Home Up

LLANEILIAN

 

FFYNHONNAU  STAD Y BRYNDDU, LLANFECHELL, MON.

 

FFYNNON EILIAN

(SH 466934)

 [Diolch i’r Parch Emlyn Richards, Cemaes,Ynys Mon, am ganiatau i ni ddyfynu’r wybodaeth ganlynol am ffynhonnau  ar stad y Brynddu, o’i gyfrol ddifyr Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd)]

. Yr oedd  dwy ffynnon eglwysig o fewn cylch a chwmwd William Bwcle, sef Ffynnon Padric a Ffynnon Eilian (neu Ffynnon y Cawr). O roi enw’r sant arni credid bod yn ei dyfroedd  ryw rin wyrthiol. Tua chanol y ddeunawfed ganrif y cydiodd y gred yn rhinwedd iachusol dŵr y môr a thyrrwyd yno i ymolchi, rhai i yfed ei ddyfroedd hallt. Yn yr un modd credid bod dwr ambell ffynnon yn iachusol, os nad yn wyrthiol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 MÔN A’R MÔR-LADRON, 1708

gan Ken Lloyd Gruffydd

Mae pethau’n gweddu’n o ddrwg pan fydd dwy wlad yn penderfynu torri cysylltiad diplomyddol a’i gilydd. Felly’r oedd hi gyda Phrydain a Ffrainc o 1702 hyd 1710, er, ni roddwyd gorau i fasnachu’n swyddogol rhyngddynt tan 1 Gorffennaf 1707 [1].

     Dechreuir yr hanesyn byr hwn ym mhorthladd Lerpwl yn Awst 1707 pan ddigwyddodd i William Peters, morwr o Lys Dulas, plwyf Llanwenllwyfo, Môn, gwrdd ag un David Roathe a oedd yn foswn ar long Ffrengig. Yno mwynhaodd y ddau gwmnïaeth ei gilydd gymaint nes iddynt benderfynu, yn ôl Peters, i gwrdd yn y flwyddyn newydd a chytunwyd ar y fan a’r lle. A dichon mai felly y bu.

Yn nechrau Ionawr 1708 gwelwyd llong ladron (privateer) Ffrengig wedi angori ger Penmon, ac yna yn ddiweddarach ymhellach i fynny’r arfordir, rhwng Pwynt Leinas a phorthladd Amlwch. Cyn bo hir glaniodd peth o’r morwyr gan ddifrodi bwthyn rhyw deiliwr bach diniwed ac yna brysio’n ôl i’w llong gyda stôr o ddefaid wedi eu dwyn. Mae’r hyn a drafodir nesaf yn ei gwneud hi’n amlwg nad hwn oedd y tro cyntaf i’r Ffrancwyr ymweld â’r ardal oherwydd glaniodd rhai ohonynt gyda’r diben o gael cyflenwad o ddŵr yfed i’r llong, a hynny ‘out of a well in Llaneilian afores’d called ffynnon Eilian’. Gadawyd llythyr yno i Peters, ‘left und[e]r a stone neare the sd well’. Cyfaddefodd yntau iddo dderbyn gwahoddiad gan Roathe i ymgomio ag ef, ac ar yr un pryd, ei atgoffa am y poteli da o seidr yr oeddent wedi eu rhannu a’u mwynhau yn y porthladd ar y Mersi.

Diddorol sylwi i’r gŵr o Lys Dulas gyfaddef ymhellach nad oedd yn wir Gymro a’i fod yn hanu o dras gwŷr yr Iseldiroedd, sef, ‘Dutchman’, ac mai ei enw blaenorol oedd William Peters Bola [2]. Oedd wir, roedd llawer yn gyfarwydd â Ffynnon Eilian ers llawer dydd!

1. Statutes of the Realm 3-4 Anne, c.12.

2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sesiwn Fawr 4/250/1/ 4, 9-10

Daeth perchnogion diweddarach Llys Dulas, sef y Lewisiaid, yn gyfoethog iawn oherwydd i gopor gael ei ddarganfod ar eu tiroedd ar Fynydd Parys.

 

Cyferinod map Ffynnon Eilian, Môn: (SH 466934)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up