Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                                            Rhifyn 38  Haf 2015

 

ADNEWYDDU FFYNNON GWYDDELAN SANT

 

Daeth nifer dda o bobl i Ddolwyddelan ar brynhawn Gwener, Mai 22ain i ddathlu’n swyddogol adnewyddiad Ffynnon Gwyddelan Sant.(SH73705248) Ym maes parcio gwesty’r Elen Castle croesawyd pawb gan Bill Jones a dadorchuddiwyd plac yn dweud hanes Gwyddelan Sant a’r ffynnon gan yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas. Mae’r ffynnon ar dir y gwesty. Yna cerddodd pawb ar y palmant gydag ochr mur gardd y gwesty cyn troi ar y dde ac i fyny’r llwybr cul at y ffynnon ei hun. Mae’r safle yn un hynod ddeniadol gyda chlychau’r gog a briallu yn tyfu ar y llethr o gwmpas y ffynnon. Yno hefyd dadorchuddiwyd plac yn union fel yr un yn y maes parcio. Maent wedi eu dylunio gan Falcon D. Hildred, artist enwog sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae nifer o unigolion a chymdeithasau wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau fod y ffynnon yn cael gweld golau ddydd unwaith eto. Diolch i Adam a Helen Hardy, perchnogion y safle, am fod mor barod i ganiatáu i Bill a Mary Jones  a Rhys Mwyn ac eraill i ddod yno i gloddio. Cafwyd cymorth ariannol gan Barc Cenedlaethol Eryri i dorri’r goeden oedd yn tyfu ger y ffynnon. Diolch am gefnogaeth Menter Siabod yn sicrhau ariannu gan y loteri er mwyn galluogi i’r gwaith fynd yn ei flaen. Diolch hefyd am gefnogaeth Cymdeithas Hanes Dolwyddelan. Roeddem ni fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn rhan o’r gefnogaeth hefyd. Bendithiwyd y ffynnon gan y Parchedig Gerwyn Roberts, Llanrwst. Mae trigolion Dolwyddelan yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y ffynnon a mawr obeithiwn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwarchod ac yn ei pharchu fel ffynnon sanctaidd arbennig iawn.

 

Yn y darlun o’r chwith i’r dde gwelir Yr Aelod Seneddol Guto Bebb, Yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas, Y Parchedig Gerwyn Roberts, Eirlys Gruffydd a Bill Jones o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru.

 Mae achub ac adnewyddu’r ffynnon arbennig yma yn gwireddu breuddwyd. Dyma pam y sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn y lle cyntaf er mwyn diogelu y rhan bwysig hon o’n treftadaeth bensaernïol, werinol ac ysbrydol. Pan fo ardal yn parchu ei ffynnon sanctaidd mae ei dyfodol, fel ei gorffennol mewn dwylo diogel. Diolch am gael bod yn rhan o’r broses a gallwn ymfalchïo yn y gamp o’i hadfer.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MALDWYN A’R GORORAU

    DYDD MERCHER  AWST 5ed

    PABELL Y CYMDEITHASAU 1  AM 1.00 o’r gloch

Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi trefnu cyfarfod arbennig i ddathlu

ADFER FFYNNON GWEDDELAN SANT, DOLWYDDELAN

                   Darlith gan Bill Jones a Rhys Mwyn.

Dewch yn llu i wrando ar yr hanes gan ddau arbenigwr dawnus.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

CYNHELIR

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

     YNG NGHANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI

CLYNNOG FAWR LL54 5BT

AR DDYDD SADWRN MEDI 19eg  2015    

10.30 y.b         Ymgynnull yn yr Ysgoldy

                                 10.45.y.b         Darlith ar Ffynhonnau Llŷn gan Elfed Gruffydd

           11.45.y.b         Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

                                            12.30.y.p         Cinio – Pawb i ddod â’i fwyd ei hun. Darperir paned.

                   1.30.y.p           Ymweld â rhai o ffynhonnau’r ardal.

Bydd arddangosfa ar Glynnog yn yr hen oes i’w gweld yn yr Ysgoldy.

Rhif cyswllt Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yw 01286  660853/655

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

FFYNHONNAU  LLES – CADWCH GYMRU’N DACLUS.

Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cefnogi cais Cadwch Gymru’n Daclus i gael grant gan y loteri  ar gyfer prosiect a all weddnewid dyfodol ein ffynhonnau. Diolch i Rheinallt Williams a Robert Owen am ein hysbysu am fodolaeth y prosiect a’n gwahodd i’w gefnogi.

Mae gwarchod ansawdd a hybu cadwraeth dŵr yn elfen annatod o amcan Cadwch Gymru’n Daclus i gael ‘Cymru hardd sydd yn cael ei gwarchod a’i mwynhau gan bawb’. Yr ydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r budd y daw i lesiant person wrth greu perthynas agosach gyda dŵr yn yr amgylchedd naturiol; perthynas sy’n croesi’r canrifoedd ond un sydd, fel y safleoedd sy’n amlygu’r berthynas yma, yn mynd yn fwyfwy angof.

Gweledigaeth ein prosiect pum mlynedd arfaethedig - Ffynhonnau Lles- yw amlygu’r neges gyfoes bwysig yma tra hefyd wella  llesiant a chyfleoedd ar draws ein cymunedau. Trwy gais creadigol ac uchelgeisiol i Gronfa Treftadaeth y Loteri ym mis mai 2015, gobeithiwn fedru gweddnewid agwedd pobl tuag at un o’n hadnoddau naturiol pwysicaf. Y bwriad amlygu’r cyfnodau ar draws hanes Cymru pan oedd dŵr yn cael ei ystyried fel elfen gysegredig a’r mannau ble  y daw i’r wyneb fel mannau hudolus a sanctaidd. Wrth ysbrydoli a chefnogi cymunedau ar draws Cymru i ymchwilio, cofnodi, adfera dathlu hanes a thraddodiadau hir y cannoedd o ffynhonnau a nentydd cysegredig sydd o gwmpas y wlad, bydd Ffynhonnau Lles yn gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o’n perthynas gyda dŵr ac o’r safleoedd sydd â chysylltiad mor arbennig â’r berthynas yma.

Bydd cyfleoedd ar gyfer prosiectau ymarferol, digwyddiadau cyhoeddus, diwylliannol a chelfyddydol yn ogystal ag arfau dehongli creadigol. Gobeithiwn hefyd fedru ysgogi mentrau cymdeithasol ble’n briodol. Bwriedir cynnig a datblygu cysylltiadau a’r tirlun o gwmpas y ffynhonnau fel canolbwynt a phwynt cyswllt i ardaloedd a chymunedau eraill, fel bod y rhwydwaith ffynhonnau hynafol yn cael ei ail-sefydlu fel mannau cyswllt.

Yn gefn i gyflawni’n gweledigaeth, ffurfiwyd partneriaeth gref; Cadwch Gymru’n Daclus, Church Tourism Network Wales, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed (i arwain ar ran yr Ymddiriedolaethau Archeolegol eraill), Culture & Democracy (Phil Cope- arbenigwr ag awdur ar ffynhonnau sanctaidd y DU) ac Artstation (Glenn Davidson- artist aml-gyfrwng sydd wedi cynnal prosiectau celf cymunedol yn canolbwyntio ar ddŵr a ffynhonnau).Y bartneriaeth yma fydd yn arwain y prosiect ac yn cefnogi cymunedau Cymru i fanteisio ar gyfle unigryw.

Ein gobaith yw y cawn benderfyniad cadarnhaol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ym mis Medi er mwyn cychwyn ar y camau datblygiadol o’r prosiect cyffrous yma.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Trefina Roberts, Llanddoged

Eifion Jones, Llanddoged

R.Glyn Jones, Llanrwst

Mair Owens, Llanrwst

Jane J. Owen, Yr Wyddgrug

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

RYDYM YN DAL I CHWILIO AM DRYSORYDD........

Daeth eto yn gyfnod i dalu tâl aelodaeth i’r rhai ohonoch nad oes gennych drefniant efo’ch banc i dalu’n uniongyrchol i gyfrif y gymdeithas. Y tâl yw £5 y flwyddyn. Gallwch anfon eich sieciau gyda’r ffurflen bwrpasol fydd yn eich rhifyn personol chi o Llygad y Ffynnon i Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH. Os ydych wedi ymaelodi yn y misoedd diwethaf ni fydd disgwyl i chi dalu tan y flwyddyn nesaf.

Mae’n rhaid i ni gael trysorydd ar fyrder oherwydd mae pob cost o gynhyrchu’r cylchgrawn  a phostio yn ogystal â  phob cost arall, fel talu am ddefnydd o Babell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod, i gyd yn dod allan o gyfri personol Eirlys. Roedd angen iddi hi a Ken arwyddo sieciau ond ers ei golli nid oes modd cael arian allan o’r cyfri. Mae talu i mewn yn iawn!

Mawr obeithiwn y bydd pethau’n dod i drefn yn ystod y Cyfarfod Blynyddol ym mis Medi. Nid yw bod yn drysorydd yn waith anodd. Mater o gofnodi taliadau’r aelodau a thalu allan am y cylchlythyr ac am y wefan yw’r gwaith mwyaf. Diolch i Dennis Roberts, ein harchwiliwr mygedol, am gadw llygad gofalus a chefnogol ar yr Ysgrifennydd wrth iddi geisio bod yn Drysorydd yn ogystal. Da chi dewch i’r adwy a sefwch gyda ni yn y bwlch. Ni all cymdeithas weithredu heb drysorydd. Mae’n waith llawer haws na chlirio ac adnewyddu ffynnon.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

CLIRIO  FFYNHONNAU   LLŶN

Diolch i Bleddyn Prys Jones am ganiatáu i ni ddefnyddio’r wybodaeth yma o LLYGAD LLŶN.

 Clirio Ffynnon Aelrhiw (SH23392848)  MEHEFIN 1af 2014

Cafwyd diwrnod clirio llwyddiannus ar ddydd Sul, Mehefin 1af, mewn llecyn arbennig iawn yn yr Ardal o Harddwch Naturiol

Eithriadol. Mae Ffynnon Aelrhiw yn ffynnon sanctaidd, tafliad carreg o Eglwys Sant Aelrhiw yn Rhiw. Mae hi’n ffynnon hanesyddol iawn , a chredir ers canrifoedd fod ei dyfroedd yn gallu iachau rhai afiechydon y croen. Diolch i’r gwirfoddolwyr a ddaeth i gynorthwyo, ac yn enwedig i Lee Oliver o Cadwch Gymru’n Daclus am drefnu’r digwyddiad  a sicrhau fod offer pwrpasol a lluniaeth wrth law.

Wrth weld cyflwr y safle cyn cychwyn y gwaith rhaid yw edmygu dewrder, cryfder a dyfalbarhad y gwirfoddolwyr. Mae ffynhonnau yn bethau byw a rhaid eu hymgeleddu yn barhaus. Mae berw’r dŵr arbennig o dda yn tyfu yn y ffynnon hon ac mae wedi gwella anhwylder ar y croen yn gymharol ddiweddar. (Gol.)

 

 CLIRIO FFYNNON FYW (SH2330913087) – MEHEFIN 15fed

Treuliwyd diwrnod difyr unwaith eto yn tacluso safle un o ffynhonnau hanesyddol Llŷn. Mynytho oedd y lleoliad y tro hwn a diolch i’r sawl ymunodd â ni i gynorthwyo. Dyma ffynnon  ddiddorol iawn gyda gwaith cerrig trawiadol o’i chwmpas. Fe’i lleolir i lawr heibio Capel Horeb a cheir golygfeydd arbennig iawn oddi yno i Fae Ceredigion a thu hwnt. Yn ôl traddodiad, mae dŵr y ffynnon yn llesol at anhwylderau’r llygaid ymhlith afiechydon eraill. Mae ffynhonnau Llŷn yn nodweddion hanesyddol diddorol ac yn rhan bwysig o’n treftadaeth. Gwaith pwysig felly yw ceisio gofalu amdanynt. Rydym yn gobeithio bydd cyfle eto yn y dyfodol i gydweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i dacluso mwy o safleoedd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan Llygad Llŷn ac yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni.

Mae angen calon gref a chorff cryf i ddechrau ar y gwaith o glirio ffynnon. Yn anffodus nid yw’r mwyafrif o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ddigon tebol i wirfoddoli! Ugain mlynedd yn ôl hwyrach - ond nid nawr!(Gol.)

 

 

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

MANION  DIFYR AM FFYNHONNAU

gan Howard Huws

CAS-MAEL, Sir Benfro (SN0029)

Ym 1696 ymatebodd y Parch Alexander Forde (1664-1723) i ymholiad Edward llwyd  ynghylch hynodion a hynafiaethau Cas-mael trwy yrru ato wybodaeth am y plwyf. Ymhlith manylion eraill ceir y canlynol:

Tomlyn well is good for Agues: another good for sore eyes, issuing out of

the earth close under a small rivulet called Nant-y-lake, and yet differing in

weight. Ffynnon fair also near Nant y lake . this Nant y lake is by Poncheston

town the North side  of it, and running out of a Moor.1

Ar fapiau Arolwg Ordnans 6 modfedd cynnar ceir “Puncheston Common” ar y tir corsiog i’r gogledd o Gas-mael. Dangosir, hefyd, nant yn draenio’r gors (sef “Nant y lake”), a ffynnon o’r enw “Ffynnon Wern”: a gellid tybio mai honno yw naill ai’r ffynnon golchi llygaid dolurus, ynteu Ffynnon Fair. Crybwyllwyd gwahaniaeth rhwng pwysau mesur o ddŵr y ffynnon lygaid a’r un mesur o ddŵr Ffynnon Tomlyn neu Nant y lake: rhywbeth a fyddai wedi ennyn chwilfrydedd gwyddonol Llwyd.

Ni chynhwyswyd Fynnon Fair Cas-mael yn Holy Wells of Wales, Francis Jones.

 

LLANPUMSAINT, Sir Gaerfyrddin ( SN 4129)

Y mae Francis Jones yn crybwyll ychydig fanylion ynghylch ffynhonnau Llanpumsaint, ond ceir darlun llawnach yn adroddiad yr Archddiacon Edward Tenison i gyflwr Archddiaconiaeth Caerfyrddin yn 1710. Dywed a ganlyn:

          There are five wells or pools in the River, which tradition says were made use of  by the five saints, & that each particular       Saint had his particular well. On S.Peter’s day yearly between two & three hundred people get together, some to wash in &            some to see these wells. In the summer time the people in the neighbourhood bathe themselves in these wells to cure aches. 2

 

Buasai’n ddiddorol gwybod pa bwll yn union a gysylltid â pha un o bum sant Llanpumsaint (Gwyn, Gwynoro, Gwynno, Ceitho a Chelynnin), ond os oedd yr wybodaeth honno wedi parhau hyd adeg ymweliad Tenison, ni chofnododd mohoni.

 

BANGOR, Gwynedd (SH5872)

Yn rhifyn Nadolig 2006  Llygad y Ffynnon bu imi grybwyll bod yn Archif Melville Richards gofnodi “Ffynnon Ddeiniol” ym Mhentir, ym mhen pellaf hen Faenol Bangor.  Daeth yr wybodaeth hon, yn ôl yr Archif, o LTA, sef Land Tax Assessments 1707. Tybio’r oeddwn y gallai’r ffynnon hon, yr honnid ei bod ym Mhentir, fod yn ychwanegol at y Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda, filltir i’r gorllewin o ganol Bangor.

Wedi bwrw golwg ar gofnodion y dreth, gwelaf fod yr asesiadau’n cynnwys trefgordd Pentir, Caerwedog a Thyllfaen yn un dosbarth. Ceir yno’n gyson gofnodion fel “The Right Revd. The Lord Bishop for Cae ffynnon daniel £0:2:9”3 Mae Pentir gryn ffordd o Fangor, ond daw Tyllfaen â ni llawer iawn agosach i gyffiniau gorllewinol y ddinas: felly mae’n amlwg mai Cae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda sydd yma, nid Ffynnon Ddeiniol ychwanegol ym Mhentir ei hun.

Yn yr un rhifyn o Llygad y Ffynnon mae J. E. Williams o Lanrug yn dal mai ym Mhant Tan Dinas, yn ymyl Dinas Dinorwig, mae “Ffynnon Ddeiniol”. Mae’r hanesydd lleol, Dafydd Whiteside Thomas, fodd bynnag, yn dweud mai un o ddwy “Ffynnon Ddeiniolen” bosibl yw’r ffynnon “yn y pant islaw Dinas Dinorwig”.4

Dychwelwn i ddinas Bangor. Yn yr erthygl yn rhifyn Nadolig 2006, darfu imi grybwyll cyfeiriad at “St. John’s Well” yn Inventory of Ancient Monuments 1958. Mae erthygl ddiweddarach yn Nhrafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn datgan nad yw’r “ffynnon sanctaidd” honno namyn sỳmp ar gyfer draenio tir Parc y Coleg.5 Erys traddodiad llafar, fodd bynnag, am “Ffynnon Ddeiniol” arall eto ar waelod Allt Glanrafon, tua chanllath i’r gorllewin o “St. John’s Well, a’i bod wedi’i chladdu pan godwyd adeilad Undeb y Myfyrwyr ddechrau’r 1970au. Canolfan Pontio sydd yno rŵan.

Wrth ddisgrifio gweddillion plas Esgobion Bangor ym 1801, mae Thomas Evans yn dweud:

         

           “In the garden of this palace is a mineral spring of common chalybeate

            and at Aber-ceggen, about  half a mile from the former, is another.” 6

Yr oedd gerddi’r plas yn ymestyn i fyny at odre Allt Glanrafon a Pharc y Coleg, felly tybed ai’r ffynnon ddurllyd (chalybeate) a grybwyllir gan Evans yw’r “Ffynnon Ddeiniol” y mae cof amdani ar waelod yr allt? Mae’r ymchwil yn parhau, i honno ac i’r un yn Abercegin (Porth Penrhyn) hefyd.

 TROED NODIADAU

 1 Emery,F.V. A New Reply to Lhwyd’s Parochial Queries (1696): Puncheston, Pembrokeshire.

Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru X,4, Gaeaf 1958, t.401.

 

2 Griffiths, G.M.  A Visitation of the Archdeaconry of Carmarthen, 1710.

Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru XVIII, 3, Haf 1974, t. 296.

 3 Dogfen Archifdy Gwynedd, Caernarfon X/QA/LT 6/3

 

4 Thomas, Dafydd Whiteside. Chwedlau a Choelion Godre’r Wyddfa. Caernarfon: Gwasg Gwynedd 1988 t.45.

 

5 White, R.B. Rescue Excavation on the New Theatre Site, University College Park, Bangor.

Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 33 (1971). tt. 246-247.

 

6 Evans, T, Cambrian Itinery: or Welsh Tourist.

London: C. Whittingham, 1801, Cyf.ll, t. 284

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

HOPIWR FFYNHONNAU

 

Mae Ian Taylor o Helsby, Swydd Gaer yn aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ac yn dysgu Cymraeg. Yn ein cynhadledd yn Llandudno fis Medi 2012 gofynnais os oedd rhywun yn gwybod pwy oedd y Well Hopper- y person oedd yn gyfrifol am y safle ar y we o’r un enw. Cefais syndod o glywed llais yn dweud, “Fi ydi o!” Yn fuan wedyn gofynnodd am gael ymaelodi yn y gymdeithas. Roedd gyda ni yn Nolwyddelan yn ddiweddar ac mae lluniau o’r ffynnon ar y wefan. Os gallwch fynd ar wefan Well Hopper cewch weld fod Ian wedi ymweld â nifer fawr o ffynhonnau ac wedi llwyddo i ddarganfod rhai sydd a’i safleoedd wedi  eu colli i bob pwrpas ymarferol ers blynyddoedd. Rydym yn fawr ein dyled iddo am gofnodi safleoedd ffynhonnau na lwyddwyd i ddod o hyd iddynt cyn hyn. Mae ei luniau o ffynhonnau hefyd yn werth eu gweld.

 Bydd Ian yn mynd i’r gynhadledd ffynhonnau sy’n cael ei threfnu gan Evelyn  Nicholson yn ardal Y Fenni a Hwlffordd ar 12-13eg o Fedi. Os oes diddordeb gan aelodau eraill o’r gymdeithas i fynd i’r gynhadledd yna gellir cael manylion gan Evelyn ar ei chyfeiriad e-bost: evelynicholson@:yahoo.co uk  

wellhopper.wordpress.com

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

Y DEG FFYNNON BWYSICAF YNG NGHYMRU

Yn ddiweddar gofynnwyd i’r gymdeithas nodi pa ddeg ffynnon  y credem oedd y rhai pwysicaf a dyma nhw i chi yn ôl y drefn – y pwysicaf yn gyntaf:

 

FFYNNON GWENFFREWI, TREFFYNNON, SIR Y FFLINT :  (SJ185763)

FFYNNON GYBI, LLANGYBI, GWYNEDD (SH427413)

FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR, GWYNEDD (SH4144950

FFYNNON SEIRIOL, PENMON, MÔN. (SH931808)

FFYNNON NON, TYDDEWI, PENFRO (SN751243)

FFYNNON DRILLO, LLANDRILLO-YN-RHOS (SH842812)

FFYNNON FAIR, PENRHYS, RHONDDA (ST001945)

FFYNNON Y SANTES ANN, TRYLEG, MYNWY (SO503051)

FFYNNON FAIR, PYLLALAI, POWYS (SO256683)

FFYNNON ISIO, PATRISIO, POWYS  (SO278224)

Tybed a ydych wedi ymweld â phob un o’r ffynhonnau hyn?

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

MAE ENW GWEFAN Y GYMDEITHAS WEDI NEWID

Bellach rydym yn cael ein hadnabod fel www.ffynhonnau.cymru ond gellir defnyddio Ffynhonnau.Cymru yn lle'r cyfeiriad llawn yn y porwr i fynd i’r wefan. Diolch i Dennis Roberts am sicrhau’r cyfeiriad newydd i ni.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

 

Os ydych yn dyfalu beth yw ystyr  cffc mae'r symbolau yn sefyll am -cffc -  sef Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar font Wingdings 2.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ffôn 01352 754458. Cyfeiriad e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru: www.ffynhonnau.cymru

Home Up