Home Up

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 49, Nadolig 2020

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 3

Robin Gwyndaf

 

 Ffynnon Castell Coch, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope)

Un o’r lluniau a gyhoeddwyd eisoes yn yr ail ran oedd llun Pistyll Yfed Treganna. Yn y llun hwnnw fe gofiwch fod rhywun, neu rywrai, wedi gosod yn y ddysgl ddŵr gerflun o ben ellyllaidd, adeiniog. Ai pen y Diafol, y Gŵr Drwg ei hun, ydyw? Dewis cwbl anaddas ac anffodus iawn, yn fy marn i. Nid â drygioni a melltith y cysylltwn ein ffynhonnau a’n pistylloedd dŵr, ond â daioni a bendith.

Wele, fodd bynnag, erbyn heddiw ciliodd y cerflun dychrynllyd yr olwg, na wyddom i ble, a’r hyn sydd wedi’i gywasgu i mewn i adeiladwaith cerrig y pistyll yfed gynt yn Nhreganna nawr yw cwpwrdd plastig bychan a’i lond o lyfrau. Ar wyneb y cwpwrdd (yn yr iaith Saesneg yn unig, ysywaeth) pan welais i ef, ym mis Awst 2020, argraffwyd y geiriau: ‘Canton Book Swap’. Er mai gwell, gan amlaf, yw peidio ag ychwanegu dim at adeiladau hanesyddol, megis hen bistyll yfed, dyma weithred sy’n haeddu gair o ddiolch, nid condemniad.

Mae iddi, o leiaf, amcan dyrchafol: bod o werth i eraill. A daw hyn yn fwy amlwg pan gofiwn fod pob ffynnon o ddŵr glân yn ddelwedd hefyd o’r hyn sy’n ein hysbrydoli. Mor wir yr hen ddihareb Gymraeg: ‘Lleufer dyn yw llyfr da.’ Y mae llyfrau yn oleuni. A dyma un rheswm digonol dros gyhoeddi ail lun o Bistyll Yfed Treganna yma.

 

Pistyll Yfed Treganna, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope).

Y mae’n dra phosibl, wrth gwrs, mai hap a damwain oedd dewis hen Bistyll Yfed Treganna i osod arno lyfrau i’w darllen. Fodd bynnag, boed hynny’n wir neu beidio, y mae’r weithred hon yn ein hatgoffa o un arfer gyffredin y mae unrhyw un sy’n ymddiddori yn ffynhonnau Cymru, fel yn ffynhonnau gwledydd eraill, wedi sylwi droeon arno, bid siŵr. A dyma yw hynny: hoffter y rhai sy’n ymweld â ffynnon i osod gwrthrych arbennig, ac weithiau fwy nag un, ger y ffynnon honno, ac weithiau i mewn yn y dŵr. Fe ddigwyddodd hynny gyda rhai o’r ffynhonnau a ddisgrifir yn yr erthygl hon.

Rhai gwrthrychau cyffredin yw croesau, carpiau (neu rannau o ddillad y claf), arian, a phinnau, ond ceir amrywiaeth mawr yn y gwrthrychau hyn o ffynnon i ffynnon, ac o gyfnod i gyfnod. A dyma destun pwysig i hanesydd cymdeithas. Yr ydym ym maes hanes ar waith; hanes gweithredol; ‘history in action’, chwedl y sawl sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Cwestiwn y byddwn am ei ofyn yw: beth yw ystyr y gwrthrychau i ni sy’n eu gweld heddiw? A chwestiwn pwysicach fyth: beth oedd yr ystyr ar y pryd i’r sawl a osododd y gwrthrych? Pam y dewiswyd y gwrthrych arbennig hwnnw?

A dyma ni nawr yn rhoi pwys nid yn unig ar weithredoedd pobl, ond hefyd ar eu teimladau. Pwys ar yr hyn a alwodd yr hanesydd a’r athronydd disglair R(obin) G(eorge) Collingwood (1889-1943) yn ei glasur o gyfrol, The Idea of History, yn ‘the states of mind’ – cyflwr meddwl y bobl hynny y mae’r hanesydd yn astudio eu hanes. Ai delweddau? Ai symbolau yw’r gwrthrychau ger y ffynnon? Pa ofnau cudd y maent yn ei gyfleu? Pa ddyhead oesol am iechyd, sicrwydd, a gwynfyd?35

Ffynnon Tarws, Gwenô (llun Robin Gwyndaf).

Gyda llaw, fe wêl y darllenydd nod wedi’i gerfio ar ochr dde gwaith carreg y ffynnon hon. Mae’n debyg i ‘Nod Cyfrin’ yr Orsedd, ond nid dyna yw. Yn hytrach, mae’n feincnod Arolwg Ordnans sy’n dynodi union uchder llinell lorweddol y nod uwch lefel y môr, ac o wybod hynny gellir mesur lefel popeth arall yn y cyffiniau. Ceir union ffigur y lefel hwnnw ar fap Ordnans manwl yr ardal. 

Un ffynnon a ddisgrifiwyd yn yr ail ran yw Ffynnon Tarws, Gwenfô. Bellach, drwy garedigrwydd fy nghyfaill Gwyndaf Breese, mi wn ble mae’r ffynnon hon, a chefais gyfle i dynnu llun ohoni ar gyfer trydedd ran yr erthygl. I ymweld â’r ffynnon, teithiwch o gylchdro Croes Cwrlwys ar hyd Heol y Porth / Port Road: A4050, i gyfeiriad Y Barri. Yn union wedi cyrraedd Gwenfô, trowch ar y dde, ger Bwyty’r Beefeater, i Heol Nant Isaf. Ymhen ychydig lathenni fe ddowch i drofa. Fe welwch lôn ar y dde, a Lôn Tarws yn union syth o’ch blaen. Os mewn cerbyd, gadewch ef mewn man diogel (ar Heol Nant Isaf?) a cherddwch ychydig lathenni i fyny Lôn Tarws. Mae’r ffynnon yn y clawdd ar y chwith.               

Nodiadau Rhan 3

35. Gwelir y geiriau o eiddo R G Collingwood yn eu cyd-destun ar glawr ôl ei gyfrol, The Idea of History (Gwasg Rhydychen, 1961; cyhoeddwyd gyntaf yn 1946). Gellid yn rhwydd ychwanegu’r gair ‘objects’ wrth inni gymhwyso’r geiriau hyn at geisio deall arwyddocâd gosod gwrthrychau ger ffynhonnau:

‘History is not contained in books, documents [and objects], it lives only as a present interest and pursuit, in the mind of the historian when he criticizes and interprets those documents [and objects], and by so doing relives for himself the states of mind into which he inquires.’                

(I’w pharhau)                                                                                                                            

Robin Gwyndaf.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffcc

 

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

 

Cyfeiriadau cynyddol at glai iachusol

Mae’r adroddiadau hyn yn olrhain hanes y ffynnon/ffynhonnau dros 350 o flynyddoedd, tros ran helaeth o ba gyfnod y ceisiwyd iachâd rhag amrywiaeth eang o anhwylderau. Ymddengys y defnyddid ffynnon y capel erioed ar gyfer iacháu trafferthion llygaid yn unig, ond defnyddid dŵr ffynnon y sant ar gyfer “pob clefyd”, “llawer o anhwylderau”, “cleifion crupul yn golchi eu haelodau”, a “manwynion, parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill”. Ychydig o’r adroddiadau cynharach sy’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at y clai iachusol a geid wrth y ffynnon. Cyfeiria Fenton at  “waddodiad mwdlyd” ond ceid hwn wrth ffynnon y capel. Mae adroddiad 1859 hefyd yn cysylltu’r “clai” iachusol â ffynnon y capel.35  Cyfeirir yn adroddiad 1905 at ddefnyddio “clai” o gerllaw’r ffynnon i drin y llygaid, ond nid y corff cyfan.36

     Cyfeiriodd y daearegwr Syr Roderick Impey Murchison at glai iachusol St Govan mewn troednodyn yn ei lyfr ar ddaeareg Cymru dyddiedig 1839:

“Preswyliai Saint Gofen (neu St. Gawin) gell wedi’i naddu i wyneb y clogwyn serth a

  phictiwrésg hwn. Ymysg ei weithredoedd da mae un sydd fel petai’n cysylltu ei enw

  â’r daearegwr. Bu i’w fendith roi rhinwedd iachusol ar y clai neu’r garreg glai goch,

  sy’n deillio o ddadelfeniad y garreg galch, sy’n ffurfio talws lle mae’r clogwyn yn

  cilio yn ôl. Cludir y pererinion cloff a dall eto gan eu cyfeillion i lawr y grisiau

  geirwon a naddwyd gan y gŵr sanctaidd, ac wedi eu heneinio â phowltis,

  a wneir o’r clai gwlyb, fe’u gadewir yno am sawl awr i dorheulo tan haul yr haf.

  Mae’r dull iacháu yn gyffelyb i’r un a weithredir gan faddonau mwd Acqui

  ac Abano yng ngogledd yr Eidal.

  Mae llawer o gyrchu, hefyd at seintwar Saint Gofen, hafn yn y graig sydd ond

  yn ddigon mawr i gynnwys unigolyn, megis “man deisyf.” Mae’r deisyfwr yn sicr

  o gael ei ddymuniad cyn diwedd y flwyddyn, os yw’n ei ailadrodd deirgwaith,

  gan droi ei hun o gwmpas, pob un tro, yn y gilfach gul; ond nid fy maes

  i yw’r straeon gwyrthiol hyn na rhai eraill a gysylltir â’r man gwyllt hwn.”37

      Ac yntau’n ddaearegwr, roedd Murchison yn amlwg â diddordeb yn ffynhonnell a chyfansoddiad y clai, felly gellir tybio mai ei ddisgrifiad ef ohono yw’r cywiraf. Mae rhywun yn rhagdybio iddo ef ei hun ymweld â’r safle i weld y ffynhonnell, ac iddo gasglu ar yr adeg honno ychydig fanion o draddodiad, ond nid yw’n eglur a fu iddo weld ai peidio ddefnyddio’r clai gan bererinion afiach. 

     Gan fod yna wahanol ddisgrifiadau o ddefnyddio mwd neu glai o ddwy ffynhonnell, y ffynnon yn y capel a’r clai coch o’r clogwyn, efallai y bu peth dryswch yn ystod y blynyddoedd. Mae’r cofnod cynharaf a ganfûm sy’n cyfeirio at ddefnyddio’r clai coch yn dyddio o 1818: “yn taenu ar eu cymalau chwyddedig a chrupul blastrau o’r clai coch yn llawn dŵr y ffynnon”.38  Ond ni ddywed o ble y daw’r clai coch, dim ond y’i cymysgid â dŵr o’r ffynnon, manylyn nas crybwyllir gan Murchison yn ei adroddiad ynghylch yr arfer 20 mlynedd yn ddiweddarach. Efallai, wrth i’r ffynnon ddechrau mynd yn hesb, y rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddefnyddio clai ar gyfer iacháu, ond i bobl anghofio y dylasai’r mwd neu’r clai iachusol ddod o ffynnon y capel, ac iddynt ddechrau defnyddio unrhyw glai y gallent ei ganfod. Nid yw’r dyfyniad o waith Murchison yn eglur ynghylch ar ba rannau o’r corff, yn union, y rhoddid y powltis glai, er y cyfeiria at “bererinion dall”. Yn ôl adroddiad Fenton o ddechrau’r 19eg ganrif defnyddid y mwd o ffynnon y capel ynghylch y llygaid,39 a chan mlynedd yn ddiweddarach mae adroddiad 1905 hefyd yn crybwyll defnyddio’r clai ar y llygaid yn unig.40  Eithr y mae’n debygol y buasai bobl a geisient yn daer am iachâd wedi ei daenu ar rannau eraill o’r corff. 

Nodiadau.

 35 Allen, op.cit., 204

36 ‘Holy Wells in Wales’, op.cit.

37 Murchison, op.cit., 382-3 troednodyn

38 An Account of Tenby, op.cit., 139

39 Fenton, A Historical Tour…, op.cit., 415

40 ‘Holy Wells in Wales’, op.cit.  

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                 (i’w pharhau)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Ffynnon Ddewi, Olygate, Wexford, Iwerddon.

 

Gwyddwn fod Ffynnon Ddewi yn Newcastle West, Swydd Limerick (Llygad y Ffynnon 14 (Haf 2003),

t. 9), ond yn ddiweddar cefais wybod am ddwy arall yn yr Ynys Werdd, y naill yn Olygate, Swydd Wexford, a’r llall yn Woodhouse, Swydd Waterford. Mae a wnelo’r erthygl hon â’r gyntaf.

Y mae’n darddell naturiol, gyda mur ffurf twll clo o’i hamgylch. Mae grisiau’n disgyn i lawr at y dyfroedd, a’r cyfan mewn trefn dda. Bu dylanwad gan dilynwyr Dewi ar Iwerddon ers Oes y Saint, ond diau y gellir priodoli cysegriadau yn enw Dewi Sant i bresenoldeb llawer o Gymry a Normaniaid mewnfudol o Ddyfed gyfagos yn y rhan hon o’r Ynys Werdd o’r 12fed ganrif ymlaen, gan iddynt ei  threfedigaethu’n drylwyr.

Ar fap Ordnans 1840 nodir eglwys a ffynnon yno, ond mae’r eglwys wedi diflannu erbyn hyn. Arferwyd gwerthu dŵr y ffynnon yn feddyginiaeth hyd 1810, pryd y caewyd hi gan amaethwr lleol.

   

Ffynnon Ddewi, Olygate, Swydd Wexford.

 

 Ffynnon Ddewi, Olygate: golwg i mewn i’r ffynnon.

 

Hysbyseb gwasanaeth cludo teithwyr at y ffynnon.

Bu bri neilltuol ar y ffynnon yn y blynyddoedd 1911-13, pan gofnodwyd sawl gwellhad yno. Lleihaodd nifer y pererinion erbyn 1916, ond ni ddaeth y pererindota i ben ac y mae’r ffynnon yn parhau i ddenu cryn dyrfa pob Gŵyl Ddewi. Codwyd cerflun o Ddewi Sant yno ym 1961.

 

Pererinion wrth y ffynnon ddechrau’r 20fed ganrif

   

Cerflun Dewi Sant gerllaw’r ffynnon yn Olygate.

Diolch i Louise Nugent, awdures y gyfrol ddiddorol Journeys of Faith: Stories of Pilgrimage from Medieval Ireland am yr wybodaeth hon ac am ganiatâd i ddefnyddio ei lluniau.

Howard Huws

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffcc

 

Dadl seneddol ynghylch Ffynnon Gwenfrewy 1904

Yn rhifyn 19.5.1904 y “Clorianydd” (wythnosolyn Ceidwadol Môn, tudalen 6) ceir adroddiad am ddadl seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan ar yr 16eg ynghylch ail ddarlleniad Mesur Draeniau Mwyngloddiau Milwr. Ofnid y byddai agor ffosydd draenio mor agos at Ffynnon Wenfrewy’n effeithio ar y cyflenwad dŵr iddi. Cynigodd Syr T. Esmonde y dylid gwrthod y Mesur, gan y dargyfeiriai ddŵr o’r afon a lifai o’r ffynnon, gan ddifetha diwydiannau a ddibynnent arni. Barn Mr J. H. Lowther oedd y gallai’r cynllun wneud hynny, er nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth i’r perwyl.

 

Map o Dwnnel Milwr a’r gwythiennau plwm.

 

Cefnogodd Mr Moss y Mesur, gan ddadlau y bu mwyngloddiau yng nghyffiniau’r ffynnon hyd 1874 yn pwmpio dŵr o lefel islaw’r ffynnon heb wneud unrhyw niwed iddi. Yn ôl Mr M’Kean roedd  Cyngor Dosbarth Treffynnon yn gwrthwynebu’r mesur. Roedd “Ffynnon y Santes Gwenffrewi [sic],” meddai, “yn iechydfa, lle yr oedd afiechydon wedi myned tu hwnt i fedrusrwydd dynol wedi cael eu gwella.”

Barn Mr J. Herbert Lewis oedd y dylai’r Tŷ ofyn a fyddai’r dŵr a ffrydiai o’r ffynnon yn lleihau ai peidio. Roedd twnnel draenio wedi’i agor o Helygain eisoes, 4 milltir o’r ffynnon, ac wedi effeithio ar lif dyfroedd yn yr ardal. Beth felly fyddai effaith pum twnnel llai na hanner milltir o’r ffynnon? (Ebychiadau o “clywch, clywch!”) Dylid gofalu, meddai, rhag gwneud difrod i un rhan o’r wlad wrth geisio gwneud lles i ran arall. Atebodd Mr James y bu diffyg glaw yn yr ardal er 1882, a dim ond yn ddiweddar y daeth yn ôl i fel y bu. Hynny oedd ar fai am y lefelau isel, nid gwaith twnnel Helygain.

Ar y bleidlais cymeradwywyd ail ddarlleniad y Mesur o 159 i 61. Er gwaethaf protestiadau croch caredigion y ffynnon yn Nhreffynnon a thu hwnt, cafodd y Mesur trydydd ddarlleniad, ac o weithredu’r cynllun gwelwyd gwireddu ofannu’r gwrthwynebwyr. Bu lleihad sylweddol yn y llif o’r ffynnon, ac ar y 5ed o Ionawr 1917, yn wir, fe aeth hesb, ac nis adferwyd tan yr 22ain o Fedi’r flwyddyn honno. Gellir gweld yr adoddiad ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru,  https://newspapers.library.wales/view/3783045/3783051/94/

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y We

 

  Gwefan:   www.ffynhonnau.cymru

Gweplyfr:   Cymdeithas Ffynhonnau

                                                 Trydar:   @ffynhonnau

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 31.5.2021, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffcc

 

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n Holl Ddarllenwyr!

Cofiwch yrru lluniau a hanesion ffynhonnau atom!

 

 

Home Up