Home Up

Llygad y Ffynnon

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 43, Nadolig 2017

 

 

Gwiriwch Eich Ffynonellau!

 

Eleni cyhoeddwyd llyfr diddorol iawn o’r enw “Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd”, gan Glan George (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch). Y mae’n trafod pwnc hen deyrnasoedd Brythonaidd y tiroedd sydd heddiw yng ngogledd Lloegr a de’r Alban, a faint o’u hanes a’u diwylliant sydd wedi goroesi yno hyd y dydd hwn. Gyda hynny mewn golwg, cyfeirir (ar dudalen 328) at ddwy ffynnon, sef “Ffynnon y Santes Helen” ym mhentref Great Asby yn Cumbria (gweler y llun uchod) a “Ffynnon Powdonnet” ger Morland. Dyma a ddywed Glan George:

“I’r hen Geltiaid, roedd lleoedd gwlyb yn fannau sanctaidd, fel y tystiai’r creiriau a daflwyd i lynnoedd fel Llyn Cerrig Bach. Gyda thwf Cristnogaeth, diflannodd y mwyafrif o’r defodau oedd yn ymwneud â dŵr, ond parchuswyd eraill i’w cynnal ar wedd newydd. Dyna a ddigwyddodd i rai o ffynhonnau paganaidd Ardal y Llynnoedd, trwy newid eu henw a throi’r ddefod yn ddefod

Gristnogol. Un enghraifft yw’r ffynnon a gysylltid â’r dduwies Geltaidd Alauna ym mhentref Great Asby. Wedi derbyn y ffydd, newidiwyd yr enw i ‘St Helen’s Well’, felly nid syndod gweld mai eglwys y pentref oedd yn gyfrifol am adnewyddu’r safle yn 2008.

“Mae’n debyg mai’r syniad bod gan y dŵr rhyw briodoledd iachusol oedd yn gyfrifol am oroesiad Ffynnon Powdonnet ger Morland er bod y cof am ragoriaethau’r dŵr wedi pallu. Yn y ganrif ddiwethaf dywedir mai hen wraig o’r pentref oedd yn gwarchod y safle, ond y mae’n derbyn mwy o sylw erbyn hyn. Ymddengys o sillafiad yr enw mai ‘Pwll Dunawd’ oedd yr enw gwreiddiol ond ni wyddys pwy oedd hwnnw. Dunawd oedd enw mab Pabo Post Prydain [sic] yn y chweched ganrif ond yr oedd teyrnas Pabo ymhell tua’r gorllewin. Gwyddys o ganu Taliesin fod gan Urien lys ar lannau afon Lyvennet ond gall y ffynnon fod yn llawer hŷn na hyn. Pan ymwelais á’r safle beth amser yn ôl, yr oedd rhywun wedi gosod maen hir gyda’r enw ‘Powdonnet’ wrth ymyl y ffynnon ac yr oedd tusw o gennin Pedr wrth ei droed.”

Mae’r dyfyniad uchod yn ddiddorol, ond hefyd yn amlygu rhai o’r anawsterau sy’n wynebu’r sawl a gais wybodaeth am ffynhonnau. Mae’n wir y ceir ffynhonnell gref a pharhaus o’r enw “St Helen’s Well” yn Great Asby, ac y ceir hefyd dduwies Geltaidd o’r enw Alauna sydd â mannau wedi eu henwi ar ei hôl yn Llydaw, Ffrainc, Yr Alban a Lloegr, megis afon Aulne yn Llydaw; caerau Rhufeinig Alaunia (Maryport a Kendal) yn Cumbria; afon Aln yn Northumbria, ac efallai Allan Water yn yr Alban.Tenau, fodd bynnag, yw’r dystiolaeth o blaid awgrym a wnaed (gan  G. Jones yn ei “Holy wells and the cult of St Helen” yn y cylchgrawn Landscape History, 1986) bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y dduwies hon â St Helen’s Well yn Great Asby, a ffynhonnau Helen yn gyffredinol. Yr un mor simsan yw’r goel bod a wnelo Ffynnon Helen â duwies Geltaidd o’r enw “Elin”; a bod agos pob ac unrhyw ffynhonnell ddŵr gerllaw neu o     fewn golwg unrhyw eglwys yn “ffynnon sanctaidd” (Cumberland and Westmorland Herald, 26.1.2007). Pedr, nid Helen, yw nawddsant eglwys Great Asby.

Maen hir Powdonnet, a godwyd ym 1994 Ddim mor hynafol, felly!.         

Felly hefyd yn achos ffynnon Powdonnet. Crybwyllir yr enw “Powdonet” gyntaf ym 1637, ond nid oes sôn am “Powdonnet Well” hyd 1859. Yn ôl erthygl yn y Cumberland and Westmorland Herald 10.6.1999, nid yw dŵr y ffynnon byth yn pallu, nac yn rhewi. Mab Pabo Post Prydyn, yn ôl yr hen achresi, oedd Dunawd, tad Deiniol Sant ac ewythr Asaff a Thysilio: ond ni wyddom ymhle’n union yr oedd teyrnas Pabo, ac nid yw’n amhosibl y bu ganddo gysylltiad â dyffryn Llwyfenydd (Lyvennet).

Efallai’n wir mai o “Pwll Dunawd” y daw “Powdonnet”, ac efallai mai Dunawd fab Pabo oedd hwnnw: ond yr un mor debygol yw mai Dunawd neu Donnet arall roddodd ei enw ar y ffynnon. Bu “Donatus” a ffurfiau arno megis Dunawd neu Dunwyd yn enw eithaf cyffredin, nid un unig ymysg Brythoniaid ond hefyd ymysg    

Gwyddelod a Normaniaid. Nid oes dim i gysylltu’r safle ag unrhyw sant o'r enw “Dunawd”, ac fe gysegrwyd yr eglwys leol yn enw Sant Lawrens.

                                                                            H.H.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Atgof ynghylch Ffynnon Feuno, Tremeirchion (1856).

“Y tu hwnt i’r pentref [Tremeirchion], ac wedi disgyn tua milltir i lawr yr allt, heibio i gellïoedd ffynidwydd, a choed deiliog Plas Brynbela, deuthum at droed yr allt, ac ychydig lathenni o ymyl y ffordd safai’r dafarn, y siop groser, a’r ffermdy a elwid yn Ffynnon Beuno...O’i chymharu â ffynnon enwog y Santes Wenfrewi yn Nhreffynnon, mae’r eiddo Beuno Sant yn eithaf dinod, heb rinweddau y tu hwnt i burdeb a chroywder. Cesglir y dŵr mewn tanc carreg yn nesaf at dŷ Ffynnon Beuno, a chaniateir iddo ddianc, er budd y pentrefwyr, trwy geg agored portread anghelfydd o ben dynol, sydd wedi’i osod yn y wal flaen.”  Stanley, H. M., a Stanley, D. The Autobiography of Sir Henry Morton Stanley. Santa Barbara: The Narrative Press, 2001, t. 50.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFf 

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Er mwyn cymhlethu rhagor ar hyn, awgrymwyd hefyd mai Gawain, un o farchogion enwog Bwrdd Crwn Arthur, oedd Gofan. Ffurfiwyd y cysylltiad hwn dros ganrifoedd o amser, os yw crynodeb gan Cosmo Innes yn y 19eg ganrif yn gywir: ond nid yw ei ymdriniaeth ef â’r chwedl ond yn ymwneud â manylion claddu Gawain wedi’i farwolaeth, ac nid yw’n ystyried y gallasai fod yn sant yn byw mewn cell unig ar lan môr Sir Benfro.

 

“Lladdwyd Syr Gawain, marchog enwog y Bwrdd Crwn, gan Syr Lawnslot, a hawliodd llawer i fan anrhydedd cadw ei weddillion: dywed Langtoft y’i claddwyd yn Wybre yng Nghymru;  lleola Caxton a Leland ei fedd yn Nofr; ac yn ôl y Brut, cludwyd ef i’w famwlad, Yr Alban. Bu bod enw mor debyg â Govan, a gysylltir â man hynod, yn ddigon, i bob golwg, i gyfiawnhau hawliad ar ran Sir Benfro. Nid yw’r honiad, er mor rhyfedd, yn gyfoes, oherwydd edrydd William o Malmesbury am ganfod ar lan môr rhanbarth Rhos yng Nghymru, yng nghyfnod Gwilym Goncwerwr, fedd Gawain, 14 troedfedd o hyd; a hefyd y llongddrylliwyd y marchog anafedig ar y lan, ac y’i lladdwyd gan y brodorion. Gwrthyd Leland y chwedl, ond cofnoda fod adfeilion castell ar y lan, ag arno enw Gawain; a dywed Syr F. Madden [hynafiaethydd, 1801-73] y daliai traddodiad y fro mai yn St. Govan’s Head y claddwyd nai’r Brenin Arthur.”2

Hawliwyd hefyd mai Gawain oedd Gwalchmai, cymeriad chwedlonol o’r traddodiad Cymreig, sydd a’i enw i’w gael yn Sir Benfro. Mae Castell Gwalchmai (“Walwyn’s Castle”) tua 16 milltir i’r gogledd-orllewin o St Govan’s Head, ac y mae cysylltiadau lleol eraill: dywedodd Lewis Morris fod bedd Gwalchmai rhwng ynysoedd Sgomer a Sgogwm, nid nepell oddi wrth y lan tua’r gogledd-orllewin. Ymddengys yn ddichonol, gan nad oes ond ychydig filltiroedd rhwng y lleoliadau Gwalchmai/Gawain a Govan, y bu i’r tebygrwydd enwau achosi i’r traddodiad Syr Gawain ymledu i’r de i diriogaeth St Govan, fel y dengys sylw o eiddo Syr Frederic Madden a nodwyd uchod. Ymddengys mai ef oedd y cyntaf i gamleoli bedd Gawain o Gastell Gwalchmai i St Govan’s Head, felly nid yw’r dybiaeth mai Gawain yw Govan ond yn dyddio o hanner cyntaf y 19eg ganrif.3

Ymddengys fod pawb wedi rhoi cynnig ar ganfod pwy yw “St Govan”, ac at feirniadu cynigion pobl eraill hefyd, a nodweddiadol o hynny yw’r troednodyn canlynol o lyfr o ddiwedd y 19eg ganrif ynghylch Dinbych-y-pysgod a’i chyffiniau:

 

“Y mae’r marchog dewr - y Syr Gawain, o Fwrdd Crwn y Brenin Arthur da - wedi’i drawsffurfio, gan gamdybiaeth gyffredin, yn sant. Nid oes diwedd ar y straeon ofergoelus y mae lleoliad neilltuol adeilad cysegredig wedi’u hachosi.” - Malkin. [Mae Benjamin Heath Malkin (1769-1843) yn ei ysgrifau ei hun wastad yn cyfeirio at “Sir Gawaine’s Chapel” yn hytrach na St Govan’s Chapel.]   Nid yw Malkin yma, yn ogystal ag yn llawer o’i ragdybiaethau eraill, i’w bwyso arno; dichon fod yr enw yn llygriad o Sant Giovanni, i ba un y cysegrwyd y capel.”4

Nid oedd unrhyw obaith o gwbl mai’r un oedd St Govan â Sant Giovanni Eidalaidd sydd, debyg, yn Sant Ioan Efengylwr neu’n Sant Ioan Fedyddiwr, ac nid yn Sant Ioan Eidalaidd ar wahân. Mae uniaethiad llawn mor annhebygol yn gwneud Govan yn ddynes, y Santes Cofen, gwraig brenin Cymreig o’r 6ed ganrif:  “Yr oedd y Santes Cofen, Govein, neu Goven yn santes Gymreig gynnar, yn wraig Tewdrig ac yn fam  Mewrig, brenhinoedd De Cymru.”5  Cyfeiria Malkin hefyd at St Goven Brydeinig, ac â ymlaen i ddweud: “Weithiau camgymerir St. Goven a St. Golwen hwy ill dwy am Godwin”, ac yna crybwylla “a saint Golwin”6 :  ymddengys fod pob amrywiad sillafu wedi ymddangos yn rhywle er mwyn ceisio esbonio pwy oedd y sant annirnad hwn. Cydsynnir heddiw, i bob golwg, mai’r Sant Gobhan Gwyddelig oedd Govan - ond fel y sylwyd uchod, mae hynny’n debyg o fod yn anghywir, a’r tebyg yw y bu’n sant brodorol o Sir Benfro am yr hwn ni wyddys dim.

Mae peth tystiolaeth go anhysbys na chysylltir St Govan ond â’r capel clogwyn adnabyddus sydd heddiw’n dwyn ei enw: mae’n bosibl y bu’n weithredol, hefyd, yn Arberth tua 12 milltir i’r gogledd-ddwyrain o St Govan’s Chapel, ardal yn yr un ddeoniaeth wledig â Bosherston. Mae Dosraniad Degwm Arberth yn cynnwys yr enwau caeau hanesyddol “Upper Saint Gowens” a “Lower Saint Gowens”, gyda Gowen yn un o’r ffurfiau eraill ar Govan. Dri chwarter milltir i’r gogledd-ogledd-orllewin o’r ddau gae hyn mae St Owen’s Well yn Stoneditch Lane gyferbyn â thŷ a enwir, bellach yn “The Valley”. 

Mae’n annhebyg mai’r “Owen” yw’r St Owen anhysbys sy’n ymddangos ym Muchedd y Santes Milburga (mae ganddo ffynnon yng Ngweunllwg yn Swydd Amwythig), na Sant Ouen esgob Rouen sydd â’i barch yn fawr yng ngogledd Ffrainc, na’r merthyr yr Iesüwr Sant Nicholas Owen; ymddengys, yn hytrach, fod yr enw’n fersiwn o “Gowen”, yn deillio (debyg) o’r modd y treiglir rhai enwau yn dilyn "ffynnon" neu "llan". Felly byddai St Gowen’s Well yn Gymraeg yn Ffynnon Owen, yn union fel yr oedd gan y sant a elwid Gallgo ym Môn ei Lanallgo a’i Ffynnon Allgo. 

Yr hen Reithordy fu’r “Valley” ar un adeg, a dyna’r enw arno ar Fap AO 1888. Dywedwyd wrth gyn-reithor Arberth gan “blwyfolyn hen iawn” tua 1884 i’w rieni ddweud wrtho y bu yn y cae wrth y tŷ adeilad hynafol lle cynhaliwyd priodasau, Cynhwyswyd rhannau o’r adeilad hwn yn y Rheithordy, a adeiladwyd ym 1827. Dywedodd y rheithor hefyd bod “ffynnon ar ffurf cwch gwenyn o ddŵr rhagorol” gerllaw’r adfeilion: sef St Owen’s Well, enw a gofnodwyd tua 1700 gan Edward Llwyd.  Cofnodwyd yr enw “Henllan” yn Stoneditch ym 1688; a chanfuwyd carreg fedd arysgrifynedig o’r 6ed ganrif yma, hefyd. Maent oll yn awgrymu y bu eglwys wedi’i chysegru i St Govan yn Arberth, un y collwyd pob atgof amdani bellach heblaw am yr ychydig awgrymiadau hyn.7

(I’w pharhau)

Nodiadau

2 Cosmo Innes, wedi’i ddyfynnu yn The Cambrian Journal (Tenby, 1860), 76;  William o Malmesbury, Gesta Regum Anglorum: General Introduction and Commentary (Oxford, 1999), II, 261

3 Peter C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993), 303-5

4 Mr a Mrs S.C. Hall, Tenby: Its History, Antiquities, Scenery, Traditions, and Customs (Tenby, 2il arg., 1873), 45

5 Y Parch. James B. Johnston, The Place-Names of England and Wales (London, 1915), 428

6 Benjamin Heath Malkin, The Scenery, Antiquities, and Biography, of South Wales (London, 2il arg., 1807), II, 381

7 Cofnodion Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed o St Owen’s Well:  PRN 3756 a PRN 3622.  Gweler hefyd The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments and Constructions in Wales and Monmouthshire, An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, VII County of Pembroke (London, 1925), 249-50.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Canolfan Tan-y-bwlch, Maentwrog, 15.7.2017.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni yng Nghanolfan Tan-y-bwlch, Maentwrog, a chafwyd diwrnod cofiadwy iawn yn y lle hyfryd hwnnw.

Yn bresennol oedd Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd), Robin Gwyndaf (Llywydd), Howard Huws (Ysgrifennydd a Golygydd “Llygad y Ffynnon”), Gwyn Edwards (Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol), Anne Williams, Howard Williams, Dafydd Jones, Anne Owen ac Elisabeth Rees. Derbyniwyd ymddiheuriadau Bill Jones.

Wedi gair o groeso gan y Cadeirydd, darllenwyd cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol, ac fe’u cafwyd yn gywir. Cododd y materion canlynol ohonynt:  

Adolygu’r rhestr aelodaeth.

Y mae’r rhestr aelodaeth wedi’i hadolygu’n drylwyr gan D. Roberts a G. Edwards. Darparodd D. Roberts y rhestr aelodaeth ddiweddaraf. Mae 97 o enwau arni erbyn hyn, 40 ohonynt yn aelodau am oes. Penderfynwyd rhoi cyfle i 30 sydd heb dalu’r tâl aelodaeth eto dalu, ac felly aros yn aelodau: ond os felly, y byddai’n rhaid iddynt dalu cyn dyddiad penodedig. (Y dyddiad a ddewiswyd yn ddiweddarach gan y swyddogion oedd y 30ain o Dachwedd 2017, a gyrrwyd llythyrau at bob un o’r 30 i’w hysbysu ynghylch y penderfyniad.)

Awgrymodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i gael aelodau newydd. Ar awgrym y Llywydd, penderfynwyd newid y ffurflen aelodaeth er mwyn hwyluso ymaelodi trwy archeb banc yn unig (oni bai bod hynny’n hollol amhosibl), neu ymaelodi am oes. Penderfynwyd dylid darparu cyfle i aelodau roi rhodd ariannol i’r Gymdeithas, gan ddiolch iddynt am hynny yn nhudalennau “Llygad y Ffynnon”.

Penderfynwyd rhoi ffurflen ymaelodi ym mhob copi o “Llygad y Ffynnon”, ac annog pob aelod i geisio cael un aelod newydd arall.

Yn dilyn awgrym yr Ysgrifennydd, penderfynwyd hefyd y dylid penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd. Gallai swyddog o’r fath:

 

·         dynnu sylw at ffynhonnau lleol, eu hanes a’u traddodiadau, gan ysgogi casglu gwybodaeth amdanynt;

·         codi ymwybyddiaeth ynghylch ffynhonnau ymysg cynghorau lleol a chymdeithasau bro;

·         annog ysgolion i gyflwyno ffynhonnau lleol i blant yn rhan o’u gweithgareddau addysgiadol; a thrwy hyn oll

·         diogelu ffynhonnau rhag eu difrodi, eu hanghofio a’u colli.

Archifau’r Gymdeithas.

Mae archifau’r Gymdeithas yng nghartref y Cadeirydd, a hithau’n ceisio eu didoli, ond y mae hynny’n gryn waith. Awgrymodd y Llywydd fod y Llyfrgell Genedlaethol yn medru rhoi trefn ar archifau, ac mai digon fyddai llunio rhestr fras o’r cynnwys, a rhannu’r deunydd gweinyddol o’r deunydd hanesyddol. Penderfynwyd y dylai’r archifau i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Materion yn codi o Gyfarfod Pwyllgor y Gymdeithas, 1.4.17.

Penodi Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd y Gymdeithas. Diolchodd y Llywydd i’r Cyn-gadeirydd, D. Jones, am ei barodrwydd i sefyll yn y bwlch. Ar gynnig y Llywydd, pleidleisiwyd dros benodi E. Gruffydd-Evans yn Gadeirydd.

Gyrru copi electronig o fynegai ffynhonnau sanctaidd Dyfed i’r Cadeirydd. Y mae’r Ysgrifennydd wedi gwneud hynny.

Rhoi gwybod i Wasg y Lolfa fanylion cyswllt cywir y Gymdeithas. Y mae’r Ysgrifennydd wedi gwneud hynny.

Gyrru copi electronig o “Llygad y Ffynnon” at bob aelod y mae gennym eu cyfeiriad e-bost, er mwyn eu hannog i dderbyn y newyddlen trwy e-bost yn unig o hynny ymlaen. Y mae D. Roberts wedi gwneud hynny.

Gofyn i Rhys Mwyn ymuno â’r Cyngor. Y mae’r Ysgrifennydd wedi gwneud hynny, a bu iddo gytuno 

Cynhadledd Waterford. Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi mynd i gynhadledd “An Tobar: Sacred Springs and Holy Wells” yn Waterford ar Fehefin 26-27 2017 ar ran y Gymdeithas. Bu’n gynhadledd hynod ddiddorol, difyr a llwyddiannus y gellid ei chrynhoi, yn fyr iawn, fel a ganlyn:              

·         Roedd yno tua hanner cant o academyddion a chynrychiolwyr o Ewrop a Gogledd America.

·         Trafodwyd amrywiaeth eang o bynciau cysylltiedig â ffynhonnau sanctaidd, gan gynnwys tri phwnc yn ymwneud yn uniongyrchol â Chymru sef arolwg electronaidd o ffynhonnau sanctaidd Llŷn (Graham Jones); arolwg newydd o ffynhonnau sanctaidd gorllewin Cymru (Mike Ings, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed); ac ymdrechion cymunedol a chadwraeth ffynhonnau sanctaidd a meddyginiaethol (Alexander Makovics, Cadwch Gymru’n Daclus). Y mae’r arolygon hyn wedi esgor ar gronfeydd gwybodaeth electronig fanwl y talai i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru gael mynediad atynt.  

·         Bu’r gynhadledd yn gyfle gwych i ganfod a rhannu gwybodaeth nad oedd eraill yn ymwybodol ohoni, yn enwedig gwybodaeth mewn ieithoedd arall na’r Saesneg.

·         Roedd rhai cyflwynwyr, hyd yn oed academyddion, yn anymwybodol o ffynonellau gwybodaeth nad ydynt yn Saesneg, ac yn cyfaddef nad oeddent wedi ystyried ffynonellau o’r fath oherwydd y golygai hynny ormod o waith a thrafferth iddynt (hyd yn oed ffynonellau Gwyddelig yn Iwerddon!). Gan fod  rhai arbenigwyr yn y maes yn Saeson uniaith, tueddent i Seisnigo’r wybodaeth sydd ar gael mewn ieithoedd eraill. Enghraifft o hyn fu cyfeirio at Ffynnon Meddygon ym Myddfai fel “The Physician’s Well”, enw na fu erioed ar y ffynnon honno. Tanlinella hyn pa mor bwysig yw cadw enwau a thraddodiadau brodorol, a chael cymdeithasau fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru sy’n gweithredu trwy’r iaith frodorol.

·         Dangosodd y cyflwyniadau dangos pa mor fregus yw safleoedd ffynhonnau, a’r traddodiadau yn eu cylch. Gall ymdrechion trwsgl i ddiogelu safle ddinistrio tystiolaeth archeolegol, a throi amgylchedd naturiol y ffynnon yn glwt o goncrit difywyd. Gall traddodiadau ynghylch ffynhonnau ddiflannu o fewn 10-15 mlynedd i golli’r trosglwyddwyr olaf, felly mae addysgu plant lleol yn bwysig. Gall trefnu ymweliad dosbarth ysgol leol â ffynnon ddiogelu gwybodaeth am y safle a’i draddodiadau am genhedlaeth gyfan.

Diolchwyd i’r Ysgrifennydd am fynd i’r Gynhadledd ar ran y Gymdeithas.

Mynegai cynnwys “Llygad y Ffynnon”. Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd  adolygu’r mynegai a gynhyrchwyd gan Ian Taylor, a thynnu sylw ato yn “Llygad y Ffynnon”, gan ddiolch i Ian Taylor am ei waith.

Adroddiad yr Ysgrifennydd.

Adroddodd yr Ysgrifennydd fod popeth mewn trefn ar hyn o bryd.

Adroddiad y Trysorydd.

Diolchodd y Trysorydd i Dennis Roberts am ei gefnogaeth a’i gymorth parod. Mae’r gostyngiad yn nifer yr aelodau yn cael ei adlewyrchu yn yr arian yn y banc. Bu trafferthion gyda ffurflenni archeb banc, gan nad oedd y banciau’n eu prosesu. Bu i’r Trysorydd a’r Ysgrifennydd ymweld â Banc HSBC yng Nghaernarfon er mwyn ceisio datrys yr anawsterau. Mae taliadau hanner yr archebion wedi dod ar ddechrau mis Mehefin, ond nid eu taliad cyntaf.

Mae un banc (Santander) wedi gwrthod â phrosesu archeb oherwydd bod y ffurflen yn uniaith Gymraeg. Gofynnwyd a ddylid cysylltu â’r Comisiynydd Iaith ynglŷn â hyn? Clywyd fod Cymdeithas Bob Owen yn darparu archeb banc ddwyieithog, ac awgrymodd D. Roberts y dylid cael ffurflen o’r fath dros dro. Cefnogodd y Cadeirydd hynny, ond y dylid dweud wrth y Comisiynydd Iaith, hefyd. Rhybuddiodd y Llywydd y gallai cynnwys Saesneg ar y ffurflen archeb esgusodi banciau rhag eu dyletswydd parthed y Gymraeg. Cytunodd D. Roberts a D. Jones y dylid defnyddio ffurflenni dwyieithog, dan brotest. Dywedodd y Trysorydd fod pob banc yng Nghaernarfon â staff sy’n siarad Cymraeg, felly dylent fedru dweud wrth eu pencadlysoedd beth yw cynnwys archebion banc Cymraeg, os oes angen.

Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Adroddodd yr Archwiliwr Mygedol fod y cyfrifon yn gywir ac mewn trefn.

Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Ymddiheurodd y Golygydd am gamgymeriadau iaith niferus yn Rhifyn 41 y newyddlen, a achoswyd gan gamddealltwriaeth â’r argraffydd ym Mangor. Penderfynwyd cyfyngu’r fersiwn papur i 8 tudalen, yn hytrach na 12, oherwydd y gost. Cynigiodd D. Roberts y gallai’r fersiwn electronig yn 12 neu ragor o dudalennau, ac y gellid rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ar wefan y Gymdeithas. Cytunwyd ar hynny.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Penodi Swyddog Addysg neu Gysylltiadau Cyhoeddus / Cyhoeddusrwydd.

Awgrymodd R. Gwyndaf y dylid cyhoeddi taflen ynglŷn â’r Gymdeithas, gan gynnwys ffurflen aelodaeth, ac y byddai ef ei hun yn fodlon talu am gynhyrchu taflen wybodaeth o’r fath yn gam cyntaf at waith hybu cyhoeddusrwydd. Diolchwyd iddo, a chytunwyd i hynny.

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gosod hysbyseb yn “Llygad y Ffynnon” yn datgan ein bod yn chwilio am Swyddog Cyhoeddusrwydd (sy’n cynnwys gwaith addysgiadol), gan ofyn a oes gan aelod o’r Gymdeithas ddiddordeb. Cytunwyd ar hynny.

Awgrymodd D. Roberts y dylid yn gyntaf cael taflen yn barod erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Awst, ac yna crybwyll yr angen am Swyddog Cyhoeddusrwydd yn rhifyn nesaf “Llygad y Ffynnon”. Dywedodd y Trysorydd y byddai hwn yn gyfle i rywun ifanc wneud gwaith gwirfoddol ar ôl gadael coleg/ysgol. Ni fyddai tâl, ond byddai’n ychwanegiad da at CV rhywun o’r fath.

Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd geisio llunio taflen erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chael logo’r Gymdeithas gan D. Roberts.

Unrhyw fater arall.

Dywedodd D. Roberts fod cryno-ddisg yn cynnwys ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” 1-40 yn awr ar gael. Pan geir y mynegai, gellir ychwanegu hwnnw at wefan y Gymdeithas.

Diolchodd y Llywydd i’r swyddogion eraill am eu gwaith. Dywedodd fod Barry Webb a’i wraig Thelma, arbenigwyr ar ffynhonnau, wedi rhoi cist fawr o wybodaeth am y pwnc i’r Amgueddfa Werin. Mae’r Llywydd yn llunio disgrifiad o’r cynnwys, ac am ei roi i’r Ysgrifennydd. Dywedodd fod angen pwyllgor i gydlynu’r holl wybodaeth am ffynhonnau Cymru. Gellid cydweithio â’r Comisiwn henebion, i roi’r pwnc ar eu rhaglen waith.

Ynghylch Canolfan Uwchgwyrfai: pe bai darlith neu weithgaredd penodol ynghylch ffynhonnau, gellid ei chynnwys ar Raglen y Ganolfan.

Diolchwyd i Anne Owen am luniau ar gryno-ddisg Ffynnon Fyw, ac i Elisabeth Rees am doriadau gwybodaeth o’r Daily Post.

Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.

Penderfynwyd cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ddydd Sadwrn 21.7.2018 yn Nhan-y-bwlch.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Gyda hynny, daeth y cyfarfod ffurfiol i ben. Wedi cinio, aeth yr aelodau ar daith o amgylch tair ffynnon sanctaidd leol, sef Ffynnon Decwyn yn Llandecwyn; Ffynnon Fair ym Maentwrog; a Ffynnon Fihangel yn Ffestiniog.

Bu cryn ddryswch yn y gorffennol ynghylch ymhle’n union y mae Ffynnon Decwyn, ond diolch i gydweithrediad tirfeddiannwr lleol, Mr Richard Williams-Ellis, cawsom hyd i’r ffynnon yn weddol ddidrafferth.

 Ffynnon Decwyn, gerllaw Plas Llandecwyn.

 

Ceir y ffynnon ychydig i’r gogledd-orllewin o Blas Llandecwyn. Er mwyn ei chanfod, ewch ar hyd y ffordd sy’n arwain o Dalsarnau i fyny at Eglwys Llandecwyn. Toc cyn cyrraedd yr eglwys, ceir mynedfa Plas Llandecwyn ar y dde; a gellir canfod y ffynnon trwy gerdded at fuarth y plas, ac yna troi i’r chwith i fyny’r allt, trwy giât, ac i fyny at y ffynnon. Ffordd arall yw trwy gerdded ychydig lathenni heibio i fynedfa’r plas, ac yna troi i’r dde ar hyd llwybr sydd yn arwain at fuarth y plas. Nodwedd amlwg i anelu amdano yw’r ddraenen sy’n tyfu ar ben y dibyn caregog uwchlaw’r ffynnon. Mae safle’r ffynnon wedi’i blannu a’i gadw’n drefnus iawn. Os am fynd yno tros dir y plas, dylid gofyn caniatâd, wrth gwrs.

 

Yr ail ffynnon yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Fair ym Maentwrog. Mae hon hefyd braidd yn anodd ei chanfod oni wyddoch ymhle y mae, felly er mwyn ei chanfod, dringwch y grisiau gyferbyn â mynedfa Eglwys Twrog Sant, hyd nes y dewch at res o dai ar y dde gyda llain o dir glas o’i blaen. Trowch i’r dde a cherddwch heibio i wyneb y rhes (y mae yna lwybr), ac wedi cyrraedd y ffordd ddu (tarmac), trowch i’r chwith, heibio i res o dai o’r enw Bron Mair. Mae’r ffynnon yn y coetir ar y dde, mewn tanc llechen.

 

Ffordd arall o gyrraedd y ffynnon yw trwy yrru trwy Faentwrog ar y ffordd tua Thalsarnau, ac wedi mynd heibio i’r eglwys ar y dde, mynd i fyny’r allt a chymryd y troad cyntaf i’r chwith. Yna mae angen troi i’r chwith eto, cyn cyrraedd y capel - troad go hegar - ac ymlaen at dai Bron Mair. Roedd y tanc bron o’r golwg o dan fieri a rhedyn pan gyraeddasom, felly gwnaethom ein gorau i dwtio digon at y lle i beri bod y ffynnon yn o amlwg.

 

Cawsom ysbaid yn y “Grapes” ym Maentwrog, wedyn, ac yna aeth pethau braidd yn flêr. Na, nid oherwydd inni fwynhau gormod ar arlwy’r dafarn, ond oherwydd ein bod ni’n teithio mewn tri char, ac inni rywsut lwyddo i golli ein gilydd a mynd ar ddisberod. Llwyddodd un llond car ohonom i gyrraedd tŷ Ffynnon Fihangel yn Llanffestiniog, ond erbyn hynny roedd y tywydd wedi dirywio’n arw, a’r glaw yn tresio i lawr arnom. Yno cawsom hyd i ddŵr yn tarddu o ganol cerrig a llysiau’r dial, ond wedi ailedrych ar y mapiau yn ddiweddarach, amheuaf inni fethu â chanfod y ffynnon ei hun: felly bydd rhaid dychwelyd yno, rywbryd.

Dipyn o siom a dryswch yn y diwedd, felly: ond at ei gilydd bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn, gan osod trefn ar faterion y Gymdeithas am flwyddyn arall, llwyddo i ganfod dwy ffynnon y bu cryn ansicrwydd ynghylch eu hunion leoliad, a mwynhau diwrnod yng nghwmni pobl frwdfrydig eraill o gyffelyb fryd. Dyma edrych ymlaen at y tro nesaf!

H.H.

Ffynnon Fair, Maentwrog yn ei thanc llechen yn y coed

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bodedern 2017

Cynhaliwyd cyfarfod arferol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau am 2:30 o’r gloch ddydd Llun y 7fed o Awst. Os cofiwch, bu’r diwrnod cynt yn wlyb ac yn wyntog, a chan fod y Maes wedi’i osod ar dir go gorsiog ar y gorau, yr oedd y rhannau hynny ohono nas boddwyd yn llwyr (a dyma’r tro cyntaf imi weld pwll nofio naturiol yn rhan o atyniadau’r ŵyl) yn eithaf soeglyd. Ond nid dynion eira mo’r Cymry, ac y mae’r mwyafrif ohonom wedi hen arfer â glaw.  Felly daeth criw mwy niferus nag arfer at ei gilydd i glywed darlith gan ein Cadeirydd, Eirlys Gruffydd-Evans, ar bwnc amserol ac addas tu hwnt, o gofio’r amgylchiadau, sef “Ffynhonnau Môn”. Cafwyd gwybodaeth ddiddorol am rai o’r ffynhonnau lleol, gan gynnwys eu hanesion a’r traddodiadau yn eu cylch, a chytunwyd y bu’n werth yr ymdrech i dreulio tri chwarter awr yn gwrando ar y fath draddodi graenus.

Gallasem fod wedi gwrando ar lawer rhagor!

                                                                                                                                                        H.H.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

YN EISIAU: SWYDDOG CYHOEDDUSRWYDD

Mae ar Gymdeithas Ffynhonnau Cymru angen Swyddog Cyhoeddusrwydd er mwyn cynyddu diddordeb y cyhoedd ym mhwnc ffynhonnau Cymru’n gyffredinol, ac yn eu harwyddocâd hanesyddol a diwylliannol. Hynny er mwyn ceisio diogelu ein ffynhonnau, a chadw a lledaenu gwybodaeth yn eu cylch.

Gwaith y Swyddog fydd:

·         Tynnu sylw at ffynhonnau lleol, eu hanes a’u traddodiadau, gan ysgogi casglu gwybodaeth amdanynt;

·         Codi ymwybyddiaeth ynghylch ffynhonnau ymysg cynghorau lleol a chymdeithasau bro;

·         Annog ysgolion i gyflwyno ffynhonnau lleol i blant yn rhan o’u gweithgareddau addysgiadol;

·         Diogelu ffynhonnau rhag eu difrodi, eu hanghofio neu’u colli;

·         Hyrwyddo Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a chynyddu ei haelodaeth.

Swydd ddi-dâl, wirfoddol fydd hon, ond byddai’n ychwanegiad gwerthfawr at grynodeb gyrfa unrhyw unigolyn sy’n amcanu gweithio ym meysydd cadwraeth, addysg, hanes neu gymdeithaseg. Y mae’n swydd ddelfrydol at gyfer unigolyn brwdfrydig a gweithgar o unrhyw oedran, ac yn neilltuol ar gyfer rhywun sydd am brofiad gwaith cyn mynd ymlaen i addysg bellach neu swydd arall.

Y mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a byddai trwydded yrru yn fanteisiol iawn. Dylai’r sawl sydd â diddordeb gysylltu â’r Ysgrifennydd yn cyfarchiad@yahoo.co.uk neu trwy alw 07870 797655 / 01248 351503.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Os ydych yn mynd ar wyliau eleni, cofiwch dynnu lluniau unrhyw ffynhonnau diddorol a welwch, holwch am fanylion yn eu cylch, a gyrrwch nhw at olygydd “Llygad y Ffynnon”!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Y Prosiect Ffynhonnau Byw.

Ar y 15fed o Dachwedd eleni cymerais ran mewn gweithdy hynod ddiddorol a heriol ym Mhlas Glyn y Weddw ger Llanbedrog. Roedd y diwrnod yn rhan o’r Prosiect Ffynhonnau Byw”, sy’n cael ei arwain gan Cadw Cymru’n Daclus, gyda’r nod o adfer 25 o ffynhonnau cysegredig ledled Cymru. Mae Partneriaeth Ffynhonnau Byw yn chwilio am gyllid ar gyfer cyfres o weithgareddau prosiect, a’r gobaith yw y bydd yn denu cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac arian cyfatebol arall. Bydd hynny’n eu galluogi i barhau i gyflwyno prosiect aml-haen a fydd o gymorth i sicrhau dyfodol ffynhonnau hanesyddol yng Nghymru, a’u gwarchod a’u hadfywio ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr.

Arweiniwyd y gweithdy gan Gareth Kiddie ac Angharad Wynne gyda chymorth  Bronwen Thomas. Mae Gareth yn arbenigwr treftadaeth ac adfywio cymunedol, ac Angharad yn arbenigwraig marchnata a chyfathrebu, ac yn storïwraig gyda diddordeb byw mewn hynafiaethau a chwedlau. Mae Bronwen yn bensaer tirwedd a hefyd yn gadeirydd cymdeithas Wellsprings.

Roedd tua dwsin ohonom i gyd yn y gweithdy ac fe’n heriwyd i edrych ar nifer o faterion gan ofyn y cwestiynau canlynol:

1 Beth fydd yn gweithio’n dda?

2 Beth fydd yn heriol?

3 Beth yw’r cyfleoedd allweddol?

4 Pa fudiadau a phobl sy’n allweddol?

Gyda’r cwestiynau yma yn flaenllaw yn ein meddyliau roeddem yn edrych ar nifer o faterion, sef sut y gellir cofnodi ffynhonnau yn well, a sut y gellid eu hadfer a’u hadnewyddu. Edrychwyd ar sut y gellid sicrhau bod cymunedau yn perchnogi ffynhonnau ac felly yn eu cynnal, ac yn gwarchod nid yn unig y safleoedd, ond hefyd yr etifeddiaeth ehangach megis hanesion am y seintiau: a thrwy hyn yn cadw’r etifeddiaeth yma’n fyw. Edrychwyd ar sut i ddehongli, dathlu a hybu’r etifeddiaeth hon, a sut y gellid marchnata a hyrwyddo treftadaeth ein ffynhonnau fel rhan o hybu ymwybyddiaeth o’n treftadaeth ehangach.

Roedd y cyfarfod yn un o dri sydd i wyntyllu’r materion hyn, gyda’r cyfarfodydd eraill i’w cynnal yn Aberhonddu a Thyddewi. Mae’r hyn sydd o dan sylw yn uchelgeisiol iawn: ac os llwyddir, bydd proffil ffynhonnau hanesyddol Cymru’n llawer uwch a bydd llawer rhagor o gymunedau yn cymryd diddordeb byw yn eu hetifeddiaeth. Edrychaf ymlaen at weld pa gynnydd a wneir dros y flwyddyn nesaf.

Gwyn Edwards

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Mynegai i ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”!

Gŵyr pawb sy’n ceisio olrhain hanes neu wneud gwaith ymchwil pa mor anhepgor yw mynegeion dibynadwy. Mae un o’n haelodau, Ian Taylor, bellach wedi gwneud cymwynas fawr trwy baratoi mynegai o gynnwys pob un rhifyn o “Llygad y Ffynnon” o’r cyntaf (Nadolig 1996) hyd at rifyn 41 (Nadolig 2016). Dyma waith sylweddol a fydd yn anhepgor ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno mynediad at holl gyfoeth yr wybodaeth a grynhowyd yn y cylchgrawn hwn ers 20 mlynedd. Gydag ychydig rhagor o waith golygu, bydd y mynegai yn barod i’w lanlwytho ar ein gwefan ni ymhen dim, ac ar gael i ymchwilwyr sydd â diddordeb ynteu mewn ffynnon neu ffynhonnau neilltuol, neu mewn rhyw agwedd neu’i gilydd o hanes, llên gwerin neu ddaearyddiaeth y mae ffynhonnau Cymru’n berthnasol iddi. Diolch yn fawr, Ian!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth. Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau.Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA

I’N HOLL DDARLLENWYR NI!

Home Up