Home Up

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 50, Haf 2021

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 4

Robin Gwyndaf  

Ffynnon Daf, 1861. S.C. ac A.M. Hall, “The Book of South Wales.”

 

Ffynnon Daf

Dyma roi sylw nawr i ffynnon enwog iawn.  Mewn ysgrif  yn y gyfres werthfawr ar ‘Lên Gwerin Morgannwg’ yn y newyddiadur Tarian y Gweithiwr (Y Darian), yn 1926, y mae’r hanesydd Tom Jones, Trealaw, yn y Rhondda, yn agor ei sylwadau ar ‘Ffynnon Taf’ fel hyn:

‘Dyma un o’r ffynhonnau hynotaf yn y sir, os nad yng Nghymru. Saif yng ngwely’r Afon Taf, gerllaw Tongwynlais. Fe’i gorchuddir hi’n llwyr pan fo llif yn yr afon ... Nid oes mynedfa ati ym misoedd y gaeaf, ond yn ystod misoedd yr hâf gellir cerdded ati drwy wely’r afon yn eithaf hwylus.’36

Fel rhan o’i baragraff agoriadol y mae’r cofnodydd llên gwerin diwyd o Drealaw yn dyfynnu’r geiriau a ganlyn o eiddo David Watkin Jones, ‘Dafydd Morganwg’, awdur y gyfrol lafurfawr, Hanes Morganwg (1874):

‘... ond er ei llenwi â graian a mân gerryg gan lifogydd, mae yn ei    glanhau ei hun trwy wthio allan bob gronyn, er eu bod tua troedfedd o ddyfnder.’37   

‘Gerllaw Tongwynlais’, meddai Tom Jones. Gellid ychwanegu hefyd, wrth gwrs, fod y ffynnon gerllaw pentref o’r enw Ffynnon Taf, ym mhlwyf Eglwys Ilan, De Morgannwg. ‘Ffynnon Taf’ yw’r enw ar y ffynnon gan Tom Jones a llawer un arall, a’r enw yn aml hefyd ar lafar. Ond ‘Ffynnon Daf’, gyda’r treiglad (oherwydd fod y gair ‘ffynnon’ yn fenywaidd), sy’n fwy gramadegol gywir. Dyma rai ffurfiau a ddefnyddid gynt wrth gyfeirio at y ffynnon ac a gofnodwyd gan Richard Morgan: ‘Funon Tave’ (1778); ‘Taf’s Well farm’ (1795); ‘Taffs Well’ (1825); ‘Fynon Tâf, or the well of Tâf’ (1840); ‘Fynon Taf’ (1873). 

Gelwid Ffynnon Daf yn aml hefyd wrth yr enw ‘Ffynnon Dwym’. ‘Hot-Well House’ yw un enw a ddefnyddir yn 1729, yn ôl Richard Morgan. Mewn cofnod yn 1795 cyfeirir ati fel ‘Ffynhon twm’ (camsillafiad o ‘twym’, bid siŵr). Yna, mewn cofnod, dyddiedig 1814, cyfeirir ati fel hyn: ‘Ffynhon Daf, called by some Ffynhon dwym, or the Tepid well’.38  Meddai Edgar L Chappell (1938):

Its water is tepid – the uniform temperature is 67°. It also contained mineral ingredients similar to those of Bath, which are supposed to be efficacious in the case of rheumatic ailments.’39

Ychwanegodd Francis Jones un darn o wybodaeth bellach:

It was also called Ffynnon Dwym, and visitors paid annual subscriptions to keep it in

repair.’40

Fel hyn y mae Phil Cope yntau yn cyfeirio at Ffynnon Daf ym mharagraff agoriadol ei gyflwyniad i’w luniau ohoni:

The Ffynnon Dwym hot springs are warmed geothermally from deep within the earth. At a constant twenty-one degrees centigrade, the waters travel on their slow, twenty-five kilometre journey from their source, at perhaps just a few metres a year, through warming cracks in the earth.’41  

Roedd gwerth meddyginiaethol amlwg iawn yn nŵr Ffynnon Daf, a deuai pobl o bell ac agos i ymolchi yn ei dyfroedd er mwyn gwella eu crydcymalau a’u cloffni. Y gred oedd y byddai’r claf yn gwella o fewn mis wedi iddo ef neu hi ymolchi yn y dŵr. Adroddir am un llanc ifanc ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu’n ‘ymolchi yn y ffynnon am bythefnos gron, ac ar derfyn y cyfnod hwn bu’n bosibl iddo daflu’i ffyn baglau a neidio o lawenydd.’42

 A dyma eto dystiolaeth Tom Jones:

‘... mae rhinwedd ei dyfroedd yn ddiarhebol at wella’r Crud Cymalau neu’r Gwynegon (‘gwynêcon’, ys dywedwys gwŷr Pentyrch). Mae llawer un gafodd iechyd drwy hon wedi bwrw ei ffyn baglau gerllaw iddi, ac wedi neidio a llamu yn llawen wrth ddod oddiyno. Nid anhygoel felly yw clywed am y garn o ffyn baglau a ffyn llaw a welir ambell waith ar lan yr afon yn yr ymyl.’43

Cyfeiria Tom Jones hefyd at ddefod y disgwylid i’r cleifion ei dilyn:

‘Rhaid i’r gŵr neu was, neu’r ferch neu wraig, daenu pilyn o ddillad  ar draws perth neu bren gerllaw neu’r ffynnondy ei hun pan fo yn ymdrochi yn y dŵr.’44

Yn 1926 y cyhoeddodd Tom Jones y geiriau uchod. Dyma yr hyn oedd gan Edgar L Chappell i’w ddweud yn 1938:

Prior to the erection of the present spa building, the well was enclosed in an iron structure, outside which was hung a garment to indicate that the well was in use, a petticoat in the case of a woman, a trousers in the case of a man.’45  

Cyhoeddwyd cyfrol Wirt Sikes, British Goblins, mor gynnar ag 1880, ac y mae’n amlwg fod y caban o haearn yn bod bryd hynny. Dyma frawddeg neu ddwy o’r un paragraff a sgrifennwyd ganddo ef am Ffynnon Daf. Cyfeiriodd yntau at yr arfer o osod dilladau arbennig o eiddo’r dynion a’r merched ar yr ‘iron structure’ a elwir ganddo ef yn ‘rude hut of sheet iron’.

Some of the Welsh mystic wells are so situated that they are at times  overflowed by the waters of the sea or river. Taff’s well, in Glamorganshire, a pleasant walk from Cardiff, is situated practically in the bed of the river Taff ... A rude hut of sheet iron has been built over it. ... A primitive custom of the place is that when men are bathing at this well they shall hang a pair of trousers outside the hut; women, in their turn, must hang out a petticoat or bonnet.’46  

O dro i dro ceir cyfeiriadau yn llên gwerin Cymru at wragedd mewn dillad llwyd, gwyn, gwyrdd, ac weithiau ddu. Yn aml ceir traddodiadau sy’n cysylltu rhai o’r gwragedd hyn â ffynhonnau. Cysylltir un traddodiad felly â Ffynnon Daf. Fel hyn y mae Marie Trevelyan yn ei chyfrol Folk-Lore and Folk-Stories of Wales (1909) yn adrodd hanes rhyfeddol y wraig mewn dillad llwyd ger y ffynnon.

A lady robed in grey frequently visited this well, and many people testified to having seen her in the twilight wandering along the banks of the river near the spring, or going on to the ferry under the Garth Mountain. Stories about this mysterious lady were handed down from father to son. The last was to the effect that about seventy or eighty years ago [h.y., oddeutu 1829-39] the woman in grey beckoned to a man who had just been getting some of the water. He put his pitcher down and asked what he could do for her. She asked him to hold her tight by both hands until she requested him to release her. The man did as he was bidden. He began to think it a long time before she bade him to cease his grip, when a ‘stabbing pain’ caught him in his side, and with a sharp cry he loosened his hold. The woman exclaimed: ‘Alas! I shall remain in bondage for another hundred years, and then I must get a woman with steady hands and better than yours to hold me.’ She vanished, and was never seen again.’47

Yng nghyfrol Marie Trevelyan mae’r awdur yn cofnodi hefyd dystiolaeth am un arfer hynod o ddiddorol oedd yn cael ei gysylltu â Ffynnon Daf. 

In connection with this well there was a custom prevalent so late as about seventy years ago [h.y. oddeutu 1839]. Young people of the parish used to assemble near Taff’s Well on the eighth Sunday after Easter to dip their hands in the water, and scatter the drops over each other. Immediately afterwards they repaired to the nearest green space, and spent the remainder of the day in dancing and merry-making.’48 

Y mae’r cyfeiriad at yr wythfed Sul wedi’r Pasg yn y dyfyniad uchod yn arwyddocaol. Dyma ni ym misoedd Mai-Mehefin a dechrau’r haf. Cyfnod y coelion a’r holl arferion oedd yn ymwneud â gofyn am fendithion ar y tymor newydd hwn. Adeg y dathlu mawr mewn dawns a chân. Wedi’r gaeaf hir, adeg i lawenhau yng nghwmni’r haul. Cyfnod y ‘Carolau Mai’ a’r ‘Canu Ha’; ‘codi’r Fedwen Haf’ a ‘dawnsio Cadi Ha’;  y ‘twmpath chwarae’, neu, yn arbennig ym Morgannwg, y ‘taplas haf’.49

Cofiwn hefyd am yr hen gred gynt fod gwlith cyntaf Calan Mai yn arbennig o rinweddol at ymolchi croen yr wyneb. I raddau llai, roedd y gwlith cyntaf drwy gydol mis Mai yn fendithiol.50 Ai atgof o gred pobl gynt yng nghysegredigrwydd dŵr, yn arbennig gwlith cyntaf mis Mai, sydd yn yr hen arfer uchod o fendithio eraill drwy eu gwlychu â dafnau dŵr o Ffynnon Daf?

Yn ôl un traddodiad credid fod Ffynnon Daf yn enwog am rinwedd ei dŵr mor gynnar ag oes y Rhufeiniaid. Arferid dweud bod llif mawr yn yr afon yn y flwyddyn 1799 wedi datgelu olion cerrig o’r cyfnod cynnar hwnnw. Fodd bynnag, os gwir hynny, nid oes dim o’r olion i’w gweld heddiw.51

Yn arbennig er mwyn pwysleisio mor hen oedd yr arfer o fynychu’r ffynnon, y mae’r hynafiaethydd o Drealaw yn dyfynnu o gyfrol George Nicholson, The Cambrian Traveller’s Guide in Every Direction (1813):

Mantz found the remains of the once celebrated Taffe’s Well. It was formerly enclosed, and said to possess the infallible property of curing the most inveterate rheumatism, but at present its delapidated state allows the water of the river often to mingle with its contents.’52

Fel y bu lleihad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yn yr arfer o ymweld â rhai o ffynhonnau enwocaf Cymru, megis Ffynhonnau Trefriw yn y Gogledd a Ffynhonnau Llandrindod a Llanwrtyd yn y De, felly y gwelwyd lleihad yn nifer y rhai a ymwelai â Ffynnon Daf. Bu dirywiad amlwg hefyd yn y ddarpariaeth ar gyfer y cyhoedd. Er hynny, bu i’r trigolion lleol yn y man sicrhau bod pwll nofio ar gael ger y safle yn cynnwys dŵr cynnes o’r ffynnon.

Pwll nofio Ffynnon Daf 1930  

Bu’r pwll nofio hwnnw ar agor hyd bumdegau hwyr yr ugeinfed ganrif, ond, yn bennaf oherwydd fod Afon Taf yn gorlifo’i glannau mor aml, cau, ysywaeth, fu hanes y pwll yn y man. Erbyn dechrau’r unfed ganrif ar hugain roedd y cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr unwaith eto wedi dirywio’n sylweddol; anharddwyd llawer ar y muriau o amgylch y ffynnon; a bu’r mynediad ati am gyfnod ar gau.

Bellach, fodd bynnag, gwnaed llawer o waith adnewyddu ar y fangre hanesyddol hon. Efallai nad pawb fydd yn hoffi’r trawstiau haearn mawr a osodwyd o amgylch y ffynnon, na’r palis dur tal a ychwanegwyd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Er hynny, rhaid cydnabod mai da yw gwybod bod y ffynnon enwog hon – Ffynnon Daf – ar agor unwaith eto i groesawu ymwelwyr o bell ac agos.53

Mae Cyfeillion Parc a Tharddell Dwym Ffynnon Daf wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ynghylch defnyddio’r dyfroedd yn gyflenwad twymo amgen ar gyfer Pafiliwn y Parc. Dangosodd yr astudiaeth, fodd bynnag, y darparai’r dyfroedd gyflenwad twymo llawer mwy ar gyfer naill ai tai neu’r ysgol gynradd leol, ac oherwydd maint y prosiect fe’i trosglwyddwyd i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf i edrych ar y defnydd gorau. Wedi rhagor o brofion ac astudiaethau, penderfynwyd cynnwys system cyfnewid gwres yn Ysgol Gynradd newydd Ffynnon Daf, ynghyd â phaneli ynni haul, a olygai nad allyrrai’r ysgol unrhyw garbon. 

 

 Y tu mewn i Ffynnon Daf (llun Phil Cope)

Mynedfa bresennol Ffynnon Taf (llun Phil Cope)

Da yw y cynhesir pafiliwn y Parc hefyd, a gosodir system dwymo o’r ffynnon wedi i ddifrod Storm Dennis gael ei drwsio. Bydd gwaith gosod uned cyfnewid gwres yn dechrau yn y dyfodol agos. Mae’r gymuned yn falch for y dŵr twym yn cael ei ddefnyddio er budd yr ardal ac yn edrych ymlaen at ragor o waith yn y dyfodol.

 

Adeilad newydd arfaethedig Ffynnon Daf.

Nodiadau Rhan 4.

36.         Y Darian, 18 Chwefror 1926.

37.         ibid.

38.         Place-Names of Glamorgan, t. 212.

39.         Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

40.         Holy Wells of Wales, t. 106.

41.         The Living Wells of Wales, t. 231.

42.         Robin Gwyndaf, ‘Chwedl a Choel yn Nhaf Elái’, yn David A Pretty, gol., Rhwng Dwy Afon, 1991, t. 167.

43.         Y Darian, 18 Chwefror 1926.

44.         ibid.

45.         Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

46.         British Goblins: Folk-Lore, Fairy Mythology: Welsh, Legends and Traditions, argraffiad

newydd, E P Publishing, 1973, t. 358. Cyhoeddwyd gyntaf gan Sampson Law, Llundain, 1880. Awdur: Wirt Sikes, ‘United States Consul for Wales’. Gw. hefyd Dafydd Morganwg, Hanes Morganwg, t.29.

47.         Folk-Lore and Folk-Stories of Wales, Elliot Stock, London, 1909, t.195. Am draddodiadau cyffelyb sy’n gysylltiedig â ffynhonnau eraill yng Nghymru, gw. Holy Wells of Wales, tt. 126-7. 

48.         ibid., tt. 195-6.

49.         Gw. Trefor M Owen, Welsh Folk Customs, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, 1959. Pennod 3: ‘May and Midsummer’, tt. 95-112.

50.         Gw., er enghraifft, Iona Opie a Moira Tatem, A Dictionary of Superstitions; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1992, tt. 245-6 (arg. 1af 1989); a Steve Roud, A Pocket Guide to the Superstitions of the British Isles, Penguin Books, 2004, tt. 25-6.

51.         Holy Wells of Wales, t. 106.

52.         Y Darian,18 Chwefror 1926; The Cambrian Traveller’s Guide in Every Direction, 1813, t. 729.

53.         Am un farn a fynegwyd, gw. dwy gyfrol Phil Cope, Holy Wells: Wales. A Photographic Journey, Seren, 2008, tt. 194-7; a The Living Wells of Wales, Seren, 2019, tt. 231-2                        

Robin Gwyndaf.

Ni allwn adael ffynhonnau Caerdydd heb luniau o ddwy ffynnon arall y cyfeiriwyd atynt yn rhan flaenorol erthygl Robin, sef pwmp dŵr eglwys Sain Nicolas, a safle debygol Ffynnon Gatwg ym Mhen-tyrch. Daw’r ddau o gyfrol Phil Cope, The Living Wells of Wales (2019), a diolchwn iddo am ei ganiatâd i’w cynnwys yma.

 

Safle Ffynnon Gatwg ym Mhen-tyrch.

 

Pwmp dŵr eglwys Sain Nicolas

    HH.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 ‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Ymhelaethiadau cyfoes

Bu St Govan’s Chapel yn atyniad twristaidd poblogaidd ers talwm, yr hyn y gellir ei ddeall o gofio ei leoliad dramatig, a thros amser y mae manylion y straeon a’r chwedlau wedi mynd yn fwyfwy helaeth. Mae hyn i’w weld yn neilltuol wrth gymharu’r adroddiadau byrion gwreiddiol â’r fersiynau estynedig a gyhoeddir heddiw. Cyn y 18fed ganrif nid oedd sôn am fedd y sant, cell y sant, y garreg gloch, ac ati, sydd oll bellach rhan annatod o chwedl St Govan. Anodd gwybod pryd y daeth y traddodiadau hyn i fod gyntaf. Mae bod bedd y sant o dan yr allor y tu mewn i’r capel yn enghraifft ddiddorol. Ceir y gred hon yn fynych mewn disgrifiadau o’r capel, bellach, ond yn rhyfedd ddigon nis ceir mewn llawer o adroddiadau cyn y ganrif bresennol.

Mae’r cyfeiriad cyntaf a ganfûm yn dyddio o 1811 pan sylwodd Fenton wrth fynd heibio fod “rhai yn honni bod y Sant meudwyaidd wedi’i gladdu” lle mae’r allor.41  Yr unig gyfeiriad arall o’r 19eg ganrif a ganfûm hyd yn hyn yw un o 1852 pan ddatganodd Ernest Silvanus Appleyard fod y capel “yn cynnwys allor ddyrchafedig, o dan ba un y credir y gorwedd y sant”.42   Mae cyfeiriadau o’r 20fed ganrif hefyd yn brin; ond yn yr 21ain ganrif mae mwyafrif y disgrifiadau’n cynnwys yr wybodaeth y claddwyd y sant o dan yr allor. Bu ailadrodd helaeth erioed ar chwedl y gloch a ddygwyd gan fôr-ladron, er yr ychwanegwyd elfen o fursendod yn ddiweddar: dywedir bellach iddo gael “ei achub gan fôr-rianedd a’i gosododd y tu mewn i garreg ger y capel” neu “Fe’i dygwyd gan y lladron ond fe’i hawliwyd yn ôl gan angylion a’i caeodd o fewn carreg ar lan y môr.”

Ychwanegiad diweddar arall yw “yr argraffwyd ôl dwylo’r sant ar lawr y capel.” Cyfeiria un ffynhonnell at “olion yn y garreg a wnaed gan fysedd y sant pan ymguddiodd yma” - ond y traddodiad, yn wastad, fu mai ôl asennau’r sant ydynt, nid ei fysedd, felly efallai fod hwn yn newid arall sydd ar gynnydd, neu efallai’n gymysgiad â’r traddodiad newydd arall, sef un olion dwylo’r sant ar y llawr.43  Tuedd cyfoes yw gweld ffynhonnau sanctaidd yn “ffynhonnau deisyf”, ac y mae disgrifiad diweddar o Saint Govan’s Well yn dweud ei bod yn “ffynnon ddeisyf ac yn ffynnon iacháu” - er mai anodd fyddai ei defnyddio at y naill ddiben na’r llall yn awr, gan ei bod yn hesb.44 

Yn y ganrif bresennol mae tuedd hefyd yn datblygu i Gymreigio enwau Seisnig rhai ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru. Mae rhai ffynhonnau, yn bennaf yn ardaloedd mwy Seisnig Cymru, wastad wedi bod ag enwau Seisnig ac nid erioed rhai Cymraeg, ac y mae Saint Govan’s Well yn un o’r cyfryw. Ar y sail mai gwell cadw’r arfer traddodiadol, dylid galw’r ffynnon hon yn St Govan’s Well ac nid byth yn Ffynnon Gofan.  Byddai hynny’n anghywir beth bynnag, oherwydd pa bai’n “Ffynnon Gofan”, yna enw’r sant, heb ei dreiglo wedi enw gwrthrych benywaidd unigol fel “ffynnon”, fyddai Cofan. Os Gofan yw ei enw, yna enw’r ffynnon fyddai Ffynnon Ofan.  

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                                      (i’w pharhau)

Nodiadau

41 Fenton, A Historical Tour…, op.cit., 414

42 ‘By the author of “Proposals for Christian Union’ [a enwir yn ddiweddarach yn  E.S.A., sef Ernest Silvanus Appleyard], Welsh Sketches, Chiefly Ecclesiastical, to the Close of the Twelfth Century (London, 2il arg., 1852), 129

43 Ceir enghreifftiau o lên gwein cyfoes yn:  ‘St Govan’s Chapel, Bosherston, Pembrokeshire, Wales’, The Journal of Antiquities, 18 Awst 2013 – mae hwn â chyfeiriadau at y bedd, y gloch, olion bysedd y sant, a Ffynnon Govan (http://thejournalofantiquities.com/category/st-govans-holy-well-at-st-govans-head-in-pembrokeshire/);  Mae gan Pixyledpublications, ‘St Govan’s Well and Chapel’, gyfeiriadau at y gloch a’r olion dwylo (https://insearchofholywells andhealingsprings.wordpress.com/2013/06/14/st-govans-well-and-chapel/) 

44 Mae gan Fywoliaeth Reithorol Cil-maen ddisgrifiad manwl o’r ffynnon a’i llên gwerin, ac yn cynnwys crybwyll y ffynnonn megi ffynnon ddymuno (http://www.revjones.fsnet.co.uk/govan/govan.html)

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Iwerddon.

 Mae’r Dr Celeste Ray, o Brifysgol y De, Texas, ar ddechrau prosiect cofnodi ffynhonnau sanctaidd chwe sir Gogledd Iwerddon. Mae wedi llunio cronfa wybodaeth sy’n cofnodi eu henwau, ac unrhyw draddodiadau yn eu cylch.

Mae 187 o ffynhonnau sanctaidd wedi’u cofnodi yng nghofnod henebion Gogledd Iwerddon, ac y mae rhai ohonynt yn cael eu defnyddio hyd heddiw: ond y maent tan fygythiad oherwydd “datblygiadau” cyfoes, ac ni wyddys sawl un a gollwyd. Bydd y Dr Ray’n cydweithio â thîm ymchwil Treftadaeth Guddiedig Ffynhonnau Sanctaidd sydd newydd ei ffurfio ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast, i astudio a chofnodi pwysigrwydd daearyddol, hanesyddol ac ieithyddol y ffynhonnau.

"Ffynhonnau sanctaidd yw rhai o safleoedd cysegredig hynaf y byd,” meddai’r Dr Ray. “Hwy yw’r lleoedd cyntaf lle ceisiai bobl y goruwchnaturiol; hwy yw’r lleoedd cyntaf y daeth pobl yn amddiffynnol a hyd yn oed yn diriogaethol ynglŷn â nhw.”

Dywedodd yr Athro Keith Lilley o’r tîm ymchwil: “Mae ffynhonnau sanctaidd yn neilltuol agored i ddifrod, gan fod llawer ar dir preifat ac nid oes iddynt ddiogelwch cyfreithiol. Mae ffynhonnau sanctaidd yn bethau sy’n ymddangos fel petaent yn fyrhoedlog, ac nid ydynt yn hysbys iawn, ond mae’n amlwg eu bod o bwys diwylliannol mawr yn hanes Iwerddon ac yn hanes Cristnogaeth ar ynys Iwerddon. Mae’n dreftadaeth ar raddfa fechan, ond pan ychwanegwch y cyfan at ei gilydd, mae’n hanes mawr.”

Coeden garpiau wrth Ffynnon Olcan, Antrim.

Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-56216763

 HH.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y We

Gwefan: www.ffynhonnau.cymru

Gweplyfr:  Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

                                                  Trydar: @ffynhonnau

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 31.11.2021, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

 

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com. Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

 

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 50 Haf 2021

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up