Home Up

 

 

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 53, Nadolig 2022

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 7

Robin Gwyndaf

 

 

 Ffynnon Llandennis, Plwyf Llanisien

 Ceir o leiaf dair ffynnon ym Mhlwyf Llanisien (Llanishien ar lafar) y dylid sôn amdanynt. Yr enwocaf ohonynt yw Ffynnon Llandennis, a hon yw’r unig ffynnon bellach, hyd y gwn i, y gellir mynd ati. Lleolir hi ar yr Ofal, llain o dir gwyrdd, hirgrwn, ym mhen uchaf Llyn Parc y Rhath, rhwng Ysgol Uwchradd Caerdydd (‘Cardiff High’) a Llyfrgell Rhydypennau (Yr Hyb, fel y gelwir heddiw). Mae’r Ofal ers blynyddoedd bellach yn gylchdro mawr ar Heol Llandennis. Mae’r  ffynnon hithau yn ffurfio pwll o ddŵr mewn mangre goediog (y coed derw yn amlwg iawn) ar ochr dde yr Ofal wrth ichwi gerdded ar hyd y llwybr i gyfeiriad Llyfrgell Rhydypennau. Y mae’n lled agos hefyd i ymyl Heol Llandennis sy’n cludo’r drafnidiaeth yn ôl i gyfeiriad rhan isaf Llyn Parc y Rhath.77

Mae’r dŵr o’r pwll yn llifo yn nant fechan i nant fwy o lawer o’r enw Nant Fawr, a’r nant Fawr yn ei thro yn llifo i Afon Rhymni. Ceir dau lun lliw ardderchog o’r ffynnon a’r pwll yn y coed. Un gan Phil Cope yn ei gyfrol The Living Wells of Wales (2018)78, ac un gan Andrew Misell mewn erthygl ddiddorol, ‘Corneli Cudd Caerdydd’, yn Barn  (2018).79  Y mae ar gael hefyd lun du a gwyn trawiadol o’r ffynnon fel yr oedd yn 1999, wedi’i gyhoeddi yn nghyfrol Gareth Williams, Life on the Heath.80 Y mae’r enw ‘Ffynnon Llandennis’ yn annatod glwm wrth yr enw Llanisien ac enw Sant Nisien, neu Isien. Dyma rai ffurfiau cynnar ar enw’r plwyf a’r Sant: Sancti nisien (1128, 1160-80); capel Sancti Dionisii de Kybour (c. 1175); Landyneys (1317); capel St Denis in Kybour (1400); Llan Isen (c. 1538); Llanyssen (1557); Lanisshan (1578); ll. nisen (1590); Lanissan (c.1659); Lanishen (1833).81 Y mae’n werth dal sylw yma ar y ddau enw: ‘capel Sancti Dionissi’ (c.1175), a ‘capel St Denis’ (1400), a nodwyd uchod. Cofiwn hefyd fod cyfeiriad ar Fap y Llywodraeth, 1833, at dŷ o’r enw Capel Denis (c. ST 183 806), hen gapel Canoloesol gynt, mae’n dra thebyg, oedd unwaith yn agos at leoliad Ffynnon Llandennis. Erbyn 1866 roedd yr enw wedi ei newid i ‘Dyffryn’.82

Y mae nifer o’r awduron sydd wedi ysgrifennu am Ffynnon Llandennis wedi datgan mai ffurf sathredig yw Denis ar yr enw Lladin personol, Dionysius. Yn eu plith, y Parchg C A H Green, awdur Notes on the Churches in the Diocese of Llandaff.83 Meddai Stan Jenkins yntau yn ei gyfrol werthfawr, Llanishen: A Historical Miscellany: ‘Inevitably, in the course of time, the name Dionysius was misheard by the local community and was corrupted to Dennis or Denys.’84 Fodd bynnag, y mae Richard Morgan yn ei gyfrol safonol, Place-Names of Glamorgan (2018) a’i gofnod cynhwysfawr ar Lanisien wedi bwrw amheuaeth ar y ddamcaniaeth hon. Meddai:

‘Nisien is almost certainly the same saint dedicated at Llanisien  (Llanishen), Monmouthshire.85 

The name is not a Welsh corruption of the Latin personal name Dionysius ... Dionysius (probably 

St Denis the martyr [bu farw, c.258], patron saint of France) is simply another example of the

substitution of the name of a Continental saint for a lesser-known Celtic saint, a change often

prompted by a perceived similarity of form and through the use of Latin in ecclesiastical and

secular administration.’86

Yn ei gofnod mae Richard Morgan yn ein hatgoffa mai i Sant Denis hefyd y cysegrwyd yr eglwys bresennol sydd ym mhlwyf cyfagos Llys-faen, yn ogystal, wrth gwrs, â chysylltiad anwahanadwy yr un sant â Ffynnon Llandennis. Un ragdybiaeth arall a gyflwynwyd gan amryw o’r awduron sydd wedi ysgrifennu am Ffynnon Llandennis yw fod Nisien, neu Isien, wedi bod yn ddisgybl i Sant Illtud yn Llanilltud Fawr. Dyma, er enghraifft, sylw Gareth Williams yn ei gyfrol, Life on the Heath:

‘It is traditionally believed that one of Illtud’s pupils set up his own little ‘cell’ within a few

 hundred yards of the old road across the Heath, near the present-day Rhyd-y-pennau.’87

Ond unwaith eto y mae’n werth cofnodi barn Richard Morgan am y gred hon, a’i sylw hefyd am ddwy ffurf gynnar ar yr enw ‘Llanisien’.

‘Nisien (or ‘Isien’) is reputed to have been a disciple of St Illtud, but     this seems to be an error

derived from a misunderstanding of the Breton Life of St Samson (of Dol), c.610, which records

an abbot Isanus summoned by St Illtud to his monastery ... This Isan may be the saint of

Llanisan-yn-rhos (identified with St Ishmael’s, Pembrokeshire) which occurs in the Book

of Llandaf, 12th cent. as lanyssan, lann isann and similar spellings. Early spellings of Llanisien,

Glamorgan, show conclusively that the place-name does not include the personal name

Isan. Later spellings, such as Lanisshan 1578 and Lanishan 1758 reflect the local colloquial pronunciation with ‘sh’.’ 88

 Robin Gwyndaf                                                                                                                                                                    (i’w pharhau)  

Nodiadau Rhan 7

77  ST 184/806.

78  The Living Wells of Wales, t. 245.

79  Barn, rhifyn Gorffennaf – Awst, 2018, t. 36.

80  Life on the Heath, Gwasg Merton, 2001, t. 22.

81  Gw. Richard Morgan, Place-Names of Glamorgan, Welsh Academic Press, Caerdydd, 2018, t. 126.

       Hefyd Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales, Gwasg Gomer, Llandysul,

       t. 2007, t. 269.

82  Dictionary of the Place-Names of Wales, t. 269.

83  Aberdâr, 1906, Tudalen 32, 34.

84  Llanishen: A Historical Miscellany, Llanishen Local History Society, 2014, t. 4.

85  Gw. Dictionary of the Place-Names of Wales, t. 269.

86  Place-Names of Glamorgan, t. 126.

87  Life on the Heath, t. 19.

88  Place-Names of Glamorgan, t. 126.

 Cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Cyfarfod Rhithiol “Zoom” Ar-lein am 10:30 o’r gloch 16.7.2022.

 

COFNODION.

 

Yn bresennol: Robin Gwyndaf (Llyw.), Howard Huws (Ysg.), Gwyn Edwards (Trys.), Dennis Roberts (Arch.), Mike Farnworth, Anne E. Williams, Eirlys Gruffydd-Evans, Elfed Gruffydd (rhan).

1. Croeso’r Cadeirydd. Croesawyd yr aelodau gan y Cadeirydd.

2. Ymddiheuriadau. Eleri Gwyndaf, Dafydd W. Thomas.

3. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2021, a materion yn codi.

a). Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn mynd rhagddo eleni, a bydd Mike Farnworth yn traddodi darlith cyfarfod CFfC ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 15:30 o’r gloch ddydd Gwener y 5ed o Awst. Mae Mike yn dymuno cael adborth o’r achlysur, ac os yw’n ffafriol, gall ail-recordio’r ddarlith ar YouTube. Mae wedi traddodi’r ddarlith i Gymdeithas Cymru Penbedw eisoes, a bu’n llwyddiannus. Canmolodd Robin Gwyndaf Mike am ei gyfraniad a’i weithredu ardderchog. Awgrymodd y dylid rhannu dalen ar faes yr Eisteddfod ynghylch y ddarlith, ond penderfynwyd y byddai Trydar yn well dull cyhoeddusrwydd: yr Ysgrifennydd i wneud hynny. Gofynnodd Robin Gwyndaf a allwnddefnyddio Gweplyfr?

Dywedodd Gwyn Edwards ei fod wedi sefydlu tudalen Gweplyfr yn enw’r Gymdeithas Ffynhonnau, sy’n rhoi gwybodaeth am wahanol ffynhonnau oddi ar ein gwefan ni. Mae sawl un  wedi ymuno. Awgrymodd Robin Gwyndaf y gallai Radio Cymru fod yn barod i dderbyn sgyrsiau: Rhaglen Aled Hughes, er enghraifft. A fyddai modd cysylltu â nhw i roi gwybod am y ddarlith, a ffynhonnau yn ardal yr Eisteddfod? Dywedodd Mike Farnworth ei fod wedi anfon hysbyseb atynt, ond nid galwad ffôn. Mae rhaglen radio Ifan Jones Efans am 2 o’r gloch yn derbyn hysbysebion: Mike am geisio cysylltu â nhw.

b). Ffynnon Redyw. Mae Gwyn Edwards wedi codi’r mater efo’r Orsaf ym Mhen-y- groes (canolfan gweithgaredd cymunedol). Y mater i’w roi o flaen y pwyllgor, ac y mae Gwyn Edwards i’w hatgoffa. Mae’n ffynnon fawr, a byddai ei hadfer yn gamp, ond mae amheuaeth ynghylch perchnogaeth y tir.

c). Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer. Mae’r gwaith ffordd wedi gweddnewid y lle, a’r dŵr yn llifo allan o ddwy bibell lle bu un. Anodd dweud pa un yw goferiad Ffynnon Fair: yr Ysgrifennydd i fynd ynoi ymchwilio , gan y bu dŵr y ffynnon wastad yn oer.

ch). Ffynnon Garon, Tregaron. Cysylltwyd â Chyngor Tregaron ynghylch adfer Ffynnon Garon erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cafwyd ateb gan y Cyngor yn dweud eu bod “mewn cydweithrediad â grŵp o bobl leol wedi bod yn trafod hyn dros y misoedd diwethaf ac ar hyn obryd yn trefnu i glirio a gwneud gwelliannau i ardal Ffynnon Garon.” Yr Ysgrifennydd i ymweld â’r safle ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol.

d). Penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd. Cysylltwyd â Deri Tomos, ond yn anffodus, er cymaint ei ddiddordeb, ni all wirfoddoli i ddal y swydd hon.Ymddiheuraf yr ofnaf na fedraf dderbyn y gwahoddiad. Ni fyddai gennyf y syniad cyntaf sut i fod yn Swyddog Cyhoeddusrwydd. Mae'n wir fy mod ar y cyfryngau o bryd i'w gilydd - ond yn ymateb i ymholiadau (gobeithio am bethau y gwn ychydig amdanynt) yw hynny pob tro.

     “Daw fy niddordeb o ffynhonnau Cymru yn rhannol o'm diddordeb cyffredinol yn ein hanes a'n

      diwylliant - ond hefyd o'r ffaith mai dŵr yw'r cemegyn (neu'r ‘elfen’) yr ydwyf wedi'i hastudio yn

      bennaf trwy gydol fy ngyrfa. Rwyf wrth fy modd yn darllen y ‘Llygad’ ac yn diolch yn fawr

      amdano.”

Awgrymodd Robin Gwyndaf na ddylem anghofio am hyn. Rhaid dal i chwilio. O safbwyntdyfodol y Gymdeithas rhaid rhoi sylw i gael rhagor o aelodau gweithgar. Cynigiodd yn ffurfiol y dylai Elfed Gruffydd i fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith. Dennis Roberts yn eilio. Dywedodd   Elfed ei fod yn fodlon. Dywedodd Eirlys Gruffydd-Evans fod adfer ffynnon yn gorfforol yn ysbrydoli’r ifanc. A oes modd cysylltu efo rhywun yn y brifysgol/colegau sy’n darlithio ar lên gwerin i gynnwys ffynhonnau? Dywedodd ei bod yn fodlon gwneud hyn.

dd). Mynegai. Penderfynwyd y dylai Dennis ddal ati i orffen diweddaru’r mynegai ffynhonnau, a bod Gwyn i wneud y gweddill. Ychydig fanion sy’n weddill efo’r ffynhonnau, ond gobeithir y bydd ar y wefan ymhen ychydig iawn. Gobeithir y bydd Gwyn wedi gorffen y rhan arall ynfuan.

Dywedodd Robin fod gwaith diweddar y Gymdeithas (a gwaith Dennis ac Eirlys, yn enwedig, sef troi’r wybodaeth ysgrifenedig yn ddigidol) yn hynod bwysig. Diolchodd i Dennis, Gwyn ac Eirlys am hyn. Diolchodd Eirlys i Dennis hefyd.  

e). Cynnal darlithoedd byw trwy gyfrwng “Cwmulus”. Llongyfarchodd Dennis Howard ar ei ddarlithCwmwlws ynglŷn â Ffynhonnau Carpiau Cymru: dylid ei chyhoeddi yn “Llygad y Ffynnon”.Dywedodd Robin ei fod wedi mwynhau’r ddarlith, a holodd a fyddai modd, yn y dyfodol, i’r gynulleidfa gymryd rhan wedi’r ddarlith ei hun. Dywedodd Mike fod perygl “Zoom bomio”, sef pobl ddieithr yn ymyrryd â’r ddarlith, os yw’n gwbl agored. Dyna pam y cyfyngir cwestiynau i’r adran “Chat” ar Cwmwlws.

f). Cyfrifon Trydar a Facebook. 434 o ddilynwyr Trydar erbyn hyn, o gymharu â 217 y llynedd.

ff). Canfod ffynonellau ariannol. Anodd yw cael arian heb fod gan rywun brosiect a chynllun penodol. Yn achos Ffynnon Redyw, er enghraifft, bydd Yr Orsaf i hwyluso hynny. Gobeithir y bydd ffynonellau arian yn agor trwy hynny. Dywedodd Robin nad oes angen arian i’r Gymdeithas ei hun onid ydym ni’n chwilio am fodd defnyddio arian. Dywedodd fod “Llygad y Ffynnon” yn dda, ac na  ddylai prinder arian gan y Gymdeithas fod yn rheswm dros gyhoeddi rhifynnau “Llygad y Ffynnon”  llai. Mae angen digon o arian i sicrhau bod y cylchgrawn printiedig yn ddigonol, a dylid defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am arian.

Dywedodd Mike fod cyfraniadau ar-lein yn bosibl gyda WordPress: penderfynwyd y dylai drafod hyn efo Dennis.

Diolchodd Robin i Eirlys am y rhodd hael i’r Gymdeithas er cof am Ken Gruffydd. Cynigodd roi £300 i’r Gymdeithas er mwyn sicrhau bod rhagor o ddeunydd yn rhifyn nesaf “Llygad y Ffynnon.” Mae tair rhan o’i ddarlith ar Ffynhonnau Caerdydd yn weddill, a gobeithir rhoi’r cyfanyn un cyhoeddiad yn enw’r Gymdeithas Ffynhonnau, a chael grantiau ychwanegol i gyhoeddi. Diolchodd Eirlys i Robin am ei waith.

Dywedodd Dennis ei fod wedi dechrau rhoi rhannau darlith Robin at ei gilydd yn un ddogfenpdf.

4. Adroddiad yr Ysgrifennydd.

a.) Cyhoeddir erthygl ynghylch Ffynnon Llechid yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfonyn yr hydref.

b). Llwyddwyd i sicrhau gwell slot ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef am 3:30 o’r gloch ar bnawn Gwener y 5ed o Awst.

c). Traddodwyd cyflwyniad ynghylch “Ffynhonnau Carpiau Cymru” ar “Cwmwlws”. Bwriedir ei recordio ar gyfer YouTube. Bydd erthygl ar ffynhonnau carpiau Cymru yn ymddangos yn y cylchgrawn “Folk Life” yn y dyfodol, a thrafodwyd pwnc ffynhonnau carpiau ar Raglen Aled Hughes ar Radio Cymru ddydd Mawrth yr 21ain o Fehefin.

ch). Mae Gwyn Williams wedi gwneud fideo model 3D o Ffynnon Eidda, a gyrru copi atom. Mae o’n gofalu am y ffynnon yn gyson, ac am ymaelodi â’r Gymdeithas.

d). Cysylltwyd â Chyngor Tregaron ynghylch adfer Ffynnon Garon erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cafwyd ateb gan y Cyngor yn dweud eu bod “mewn cyweithrediad â grŵpo bobl leol wedi bod yn trafod hyn dros y misoedd diwethaf ac ar hyn o bryd yn trefnu i glirio agwneud gwelliannau i ardal Ffynnon Garon.” Bydd yr Ysgrifennydd yn ymweld â’r safle adeg Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn Awst.

dd). Mae’r Ysgrifennydd wedi tanysgrifio i wefan “Holyandhealingwells”, rhag y daw unrhyw wybodaeth ychwanegol oddi yno.

5. Adroddiad y Trysorydd.

Diolchwyd i’r Trysorydd am y fantolen. Dywedodd Dennis yr arferem dalu £32.50 y flwyddyn am gael enw gwefan y Gymdeithas ar ffeil, ond ers tair blynedd bu’r cwmni cyfrifol (Telemat) yn gyrru bil  i Gymdeithas Bob Owen a Chymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y cyd. Mae Dennis a thrysorydd CBO wedi rhoi gwybod i Telemat pwy yw trysoryddion y ddwy gymdeithas, fel mae trysorydd CBO. Felly mae Telemat am yrru bil am y tair blynedd, sef tua £100.

Awgrymodd Dennis y byddai bod â chyfrif banc electronig yn hwyluso gwaith y Trysorydd, gan y byddai ‘r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar gyfer llunio’r fantolen flynyddol. Ni fyddai angen i’r Trysorydd fynd i’r banc ei hun. Dywedodd y Trysorydd yn dweud ei fod yn anghyfarwydd â materion technegol, ond ei fod am ganlyn yr awgrym. Dywedodd Dennis y byddai’n gyrru gwybodaeth am hyn at y Trysorydd, a dywedodd Howard y byddai’n fodlon cynorthwyo.

Gyda mwyafrif y banciau mawrion yn codi am gael cyfrif, ac am bob siec a drafodir, tynnodd Eirlys sylw at y ffaith nad yw banc Halifax yn codi. Dywedodd Dennis y byddai newid banciau yn golygu y byddai’n rhaid i’r Trysorydd drefnu i bawb ailymaelodi. Oni fyddai perygl i rai beidio ag ailymaelodi? Tua 70 o aelodau sy’n talu erbyn hyn, 25 yn talu trwy’r banc a 37 yn aelodau am oes.

Tynnodd Eirlys sylw at y ddyled i Telemat, ond dywedodd Dennis nad oedd hynny (tua £100) am ein methdalu.

Diolchodd y Trysorydd i Dennis am ei gefnogaeth gyson; mae’n gwirio’r cyfrifon yn fisol. Diolchodd yr aelodau i Gwyn a Dennis.

6. Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Adroddodd yr Archwiliwr Mygedol fod y cyfrifon yn gywir ac yn gyflawn. Diolchwyd i Dennis am ei waith.

7. Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Cyhoeddwyd dau rifyn, papur ac electronig, gyda chymorth Dennis.

Ynglŷn â mynegai “Llygad y Ffynnon”. Gyrrwyd drafft o fynegai rhifynnau 41-50 at Dennis Roberts yn Awst 2021. Mae Dennis wedi gyrru rhestr newidiadau 41-50 at Howard ar gyfer eu gwirio. Pan wneir hynny, gellir eu rhoi ar y wefan.

Tynnodd Dennis sylw at y ffaith fod gwerth degawd o’r fersiwn electronig wedi’i gyhoeddi.

8. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gofynnodd Robin am gadarnhau’r hyn a benderfynwyd eisoes, sef gofyn i’r Ysgrifennydd arwain gwibdaith yn ardal Bangor, y flwyddyn nesaf. Howard i gynnig dyddiadau i’r Pwyllgor Gwaith, i ddechrau.

Cynigodd Robin y dylid gofyn i Elfed Gruffydd draddodi sgwrs yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf. Cytunwyd i ofyn iddo, ac onid yw’n derbyn, cawn drafod ymysg ein gilydd.

Dywedodd Dennis ei fod wedi dal i fyny efo gwaith y wefan, a bod y ffynhonnau oll arni. Y mae’n  barod i drafod efo Mike i weld a allem symud i system newydd. Mae rhagor na 4,000 o ffeiliau ar y wefan, a byddai gwaith symud i wefan newydd yn cymryd tua 2 flynedd.

9. Unrhyw fater arall.

a). Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Dywedodd Gwyn fod llythyr wedi cyrraedd aelodau cylchgrawn Utgorn Cymru i’r perwyl bod yr Eglwys Bresbyteraidd yn bwriadu gwerthu Capel Ebeneser, Clynnog, gan gynnwys yr ystafell lle cynhyrchir Utgorn Cymru, a bod cyfreithwyr yr Eglwys wedi rhybuddio’r Ganolfan symud allan o’r gweithdy crynoddisgiau. Mae’r Ganolfan Hanes yn gofyn i gefnogwyr gysylltu â’r Eglwys yn gofyn iddynt ailedrych ar y sefyllfa efo Capel Ebeneser ac ailystyried.

Awgrymwyd y dylai fod yna gytundeb rhentu, a roddai hawliau. Heb hynny, byddai’r Ganolfan mewn sefyllfa wan i wneud hawliau. Byddai’r pwnc yn dod o dan Bwyllgor Adnoddau ac Eiddo’r Gymdeithasfa, ac yna’r Gymdeithasfa ei hun. Os am werthu, byddai’n rhaid edrych ar y cytundeb, sydd yn fater i’r cyfreithwyr. Rhaid cofio, hefyd, fod yr Eglwys Bresbyteraidd yn elusen, ac atebol i’r Comisiwn Elusennau. Dywedodd Eirlys ei bod yn fodlon cysylltu efo Harry Hughes, sy’n gyfrifol am eiddo’r Eglwys yn y gogledd, i weld beth yw’r sefyllfa, a beth yw’r trefniant â’r Ganolfan.

b). Gofynnodd Robin a oes modd i’r Ysgrifennydd roi gwybod pwy arall sy’n aelodau o’r PwyllgorGwaith. Awgrymodd ein bod ni’n gofyn i bobl sy’n aelodau o’r Gymdeithas fod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith hefyd.

10. Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.

Penderfynwyd cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf am 10:30 o’r gloch ddydd Sadwrn15.7.23, trwy gyfrwng Zoom.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Garon, Tregaron.

Yn unol â phenderfyniad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ymwelodd yr Ysgrifennydd â Ffynnon Garon yn Nhregaron ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

   

 Amgychedd Ffynnon Garon, Tregaron.

 

Cafwyd fod y ffynnon yn hawdd ei chanfod ar ochr chwith ffordd yr A485 o Dregaron i Lanbedr Pont Steffan, ychydig y tu allan i’r dref. Mae’r ffordd ati a’i hamgylchedd wedi’u clirio, a ffens bren gadarn o’i chwmpas. Mae’r dŵr i’w weld yn llifo’n ddirwystr ac yn lân.

 

  Ffynnon Garon yn dal i lifo.  

 

Un o’r amryfal wrthrychau ar y safle.  

Nid annisgwyl oedd gweld bod nifer o wrthrychau wedi’u gadael wrth y safle, gan gynnwys sgarffiau, botymau, darnau o wehyddwaith ac, am ryw reswm, polyhedron plastig melyn. Boed a fo am y rheiny, y prif beth yw bod mynediad rhwydd at y ffynnon, a’i bod mewn cyflwr da. Rhaid diolch am hyn y Gyngor Cymuned Tregaron a’r sawl fu wrth y gwaith. A chryn dipyn o waith, hefyd, gan mor anhygyrch fu’r ffynnon cyn eleni. Dyna ni, hawdd ysgrifennu am ffynhonnau a phregethu bod angen eu diogelu, ond rhaid torchi llawes er mwyn sicrhau hynny.

H.H

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

The Holy Wells of Wales” gan Francis Jones:

rhai camgymeriadau wedi’u cywiro

 gan Janet Bord a Tristan Gray Hulse (parhad)

Tudalen 114:  Ffynnon Fair, Llanbedrog, Sir Gaernarfon. Disgrifia FJ draddodiad ynghylch taflu bara i ddyfroedd Ff Bedrog a Ff Fair yn Llanbedrog, ond awgryma ffynonellau eraill mai yn Ff Fair yn unig y digwyddai hyn. Daw’r unig wybodaeth ynghylch defnydd y ffynnon hon gan Myrddin Fardd, ac oherwydd ei natur anghyffredin, fe’i hail-adroddwyd mewn llawer o lyfrau ynglŷn â llên gwerin Cymru. Dyma fersiwn John Rhys mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1893 (‘Sacred Wells in Wales’, Folklore, cyf.4 (1893), tt. 61-2) ac eto yn ei lyfr Celtic Folklore: Welsh and Manx (Oxford: Clarendon Press, 1901, t.364).  Gan fod yr adroddiadau hyn yn hŷn na chyhoeddi llyfr Myrddin Fardd ym 1908 (Llên Gwerin Sir Gaernarfon, Sir Gaernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, 1908, t.183), mae’n amlwg i Rhys gael ei wybodaeth gan Myrddin Fardd ei hun.

“…the big well in the parish of Llanbedrog in Lleyn, as I learn from Myrddin Fardd, required

  the devotee to kneel by it and avow his faith in it.  When this had been duly done, he might

  proceed in this wise:  to ascertain, for instance, the name of the thief who had stolen from him,

  he had to throw a bit of bread into the well and name the person whom he suspected.  At the

  name of the thief the bread would sink;  so the inquirer went on naming all the persons he could

  think of until the bit of bread sank, when the thief was identified.” 

Er bod adroddiad cyhoeddedig Myrddin Fardd ynghylch Ff Fair yn disgrifio defod y bara, dywedodd John Rhys yn ei fersiwn ef i Myrddin Fardd ddweud wrtho y digwyddai yn “the big well in the parish of Llanbedrog” ac nid yw’n enwi Ffynnon Fair yn benodol.  Mae yn Llanbedrog ffynnon yn dwyn enw’r sant lleol, Pedrog, sef Ff Bedrog, a gallai fod yn bosibl mai hon a olygai Rhys wrth ‘big well.’ Gan ddrysu rhagor ar bethau, dywed Francis Jones: “At Ffynnon Bedrog and Ffynnon Fair (both in Caern.) the injured party knelt and expressed his faith in the well, and then threw pieces of brown bread into the water, calling out the names of the suspects.  When the name of the actual thief was uttered, the bread sank.  Ar wahân i gyflwyno haeriad mai bara coch a deflid, ymddengys fod Jones wedi darllen dau fersiwn yr hanes hwn, a rhagdybio y cyfieirai Rhys at Ff Bedrog, gan ragdybio drachefn y cyflawnid y ddefod, gan hynny, yn y ddwy ffynnon. Yn ei ddisgrifiad o Ff Bedrog, fodd bynnag, nid yw Myrddin Fardd yn crybwyll y ddefod, felly ymddengys i Rhys beri dryswch trwy beidio ag enwi’r ffynnon, gyda Francis Jones, wedyn, yn tybio heb sail neu heb ofal.  

Tudalennau 115-16:  Ffynnon Llandyfaen, Llandyfaen, Sir Gaerfyrddin. Dywed FJ sut yr yfid dŵr o  Ff  Llandyfaen o benglog dynol, “but by 1815 the reputation of this skull was ‘in a great degree lost.’  Yr hyn a ddywed ei ffynhonnell (Thomas Rees, The Beauties of England and Wales: South Wales, cyf.XVIII (London, 1815) t.321) mewn gwirionedd yw:  “…at a place called Llanduvaen, are some natural baths, once greatly resorted to by the natives for the cure of paralytic affections;  but their reputation is now in a great degree lost.”  Nid yw’r cyfeiriad byr hwn yn crybwyll penglog, ac enw’r baddonau yw’r hyn a gollwyd.  

Tudalen 142:  Ffynnon Gybi yng Nghlorach, Sir Fôn. Bu dwy ffynnon yma ar un adeg. Dywed FJ y dinistriwyd Ff Gybi tua 1840, gan adael Ff Seiriol yn gyfan, ond mae peth anghytuneb ynghylch pa ffynnon a ddinistriwyd. O dderbyn mai’r Parch. Skinner (Revd John Skinner, Ten Days’ Tour Through the Isle of Anglesea, December, 1802;  cyhoeddwyd yn atodiad i Archaeologia Cambrensis, cyf.VIII, 6ed Cyfres, London: Cambrian Archaeological Association, 1908) yw’r ffynhonnell fwyaf dibynadwy, mae’n eglur mai Ff Gybi yw’r un a oroeosodd, gan i’r Parch. Skinner wneud braslun o’r safle gan ddangos lleoliad y ddwy ffynnon ar yr adeg y’u gwelodd, gan eu henwi ar sail gwybodaeth leol, debyg. Ff Gybi oedd yr un ddeheuol, i’r de o’r ffordd yn awr, a chadarnheir yr enwi hwn gan fap Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif. Gwelodd FJ Ten Days’ Tour y Parch. Skinner, gan y cyfeiria ato, felly nid oes ganddo esgus dros gam-enwi’r ffynnon a oroesodd.

Tudalen 142:  Ffynnon Gybi, paragraff rhif 2.  Fel y nodwyd uchod yn achos tudalen 111, nid y ffynnon yng Nghaergybi yw’r Ff Gybi a ddisgrifir gan FJ, ond yr un yn Llangybi, Sir Gaernarfon.

Janet Bord  a Tristan Grey Hulse (cyfieithiad Howard Huws.)                                                                             (I’w pharhau.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Seiriol, Penmon – Ffynnon Sanctaidd?

Yn rhifyn diweddaraf (2021) Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn mae gan Janet Bord, awdurdod ar ffynhonnau sanctaidd, erthygl ddiddorol iawn ar Ffynnon Seiriol, Penmon. (“Reinterpreting Saint Seiriol’s Well, Penmon, Anglesey.” Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 2021, tt. 46-65.)

Er yr adnabyddir y ffynnon i’r dwyrain o eglwys Penmon fel Ffynnon Seiriol, dadleua Bord nad oes unrhyw dystiolaeth cyn dechrau’r 19eg ganrif i awgrymu ei bod yn gysylltiedig â Seiriol, nac unrhyw dystiolaeth ganoloesol bod parch neilltuol i Seiriol ym Mhenmon nac yn unman arall, namyn ambell i enw lle fel Ynys Seiriol.

Mae llechen ar adeilad presennol y ffynnon yn cofnodi gwaith yno ym 1710, er y gallai hynny olygu gwaith trwsio neu ailwampio adeilad blaenorol. Yr oedd hwnnw’n gyfnod addasu tarddellau naturiol gan dirfeddianwyr at amryw ddibenion. Nid yw’r pwll presennol yn ddigon mawr i ymdrochi ynddo, ond fe all y bu’n llifo i un arall gerllaw, ar un adeg. Mae sylfeini adeilad crwn wrth y ffynnon, ond nid dim i dystio eu bod yn hynafol iawn. 

Tyn Bord sylw at gyfres o sylwadau ynghylch y ffynnon a ysgrifenwyd gan ymwelwyr a hynafiaethwyr o 1798 ymlaen. Mae Bingley (1800) yn crybwyll y ffynnon, ond nid unrhyw draddodiadau yn ei chylch. Nid yw Carlisle (1811) yn ei chrybwyll o gwbl yn ei ddisgrifiad o Benmon. Mae Evans (1812) yn cyfeirio ati fel “Ffynon vair, or holy-well”: enw cyffredinol ar ffynnon sanctaidd. Ayton (1813) yw’r cyntaf i’w chysylltu â Seiriol Sant, ac Angharad Llwyd (1833) yw’r gyntaf i’w galw’n “Seiriol’s well”. Mae eraill yn cyfeirio ati fel ffynnon ofuned, a rhai yn cyfeirio at Ffynnon Seiriol yng Nghlorach, ond nid at un ym Mhenmon. Yr oedd yna gymysgu, hefyd, rhwng y ffynnon ym Mhenmon a Ffynnon Seiriol arall yn Llangoed gerllaw. Adroddiad o 1912 yw’r cyntaf i’w galw’n “Ffynnon Seiriol”.

Dim ond wedi canol y 19eg ganrif y ceir manylu cynyddol ynghylch cysylltiad Seiriol â’r ffynnon, a honiadau ynghylch yr hyn a ddigwyddai neu a adeiladid yno. Dywedid rhagor nag unwaith ei bod yn fedyddfa, a dylanwadol fu haeriad y Comisiwn Brenhinol (1937) y bu yno gangell a chorff capel, ac mai annedd Seiriol fu’r adeilad crwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth i’r perwyl, ond nid yw hynny wedi atal awduron rhag bwydo ar waith ei gilydd, ac ychwanegu ato, yn eu hawydd i ddynodi Ffynnon Seiriol yn ffynnon sanctaidd, hynafol. Mae hyd yn oed Cadw yn ymuno â hwy. Mwy gofalus yw Nansi Edwards (1986), sy’n sylwi na phrofwyd i hanes unrhyw ffynnon sanctaidd ym Môn ymestyn yn ôl i ddechrau’r Oesoedd Canol, ac na chanfu cloddiad archeolegol cyfyngedig ym Mhenmon ddim hŷn na 1710, dyddiad cwt y ffynnon.

Beth yw barn Bord, felly? Bod y ffynnon yn un sanctaidd yng ngolwg rhai pobl, ac y cyfeirient ati fel Ffynnon Fair, enw cyffredinol ar dardell o’r fath; ond nad oedd cysylltiad penodol â Seiriol. Hwyluswyd cysylltu’r ffynnon â’r sant gan bresenoldeb yr eglwys gerllaw, ond ni ddaeth hynny’n gyffredin tan yr 20fed ganrif, a thwf ysbrydolrwydd “Oes Newydd”. Tyb Bord nad ystyrid y ffynnon yn Ffynnon Seiriol yn hanesyddol; onide, buasai’r traddodiad hwnnw wedi’i gadw’n lleol, a’i grybwyll gan y teithwyr a hynafiaethwyr cynnar. Deil fod hanes y man yn ddiddorol, ond mai camarweiniol yw ei galw’r darddell yn Ffynnon Seiriol.

Mae trylwyredd Bord, a’i gwrthrychedd, i’w hedmygu. Gwyddom y cambriodolwyd sancteiddrwydd i amryw ffynhonnau, ac y bu i awduron llai disgybledig gamddeall cofnodion, neu roi rhwydd hynt i’w dychymyg, yn eu hawydd i bwysleisio gwerth ysbrydol tarddellau. Eto rhaid cofio y gall nad oedd rhai o’r teithwyr a hynafiaethwyr cynnar yn gyfarwydd â chyfeiriadau cynnar at Seiriol, nac â pha draddodiadau Cymraeg yn ei gylch oedd wedi goroesi hyd eu cynfod hwy. Gwir nad yw Bingley,  Carlisle na Cathrall (1828), na’r Cymro Peter Bailey Williams (1839) yn sôn am draddodiadau, ond peryglus yw dadlau (ar sail eu distawrwydd hwy) nad oedd dim, er bod Williams yn crybwyll y traddodiad ynghylch ffynhonnau Clorach. Mae’n annhebyg y medrai Evans Gymraeg, ac yr oedd iddo duedd i godi ei ddisgrifiadau o waith awduron eraill: eto clybu, rywle, fod y ffynnon yn un sanctaidd. Yr oedd Ayton yn ddramodydd ac yn ysgrifennwr medrus, ond ni wyddys o ble y cafodd yr wybodaeth a’i galluogodd i ddweud:           

               St. Seiriol, from whom every charm of which these waters were the instrument

                 was supposed to emanate, had himself a great reverence for wells … .”

Medrai Angharad Llwyd y Gymraeg, ac oni chododd hithau ei gwybodaeth am “Seiriol’s well” o Ayton, o ble gafodd hi’r syniad? Trwy ragdybio cysylltiad, yn unig? Ceir awgrym mwy pendant ynglŷn â chysylltiad Seiriol a Phenmon ym Monedd y Saint (llawysgrif Peniarth 45, diwedd y 13eg ganrif):

         7. Einawn Vrenhin yn Lleyn a Seiryol ym Pen[n] Mon a Meiryawn yn y cantref meib[y]on

                                Ywein Danwyn m. Einawn Yrth m. Cuneda Wledic.

Yna ceir cyfeiriadau barddol ato sy’n awgrymu cysylltiad neilltuol â Môn. Canodd Robert Leiaf (tua 1480) fel hyn i Siôn Moel o Fiwmares, y dref agosaf at Benmon:

                              “Mynwes arian, myn Seirioel,

                               Ysy’n eu mysg i Siôn Moel … .”

Meddai Tudur Aled (tua 1465-1525) am Syr Siôn Ingram, Prior Penmon:

                              “Sain Siôn, Sain Sieron, un soel,

                               Sain Siôr dros Ynys Seirioel … .”

Canodd Guto’r Glyn (tua 1430-1493) am Syr Hywel ap Dai o Lanelwy:

          “Syr Hywel mal Seirioel Môn

                               Y sy eilmeistr fal Salmon.”

a Lewys Môn (tua 1460-1527) i’r un gŵr:

                              “Syr Hywel, ail Seirioel, wyf,

                                Bwa dadl, ab Dai ydwyf:”

Gellid dadlau mai dim ond cyflythrennu cynganeddol yw’r cyfeirio at Syr Hywel a Seiriol yn yr un gwynt: nid un o Fôn ydoedd. Eithr cyfeiriodd Lewys Môn ei gywydd gofyn ar ei ran at Huw Morgan o Brysaddfed, Archddiacon Môn, felly nid rhyfedd iddo ddwyn enw’r sant i mewn i’w gân.  

Mwy penodol yw’r modd y rhestra Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan (hanner gyntaf yr 16eg ganrif) Seiriol ymysg saint Môn:

                              “Cybi, Seiriel, ddiogel ddawn,

                                Eilian, Dwynwen, wlad uniawn,

                                Llun y wlad, llawn, oludog,

                                Llyna groes mal llun y Grog.”

Un o Fôn oedd y bardd-offeiriad Syr Siôn Trefor, i’r hwn y canodd Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog (tua 1520–1540):

                              “Gwaed Ednyfed, rhwydd rhoddion – Iorwerth Foel,

                                             Ail Seirioel, oes Aaron… .”  

Tybiaf, felly, mai rhesymol yw awgrymu cysylltiad hynafol rhwng Seiriol â Mon, ac ar sail Bonedd y Saint, â Phenmon. Tystiolaeth o denau, ond un na ellir ei hanwybyddu.

I grynhoi. O ofyn “A oes tystiolaeth hynafol, bendant ynghylch cysylltiad uniongyrchol rhwng Seiriol Sant a’r ffynnon ym Mhenmon?”, mae Bord yn llygad ei lle: nid oes, hyd y gwyddom. Y mae tystiolaeth ynghylch cysylltiad rhwng Seiriol a Phenmon, ac yr ystyrid y ffynnon yno yn un sanctaidd, yn “Ffynnon-vair” erbyn 1812, o leiaf. Gellid enwi Maentwrog a’i Ffynnon Fair fel enghraifft arall o hynny. Erbyn 1813 cysylltir ffynnon Penmon â Seiriol. Dwi’n meddwl fod hynny, a thystiolaeth y Bonedd a’r beirdd, yn caniatáu’r posibilrwydd mai ffynnon â chysylltiad hynafol â Seiriol yw un Penmon, ac na ddylid diystyru’r syniad yn llwyr.

Y mae angen rhagor o erthyglau fel un Bord. Gwnaed a gwneir cymaint o honiadau di-sail a chamarweiniol ynghylch ffynhonnau sanctaidd, gan daflu cysgod dros yr holl bwnc, ac y mae angen agwedd mwy gwrthrychol, ysgolheigaidd at y dystiolaeth, gan fwrw ymaith yr hyn y gellir dangos ei fod yn anwir neu’n ddi-sail. Mae’r gwirionedd ynghylch y ffynhonnau, boed yn amlwg neu eto’n gudd, ym mha beth bynnag sy’n weddill wedi hynny.

H.H.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Fihangel, Maesmynan, Caerwys

Mae pryder wedi’i fynegi ynghylch dyfodol adeilad gerllaw Ffynnon Fihangel, Coed Maes Mynan, Caerwys. Yr adeilad o dan sylw yw ffermdy Coed, sydd i’r gorllewin o’r pentref, rhwng eglwys y plwyf (a gysegrwyd yn enw’r Archangel Mihangel), a’r ffynnon ei hun, i lawr yng ngwaelod hafn Nant Mihangel yng Nghoed Maesmynan. Fe'i crybwyllir gyntaf gan Syr John Salusbury rhwng 1597 a 1610, ac y mae Edward Llwyd yn cyfeirio at “Avon Mihangel” yn llifo ohoni. Mae i'w gweld ar fap 1742. Mae Ceir manylion ynghylch y ffynnon yng nghyfrol Eirlys a Ken Lloyd Gruffydd, “Ffynhonnau Cymru: Cyfrol 2”, tudalen 82 (Llanrwst: Llyfrau Llafar Gwlad, 1999).

 

Ffermdy Coed, Caerwys, fel y bu.

Mae Lyn Lawrence, brodores a fu’n byw yn ffermdy Coed yn ei phlentyndod, yn argyhoeddedig fod yr adeilad yn gapel anwes canoloesol cysylltiedig â’r ffynnon. Cyfeiria at arddull “gothig” y ffenestri, ac olion gwaith cerrig a all awgrymu y bu ffenestr fawr ym mhen dwyreiniol yr adeilad: adeilad sydd a’i ddau ben yn cyfeirio tua’r dwyrain a’r gorllewin, fel y disgwylid gan gapel hynafol, ac a godwyd ar glwt cyfyngedig o dir uwchlaw’r ffynnon, lle buasai codi adeilad yn cyfeirio tua’r gogledd a’r de yn llawer mwy synhwyrol. Nid yw’r adeilad yn ymddangos ar fap a wnaed ym 1742: ond dengys llwybr o’r pentref at safle’r adeilad, ac fe all na nodwyd ar y map yr hyn oedd, erbyn hynny, yn hen adfail yn y coed.

Mae William Cathrall yn ei “The History of North Wales” (1828) yn dweud:

In a wood near the town is a well called St Michael’s, close to a very romantic rock on which

  a Roman Catholic Chapel is supposed to have once been situated... .”

Ceir Capel Mair ar ben craig yn Nhremeirchion nid nepell i ffwrdd, ond nid adeiladwyd hwnnw tan 1866. Mae’n amlwg fod Cathrall wedi clywed hanes am gapel ar ben craig yng Nghaerwys ddeugain mlynedd, o leiaf, cyn hynny.

Yn sicr yr oedd Coed yno erbyn 1841, oherwydd fe’i cofnodwyd yn gartref William Hughes y cipar pan gasglwyd manylion Cyfrifiad y flwyddyn honno: ac y mae i’w weld ar Fap Degwm 1849. Mae dogfennau ystâd Mostyn yn cadarnhau y bu saethu adar yn y cyffiniau cyn hynny, felly efallai yr oedd angen cartref ar gyfer cipar. Y cwestiwn yw, a addaswyd adfail canoloesol blaenorol, ynteu a godwyd tŷ o’r newydd, gydag addurniadau ffug-ganoloesol yn unol â ffasiwn y cyfnod? Os oedd yn “cottage orné, yn fwthyn ffug-wledig rhamantus, pam ei godi mewn lle mor anghysbell, lle ni allai prin neb ei weld? Ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Brenhinol â’r ardal ym 1910, ond ni chrybwyllasant ddim ynghylch hen gapel yno. Ai oherwydd eu bod wedi chwilio i lawr wrth y ffynnon (lle ni fu adeilad erioed), yn hytrach na’r tir uwchlaw? 

Newidiwyd yr adeilad yn sylweddol yn y gorffennol. Llanwyd bwâu'r ffenestri pan wnaed llofftydd, ac ychwanegwyd ystafelloedd gwydr ac estyniadau eraill: ond mae’r pedwar wal sylfaenol yn aros. Ers y 1980 mae’r safle yn rhan o faes golff, ac ers marw’r perchennog yn ddiweddar mae’r tir a’r ffermdy ar werth. Gobaith y perchnogion yw y gellir gwerthu’r cyfan yn faes cabanau gwyliau, gan droi’r ffermdy’n fythynnod gwyliau. Gallai hynny arwain at ei chwalu, neu at golli ei adeiladwaith sylfaenol

Mae hyn wedi peri i Lyn Lawrence gysylltu efo Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Y Comisiwn Henebion a CADW er mwyn ceisio atal hynny. Os yw’r ffermdy yn cynnwys gweddillion capel anwes canoloesol, byddai hynny o arwyddocad mawr i amgylchedd daearyddol, hanesyddol ac ysbrydol Ffynnon Fihangel, a byddai ei golli’n drychinebus. Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y cyrff uchod i fynegi prydon a galw am archwilio’r adeilad yn drwyadl.

H.H.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ymwelwyr Tramor â Ffynnon Wenfrewy, Treffynnon.

Charles-Etienne Coquebert de Montbret   

Ym Medi a Hydref 1789 teithiodd Charles-Etienne Coquebert de Montbret (1755-1831) o Baris i Ddulyn, lle’r oedd ganddo swydd ddiplomyddol. Cofnododd ei “Voyage de Paris à Dublin à travers la Normandie et l’Angleterre en 1789” mewn llyfrau nodiadau, a chyhoeddwyd y cynnwys ym 1995. Dyma ei sylwadau ynghylch Ffynnon Wenfrewy, Treffynnon.  

“Mae Treffynnon ddwy filltir o’r môr, yn ymyl canol llethr mynydd uchel. Deillia ei ddechreuad cyntaf o darddell a gyfyd mewn amgaefa wythochrog, cromennog tan gapel, darddell o’r fath gyflenwad helaeth fel ei bod yn gyrru sawl melin ddŵr yn y man (dywed Pennant ei fod yn darparu 21 tunnell fetrig o ddŵr y funud). Mae hynny’n beth wmbredd o ddŵr ar lethr serth iawn. Fe’i defnyddiwyd yn effeithiol i sefydlu 3 melin gotwm sy’n gweithio ar gyfer Manceinion a’r Alban. Ni fu modd inni eu gweld. Dim ond gwragedd a merched a osodir i weithio yno, gwaharddir dynion … Un felin bapur, un tybaco. Mae tair gordd siglo gopr ar gyd yr afon hon, hefyd, ac un lle gwneir copr melyn drwy ei gymysgu â chalamin yn null Aix-la-Chapelle. Mae’r ffwrneisi plwm ddwy filltir i ffwrdd. Dywedir wrthym mai’r Maes Glas yw enw’r ardal (Yn Ninas Basing mae ffos hynafol a elwir Wat Maes Glas yn Gymraeg yn dod i ben, dyma’r Abaty Dinas Basing hynafol). Nid syndod yw bod y trigolion wedi parchu’r darddell hon y mae ei genedigaeth mor rhyfeddol; ond haedda eu teyrngedau oherwydd ei bod yn rhoi gwaith i gynifer o bobl. Torrwyd pen y Santes Wenfrewy ar gopa’r mynydd gan ei chariad Caradog, mab y Brenin Alen; arhosodd ei phen yno. Sodrodd Beuno Sant ef yn ôl a bu fyw’r Santes am 15 mlynedd wedi hynny. Yna cymerwyd ei chorff i’r Amwythig. Ymwelir â’r darddell gan Brotestaniaid  fel gan Gatholigion. Mae ei dŵr, mewn gwirionedd, yn ddi-flas ac yn bur iawn, ac os bu o fudd i bobl sydd wedi ymdrochi ynddo, mae hyn, debyg, fel unrhyw ddŵr dymunol o oer arall (Ac ymhellach, mae nifer y pererinion yn lleihau pob blwyddyn). Dosberthir taflen yn y capel yn adrodd yr hanes gwyrthiol, gan nodi bod yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn cofnodi pethau dim llai rhyfedd, ac felly na ddylem amau rhagor yr hanes ynghylch y ffynnon.”  

Ym 1866 teithiodd Arthur d’Arcis i ogledd Cymru ar gais Gymdeithas Ddaearyddol Genefa. Cyhoeddwyd ei “Voyage au nord du pays de Galles” yn 1887, a dyma ei sylwadau yntau: 

“Ond dyma Holywell neu Treffynon, tre’r ffynnon, dref fechan o 5,000 o drigolion sydd â melinau gwlân, toddleoedd, a chapel bach hyfryd sy’n rhyfeddod yr ardal gyfan. Dyma ei darddiad a’i chwedl:

Colofnau meinion Ffynnon Wenfrewy 

Ddechrau’r seithfed ganrif yr oedd Gwenffrewi neu Winifred, perthynas i Feuno Sant, yn o nawddsaint Cymru, yn byw yn Nhreffynnon ac fe’i chwenychwyd gan bennaeth Cymreig o’r enw Caradog. Nid wnaeth ei distawrwydd neu’i dirmyg tua phenderfynoldeb angerddol y Barbariad hwn ond cynnau ei lid. Un diwrnod cyfarfu Caradog â Gwenfrewy ar fryn sydd fel rhagfur ogylch dyffryn Treffynnon. Ymbiliodd â di, unwaith ac am byth, i wrando arno’n ffafriol, ac o’i wrthod fel o’r blaen, ni allai ei reoli ei hun rhagor ac ag un ergyd torrodd ei phen ymaith. Treiglodd y pen at waelod yr allt heb atal, hyd nes iddo gyrraedd llwyfandir bychan. Yn yr union fan hwn cododd tarddell o ddŵr pur, glân a gasglwyd mewn ffynnon yn ddiweddarach, ac uwchlaw’r ffynnon adeiladwyd, megis gortho, gapel bach Gothig hyfryd o gerrig, â cholofnau meinion, gwrymiau meindlws, ac addurniadau o gerfwaith cain. Crogir ambell i lechen goffaol, bagl neu ffon gerdded, ar y colofnau a’r muriau. Mae dau o risiau yn arwain i lawr at y pwll, a amgylchynir â phafin ar ba un mae rhai cabanau syml iawn yn agored.

                                                                         Yr enw ar y cyfan hwn yw ffynnon y Santes Wenfrewy ac y mae’n eiddo i’r Catholigion sy’n codi tâl mynediad bychan i’r rhai sy’n dymuno ymweld neu’i ddefnyddio. Mae Treffynnon ei hun, gyda llaw, yn ganolfan Gatholig ac â dwy ysgol: un wedi’i chynnal gan yr Iesuwyr, a’r llall gan leianod. Syndod pleserus imi oedd deall y perchir y mynaich, y lleianod a’r Iesuwyr yn fawr gan y boblogaeth Gymraeg sydd, fel y gwyddys yn dda, yn Brotestaniaid pybyr. Dyma esiampl dda o oddefgarwch sy’n glod i drigolion y wlad ac i aelodau’r glerigiaeth y mae’r Eglwys Rufeinig yn eu gyrru i’r parthau hyn fel ei gilydd.”

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Siom

Penliniodd yn ysgafn

i daeni

ar ffynnon Dwynwen

ei lliain main

ar wyneb y dŵr.

Ei chalon yn gwingo’n

llysywen wallgo’

yn erfyn ffyddlondeb.

 

Mor llonydd yw’r llyn

a distaw

yw distyll

ei dagrau’n

araf

ddiferu

i bwll ei hanobaith

dan y lliain llwyd.

Cerdd gan J. Arfon Huws, yn "Y Lleufer Newydd" 1993  Rhifyn 3. Ceisid darogan tynged y rhai claf o gariad trwy gyfrwng symudiad pysgod.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Gelli Onnen.

“Mae Ffynnon Gelli Onnen ym Morgannwg, heb fod ymhell o Bontardawe. Arferai pobl fynd yno, gynt, ar adeg sychdwr er mwyn cael peth o’r dŵr; yr hwn, pan deflid neu sgeintid ef o amgylch, a ddeuai â glaw. Yr oedd hyn yn arferol ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dywedodd hen ŵr, a gofiai hyn yn ei blentyndod, y dawnsiai pobl yn y man glas agosaf at y ffynnon, a thaflent flodau a phwysi o berlysiau at ei gilydd. Yna canent faledi Cymraeg hen-ffasiwn, a chwareuent facyn wrth gwt. Llefai arweinydd y cwmni, wrth fynd at y ffynnon, “Tyred â glaw inni!” dair gwaith. Yna byddai’r bobl, llanciau a llancesau gan fwyaf, yn llenwi powlenni neu biserau â’r dŵr ac ynteu’n ei daflu yno neu’n ei gludo adref i’w sgeintio ar yr ardd. Byddai wastad yn bwrw wedyn.

Marie Tevelyan, “Folk-lore and Folk-stories of Wales”, 1909, t.14.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 31.5.2022, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Manylion Cyswllt Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Gwefan: www.ffynhonnau.cymru

Gweplyfr:  Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Trydar: @ffynhonnau

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn llygad_y_ffynnon@btinternet.com. Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Nadolig Llawen

a Blwyddyn Newydd Dda

i’n holl ddarllenwyr ni!

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up