Home Up

 

Talfyriad o  

                                  LLYGAD Y FFYNNON

 Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 48, Haf 2020

   Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd ar Cylch

Pistyll Yfed Gerddir Faenor, Caerdydd. Llun: Phil Cope.

Rhan 2

Yn rhan gyntaf yr erthygl hon bu inni roi sylw arbennig ir ffynnon bwysig oedd wedii lleoli gynt ger Hen Neuadd y Dref ar Heol Eglwys y Santes Fair, Caerdydd. Cyhoeddwyd llun ohoni hefyd wedi iddi gael ei symud oi lleoliad gwreiddiol yn 1860. (Llygad y Ffynnon, rhif 47, Nadolig 2019) Yn yr ail ran yn awr cyhoeddir llun prin or Hen Neuadd a ddymchwelwyd yn 1861, sef ymhen blwyddyn wedi ail-leoli ac ail-greu fframwaith y ffynnon. Cyhoeddir yn ogystal lun map John Speed, 1610, o ganol Caerdydd lle roedd y ffynnon yn bodoli.

Yn rhan gyntaf yr erthygl cyfeiriwyd hefyd at bistylloedd yfed, neu ffowntenni, yr oedd Cyngor Tref Caerdydd wediu cynllunio er mwyn darparu dŵr gln ir trigolion. Cyhoeddir lluniau pedwar or pistylloedd hyn yn awr, drwy garedigrwydd Phil Cope, awdur y gyfrol werthfawr, The Living Wells of Wales (2019).

Hen Neuadd y  Dref Caerdydd

Map John Speed o Gaerdydd, 1610. Dynodar llythyren P safler hen neuadd ar ffynnon.

Ffynhonnau ar gyrion Caerdydd

Yn ail hanner rhan gyntaf yr erthygl fe gofiwch inni gyfeirio at y gwahanol fathau o ffynhonnau oedd ar gael, er bod perygl parod mewn gor-ddosbarthu a chreu ffiniau gor-bendant. Soniwyd am ffynhonnau dŵr gln naturiol; ffynhonnau sanctaidd, gyda chyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml r goruwchnaturiol; ffynhonnau meddyginiaethol, rhinweddol; a ffynhonnau gofuned, neu ffynhonnau dymuno. Mae cofio am swyddogaeth y gwahanol ffynhonnau yn gymorth i ddeall paham fod yr arfer ou mynychu wedi parhau cyhyd yng Nghymru, fel mewn cymaint o wledydd eraill. Nid oedd Caerdydd ar cyffiniau yn eithriad, ac y maen bryd i ninnau nawr fynd ar daith i ddarganfod cyfran or ffynhonnau hyn.

Yn gyntaf, dyma gyfeirio at ddetholiad o ffynhonnau mewn pentrefi ac ardaloedd ar gyrion y dref. Detholiad or cyfoeth rhyfeddol o ffynhonnau a fu unwaith yn rhan mor annatod o fywyd trigolion y gornel hon o Gymru; darn o hanes syn haeddu ei roi ar gof a chadw.

Ffynnon Fair, Trwyn Larnog (Lavernock Point).      

Ffynnon yr Hebog, ym Mhendeulwyn (Pendoylan).

Ffynnon Deilo, Pendeulwyn.

Ffynnon Gatwg, Pendeulwyn, ger yr eglwys.11

Ffynnon y Sgubor (Barnwell), Lecwydd.

Ffynnon y Brychau.

Ir de orllewin o bentref Llandocha Fach.15

Ffynnon Sain Nicolas.

Ffynnon Lawrens, Sain Nicolas.

Pwmp Eglwys Sain Nicolas.18                         

Ffynnon Castell Coch.19

Ffynnon Wen, Llanbedr-y-fro.20

Ffynnon Wen, Groes-wen.21

Ffynnon Dwym,

Ffynnon Gatwg, Pen-tyrch.

Ffynnon Gruffydd, Pen-tyrch.

Ffrwd Meurig, Mynydd Y Garth.

Pistyll Golau, Radur.

Ffynnon Tarws, Gwenf.

Ffynnon y Coed, Gwenf.

Ffynnon yr Hofel / Ffynnon Hywel, Gwenf.

Robin Gwyndaf

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Oherwydd y cyfyngiadau presennol, mae swyddogion  Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi penderfynu

y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020 yn un rhithiol, trwy gyfrwng Zoom.

Fei cynhelir am 10.30 bore Sadwrn 18 Gorffennaf 2020.

Er mwyn ymuno r cyfarfod ewch i:-  https://us02web.zoom.us/j/88351026348

Bydd modd cael mynediad ir cyfarfod am ddeg munud cyn iddo ddechrau.

Defnyddiwch y cyfeiriad uchod. Rhif y cyfarfod yw:-  88351026348

 Edrychwn ymlaen at eich gweld ach clywed chi yno!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

yn enwog am Iachu pob Clefyd:

Saint Govans Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Eton boblogaidd yn Oes Fictoria

Gan symud i ail hanner y 19eg ganrif, dywed adroddiad o 1859 wrthym fod yna eto geisio dŵr y ffynnon yr adeg honno ar gyfer ei rinweddau iachusol.

Dyma feudwyfa (neu gapel) St Gawen, neu Goven, ym mha un y mae ffynnon, dŵr pa un, ar clai cyfagos, a ddefnyddir ar gyfer llygaid dolurus. Gerllaw hyn, ychydig islawr capel, mae ffynnon arall, gyda grisiaun arwain i lawr iddi, yr ymwelir hi gan bobl o bellafoedd y dywysogaeth, ar gyfer gwella manwynion, parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill. Nid y tlodion yn unig syn gwneud y bererindod hon: daeth achos im sylw yn fuan, lle bu i wraig fonheddig, un o gefnog, a fu ers peth amser yn dioddef yn arw gan y parlys, ai hataliodd rhag rhoi ei llaw yn ei phoced [gan olygu bod ei braich wedii pharlysu, nid yn ystyr presennol yr ymadrodd!],  i drigo mewn ffermdy ger y ffynnon, ac wedi ymweld hin feunyddiol am rai wythnosau, dychwelodd adref wedii llwyr iachu.26

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                                                         (iw pharhau)

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Ffynnon Gyndeyrn, Dinpelydr, Yr Alban?

01 March  Haddington to Dunbar | Midlothian (and elsewhere) on ...

  Traprain Law, Yr Alban: safle caer Dinpelydr?

 Ceir Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin, a chysylltir Cyndeyrn Sant Llanelwy, hefyd*: ond rhaid teithio i ogledd Lloegr ar Alban er mwyn canfod ffynhonnau wediu cysegru yn ei enw, neu yn ei lasenw, Mungo. Ceir o leiaf tair yn Lloegr (Caldbeck, Bromfield, a Copgrove), ac o leiaf tair ar ddeg yn yr Alban, o ba rai'r enwocaf ywr ffynnon yng Nghadeirlan Glasgow, y brif ganolfan a gysylltir r sant hwn. Bu hon yn seintwar ac yn fan pererindota o bwys. Ceir un ffynnon arall yn Glasgow gerllaw Capel Mungo, Gallowgate.

Howard Huws

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 Ffyhonnau Sanctaidd yn Ethiopia

Fis Chwefror diwethaf treuliais bythefnos yn Ethiopia, gan ymweld llawer i fan o ddiddordeb imi. Un ohonynt oedd mynachlog Asheton Maryam, uwchlaw dinas Lalibela ym mynydd-dir gogledd y wlad.

Mae Lalibela ei hun 2,600 medr (8,500 troedfedd) uwchlaw lefel y mr, ac yn enwog am yr eglwysi canoloesol a gloddiwyd o garreg feddal goch yr ardal. Bwriwyd y garreg twff hon yn lludw o hen losgfynydd Abune Yosef, saif gerllaw; ac o fewn ychydig ir copa, bron 1,400 medr uwchlawr ddinas, ceir mynachlog wedii chysegru yn enwr Forwyn Fair.

Howard Huws

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

COFIWCH YRRU ATOM LUNIAU O FFYNHONNAUCH BRO CHI, NEU RAI A WELSOCH AR EICH GWYLIAU, GYDAG ADRODDIAD AM EU CYFLWR, AC UNRHYW DRADDODIADAU NEU STRAEON YN EU CYLCH. ATODWCH LUNIAU HEFYD, OS GWELWCH YN DDA.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Yr Eisteddfod Genedlaethol

 Bun fwriad gan y Gymdeithas gynnal cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020, gyda Mike Farnworth yn traddodi cyflwyniad ynghylch "Paganiaeth dan yr Wyneb: Ffynhonnau Sanctaidd Cymru" am 5 or gloch pnawn dydd Mawrth y 4ydd o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1.

 Yn anffodus, fel y gwyddom, bun rhaid gohirior Eisteddfod tan y flwyddyn nesaf, Awst 2021. Er gwaethaf hynny maer Gymdeithas wedi sicrhau ein bod ein cadw ein lle yn amserlen Pabell y Cymdeithasau 1, felly oni ddaw dim arall in llesteirio, bwriadwn gynnal y cyfarfod, gydar un cyflwyniad, am 5 or gloch ddydd Mawrth y 3ydd o Awst y flwyddyn nesaf. Gobeithio y gwelwn ni bob un ohonch yno!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Llygad y Ffynnon yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 11.11.2019, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

Mae pob croeso i unrhyw un sydd diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocd ffynhonnau Cymru ymuno r Gymdeithas. Y tl aelodaeth yw 10 y flwyddyn i unigolion, 15 i deulu, ac 20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda maen arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod l-rifynnau 1-40 Llygad y Ffynnon yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Maen drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond 6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copau o l-rifynnau Llygad y Ffynnon, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Home Up