Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                         37 Nadolig 2014

 

  FFYNHONNAU SIR GAR gan Saundra Storche

(Traddodwyd y sgwrs yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014)

 

  Saundra ac Eirlys ar faes yr Eisteddfod wedi’r ddarlith.  

Gofynnir imi yn aml wrth roi sgyrsiau am Ffynhonnau Sanctaidd - Sut y trawsnewidiwyd ffynnon gyffredin i ffynnon sanctaidd? I’r Paganiaid Celtaidd roedd y rhain yn lleoedd dirgel ac yn fwy felly os oedd y dŵr yn cynnwys mwynau oedd yn rhoi blas gwahanol i'r dŵr.

Os oedd haearn yn y dŵr byddai’r cerrig o’i chwmpas a gwawr goch a’r dŵr yn blasu yn fetelaidd. Ar y llaw arall os oedd y dŵr wedi rhedeg drwy garreg galch ni fuasai yn rhewi yn y gaeaf. Gadawyd offrymau yn y mannau yma gan fod yr hen Gymry yn credu mai porth i’r byd arall oeddent, yn ddrws i Annwn, annedd ysbrydion a duwiau a mynedfeydd y bodau goruwchnaturiol i lynnoedd ac afonydd.

Y Pab Gregori Mawr sy’n cael y 'clod' o anfon a chynghori'r pererinion a glaniodd ar arfordir de Lloegr yn 601 ond anfonwyd rhai yn llawer cynt na hyn. Dywedir bod y Pab Eleutherius wedi anfon Dyfan, Fagan, Meudwy ac Elfan yn ail hanner yr ail ganrif i efengylu yn Sir Gâr. Felly, pan gyrhaeddodd y cenhadon Cristnogol cyntaf yr ynysoedd hyn, byddent yn bendithio'r ffynhonnau, ac yn annog y paganiaid i gynnig gweddïau i'r un Duw yn hytrach na chynnig offrymau i'r sawl un. Byddai offeiriad yn mynd o amgylch y pentrefi i fendithio'r ffynhonnau ar Nos Galan. A chredaf fod geiriau'r pennill poblogaidd (a ganwyd yng Nghwm Gwendraeth ar Ddydd Calan) yn cyfeirio at yr arfer hwn: “Codwch yn fore a chynnwch y tân, cerwch i’r ffynnon i hol dŵr glân.”  

Trawsnewidiwyd y ffynhonnau yn rhai sanctaidd hefyd pan gynhaliwyd gwyrth yn y fan a'r lle. Ceir hanes Caradog yn torri pen Gwenffrewi i ffwrdd am iddi ei wrthod, a’i hewythr Beuno yn rhedeg allan o’r eglwys ac yn ei ail osod, a ffynnon yn tarddu o'r ddaear lle'r oedd ei phen wedi disgyn. Yn ôl un chwedl ymwelodd y Forwyn Fair a Chydweli mewn cwch, ond pan gafodd ei lladd gan ddyn wrth iddo ei hebrwng yn ôl at y cei, tarddodd Ffynnon Fair yr Alefed (SN 412073) yn y fan a'r lle. Byddai pobl yn ymweld â’r fan hyd at ddeunawfed ganrif ar y 25ain Mawrth ar ŵyl Fair y Cyhydedd. Ni cheir unrhyw olion o’r ffynnon heddiw ond yn ôl y diweddar Gadfridog Kemmis Buckley roedd cerrig sylfaen y ffynnon i’w gweld tan y 1970

Ac yn olaf, dry ffynnon yn sanctaidd pan ceir cysylltiad rhwng sant a’r safle. Gallai ef neu hi wedi defnyddio'r dŵr i fedyddio - Dewi Sant ym Mhistyll Dewi, Llanarthne (SN5396 719,302) , Teilo Sant yn Ffynnon Deilo, Llandeilo (SN62962224) a dyweder bod y Santes Non yn tynnu dŵr o Ffynnon Non (SN53710795) yn Llanon. Credai pobl (ac mae Catholigion yn dal i gredu) y byddai grym neu fendith sant yn ymdreiddio i unrhyw beth a gyffyrddai. Rydym i gyd yn gyfarwydd â hanes y fenyw sâl yn cyffwrdd ac ymyl dilledyn yr Iesu, dywedodd ar unwaith “ Pwy gyffyrddodd â mi, oherwydd synhwyrais i fod y nerth wedi mynd allan ohonof.” A cheir enghreifftiau eraill yn y Beibl megis cysgod Pedr (Actau 5:15) a chadachau Paul (Actau19: 12).

 

  FFYNNON DIOLCH I DDUW

  Trwy gydol y canrifoedd byddai pobl yn ymweld â ffynhonnau sanctaidd am nifer o resymau - i weddïo am iachâd ar gyfer y corff ac enaid, fel penyd, i olchi ymaith eu pechodau, i yfed y dŵr, i gasglu'r dŵr sanctaidd mewn ffiolau ar gyfer y cleifion ac i weddïo am gynhaeaf da. Pan ysgubodd y frech wen drwy’r ardal cerddai trigolion Llanelli chwe milltir i Ffynnon Diolch i Dduw (SN53660645) ger Llanon i olchi eu darnau arian. Yr hyn a welwn yn y llun yw wal newydd i'r hen ffynnon a naddwyd pant yn y garreg i ddal llif y dŵr a godwyd ar orchymyn Rhys Goring Thomas ym 1883.

FFYNNON CAPEL ISAF

Erbyn hyn mae llawer o ffynhonnau sanctaidd wedi diflannu neu yn adfeilion. Dinistriwyd nifer fawr yn dilyn y ddeddf Gwahardd Pererindota a gyflwynwyd gan Thomas Cromwell. Byddai pererinion yn aml yn ymweld â ffynhonnau ar ddiwrnod gŵyl saint. Mae Capel Isaf (SN66012527 Maenordeilo) ar dir preifat a dywedodd y perchennog y byddai pererinion o Gaergaint yn galw yno ar eu ffordd i Dyddewi. Rydym yn cael ffeithiau diddorol am ffynhonnau gan berchnogion tir, gwybodaeth sydd wedi cael ei basio i lawr ar lafar ac nid ar gael mewn llyfrau ar y pwnc. Yn ôl perchennog Capel Isaf, roedd y ffynnon a’r tŷ yn gapel canoloesol ac yn rhan o abaty Talyllychau. Roedd yn bleser ymweld â’r safle ac mae'r dŵr yn cael ei bwmpio i mewn i'r tŷ a'i ddefnyddio heddiw.

FFYNNON NON

Weithiau nid yw’r tirfeddianwyr yn gwybod bod y ffynnon sydd ar eu tir yn Ffynnon Sanctaidd, ac yn aml defnyddir y dŵr i ddyfrio’r gwartheg a pham lai? Mae perchnogion eraill, yn anffodus yn hollol ymwybodol am hanes y ffynnon ond yn eu dinistrio serch hynny. Yn ffodus tynnais lun o Ffynnon Santes Non yn Llanon flynyddoedd lawer yn ôl, dim ond twll syml, dinod yn y ddaear ydoedd, ond roedd perchennog y tŷ ar y pryd yn dweud bod niferoedd o bob] dros y  blynyddoedd Wedi ymweld a'r man. Erbyn hyn mae’r tŷ yn gartref gofal i’r henoed a gosodwyd haenen o goncrid drosti am resymau diogelwch. Does dim olion i’w gweld, dim hyd yn oed plac i nodi ei bodolaeth.  

Diolch byth bod Ffynnon Antwn (SN34600993) yn Llansteffan mewn cyflwr da. Soniais yn gynharach fod paganiaid yn cynnig offrwm i’r ffynhonnau ac mae'n ymddangos bod pobl dal a rhyw angen cynhenid i wneud hyn. Bob tro yr wyf Wedi ymweld a’r lle, gwelir cregyn, petalau, a darnau arian yn y dŵr a charpiau wedi eu pinio i’r wal o’i hamgylch, gan fod y dŵr yn gwella calon ddolurus yn  y chwedl. Roedd Antwn yn feudwy oedd yn dilyn ffyrdd Tadau a Mamau yr Anialwch drwy fyw bywyd o weddi ac ympryd, gyda’r pwyslais ar fwydo'r enaid yn hytrach na’r corff.

Ar y wal ger y ffynnon mae plac yn dangos y meudwy gyda dyfrgi ar ei dde ac ysgyfarnog ar ei chwith. Dywedwyd wrthyf fod yr ysgyfarnog yn symbol Cristnogol sy’n gysylltiedig a'r Forwyn Fair. 

Mae arddangosfa debyg o gadachau yn amgylchynu Ffynnon Deilo yn Llandeilo. Adeiladwyd hon yn hen wal yr abaty ac yn ôl yr hanes roedd y fedyddfa o fewn muriau'r abaty ac yma roedd Teilo yn bedyddio ei braidd.

Yn ôl Gomer Roberts (awdur Hanes Plwyf Llandybie) adeiladwyd y fedyddfa ger eglwys Llandyfân gan y Bedyddwyr ym 1785 ar safle Ffynnon Sanctaidd Gwyddfaen (SN6416717121). Ysgrifennodd ‘mewn rhai hen fapiau adwaenir y ffynnon fel y Baddon Cymreig yn Llandyfan. Oedd yfed y dŵr yma allan o benglog yn fantais i’r sal.

Ar ddechrau’r erthygl soniais am y cenhadon cynnar ddaeth i’r ynysoedd yma i droi'r paganiaid at Gristnogaeth. Dechreuais yr erthygl hon gyda'r Celtiaid ac maent yn ymddangos eto oherwydd cu bod yn credu bod yr enaid yn bodoli yn y benglog. Dyna pam y byddent yn torri pennau eu gelynion, heb y benglog ni fyddent yn gallu myned i fywyd tragwyddol. Felly byddai yfed dxivr sanctaidd o benglog rhywun sanctaidd yn cael ei ystyried fel bendith ddwbl ac yn gwella pob clwyf.

FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN

Rydym yn ddyledus i aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac eraill sy'n helpu i adfer a gofalu am y ffynhonnau yma yng Nghymru. 

Yn bersonol rwyf yn ddiolchgar i berchnogion a groesawodd mi ar eu tir ac am rannu eu gwybodaeth am y Ffynhonnau Sanctaidd. Mae’n hanfodol bod ein ffynhonnau sanctaidd yn cael eu diogelu gan eu bod yn rhan o'n hanes, ein traddodiadau ac yn bwysicaf oll ein treftadaeth, boed eich bod yn Gristion neu beidio.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Bethan Wyn, Pwllheli
Graham Thomas, Caerdydd
David Owen, Dinbych
Joye Evans Parry, Caerdydd
Megan Lloyd Owen, Llanddoged
Ann Williams, Rhewl, Treffynnon
Cliff Rhys Matthews, Bae Penrhyn
Robert Owen, Treoes

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 PYTIAU DIFYR

Allan o Sul, Gŵyl a Gwaith gan Catrin Parri Huws (Tudalen 15) Yn ardal Clynnog mae Fferm Tŷ Isa, sydd a’i safiad ar ochr Allt Mur Sant ond mae hefyd yn ffinio â Bryscyni Uchaf. Ar un adeg bu Tŷ Isa yn rhan o fferm hynafol Maes Glas, a berthynai yn yr hen amser i’r hen fynachlog cyn i Beuno Sant ei throi’n eglwys yn y flwyddyn 616 O.C. Dyna’r pryd y cafodd yr hen ffynnon sydd ar ochr y ffordd fawr ar dir Maes Glas ei galw yn Ffynnon Beuno. Mor loyw a chlir oedd ei dŵr yn yr haf ar adeg ymwelwyr, a byddai arian yn frith ar ei gwaelod. Credid y byddai raid cerdded tair gwaith gyda’ch cefn at y dŵr a thaflu arian neu geiniogau dros ysgwydd i gael dymuniad.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COFIO CYFRANIAD KEN

gan Eirlys Gruffydd .

Yn blygeiniol ar fore Dydd Calan collodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ei Thrysorydd ym marwolaeth sydyn Ken Lloyd Gruffydd. Roedd Ken yn ofalus iawn o eiddo’r Gymdeithas ac yn sicrhau fod popeth yn ei le hyd eithaf ei allu. Os nad oedd y llyfrau mewn trefn byddai mewn hwyl ddrwg! Diolch i’r cyfaill annwyl, Dennis Roberts, y Felinheli, sy wedi bod yn archwiliwr mygedol y Gymdeithas ers blynyddoedd ac sy’n gyfrifol am y wefan, byddai popeth yn gweithio allan i’r geiniog.

Ganwyd Ken ym Mhorthmadog ac wedi cael addysg yn ysgolion y dref dechreuodd brentisiaeth gyda chwmni penseiri lleol. Yma y datblygodd ei ddoniau o gofnodi adeiladau ar bapur. Roedd yn artist gwych yn enwedig gyda phen ag inc. Dyna pam fod nifer helaeth o ffurfiau ein ffynhonnau sanctaidd ar gof a chadw. Roedd astudio’r ffynhonnau yn cyfuno ei ddiddordeb o mewn pensaemiaeth a’m diddordeb innau mewn llên gwerin. Byddai’n cymryd amser maith i fesur ac i wneud darluniau bras o’r cerrig yn y ffynnon. Yna, ar ôl dod adre, byddai’n treulio amser maith yn creu’r darlun gorffenedig. Gellir gweld ffrwyth ei lafur mawr yn y ddwy gyfrol ar Ffynhonnau Cymru yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad. .

 Byddai’n dylunio pob carreg yn ofalus a hyn yn nodweddiadol o’i bwyslais ar fanylder a chywirdeb ym mhob peth a wnâi. Gallai weld ffynnon o safbwynt hollol wahanol i bawb arall. Erbyn hyn mae’r darluniau yma yn gofnodion hanesyddol o bwys. Wrth adnewyddu ffynnon gall y ffurf gael ei newid a’i golli, ond diolch i ddarluniau Ken, maent o hyd ar gof a chadw. Y flwyddyn nesaf bydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cyrraedd yr ugain oed ac mae ei llwyddiant i’w phriodoli i waith cyson a gofalus Ken a’i ddawn arbennig i ddylunio’r ffynhonnau. Diolch amdano. 

                        COFIO KEN LLOYD GRUFFYDD 

Un hwyliog rannai’i olud – i’w ardal

    ffrind ar fordaith bywyd,

deheuig ddyluniwr diwyd

    yn falch o fapio ei fyd.

 

Ffynhonnell ein cymhelliant – a’i ynni

    yn annog ein prifiant,

ei eiriau yn llifeiriant

    a’i blwy yn hafan i’w blant.

                                        Nia Wyn Jones

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ymddiheuraf fod y rhifyn yma’n hwyr yn eich cyrraedd a hynny am resymau amlwg.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOURPRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgruh, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458 cyfeiriad e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru : www.ffynhonnau.cymru

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

Home Up