Home Up

Llygad y Ffynnon

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 42, Haf 2017

Ffynnon sanctaidd newydd

mewn groto Lourdes ym Morgannwg

 

  Llun o’r ffynnon ar lan Taf yn Abercynon

Ar un olwg, lle go annhebygol i ganfod groto Lourdes yw Abercynon yn Rhondda Cynon Taf, calon maes glo’r de ar un adeg: ond y mae un yno, yn union ar lan yr afon yng nghanol y dref. Mae’n un o sawl groto Lourdes ledled y byd, yn dathlu’r man yn Ffrainc lle cafodd Bernadette Soubirous, bugeiles dlawd, weledigaethau o’r Forwyn Fair ym 1858. 

Crëwyd groto Abercynon gan lowyr Gwyddelig ac Eidalaidd adeg streic fawr 1926, a hynny o ganlyniad i syniad offeiriad Catholig ar gyfer eu cadw’n brysur trwy greu cysegrfa Lourdes Gymreig.

Wrth i’r dynion arloesi’r llethr, gan godi cerrig enfawr o’r afon i gynnal y lan, darganfuasant ddwy darddell o ddŵr glân, yn gwrthgyferbynnu’n drawiadol â dŵr yr afon a oedd yn ddu gan lo o’r glofeydd ymhellach i fyny’r cwm. Buan iawn y creasant Lourdes Cymreig a enillodd enw am iacháu, ac ymwelai llond coetsis o bererinion o bob rhan o’r de, cynifer â 10,000 y flwyddyn.

Bu straeon, hefyd, am wyrthiau a briodolwyd i’n Harglwyddes, fel yr un a adroddwyd gan Gerald O’Shea 3 oed a drigai wrth yr eglwys. Un diwrnod aeth adref gyda dillad gwlybion â darnau o fwsogl yn sownd wrthynt, a dywedodd wrth ei fam ei fod wedi syrthio i’r dŵr, oedd yn 3 troedfedd o ddyfnder ar yr adeg honno. Fe’i hachubwyd gan wraig mewn gwisg las, y wraig y gellid ei gweld ar ei fedal. Teimlodd bachgen â pholio a ymwelodd â’r ffynnon symudiad ym mysedd ei draed, ac wedi naw ymweliad medrai Golwg agosach ar un o’r tarddellau gerdded. Iachawyd dyn oedd yn fud ac â golwg yn un llygad yn unig: a gwellhawyd anhwylderau croen llawer o bobl. 

 

Gyda’r blynyddoedd esgeuluswyd y gysegrfa, ac aeth yn anhygyrch oherwydd mieri, dail poethion a llysiau’r dial. Lansiwyd apêl adfer yn 2011, a bellach mae’r gwaith wedi’i gwblhau, a gellir ymweld â’r gysegrfa a’r ffynnon unwaith yn rhagor. Ni roddwyd enw i’r ffynnon erioed, ond y mae ei lleoliad yng nghysegr Ein Harglwyddes o Lourdes, ac achub Gerald 3 oed gan wraig mewn gwisg las (sef Ein Harglwyddes, yn amlwg) yn ei chymhwyso’n un o Ffynhonnau Mair Cymru, ac yn wir y ffynnon ddiweddaraf i’w chreu ymysg y 100 a rhagor a gysegrwyd yn enw’r Forwyn Fair yng Nghymru.

Ceir y groto a’r ffynnon ar dir Eglwys Gatholig Sant Thomas yn Abercynon, gerllaw’r B4275 ar ochr ddwyreiniol yr afon. O faes parcio’r eglwys, ewch i’r chwith o’r eglwys lle mae llwybr yn arwain i’r gysegrfa. Ewch i lawr y grisiau at lan yr afon, trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd y lan hyd oni chyrhaeddwch y ffynnon.   Cyfeirnod Arolwg Ordnans ST08399489.

 Janet Bord

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

CYFARFOD CYNGOR CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU 2017

Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym Mhlas Tan-y-bwlch ar Ebrill y 1af 2017 am 2.00 o’r gloch.

Yn bresennol: Howard Huws, Ysgrifennydd; Gwyn Edwards, Trysorydd; Eirlys Gruffydd-Evans, Aelod Anrhydeddus; Dafydd Jones, Bill Jones a Dennis Roberts.

Ymddiheuriadau: Y Dr Robin Gwyndaf, Dewi Ensyl Lewis.

Darllenwyd cofnodion y cyfarfod Cyngor blaenorol a gynhaliwyd ar Fawrth y 9fed 2016 ym Mhlas Tan-y-bwlch. Cytunwyd bod angen cywiro’r nodyn ynghylch faint o arian oedd yn y cyfrifon. Roedd y ffigur o £2,470.07 yn y Cyfrif Cadw yn anghywir, gan mai dyna oedd cyfanswm y ddau gyfrif. Ar wahân i hynny, derbyniwyd fod y cofnodion yn gywir.

Materion yn codi:

a. Llofnodi sieciau. Penderfynwyd glynu at y trefniant ar gyfer llofnodi sieciau, er nad yw Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd bellach.

b. Y Gadeiryddiaeth. Clywyd fod Dafydd Jones wedi gorfod ymddiswyddo o’r Gadair oherwydd rhesymau iechyd.  Dewiswyd Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd.  Bydd angen cadarnhau’r penodiad hwn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.

c. Adolygu rhestr aelodaeth. Roedd Dennis Roberts wedi adolygu’r rhestr cyn y gyrrwyd allan rifyn Nadolig “Llygad y Ffynnon”.

ch. Dogfennau’r Gymdeithas (Archifdy). Clywyd fod y dogfennau gan y Cadeirydd, ac y byddai hi’n rhoi trefn arnynt cyn gynted ag y byddai modd. Parthed cyhoeddi llyfr ynghylch ffynhonnau de Cymru, clywyd nad oedd Gwasg Carreg Gwalch yn fodlon cyhoeddi un Cymraeg, ond y byddai’n fodlon cyhoeddi un Saesneg. Cytunodd yr Ysgrifennydd i yrru at y Cadeirydd gopi electronig o fynegai ffynhonnau Sanctaidd Dyfed.  

d. Manylion y Gymdeithas yn nyddiadur Y Lolfa. Yr Ysgrifennydd i hysbysu’r Lolfa ynghylch manylion cyswllt cywir y Gymdeithas.

Adroddiad yr Ysgrifennydd:

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod y gwaith ysgrifenyddol yn mynd rhagddo’n hwylus, a’i fod mewn cyswllt efo Fforwm Hanes Cymru.

Adroddiad Golygydd Llygad y Ffynnon:

Ymddiheurodd y Golygydd am y rhifyn diwethaf (Nadolig 2016), oedd â chamgymeriadau iaith oherwydd camddealltwriaeth gyda’r argraffwyr. Oherwydd pris uchel defnyddio Sackville Printers, Bangor, penderfynwyd holi Gwasg Eryri, Porthmadog ynghylch costau argraffu, neu fynd yn ôl at ddefnyddio EWS Printing, Pinfold, Bwcle. Pris cyhoeddi’r rhifyn diwethaf fu £227.50.

Cafwyd gwybod bod Ian Taylor yn gweithio ar fynegai i ôl-rifynnau Llygad y Ffynnon.  Mae’r gwaith bron wedi’i gwblhau, ac y mae’n ganmoladwy.  Penderfynwyd rhoi’r mynegai ar y we ac ar ddisg.

Erbyn hyn mae 7 o aelodau yn derbyn fersiwn electronig o Llygad y Ffynnon. Gan y cafwyd 3 neu 4 o aelodau newydd yn ddiweddar, mae angen cyhoeddi eu henwau yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.

Penderfynwyd gyrru rhifyn electronig, yn ogystal â rhifyn papur, i bawb sydd wedi rhoi manylion cyfeiriad e-bost inni, gyda neges yn eu hannog yn gryf i dderbyn copi electronig yn unig o hynny ymlaen am y byddai hynny’n arbed costio argraffu a phostio i’r Gymdeithas.

Adroddiad y Trysorydd:

Clywyd y bu £2,397.88 yn y ddau gyfrif ar 1.7.16, a £2,255.85 ynddynt erbyn 31.3.17, sef gostyngiad o £142.03.

Y mae rhai aelodau eto heb newid eu harchebion banc i adlewyrchu’r tâl aelodaeth newydd. Yn ôl Dennis Roberts, mae 41 o bobl ar y rhestr aelodau sydd ddim wedi talu ers blwyddyn neu ragor. Penderfynwyd cysylltu’n uniongyrchol efo’r rhai sydd heb dalu am y flwyddyn 2015/16, gan ofyn a ydynt yn dymuno parhau’n aelodau. Aethpwyd trwy’r rhestr aelodau gan nodi rhifau ffôn fel y gallai aelodau o’r Cyngor alw’r rhai sydd heb dalu a’u hatgoffa.  Penderfynwyd rhoi nodyn yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon hefyd. Penderfynwyd rhoi cynnig o flaen y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf fod unrhyw un nad yw wedi talu am y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aelodau.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol:  

a.  Ar awgrym  y Dr Robin Gwyndaf, derbyniwyd y dylid gofyn i Rys Mwyn a hoffai ymuno â’r Cyngor, a bod yr Ysgrifennydd i ofyn iddo.

 

b. Cynhadledd Waterford 26-27.6.17. Clywyd y cynhelir “An Tobar”, cynhadledd ynghylch ffynhonnau sanctaidd, yn Waterford ddiwedd Mehefin. Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n mynd yno ar ran y Gymdeithas, a mynegodd Bill Jones ddiddordeb hefyd.

Dyddiad a man cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

Cytunwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2017 ym Mhlas Tan-y-bwlch ar 22.7.17. Mae’r Cadeirydd wedi gofyn am ystafell o 10:00 hyd 12:00 y bore hwnnw. Yn y prynhawn bwriedir ymweld â ffynhonnau lleol, gan gynnwys Ffynnon Fair, Maentwrog; Ffynnon Fihangel, Ffestiniog, ac efallai ffynhonnau eraill yn y cyffiniau.

Yr Eisteddfod Genedlaethol:

Cynhelir cyfarfod y Gymdeithas am 2:30 bnawn dydd Llun y 7fed o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau. Thema’r cyfarfod fydd “Ffynhonnau Môn”, gyda chyflwyniad gan y Cadeirydd.  

Unrhyw Fater Arall:

Gan nad oedd dim arall i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 15:45 o’r gloch.

Howard Huws

Ysgrifennydd

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Ffynnon Leinw, Cilcain (2)

Yn ei Commentarioli, mae Humphrey Llwyd, wedi sôn am ffynnon Gilcain, yn mynd rhagddo i drafod Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon, lle’r “addolir yn ofergoelus y wyryf Wenfrewi, ac y gwellheir llawer o bobl trwy yfed y dŵr ac ymdrochi ynddo. Mae’n amlwg ei fod yn disgrifio nid rhyfeddod naturiol yn unig, ond “ffynnon sanctaidd”. Ni ddarfu i neb, o Llwyd hyd Pennant, fyth drafod Ffynnon Leinw yn y modd hwn: ond er gwaethaf hynny, datblygodd tuedd o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen i’w hystyried yn “ffynnon sanctaidd”.

Roedd yr awduron cynnar yn deall eu bod yn dilyn adroddiad Gerallt Gymro ynghylch rhyfeddod naturiol, ac yn ysgrifennu’n unol â hynny. Nid oedd ganddynt lawer o ddiddordeb mewn ffynhonnau sanctaidd ac “ofergoelion” o’r fath, ac efallai yr arweiniodd hynny at fethiant i gofnodi gwybodaeth ynghylch Ffynnon Leinw nad oedd yn unol ag adroddiad Gerallt: ond erbyn diwedd yr 17eg ganrif yr oedd hynafiaethwyr wedi ehangu maes eu casglu gwybodaeth, ac yn barod i ystyried tarddellau nid yn unig fel rhyfeddodau naturiol, ond hefyd fel nodweddion ag iddynt arwyddocâd hanesyddol.

Darfu i adran hynafiaethau holiadur plwyfol Edward Llwyd ofyn yn benodol am “Enwau’r Llynnoedd a’r Tarddellau hynod; ac a nodwyd unrhyw beth rhyfeddol yn eu cylch”. Dyma ddechrau’r casglu gwybodaeth (er mor anghyflawn ac aneglur) ynghylch ffynhonnau sanctaidd y Gymru ganoloesol, ac yn achos Ffynnon Leinw, darfu i Pennant (wedi crybwyll y dyb ei bod yn llenwi ac yn treio) ei disgrifio’n “ffynnon betryal hir gyda wal ddwbl o’i chylch”: yr awgrym cyntaf bod adeiladwaith am y darddell erbyn y 1780au.

Esbonnir yr adeiladwaith gan grybwylliad Gwallter Mechain (1761-1849) yn Topographical Dictionary Samuel Lewis (1848) bod y ffynnon yn boblogaidd iawn ar gyfer ymdrochi. Hwyrach y’i defnyddid at y diben hwnnw am gryn amser cyn y cofnodwyd y ffaith, ond yn sicr daeth ymdrochi er mwyn gwella’r iechyd yn ffasiynol iawn yn y 18fed ganrif, gan roi ail fywyd i lawer hen ffynnon sanctaidd. Digwyddodd hynny nid nepell o Gilcain yn Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, er enghraifft.  

Am y rhan olaf o’i oes bu’r casglwr llên gwerin dyfal hwnnw, y Parch. Elias Owen, yn gweithio ar lyfr o’r enw “The Holy Wells of North Wales” nas cyhoeddwyd fyth. Heblaw am grybwyll sylwadau awduron blaenorol ynghylch Ffynnon Leinw, a ffynhonnau llenwi a threio eraill, rhydd ddisgrifiad go fanwl o adeiladwaith y ffynnon a’i chyflwr. Bu’n amlwg mewn cyflwr da ar un adeg, ond bellach roedd wedi dirywio, gyda chwyn a choed gwern yn tyfu o’i hamgylch. Roedd yno weddillion waliau dwbl, seston fawr, a grisiau i lawr i’r dŵr.  Cadarnhaodd gwraig leol y defnyddid y dŵr at ddiben yfed, ac y bu llawer yn ymdrochi yno. Roedd gan Owen lythyr oddi wrth Ficer Rhyd-y-mwyn, hefyd, yn datgan mai dŵr wyneb oedd yn cyflenwi’r ffynnon, a’i bod yn hesb bob haf: roedd gwaith mwyn yr Hendre wedi amharu ar y cyflenwad gwreiddiol.

Ar wahân i’r ffaith bod pobl wedi ymdrochi yno, a oes unrhyw awgrym yr ystyrid Ffynnon Leinw’n ffynnon sanctaidd, yn ogystal â’i bod yn rhyfeddod naturiol?  Efallai.  Ym 1623 priododd Syr Thomas Mostyn Elizabeth ferch James Whitelocke o Gaer.  Roeddent yn byw yng Nghilcain, ac ymwelwyd â hwy yno gan frawd Elizabeth, Bulstrode Whitelocke. Tra yno, cofnododd yn ei ddyddiadur iddo ymweld â “henebion a hynodion”, gan gynnwys “St Katherines Well”, a oedd yn hynod oherwydd pe teflid dim aflan iddi, âi’n hesb hyd yr Ŵyl Gatrin ganlynol, pryd yr adlenwai drachefn.

Ni allai’r “St Katherine” hon fod yn neb llai na’r Santes Gatrin, a oedd yn eithriadol boblogaidd ddiwedd y canol oesoedd yng Nghymru fel yng ngweddill gorllewin Ewrop.  Cysegrwyd tair eglwys ganoloesol yn ei henw yng Nghymru (o gymharu â 62 yn Lloegr), gyda ffynhonnau sanctaidd yn dwyn ei henw yn yr Wyddgrug, Caerhun, Gresffordd a Rudbaxton. Y mae ffynnon sanctaidd ger Eglwys Gatrin yng Nghricieth, ond “Ffynnon y Saint” yw enw honno, a dim ond yn ddiweddar y daeth yn gysylltiedig â Chatrin.  

Ai Ffynnon Leinw yng Nghilcain, felly, oedd y “St Katherines Well” yr ymwelodd Whitelocke â hi?

O blaid credu hynny mae’r ffaith iddo ei chrybwyll yn ei ddyddiadur yn union cyn cofnodi ymweliad â Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon hefyd, yn yr un modd ag y mae Humphrey Llwyd, Drayton a Speed hwythau’n cofnodi ymweld â Ffynnon Leinw a Ffynnon Wenfrewi yn yr un gwynt, fel petai.  Mae Camden yn crybwyll y ddwy ffynnon yn ei bennod fer ynghylch Sir y Fflint. Fel Ffynnon Leinw, roedd llif “St Katherines Well” yn ysbeidiol: ond serch hynny nid yw’r un awdur arall yn cysylltu’r Santes Gatrin â Ffynnon Leinw, ac nid oes unrhyw “Ffynnon Gatrin” nac ôl parchu Catrin yn unrhyw blwyf cyfagos, heblaw bod holiadur Edward Llwyd yn cofnodi “Ffynnon Seint y Katrin” rhywle ym mhlwyf yr Wyddgrug.

Nid yw hynny’n profi nad oedd ffynnon gyffelyb yng Nghilcain, gan y gwyddom i’w holiadur fethu â chofnodi sawl ffynnon a gofnodir gan awduron eraill: ond peryglus yw dadlau ar sail absenoldeb tystiolaeth, ac ni wyddys am unrhyw ffynhonnau eraill yng Nghilcain (lle’r oedd Whitelocke yn aros) ond Ffynnon Leinw, Ffynnon Fihangel a Thardd y Dŵr, man ailymddangosiad Fechlas.

Gall ffynhonnau fod â rhagor nag un enw, neu newid eu henwau gydag amser. Hwyrach y bu’r enw  “St Katherines Well” ar darddell sydd wedi’i llwyr anghofio erbyn hyn, ond ple bynnag oedd, yr oedd rhywle o fewn pellter marchogaeth cyfleus i Whitelock yng Nghilcain. Fel y cofiwn, yr oedd wedi mynd i gael golwg ar “henebion a hynodion”, ac nid oedd dim yn y cyffiniau mor hynod, yn ôl tystiolaeth cofnodwyr a dysgedigion y cyfnod a sawl canrif flaenorol, â Ffynnon Leinw. O gofio bod plwyfi Cilcain a’r Wyddgrug yn ffinio â’i gilydd, ac nad yw Ffynnon Leinw’n bell o’r ffin honno, a yw’n bosibl bod y sawl a atebodd holiadur Edward Llwyd wedi camleoli “Ffynnon Seint y Katrin” yn yr Wyddgrug, yn hytrach na Chilcain? 

Efallai y bu gan Ffynnon Leinw ddau enw, sef un cysegriadol, “Ffynnon Seint y Katrin”, ac un arall, “Ffynnon Leinw”, a ddisgrifiai ei hymddygiad. Os felly, gallai’r duedd i ymdrochi ynddi ddyddio nid o’r ddeunawfed ganrif, ond o’r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Gallai’r rhyfeddod naturiol a’r ffynnon sanctaidd fod yn un.

 

Tristan Grey Hulse

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Cofiwch y cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ym Mhlas Tan-y-bwlch, Maentwrog am 10 o’r gloch fore dydd Sadwrn yr 22ain o Orffennaf eleni. Bydd yn parhau hyd hanner dydd, ac wedi cinio bwriedir ymweld â Ffynnon Fair, Maentwrog; Ffynnon Fihangel, Ffestiniog, ac efallai ffynhonnau eraill  y cyffiniau. Dewch oll i fwynhau’r diwrnod!

 CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC  

 

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd

Janet Bord

Er bod tua 700 ffynnon sanctaidd yng Nghymru, bach o gofnod sydd o’r mwyafrif ohonynt. Nid oedd y corff mawr ohonynt ond yn hysbys yn eu bro: bach iawn ohonynt oedd yn wybyddus y tu hwnt i’w plwyf, ac fel arfer ni feddyliodd neb am eu cofnodi pan oedd defnydd arnynt. O ganlyniad anghofiwyd a chollwyd llaweroedd, heb adael rhagor o gof amdanynt na hen enw cae. Ar hyn o bryd rwyf yn ymchwilio i holl ffynhonnau seintiau Cymru: ffynhonnau seintiau, yn hytrach na’r holl ffynhonnau sydd ag enwau arnynt, o ba rai y dichon fod sawl mil. Nid yw pob ffynnon neu sba sy’n dwyn enw yn ffynnon sanctaidd: rhaid i ffynnon o’r fath ddwyn enw sant, neu fod â rhyw gysylltiad crefyddol penodol. Nid oedd llawer o ffynhonnau ond yn gyflenwadau dŵr lleol, ag enw personol, efallai (enw’r perchen neu’r defnyddiwr, fel arfer), ond yn aml heb unrhyw draddodiadau.

Ychydig iawn o ffynhonnau sanctaidd oedd ar lwybr ymwelwyr y 18fed ganrif a’r 19eg, heblaw am y rhai enwog am ryw reswm penodol, megis ffynnon fwyaf adnabyddus a thrawiadol Cymru, Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint, sy’n parhau i ddenu’r afiach yn y gobaith o gael gwellhad, yn ogystal â llawer o bererinion Catholig ac ymwelwyr anghrefyddol. Ymwelid, hefyd, â ffynnon a ddaeth yn ddrwg-enwog oherwydd ei henw fel ffynnon felltithio, sef Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-Rhos yn Sir Ddinbych, gan lawer o dwristiaid y 19eg ganrif yn ogystal â chan bobl leol a gredent yn ddiffuant y gallai gelyn eu melltithio a’u “rhoi yn y ffynnon”.

Ysgrifennodd twristiaid hefyd am ffynhonnau hynafol ar lwybrau pererinion awgrymedig neu’n agos at gysegrfannau saint pwysig, megis Ffynnon Feuno yng Nghlynnog Fawr yn Sir Gaernarfon: ond ni ddenodd y mwyafrif o ffynhonnau lleol bychain fawr o sylw’r byd mawr y tu allan. Yn y de cynhwyswyd un ffynnon fechan a dinod yr olwg yn nheithiau twristiaid, yn bennaf oherwydd ei lleoliad dramatig, ac o ganlyniad mae disgrifiadau o’r hyn a ganfu teithwyr yno wedi rhoi inni olwg ar sut y gall hanes ffynnon sanctaidd ddatblygu a newid gyda’r blynyddoedd. Darganfûm hyn pan osodais yn nhrefn amser yr holl ddisgrifiadau y gallwn eu canfod o’r hon a elwir yn awr yn Saint Govan’s Well, ym mhlwyf Bosherston nid nepell o Ddinbych-y-pysgod yn ne Sir Benfro.

Pwy oedd “Saint Govan”?

Y dirgelwch cyntaf, fel yn fynych yn achos ffynhonnau saint, yw pwy oedd “Saint Govan”. “Govan” yw’r sillafiad a welir amlaf heddiw, ond y mae sillafiadau eraill o’i enw yn cynnwys “Sct. Gouen” (y cynharaf y canfûm i, ar fap Sir Benfro 1578 Saxton); hefyd Gowan (ar fap Arolwg Ordnans 1868, e.e.), Gowen, Goven, Gofan a Gobin.  Efallai y’i ganed tua’r flwyddyn 500 ac y mae’n bosibl y bu’n ddisgybl i Eilfyw, y sant o Sir Benfro a fedyddiodd Dewi Sant, ac y dywedir (er yn anghywir) ei fod yn Wyddel, ac yn un â Sant Ailbe o Emly, esgob Gwyddelig enwog. Mae’n bosibl ei fod yn nai i Ddewi hefyd, gan y dywed un ffynhonnell mai chwaer Dewi oedd ei fam.

Dryswyd, hefyd, rhyngddo ef a Gobhan, sant Gwyddelig sy’n hysbys ym muchedd Sant Ailbe, oherwydd tebygrwydd eu henwau a’r cymysgu Ailbe ag Eilfyw. Deillia’r cymysgu hwn o gyn belled yn ôl â diwedd yr 11eg ganrif, ym Muchedd Dewi Rhygyfarch. Gallai sillafu enw’r sant o Sir Benfro yn “Gobin” mewn adroddiad gan John Ray yn yr 17eg ganrif awgrymu ei fod yn sant brodorol o Sir Benfro y dryswyd rhyngddo â disgybl Sant Ailbe oherwydd bod eu henwau mor debyg. Yn un “Buchedd Ailbe”, dywedir mai cogydd Sant Ailbe oedd y Gobhan Gwyddelig, ac iddo deithio i Rufain gyda dau o’i ddisgyblion er mwyn cael copi o gyfarwyddiadau cywir dathlu Offeren.

Bu Gobhan yn wael ar CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC y cwch, gan farw a byw drachefn, digwyddiad a ddangoswyd, fe ymddengys, ar un o’r misericordiau yng nghadeirlan Tyddewi. Mae’n debygol, fodd bynnag, mai dau ddyn cwbl wahanol oedd Govan/Gobin a Gobhan, ac y rhagdybiwyd yn ddiweddarach mai’r un un oeddent oherwydd tebygrwydd eu henwau a chyfuno’r ffynonellau.1

(I’w pharhau.)

Nodiadau.

[1]   Trafodir hunaniaeth St Govan yn S. Baring-Gould a John Fisher, The Lives of the British Saints (London, 1907, 1908, 1911, 1913), III, 143-5;  Elissa R. Henken, Traditions of the Welsh Saints (Cambridge, 1987), 258-9;  Pádraig Ó Riain, A Dictionary of Irish Saints (Dublin, 2011), 58-60, 367

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Croeso i’n  haelodau newydd!

 

Elizabeth Stephen Colbourne, Rhosllannerchrugog

Rosealie Lamburn, Mogerhanger

Elizabeth Rees, Deganwy

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.  Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru . Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

 

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth. Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn  http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn   trysorydd@ffynhonnau.cymru , neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.  

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein. 

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Os ydych yn mynd ar wyliau eleni, cofiwch dynnu lluniau unrhyw ffynhonnau diddorol a welwch,

holwch am fanylion yn eu cylch, a gyrrwch y manylion at olygydd “Llygad y Ffynnon”!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Home Up