Home Up

LLYGAD Y FFYNN-ON

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                     Rhif 32 Haf 2012


DIWEDD FFYNHONNAU SANCTAIDD MAELOR SAESNEG?

Howard Huws

FFYNNON CHAD, HANMER (SJ 45319 40380)

”Drain ac ysgall mall a’i medd...” Saf/e Ffynnon Chad gyda thŵr eglwys Hanmer yn y cefndir, tua’r de.

Tynnwyd sylw at Ffynnon Chad, Hanmer yn rhifyn 20 (Haf 2006) o Llygad y Ffynnon, ac at Ffynhonnau Mair, Is-coed (Whitewell) yn rhifyn 25 (Nadolig 2008) o’r cylchgrawn hwn.

FFYNNON CHAD

Yn ôl llyfiau nodiadau’r Canon M.H.Lee (Llyfr Nodiadau 2, Archifdy Clwyd, Penarlag):

Chadwell, which is just off the footpath between the village and Hanmer Mill, used to be highly valued in the neighbourhood. There was a custom of dressing it with flowers on Hanmer Wake Sunday — the first after Chad ’s Day ”

Dywed yr Arglwydd John Hanmer, yn ei lyfr A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire, (Llundain 1877), fod Ffynnon Chad wedi’i lled-ddifetha ganddo, yn anfwriadol, o ganlyniad i waith sychu tir wrth y felin: ond tybiai y gellid ei hadfer yn rhwydd. Yn ôl erthygl gan y Canon Lee yn Archaeologia Cambrensis 1879, fodd bynnag,

“St Chad ’s Well, a few hundred yards north of this village, is not now dressed annually as it was within memory. It is in one of the War (Wern) meadows.”

Ymddengys felly. Fod dathlu gŵyl Sant Chad wrth y ffynnon wedi darfod erbyn 1879: ac oni chyfrannodd difrodi’r ffynnon at hynny, gallwn dybio na fu o ddim cymorth i gynnal yr arfer.

Ymwelais â’r lle’r haf diwethaf. Fe’i ceir i’r gogledd - ddwyrain o Brook Lane Farm, yng Nghyfeirnod Grid Ordnans SJ 45319 40380. Mae dŵr yn llifo mewn ffosydd heibio i’r man, ond nid oes lle bu’r ffynnon ond twll dail poethion breision. Yn ôl un o drigolion y pentref bu peth cloddio ar safle’r ffynnon ar un adeg, a chafwyd hyd i jwg arian fechan, ond ni ŵyr beth ddigwyddodd i honno.

 

Un o flynhonnau Is-coed, wedi ‘i ffensio ond wedi ’i orchuddio â thyfiant.

FFYNHONNAU MAIR- IS-COED

Gan fy mod i yn y cyffiniau, achubais gyfle i ymweld a’r ffynhonnau hyn hefyd. Yn ôl taflen St Marys Well, Whitewell, (Paul Winchester, 1996) ”Roedd dwy ffynnon sanctaidd. Y naill islaw’r eglwys, wrth lan y nant sy’n llifo hyd ymyl deheuol y fynwent (SJ 49504 41376): a’r llall mewn cae‘r ochr draw i’r nant, myrnryn ychwaneg i’r de-orllewin (SJ 49481 41340) Gwelir y ddwy yn eglur ar fap Ordnans 1:4,000 y fro.

Dywed taflen Winchester fod clawr metel ar y ffynnon gyntaf, yr un agosaf at yr eglwys: ond er chwilio a chwalu nid oedd lliw ohoni. O gamu’r nant i’r cae gyferbyn, gellid gweld yr ail ffynnon yn ddigon eglur. Neu o leiaf safle’r ffynnon: twll go fychan yn y ddaear yn llawn tyfiant. Ond wedi’i leinio â gwaith cerrig, a’i amddiffyn gan bedwar postyn pren a rhwyll wifrog o amgylch. Y syndod oedd bod ffynnon arall fyth yn y cae hwnnw, tua SJ 496 414. ‘Roedd honnon yn fwy sylweddol o lawer, wedi’i leinio â gwaith brics, a chyda phwmp haearn gerllaw. Nid yw hon i’w gweld ar fap Ordnans i gwbl, ond mae’n amlwg y bu yno ers degawdau. Felly ‘doedd fawr ddim i’w weld, ond o leiaf yr oeddwn i wedi gweld bod o leiaf un o ddwy ffynnon sanctaidd Is-coed yn parhau i dystio i ffydd ein tadau yng ngalluoedd ei dyfroedd rhinweddol.

Fis Tachwedd diwethaf y rhoddwyd gwybod imi fod yr ail ffyrmon wedi diflannu: wedi’i llenwi â phridd, a’i hau â glaswellt, oherwydd ei bod hi “yn y ffordd wrth aredig”. Ffermwr y tir a’i dinistriodd, gan nad oedd hi, yn ei farn ef, ond twll sych yn y ddaear. Ymddengys mai’r un fu tynged y ffynnon wrth yr eglwys, hefyd: bod y sawl sy’n trin y lle hwnnw (ffermwr arall) wedi penderfynu codi lefel y tir trwy orchuddio’r cyfan â rhagor o bridd. Nid rhyfedd na fu imi’i chanfod.

F’ymateb cyntaf fu i e-bostio Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd- Powys a CADW. Bûm wythnosau heb glywed : hwyrach y byddai neges Saesneg wedi ennyn ymateb. Yna ysgrifennais atynt, ac ymhen hir a hwyr cefais wybod gan yr Ymddiriedolaeth a chan CADW nad oedd dim y gallent ei wneud. Yn ôl CADW nid oedd na’r naill ffyrnnon na’r llall wedi’i dynodi’n Heneb Restredig. Dywed CADW y ceir disgrifiad o’r ffynnon gyntaf, yr un efo clawr metel, wrth yr eglwys, yn adroddiad Comisiwn Brenhinol Henebion Sir y Fflint 1912. Ni chofnodir unrhyw ddeunydd canoloesol na chynharach yn yr un o’r ddwy ffynnon. Er mwyn eu cofnodi’n henebion byddai’n rhaid iddynt “fodloni meini prawf trylwyr.”: ond gan fod y ddwy wedi’u claddu, nid oes modd eu hasesu rŵan. Y cwbl y gallai CADW ei wneud oedd gofyn imi a oedd gennyf unrhyw luniau o’r lle cyn y difrodi fel y gellid cynnig sylwadau.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, cynhwyswyd “y Ffynnon Wen” (honno wrth yr eglwys, eto) yn ei harolwg 2002/03, pryd y penderfynwyd nad oedd yr olion yn debyg o fod yn hynafol iawn, Ceir llifddor hynafol yn ymyl yr ail ffynnon (honno yn y cae): ond gan nad yw’r ffynhonnau’n Adeiladau Rhestredig nac yn Henebion Cofrestredig, ’does dim y gellir ei wneud. Mor hawdd yw difrodi’r gorffennol. Oedd, yr oedd y ffynhonnau’n niwsans gan rywrai, a na, nid oedd neb yn eu defnyddio. Bach o dystiolaeth sydd gennym yn eu cylch: taflen a ysgrifennwyd byrntheg mlynedd yn ôl, a chofnod a wnaed ganrif yn ôl. Gallai hanes y ffynhonnau ymestyn ymhell yn ôl i’r gorffennol, ac efallai y bu iddynt arwyddocad ysbrydol : ond nid oedd “gallai” nac “efallai” nac “ysbrydol” yn ddigon i oedi dim ar eu dileu er mwyn gwerth ychydig geiniogau o gnwd ychwanegol. Ac felly y difethir y cwbl o’n cof ni, yn y pen draw, onid oes yna rywrai sy’n fodlon cadw golwg cyson ar y safleoedd hyn, a throsglwyddo’r wybodaeth a’r cyfrifoldeb at y dyfodol.

Dwi ddim yn hollol anobeithiol. Mae palu pridd allan o ffynnon yn fwy trafferthus na’i llenwi, ond hwyrach fod modd darbwyllo. Efallai y byddai cofrestru swyddogol wedi atal y fandaliaeth: felly onid ydi’ch hoff ffynhonnau chi wedi’u cofrestru’n Henebion swyddogol erbyn hyn, mynnwch eu bod nhw felly

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON BEUNO CLYNNOG FAWR (SH 4132 4945)

Daeth i'n sylw drwy garedigrwydd Helga Martin, Ysbyty Ifan, fod cyflwr y ffynnon yn dirywio gyda thyfiant o gwmpas y fynedfa. Credir bod y Cyngor Cymuned yn mynd i drafod y mater yn fuan. Mae’r ffynnon wedi ei chofiestru gan CADW

FFYNNON BEUNO, TREFFYNNON (SJ 185 763)
Ym mis Mehefin bydd Cloddfa archeolegol yn digwydd ar safle’r ffynnon sy ar y bryn uwchben
Ffynnon Wenffrewi. ’Roedd cyrchu at y ffynnon hon yn y gorffennol. Yn agos ati ’roedd hen bren derw’n tyfu ac arferai pererinion fynd a tharo arian i foncyff y pren fel offrwm i’r ffynnon. Torrwyd y goeden i lawr gan Gyngor y Dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd yn ddiddorol gweld beth gaiff ei ddarganfod yn y ffynnon ac adeiladwaith y ffynnon ei hun. Edrychwn ymlaen at gael adroddiad am y gwaith ar y ffynnon gan Roberta Owen, Treffynnon yn ein rhifyn nesaf

FFYNNON MODLEN, FFLINT (SJ 24 72)
Wrth wneud arolwg o enwau strydoedd tref hanesyddol Y Fflint daeth Charles Curuthers o hyd i enw na fedrai ei ddeall. Anfonodd e-bost at Ken Lloyd Gniffydd yn gofyn am eglurhad ar yr enw Ffynnon Fôd Lane. Fel arfer enw personol neu ddisgrifiad o’r ffynnon sy’n dilyn y gair ffynnon mewn enw ac felly hawdd oedd gweld mai’r enw Modlen wedi ei dreiglo a geir yma. Diddorol byddai cael ffurfiau cynnar o’r enw i gadarnhau hynny.

FFYNNON BADARN (Dim cyferinod map ar gael)
Mae’r ffynnon gerllaw Mynydd Ffynnon Badarn i’r de orllewin o gronfa ddŵr Tŷ Cam yn Sir Feirionydd, yn ôl Francis Jones yn eu gyfrol wych The Holy Wells of Wales (tudalen 189) Tynnodd Erwyd Howells ein sylw at y ffynnon hon. Tybed a oes gan rhywun fwy o wybodaeth amdani?


FFYNNON DDYFNOG SANT

LLANRHAEADR Yng NGHINMEIRCH(SJ 082635)

Diolch i’n Cadeirydd brwdfrydig, y Dr Robin Gwyndaf, am dynnu ein sylw at lythyr Philip Williams, 6 Bryn Llan, Llanrhaeadr yn rhifyn Mawrth o’r Bedol. Meddai:

Daeth pryder cynyddol i’r amlwg ynglŷn â dirywiad Ffynnon Ddyfnog Sant, sydd wedi’i lleoli mewn coedwig fechan tu ôl i Eglwys Llanrhaeadr. Cafodd y safle ei ddosbarthi fel safle rhestredig Gradd Dau gan CADW, a’r rhoddion ariannol a gyfrannwyd gan bererinion oedd yn ymweld â’r ffynnon yn y gorffennol a gynorthwyodd hefyd i adeiladu’r eglwys a’r ffenest Jesse wych yn ddiweddarach. Yn anffodus, oherwydd y gaeafau caled diwethaf, dymchwelodd rhan helaeth o’r ffynnon a’r safle o’i hamgylch, ac felly gwneir apêl frys i bawb sydd â diddordeb i gyfarfod a chynllunio rhaglen weithiol. Mae’n debyg mai dyma fydd y cyfle olaf i achub rhan o etifeddiaeth gyfoethog ein pentref.

Mynegodd llawer o’r pentrefwyr yr awydd i atal y dirwyiad y safle carismataidd hwn, a gyda chymorth ein cymuned aed ati i ffurfio grwp gweithredol gyda’r amcan i adfer y safle a rhwystro difrod pellach gan yr elfennau. Byddwch yn ymwybodol, mae’n siwr, y bydd angen llawer o waith caled a chydweithio cymunedol er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, a rhagwelir hefyd y bydd yn rhaid sicrhau cyllido drwy gyfrwng gwahanol asiantaethau ariannol. Mae peth cyllid wedi ei gynnig yn barod, gyda diolch oddi wrth Cadwyn Clwyd (£5,000) a Chronfa Wynt Tir Mostyn a Foel Goch (£500) ac mae ychwaneg o drefniadau codi arian yn cael eu trefnu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi cynllun cymunedol lleol, i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r plwyf a thu hwnt, fel y gallwn fod yn falch o’n treftadaeth a’n hanes.

(Braf yw gweld cymuned yn gwerthfawrogi’r ffynnon sanctaidd sy ganddynt. Dymunwn yn dda i drigolion Llanrhaeadr wrth iddynt gychwyn ar waith mawr a phwysig iawn. Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

LLYGAD Y FFYNNON YN SAESNEG

Diolch o galon i Christopher Naish am gyfieithu Llygad y Ffynnon 31 i’r Saseneger mwyn i aelodau Cymdeithas Wellsprings gael ei ddarllen.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

HANES DWY FFYNNON

Gareth Pritchard

 

Ffynnon Marl

Yng Nghyffordd Llandudno mae Ffynnon Marl, (SH 796 789) yng Nghoedwig Marl, nepell o Marl Hall. Os dymunwch deithio yno mewn car dewch oddi ar y ffordd sy’n cysylltu Llandudno 6 Chornel Glan Conwy (A470) yng nghylchfan Marl. Parciwch ar un o’r lonydd bychan oddi ar y ffordd yma a cherdded ychydig lathenni i gyfeiriad Llandudno Ar y dde fe welwch gynllun atal llifogydd— cerddwch dros yr ‘argae’ ac ymlaen ar hyd y llwybr am ryw ddau can llath fe ddowch at y ffynnon. Mae mewn dwy ran a dweud y gwir— gyda’r rhan uchaf mewn gwell cyflwr. Sylwch fod gwaith cerrig graenus o’i chwmpas.

Ers talwm byddai’r Parchedig Meirion Roberts, a fu’n weinidog ar Bethania, Craig y Don, am nifer o flynyddoedd, ac yn gredwr cryf mewn iachau drwy ffydd, yn defnyddio’r dŵr o’r ffynnon yma at bwrpas meddgol. Dywedir bod Robin Ddu, yn y drydedd ganrif ar ddeg, wedi proffwydo y byddai Marl Hall gerllaw yn llosgi deirgwaith! Ar ôl pob tan byddai coeden yn tyfu wrth y muriau, a phan fyddai’r goeden yn cyrraedd uchder to’r plasty, yn a byddai’r lle yn llosgi! Yn rhyfeddol, digwyddodd hyn ddwywaith, ond ar ôl clywed am y broffwydoliaeth, y trydydd tro, llifiwyd y goeden cyn cyrraedd y to, ac achubwyd yr adeilad.

FFYNNON YR ODYN

’Roedd Ffynnon yr Odyn (SH 774 823) ar safle tŷ o’r enw Creigle yn Church Walks, Llandudno. Gelwid hi hefyd gan rai yn Ffynnon Siafft yr Odyn. Tu ôl i Greigle, ers talwm, ’roedd chwarel galch a ddefnyddid y calchfaen ar gyfer adeiladu a’r calch ar gyfer trin y tir. Hefyd, ’roedd yna hen siafft gopr, ac wedi iddi orffen cael ei defnyddio ar gyfer y pwrpas hwnnw fel lanwodd â dŵr (tua 37 troedfedd o ddyfnder) a’i throi’n ffynnon! Cliriwyd y safle ac adeiladwyd ysgol newydd San Sior ar y safle ar ddechrau’r nawdegau. Y bwriad ar y pryd oedd diogelu’r ffynnon, ond oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch, bu’n rhaid clirio’r ffynnon yn ddiweddarach. Yn y llun rydw i wedi ceisio ail-greu’r ffynnon drwy osod pwmp yn yr ardd! Fel hyn yr ysgrifennodd gwr o’r enw Thomas Rowlands am ei atgofion am Landudno fel ag yr oedd tua 1840: Yn agos i’r fan lle saif Plas Gogarth yn bresennol, yr oeddym yn troi i fyny y ffordd oedd yn arwain at Ffynnon yr Odyn, ac o’r ffynnon hon ’roedd llawer o’r trigolion yn cael dwfr at eu gwasanaeth. Ychydig yn uwch i fyny, ar ymyl yr un ffordd, yr oedd yr odyn, oddi ar ba un yr oedd y ffynnon yn cael ei galw. Odyn galch ydoedd wedi ei chodi at wasanaeth amaethdy y Tŷ Draw. Yn yr amaethdy yma y byddai gweinidogion phregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn gwneud eu cartref, ac yr oeddynt bob amser yn cael derbyniad croesawgar, Wyneb—siriol, a chartref llawn gan David a Margaret Jones.

Yn rhfiyn Tachwedd 13eg, 1909 o’r Llandudno Advertiser mae John Roberts, Bryn Celyn, yn ysgrrfennu.

This well formerly stood in the grounds of Creigle, Church Walks; its name is suggestive. In former timed much lime stone was burned, and in this vicinity a quarry to raise stones for this purpose was situated directly behind the mansion of Creigle. Years ago, and before Llandudno began to develop as a health resort, lime kilns were situated near this quarry. Most of the lime in those days was used for agricultural purposes in the district; the lime from these kilns were considered of very fine quality. Why this well was called by this name we are not in a position to decide but probably because of its close proximity to these lime kilns.

Tybed a oes Ffynnon yr Odyn arall ar gael rhywle yng Nhymru? Ni allaf weld un yn The Holy Wells of Wales. Hwyrach y gall un o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ein helpu i ddod o hyd i un. (Gol)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ANTUR FFYNNON THEODORA
Howard Huws

Dda gen i ddim mo mannau uchel: mae dringo ysgol yn ddigon o gamp gen i. Pan felly, yr oeddwn i’n ceisio sefyll ar ben maen enfawr yn Romania? Heb nemor droedle diogel, ac o fewn modfeddi i ddibyn ddegau o droedfeddi? Er mwyn tynnu llun ffynnon, wrth reswm.

Mae bryniau Moldafia yn eang a braf, yn las gan goedwigoedd ac ymhell o bob stŵr. Dyna pam y ceir ynddynt fynachlogydd gyda’r mwyafrif trawiadol a luniwyd erioed, eu waliau’n un o ddarluniau, y tu mewn a’r tu allan, a’r pererinion yn eu cyrchu heddiw fel ddoe. Ar wahân i’r sefydliadau mawrion, ceir rhai bychain sy’n gartref i ryw ddeg neu ddwsin o fynachod neu leianod, a rhai llai fyth, lle mae meudwyaid unig yn padereua’r bwlch rhwng y byd hwn a thragwyddoldeb. Meudwyes o’r fath oedd y Santes Theodora, a ganfu loches mewn ogof ger Sihla ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.

 

Darllenais iddi godi’i dŵr yfed o ffynnon ar ben un o’r clogfeini ogylch ei hogof a bod y ffynnon honno bellach yn un santaidd, wedi’i chysegru, yn enw’r feudwyes. Gan i mi dreulio wythnos yn yr ardal honno llynedd, rhaid oedd imi alw heibio. Ond nid ar chwarae bach yr oedd gwneud hynny. Chwiliodd y feudwyes am fan anghysbell, ac er i’r byd newid y tu hwnt i bob dychymyg yn ystod y tair canrif ddilynol, mae gofyn bod yn benderfynol os am ymweld â’r lle heddiw. Y mae tua phum milltir o’r ffordd fawr agosaf, hyd lôn gerrig garw sy’n dringo tua mynachlog fechan Sihla. Toc cyn cyrraedd yno, gwelir arwyddion yn cyfeirio’r pererinion i ben llwybr tuag at ogof Theodora.

Lle braf i gerdded ynddo yw’r goedwig uchel, a buan y cyrhaeddir nifer o feini enfawr sydd fel petaent ar gychwyn i lawr y llethrau Mewn hollt o dan un ohonynt y treuliodd Theodora ran helaeth o’i hoes ac y mae’r gysegrfa fechan yno eto’n nod ymweliadau’r ffyddloniaid. O holi am y ffynnon cyfeiriwyd fi at glogfaen arall, ar ymyl dibyn, ac ysgol bren wedi’i hoelio wrthi. Wedi ei hoelio- ond nid ag unrhyw olwg ar reolau iechyd a diogelwch. Wrth imi’i hesgyn dechreuodd simsanu a symud ychydig o wyneb y garreg. Pe bawn gall, nis mentraswn: ond wedi ymdrechu cymaint i gyrraedd y lle, nid oeddwn am ddiffygio rŵan. Gan ofyn nawdd Theodora, dringais yn araf tua’r copa, heibio i dro yn yr ysgol a roddai imi gyfle da i weld cymaint o ffordd oedd rhyngof a’r llystyfiant islaw, a pha mor dila oedd y mymryn canllaw a ohiriai fy mynediad i’r tragwyddol leoedd.

 

 

Oedd, ’roedd yno ffynnon o fath ar ben y graig: twll petryal tua dwy droedfedd wrth dair wedi’i naddu o’r garreg heb ddiferyn ynddo. Mae’n amheus gennyf a fu yno erioed darddle: rhaid bod Theodora wedi dibynnu arno i gronni dŵr glaw, y dlawd. Yna’r rhan waethaf: ceisio sefyll ar ben y graig, er mwyn medru tynnu llun o’r ffynnon. Gan bwyll bach y ceisiais sefyll ac ymsythu, heb nemor droedle diogel, a’r dibyn fel petai’n ceisio fy nhynnu ato. Tynnais y llun, yna’n araf deg euthum i lawr, ar fy mhedwar, ac yna wysg fy nghefn yn ôl i lawr yr ysgol ansad. Da calon gennyf fu cyrraedd y gwaelod: gobeithiaf y cytunwch fod llun gwrthrych fy nhrafferth o ryw ddiddordeb.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DINISTRIO FFYNNON FAGLAN, LLANFAGLAN (SH 4601 6085)

Anfonodd Ifor Williams, Gwelfan, Llanfaglan newyddion atom yn dweud bod Ffynnon Faglan, Llanfaglan, ger Caernarfon wedi ei dinistrio. Meddai:

Rydym wedi cael newyddion drwg yma yn Llanfaglan. Fe dynwyd fy sylw ychydig yn ôl i’r ffaith bod safle Ffynnon Faglan wedi diflannu’n llwyr. Bum i lawr i’r safle i gael tystiolaeth a gwelais nad oedd dim i ddangos lle bu safle’r ffynnon heddiw, dim ond cae gwastad. Ymddiheuraf am ansawdd y llun.

 

Er mai ond pentwr o gerrig oedd ar safle’r ffynnon ar ôl i ffermwr ei chau i fyny yn y chwedegau oherwydd fod ei stoc yn syrthio i mewn iddi, o leiaf ‘roedd hi yno.

 

Mae’r mater yn nwylo ’r Cyngor Cymuned ac rwyf fi a’r clerc wrthi’n edrych i mewn i beth y gallem ei wneud i adfer y safle yn ôl i’r cyflwr ag y bu tan yn ddiweddar. Rydym hefyd yn cysidro cysylltu â’r CPRW. A yw’r Gymdeithas wedi cysidro creu e-betisiwn i Lywodraeth Cymru i gael deddfau i orfodi tir feddiannwyr i ail godi ffynhonnau ac henebion eraill yng Nghymru sy wedi eu dinistrio, yn ogystal a deddfu rhag iddynt gael eu chwalu?

(Rydym i gyd yn teimlo mor ddiymadferth yn wyneb dinistr fel hyn. Dyrna pam bod rhaid cael Ymddiriedolaeth fydd â dannedd a statws i weithredu a dylawnwad i argyhoeddi tirfeddiannwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol o bwysigrwydd ein ffynhonnau, nid yn unig yn y gorffennol ac fel rhan o’n hanes a’n traddodiadau, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gol)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GAN... YW’R GEINIOG

Daeth yn amser adnewyddu tâl aelodaeth unwaith eto i’r aelodau hynny nad ydynt yn talu drwy’r banc nac yn aelodau am oes. Gwelwch bod ffurflen yn yr amlen os oes angen un.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELOD NEWYDD:

Saundra Storch, Pontyberem

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYNHADLEDD MEDI

Eleni bydd y Gynhadledd Ffynhonnau flynyddol yn digwydd ar Sadwm a Sul Medi 15fed—16eg yng Nghasnewydd ar gampws Caerllion. Am fwy o fanylion cysylltwch 6

Dr Madeleine Grey, Darllenydd mewn Hanes, Ysgol Ddyniaethau a Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Cymru, Casnewydd, Campws Caerllion, Casnewydd. NP 18 3QT
Rhif ffôn: 01633 432675 Cyfeiriad ebost:
Madeleine.Gray@newport.ac.u

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BRO MORGANNWG

DYDD MAWRTH AWST 7fed


PABELL Y CYMDEITHASAU 2 AM UN O’R GLOCH

darlith gan

ANGELA GRAHAM

FFYNNON FAIR PENRHYS- PORTH Y NEFOEDD

a Chyfarfod Cyffredinol byr i ddilyn

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOURPRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ff6n 01352 754458 Cyfeiriad e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
GWEFAN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU:www.ffynhonnsu.Cymru.org

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up