Home Up

ABERAERON

   

FFYNNON RINWEDDOL 

Diolch i Erwyd Howells am ein cyfeirio at yr erthygl hon, ‘Aberaeron’s Closed Well’ a ymddangosodd yn y Welsh Gazette  ar yr 11eg o Dachwedd, 1901. Ffug-enw’r awdur yw Philip Sydney. Dyma fersiwn Gymraeg o’r cynnwys:

  Mor bell yn ôl a thridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Aberaeon ffynnon chalyneate neu ffynnon â sylwedd haearn yn ei dŵr ac roedd yn enwog am ei gallu i wella afiechydon yn rhad ac am ddim i’r sawl a ddeuai i yfed ohoni. Mae’r ffynnon i’w gweld mewn adeilad wedi ei adeiladu’n gelfydd o frics ac mae pwmp i codi’r dŵr at fath o gownter a seddau o’i gwmpas lle gall yr yfwyr eistedd i derbyn yr hylif iachusol. Ni all neb weld bai ar y trefniadau yma ond – yn anffodus – mae’r adeilad bach wedi ei gloi rhag y sawl a ddaw yno i gael iachâd ac mae wedi bod felly am o leiaf flwyddyn. Ar y drws mae darn o bapur ac arno mae’r wybodaeth: Oriau agor: 6.00 8.30 y bore, 11.00 12.30, 2.00 3.30, y prynhawn a 6.00 8.00 yr hwyr. Wedi cysylltu â’r heddwas lleol cafwyd wybod gan bwy roedd y goriad a allai agor y drws ac yn y man daeth gwraig at y ffynnon gan gario dau wydryn glân yn ei dwylo. Agorwyd y drws, gweithiwyd y pwmp a llifodd y dyfroedd bywiol i lanw’r gwydrau.

Yn ôl yr hanes, meddyg a ddarganfu’r ffynnon a ffuriwyd cwmni i’w datblygu fel adnodd iachusol i’r sawl a ddeuai i yfed o’i dŵr. Adeiladwyd drosti a deuai ymwelwyr a phobl leol i yfed ohoni ac i dalu dimau y tro er mwyn i’r wraig a ofalai am y ffynnon gael cydnabyddiaeth ariannol am ei thrafferth. Oherwydd anghydweld ymhlith aelodau o’r cwmni rheoli penderfynwyd peidio ag agor y ffynnon a hynny mewn tref sy’n awyddus i ddenu ymwelwyr. Yn sicr ni bydd cau’r ffynnon o unrhyw les i’r ardal. Siawns nad yw’n bosibl i drigolion tref bwysig fel Aberaeron godi fel un gŵr a mynnu fod y ffynnon yn cael ei hailagor cyn y daw tymor gwyliau eto! Mae’n siwr fod yna rwystrau ond maent yno er mwyn iddynt gael eu gorsegyn. Os na fedrir talu’r wraig am ofalu am y ffynnon allan o’r ddimai a geir am lasiad o ddŵr oni byddai modd rhoi slot machine yno – peiriant i dderbyn yr arian. Buan y byddai’n talu am ei le a dod ag elw hefyd. Unwaith yr ymleda’r wybodaeth fod y ffynnon ar agor eto bydd meddygon yn argymell i’r cleifion fynd yno i yfed y dyfroedd a bydd Aberaeron yn ymhyfrydu yn yr hen ffynnon unwaith yn rhagor. Anodd credu fod rheolwyr y ffynnon yn ei chadw ar gau mewn tref sydd, ymhen ond ychydig, yn mynd i fwynhau holl fanteision cael rheilffordd i’w chysylltu â’r byd! Dylai gair i gall fod yn ddigonol. Fel un sydd wedi yfed y dŵr, a dŵr llawer o ffynhonnau enwog eraill, ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser i mi na rhoi cymorth i’w hailagor.

      Mae llyfr yr ymwelwyr yn adeilad y ffynnon yn werthfawr a diddorol. Mae’r tudalennau rhydd yn frith o enwau a chyfeiriadau. Dylent gael eu gosod wrth ei gilydd a’u rhwymo’n destlus a gofalus er mwyn cadw’r gyfrol i’r oesoedd a ddel. Mae hanesion am bobl a gafodd wellhad drwy ddyfroedd y ffynnon yn hynod o ddifyr. Copïais rai ohonynt ond mae’r tudalennau llaith yma yn galw am law garedig i’w hadfer. Am ba hyd y galwant am gymorth?

 

Tybed pa adwaith fu i’r erthygl? Byddai’n ddiddorol gwybod mwy o hanes Ffynnon Aberaeron. Ar fap o’r dref, a gyhoeddwyd gan Gyngor Ceredigion yn 1995, ceir yr enw Maes-y-Ffynnon / Chalybeate Gardens rhwng afon Aeron a’r ffordd A482 sy’n dod i mewn i’r dref o gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan. Gellir mynd yno wrth droi i’r chwith o Stryd-y Fro / South Road, cyn dod at y ffordd sy’n arwain at gae chwarae Sgwâr Alban. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y ffynnon hon byddem yn falch iawn o glywed gennych. Cyfeirnod map ffynnon Aberaeron yw SN459627.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004

cffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffccffc

 

PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Yn y gyfrol The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.

Aberaeron (SN 4562)

Wedi cyrraedd Aberaeron (SN 4562) (ymwelodd â’r ffynnon iachusol yno. Dywed fod hon yn un o’r ffynhonnau haearn (chalybeate) g orau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffynhonnau hyn yn arferol yn cynnwys swllfed o galsiwm a magnesiwm ac nid yw’r rhain yn hwyluso mynediad yr haearn i’r corff. Mae dŵr ffynnon Aberaeron ar y llaw arall, yn cynnwys ‘carbonate of the proxide of iron’wedi ei doddi mewn dŵr eithriadol o bur. Fel canlyniad mae blas y dŵr yn fwy melys ac effaith yr haearn ar y corff yn fwy llesol ac yn gweithio yng nghynt na dŵr y ffynhonnau haearn arferol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffccffc

 

Home Up