Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                Rhifyn 35 Nadolig 2013

LLWYDDIANT CYNHADLEDD LLANDUDNO

Y CRIW YN Y GYNHADLEDD

Ar ddydd Sadwrn Medi’r 7fed daeth tua thrideg o bobl frwdfrydig at ei gilydd i’r gynhadledd flynyddol. Roedd y cyfleusterau yn festri capel Seilo yn ardderchog a phobl wedi dod o’r Alban a Lloegr i wrando ar ddarlithoedd a rhannu profiadau. Siom ydoedd na allai Gareth Pritchard fod yno i draddodi ei ddarlith ar Ffynhonnau’r Gogarth ond drwy gymorth nodiadau manwl a lluniau a PowerPoint llwyddwyd i drosglwyddo’r wybodaeth. Yn dilyn cafwyd sgwrs gan Ken Davies ar Ffynnon Fair, Llanrhos ac yna darlith ddifyr iawn gan Elfed Gruffydd ar Ffynhonnau Llŷn. Yna dilynwyd gan Tristan Grey Hulse yn son am ffynhonnau a phererindodau. Yn y prynhawn cafwyd amlinelliad gan Bill Jones o’r gwaith ar Ffynnon Elan, Dolwyddelan. Siom i’r gynhadledd oedd deall fod y gwaith yn cael ei lesteirio am fod amharodrwydd ar ran teulu lleol i adael i bobl gerdded ar hyd llwybr cyhoeddus i’r ffynnon. Gwnaed deiseb yn y cyfarfod i geisio agor trafodaeth ar y mater yma. Yn olaf soniodd Jane Beckerman am y gwaith mawr o adfer Ffynnon Elian yn Llanelian yn Rhos. Cafwyd trafodaeth fywiog ar ddiwedd y gynhadledd a phenderfyniad i fynd ymlaen i geisio cael cyrff cyhoeddus dylanwadol i weld maint eu cyfrifoldeb tuag at y rhan hon o’n treftadaeth.

WRTH FFYNNON FAIR, LLANRHOS (SH795805)

Ar ddydd Sul, Medi’r 8fed ymwelwyd â Ffynnon Fair, Llanrhos yng nghwmni Ken Davies a daeth Gareth Pritchard i dynnu llun o’r criw a’i gyhoeddi yn Y Cymro.

Roedd yn wych fod Ken gyda ni gan mai ef, yn anad neb, a gadwodd y ffynnon hon rhag diflannu’n llwyr. Cafwyd adroddiad llawn o’i holl weithgarwch yn rhifyn 31 o Llygad y Ffynnon. Wedi casglu ger eglwys Llanrhos, sy wedi ei chysegru i Ilar Sant, cerddodd pawb heibio i’r tai ar ochr y ffordd fawr gyferbyn â’r eglwys a throi i’r dde. Rhaid oedd dilyn y llwybr troed heibio i fwy o dai ac yna ar draws tir agored tuag at y coed lle mae’r ffynnon. Ni fyddai wedi bod yn hawdd dod o hyd iddi heblaw bod Ken ein harwain ar hyd y llwybr a thrwy’r giât i’r goedwig. Gallem fod wedi dal i gerdded heibio iddi a heb edrych yn ôl a gweld y ffynnon mewn cilfach islaw’r llwybr. Gwelwch oddi wrth y llun isod fod baddon y ffynnon ar siâp U a’i phen i lawr a gwaith cerrig glân a thaclus o’i chwmpas yn mynd i mewn i’r llechwedd. Dros y ffynnon mae carreg enfawr a hyn yn ei chadw rhag diflannu o dan y tir uwch ei phen. Byddai wedi bod yn dristwch o’r mwyaf pe bai’r ffynnon hon heb ei glanhau a’i chadw i’r dyfodol. Diolch am wirfoddolwyr fel Ken Davies sy’n llwyddo i adfer ffynhonnau ac i haneswyr lleol fel Gareth Pritchard sy’n brysur yn cofnodi gwybodaeth am ffynhonnau ei filltir sgwâr. Diolch o galon i’r ddau ohonoch.

 

FFYNNON FAIR, LLANRHOS

Wedi’r ymweliad â Ffynnon Fair ymlaen a ni wedyn i Ffynnon Drillo ar lan y môr ger Rhos Fynach yn Llandrillo- yn- Rhos a gweld fod y lle yn dal i gael ei ddefnyddio fel man gweddi a myfyrdod. Adeilad bychan yw’r eglwys sy dros y ffynnon. Oddi allan mae’n mesur pymtheg troedfedd wth ddeuddeg ond oddi fewn mae’n mesur naw troedfedd wrth chwech. Pum troedfedd yw uchder y drws ac mae’n droedfedd a hanner o led. Mae’n bosib fod adeilad yma ers y chweched ganrif ond wrth reswm cafodd yr adeilad ei adnewyddu fwy nag unwaith ers y cyfnod cynnar hwnnw. Gwelir y ffynnon ym mhen dwyreiniol yr eglwys ac mae’n cronni mewn baddon tair troedfedd wrth ddwy. Mae tair o risiau yn arwain i lawr at y dŵr. Cynhelir offeren yn yr eglwys bob bore Gwener am wyth o’r gloch ac mae’r adeilad yn agored i’r cyhoedd o’r Pasg hyd ddiwedd yr haf.

Yn ddiweddar dechreuodd pobl adael gweddïau wedi eu hysgrifennu ar ddarnau o bapur yn yr eglwys. Gofynnant i Drillo Sant ddeisyf ar Dduw am iachâd, am gryfder i wynebu afiechyd a phrofedigaethau. Ceir gweddïau nid yn unig yn Saesneg ond mewn ieithoedd fel Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg a rhai yn y Gymraeg. Yn y man arbennig hwn cawn gipolwg ar y ffydd a fu mor bwysig i’n cyndadau ac ar werth y ffynhonnau sanctaidd i gynnal y werin mewn argyfwng a phrofedigaeth. Dyma yn wir berl mewn adfyd.

ODDI FEWN I FFYNNON DRILLO, LLANDRILLO-YN-RHOS (SH842812)

Teithio i fyny i Lanelian yn Rhos wedyn ac ymweld â’r eglwys hynafol a diddorol yno cyn cael cinio ardderchog yn y dafarn gerllaw iddi. Teithio ar draws gwlad ar ôl cinio i weld Ffynnon Gynfran ger eglwys Llysfaen. Roedd hon yn un anodd i ddod o hyd iddi gan ei bod i lawr o dan wrych o goed drain.

FFYNNON GYNFRAN, LLYSFAEN (SH893775)

Yna uchafbwynt y dydd oedd cael ymweld â Ffynnon Elian ar dir Cefn Ffynnon, cartref Jane Beckerman, a gweld y gwaith adnewyddu. Bellach mae coedlan hyfryd o gempas y tarddiad a’r dŵr yn llifo i fowlen bwrpasol. Mae yna fainc ger y dŵr a lle i eistedd ac i fyfyrio. Dyma droi ffynnon oedd unwaith yn ffynnon sanctaidd ond a aeth yn ffynnon felltithio yn ôl i ffynnon gysegredig unwaith eto. Cysegrwyd y ffynnon fel na all y dŵr gael ei ddefnyddio byth eto i felltithio na gwneud drwg i neb.

 

FFYNNON ELIAN, LLANEILIAN-YN-RHOS (SH860769

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

FFYNHONNAU LLANRUG

gan Gareth Pritchard

 

FFYNNON PANT (SH 538626)

Mae Ffynnon Pant ym mhlwyf Llanrug ger Caernarfon ar dir Fferm Pant Bryn Gwyn (tir preifat) . Lleolwyd y ffynnon yn y cae sydd tu ôl i Tai Tan y Coed yn y gornel bellaf oddi wrth y lôn at y fferm. Yr enw gwreiddiol ar y stryd hon oedd Stryd Dŵr a phryd hynny bythynnod cerrig oedd yno a byddai’r trigolion yn cario’u dŵr o Ffynnon Pant. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif chwalwyd rhai o’r bythynnod a chodi pedwar tŷ teras a newid yr enw i Tan y Coed Terrace. Cofiaf pan oeddwn i'n blentyn, yn ystod hafau sych fel 1947, ein bod yn dal i gario dŵr o’r ffynnon hon. Ydi, mae hi yno o hyd, ond bellach mae bron â suddo!

 

FFYNNON CLAWDD LLWYD ( SH537524)

Mae’r ffynnon hon ychydig lathenni oddi ar y ffordd rhwng Glyn Twrog a’r Ceunant. Mae lôn fach a llwybr troed rhwng Tai Minffwrdd a hen Siop Lewis Roberts. Yng nghefn Tai Minffwrdd mae’r ffordd yn fforchio. Os ewch ar y chwith fe welwch Tan y Bryn yn y pellter. Os am weld y ffynnon rhaid troi i’r dde ac o’ch blaen mae Parc Clawdd llwyd. Dim ond ychydig lathenni fydd rhaid i chi fynd cyn troi i’r chwith dros bont fechan iawn ac fe welwch y ffynnon. Dyma ble byddai trigolion Tai Minffwrdd a thai cyfagos yn cael eu dŵr ers talwm. Bu’n gyrchfan chwarae i blant y fro am genedlaethau hefyd!

 

FFYNNON ADWY DDAUGAE (SH533621)

Ar waelod Allt Adwy Ddaugae rhwng Tan y Coed a’r Ceunant , ble mae lôn Pant Afon yn cyfarfod â’r ffordd rhwng Glyn Twrog a’r Waunfawr, ar ochr y ffordd, mae dwy ffynnon o fewn ychydig lathenni i’w gilydd. Dyma’r fan y byddai Bysus Gwyn (Whiteways) yn cyrraedd pen eu taith rhwng Caernarfon ‘r ceunant. Mae’r enw Adwy Ddaugae yn ddiddorol, er thaid ychwanegu mai fel ‘Adwy Ddigau’ y byddem ni, blant, yn ei ynganu ers talwm. Honnir i’r enw gael eu defnyddio ar lafar am dros 300 mlynedd. Beth bynnag, ar ôl taith mewn bws poeth yn yr haf byddai’n le da i dorri syched!!

Pam dwy ffynnon? Wn i ddim, ond yn sicr, o’r un yn y llun uchaf y byddai pobl yn y tai cyfagos fel Ty’n Llwyn yn cario dŵr. Mae yna bibell (pistyll) yn honno. Beth am yr enw? Ffynnon Adwy Ddaugae (neu Ddigau) i rai tra bod eraill yn ei galw wrth enw’r tŷ agosaf – Fynnon Ty’n Llwyn.

 

FFYNNON FRON OLAU

Mae ffynnon Fron Olau ar lethrau Cefn Du, yn Ceunant, Llanrug. Pistyll yw’r disgrifiad cywir, gan mai pibell o ffrwd fechan sy’n gollwng y dŵr. Bu hon yn torri syched teulu fy nhad am genedlaethau hyd at ganol pumdegau’r ganrif ddiwethaf. Tyddyn chwe acer yw Fron Olau.

Diolch i Gareth am ei holl waith yn cofnodi hanes, lleoliad a chyflwr y ffynhonnau yn Llanrug. Diolch am y lluniau gwych hefyd. Rydym yn fawr ein dyled iddo.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

HANES FFYNHONNAU TRAWSFYNYDD

gan Keith O’Brien

Ymhlith bwyd, lloches a thân, un o anghenion beunyddiol mwyaf sylfaenol ac angenrheidiol dyn ers bore oes yw dŵr. Yn ddiddorol roedd gan ddŵr rinwedd arall dirgel filoedd o flynyddoedd yn ôl pan gredai’r Celtiaid fod ffynonellau yn borth mynediad i fyd arall goruwchnaturiol! Byddai’r ffynhonnau yma hefyd yn cael eu cysylltu gyda duwiesau neilltuol gan i’r naill fel y llall gael eu hystyried fel symbolau o ffrwythlondeb.

Heddiw, yn y Deyrnas Gyfunol, rydym yn defnyddio ar gyfartaledd 150 litr y pen yn ddyddiol i ymolchi, yfed, fflysio toiled ac i’n peiriannau golchi. Mae’r rhain yn bethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol . Peth holl bwysig o ran ein hiechyd yw cael cyflenwad o ddŵr glân. Gwelwyd y canlyniad o ddiffyg yn y cyfeiriad yma blwyddyn neu ddwy yn ôl gyda’r holl drafferthion bu i bobl ddioddef oherwydd haint cryptosporidiwm o Lyn Cwellyn.

Wrth gwrs, cyfleustra o oes Fictoria yw’r tap dŵr sydd ar y sinc, a pheth mor handi ydi o i lenwi tegell yn ystod egwyl ym Mhobl y Cwm! Ond nid fel hyn mae hi wedi bod erioed. Cyn i’r pibellau plwm a haearn cyntaf gyrraedd ein tai, rhaid oedd gafael yn y bwced ac anelu at y ffynnon agosaf! Mae gan Traws nifer ohonynt a rhai yn dal mewn defnydd dyddiol ac un gyda rhin iachusol honedig. Dyma eu hanes :

 

FFYNNON CWRCLIS (SH705355)

 Lleolir Ffynnon Cwrclis ar ochr y ffordd sy’n arwain i ffermdy Brynysguboriau. Dywedir i’r enw darddu o croglys gan mai yma y byddai drwgweithredwyr yn cael eu crogi yn yr oes a fu. Roedd hon yn ffynnon bwysig i’r pentre’ cyn i’r tai dderbyn dŵr prif gyflenwad a bu i Rolant Wyn, ewythr Hedd Wyn, ganu ei chlodydd yn y gerdd ganlynol:

DŴR Y FFYNNON

Fwyn ddarllenydd, yn dy syched

Hwde ddracht o ddyfroedd byw;

Nid o’r llyn y daw, na’r afon –

Dŵr o Ffynnon Cwrclis yw.

 

Dŵr o lygad clir y ffynnon,

Nid o’r bibell wrth dy ddôr,

Dŵr o ffynnon fach y pentref

Honno’n tarddu yn y môr.

Dŵr fu’n disychedu’r tadau,

‘Mhell cyn geni neb sy’n fyw;

Dŵr â blas fy mebyd arno –

Dŵr o Ffynnon Cwrclis yw.

 

Ŷf ohono, fwyn ddarllenydd,

Pryd y byddi’n teimlo’n flin;

Dim ond dracht o ddŵr y ffynnon-

Llawer gwell yw ef na’r gwin.

 Ceir cyfeiriad arall i ffynhonnau Traws gan Rolant Wyn mewn rhigwm maith a wnaeth i’r Rhedegydd ar 9fed Medi 1937. Dyma’r darn perthnasol:

Cyn dod o’r pibellau haearn

A’r dyfroedd i’r tai mor hael,

Cai’r tlodion fynd i’r “ffynhonnau”

Pryd hwnnw heb ofni’r draul.

Mae’r llinell olaf yn ddiddorol iawn oherwydd pwynt pwysig sy’n hawdd i ni ei anghofio yw’r ffaith fod dŵr ffynnon yn ddŵr sy’n rhad ac am ddim – yn wahanol iawn i’r dŵr a ddaw o’n tapiau!

 Pan oedd y gwersyll milwrol yn ei anterth yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf, byddai’r milwyr yn dod a’u dillad budr i’w golchi at wragedd Stryd Faen. Gorchwyl un o’r rheini fyddai cario galwyni o ddŵr o’r ffynnon i bwrpas y golch wythnosol. Byddai’r ychydig geiniogau a gai’r gwragedd yn ychwanegiad croesawus iawn i’w lwfans cadw tŷ.

 Pan oeddem yn blant rhaid oedd stopio am lymaid o’r ffynnon bob tro, a da oedd cael llond dwylaw wedi cwpanu o’r dŵr oer, clir a blasus – yn enwedig os oeddem yn sychedig ar ôl ymladd Almaenwyr neu Indiaid Cochion yn Creigiau Bach!

 

FFYNNON LLWYBR CUL (SH 708358)

FFYNNON LLWYBR CUL

Ceir hyd i’r ffynnon yma yn lle mae Llwybr Cul o Benrallt a Llwybr y Dafarn o ddechrau Penygarreg yn cyfarfod i ymuno’n un i arwain i Dy’n Pistyll. Ers talwm byddai seston llechan yma, sef tair llechan wedi eu ffurfio mewn siâp bocs i dderbyn y dŵr, gyda thwll tua modfedd o ddiamedr yn y slab blaen. Allan o hwn byddai’r hylif grisial yn llifo i’r teithiwr sychedig. Mae’r lechan blaen wedi diflannu’n anffodus ond mae’r rhai ochrol yn dal yn eu lle gydag ôl naddiad ynddynt lle byddai’r rhan blaen yn ffitio’n daclus. Cyfeiriwyd uchod at Lwybr y Dafarn, sef tafarn y Bull sydd ers blynyddoedd bellach yn annedd. Mae’r enw’n adlais o’r hen ddyddiau pan fyddai porthmona mor bwysig i economi’r ardal a hynny’n cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod gefail go’ drws nesaf i’r adeilad. Bryn Ffynnon yw enw’r tŷ rŵan, sydd, wrth gwrs, yn hunan eglurhaol.

 

FFYNNON LAS (SH730316)

Mae FFYNNON LAS yn dal mewn defnydd dyddiol ac fe leolir hi ar ochr chwith y ffordd sy’n arwain o Benstryd i Bont Dol Mynach yng Nghwm Dolgain. Mae blas heb ei ail ar ddŵr y ffynnon hon. Pan roir potel i lenwi o dan y beipen sy’n ymwthio allan o’r seston, fe welir cyddwysiad yn ffurfio mewn ennyd ar ei hochr allanol oherwydd oerni’r dŵr.

 

FFYNNON ERWDDWFR (SH 723331)

Ceir hyd i’r ffynnon hon mil o droedfeddi uwchben lefel y môr a hyd dau gae i’r dwyrain o ffermdy Erwddwfr neu Wyddor ar lafar gwald. Mae hen fapiau yn ei dynodi fel bath. Ceir disgrifiad diddorol o’r ffynnon yn Ardudwy a’i Gwron gan Dewi Eden, sef y Parch. David Davies, Harlech (1914) Dyma ddyfyniad o’r gyfrol:

Mae hon ar dir Erwddwfr, Trawsfynydd. Priodolir i’r ffynnon hon gan y trigolion hynafiaeth a rhin. Pwy, a pha bryd y cafwyd allan ei rhin, sydd anhysbys. Yr oedd wedi ei hadeiladu ar raddeg fechan er yn foreol. Adgyweiriwyd a helaethwyd hi gan y diweddar Barchedig Edward Davies (A), Derfel Gadarn, yr hwn a fu’n trigiannu am gyfnod maith yn Erwddwfr, ac yn gweinidogaethu i’r Annibynwyr yn yr ardal. Dywedir fod dyfroedd y ffynnon hon yn meddu rhin i wella afiechydon amrywiol, a phriodolir iddi rin cyfriniol.

Gresyn fod Ffynnon Llwybr Cul mewn cyflwr adfail. Bu i’r Cyngor Cymuned geisio ei hadfer ychydig yn ôl. Mae Ffynnon las yn cael ei chadw’n daclus. Hefyd mae cyflwr da ar ffynnon hynafol Cwrclis- diolch i ymdrechion Y Bnr. John S. Jones, perchennog y safle.

Tagwyd Ffynnon Bryn Glas (SH709354 â brwyn, diflannodd y Ffynnon y Rheithordy (9SH706357) ac mae Ffynnon Rewllyd (SH792309) yn adfail. Ond Gellir gweld Ffynnon Brynhyfryd (SH7073530) yng ngwaelod y cae tu cefn i Warws lôn. Mae ffos fach yn tarddu o’r ffynnon sydd wedyn yn troelli ei ffordd i’r llyn. Gobeithio’n fawr nac anghofiwn ein ffynhonnau na’i hesgeuluso’n fwy, oherwydd gyda newid hinsawdd yn bygwth cyfnodau maith o sychder yn ein hafau, efallai bydd yn dda i ni eu defnyddio unwaith eto!

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD:

Dyfrig Lloyd, Caerdydd

Sara Richards, Rhosneigr

Ian Taylor, Helsby,

Rhys Mwyn, Caernarfon

Jane Lloyd Francis, Abercregir

Brian Evans, Penrhyncoch, Aberystwyth

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOURPRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

GOLYGYDD: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net GWEFAN : www.ffynhonnaucymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up