeth i Gymry Cymraeg (yn bennaf) am gefn gwlad Cymru a thu hwnt. Wel mae un neu ddau o’n cyfranwyr wedi dechrau mewnbynnu lluniau o ffynhonnau yn ein horiel luniau <http://llennatur.com/cy/node/2> ( term-chwiliad FFYNNON yn y blwch “yn ôl allweddair) a de innau wedyn wedi eu copïo i’r adran MAPIAU (>>creigiau*) lle ceir Cyfeirnod Grid er mwyn eu gweld ar ffurf map http://llennatur.com/node/90 (term chwiliad FFYNNON eto). Gellir chwyddo’r map yn hawdd a dewis “satellite” i gael lleoliad pob ffynnon ar Google Earth. Gellir hefyd ticio’r rhifyn bach glas (ar ôl clicio’r symbol coch i ddynodi un ffynnon) i weld Llun o’r ffynnon. Does dim llawer o ffynhonnau yno ar hyn o bryd (tua 5!!) ond mae’r potensial yn amlwg dwi’n meddwl (ni welaf ddim byd tebyg ar eich gwefan chai ond efallai fy mod i’n camsynied). Oes lle tybed i ni gydweithredu trwy ddolenni ddwy ffordd efallai er mwyn ychwanegu gwerth at ein gwahanol ymdrechion? Mi fase’n biti gweithredu ar wahân trwy anwybodaeth o’n gilydd. Dwi’n ymwybodol nad ydi’r adran CREIGIAU (sef “daeareg”) yn ddelfrydol fel lleoliad i gofnodi ffynhonnau ond dyna’r man mwyaf addas ar ein gwefan ar hyn o bryd. Gwerthfawrogwn unrhyw ymateb neu sylw oddi wrthych.

Dyma’r ateb i’r e-bost:

Rydym yn hapus i gydweithio gyda phawb sy’n dangos diddordeb yn y ffynhonnau. Byddwn yn gosod cyfeirnod map pob ffynnon yn ymyl enw’r ffynnon yn ein cylchlythyr Llygad y Ffynnon. Rydym wedi cychwyn ein cymdeithas ers 1996 cyn bod Google Earth yn bodoli mae’n siŵr. Mae’r hyn rydych yn ei ddisgrifio yn wych! Rhaid nodi bod cannoedd o ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru felly gallai’r nifer o luniau fod yn fawr. Hefyd mae ffynhonnau yn diflannu oherwydd esgeulustod neu ddifrod bwriadol, ac ambell dro nid yw llun yn gallu dangos beth sy yna mewn gwirionedd. Mae croeso i chi ddefnyddio’r lluniau ar ein gwefan ni - ond cofnodi mai oddi yno y cafwyd y llun- er mwyn i bobl wybod am fodolaeth ein cymdeithas. Mae rhannu gwybodaeth bob amser yn beth da.

Edrychwn ymlaen at weld datblygiadau diddorol yn y maes hwn yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ADRODDIAD Y TRYSORYDD AWST 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DYDDIADAU I’W COFIO

Cyfarfod y Cyngor yn festri Capel y Porth, Porthmadog, am 2.00 o’r gloch prynhawn Sadwrn Mawrth 24ain Darlith flynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg dydd Mawrth, Awst 7fed am 1.00 0’r gloch.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

GOLYGYDD: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEFAN Y GYMDEITHAS: www.ffynhonnaucymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up