Home Up

ABERCYNON

Ffynnon Fair

 

Ffynnon sanctaidd newydd

mewn groto Lourdes ym Morgannwg

gan Janet Bord

Llun o’r ffynnon ar lan Taf yn Abercynon

Ar un olwg, lle go annhebygol i ganfod groto Lourdes yw Abercynon yn Rhondda Cynon Taf, calon maes glo’r de ar un adeg: ond y mae un yno, yn union ar lan yr afon yng nghanol y dref. Mae’n un o sawl groto Lourdes ledled y byd, yn dathlu’r man yn Ffrainc lle cafodd Bernadette Soubirous, bugeiles dlawd, weledigaethau o’r Forwyn Fair ym 1858. 

Crëwyd groto Abercynon gan lowyr Gwyddelig ac Eidalaidd adeg streic fawr 1926, a hynny o ganlyniad i syniad offeiriad Catholig ar gyfer eu cadw’n brysur trwy greu cysegrfa Lourdes Gymreig.

Wrth i’r dynion arloesi’r llethr, gan godi cerrig enfawr o’r afon i gynnal y lan, darganfuasant ddwy darddell o ddŵr glân, yn gwrthgyferbynnu’n drawiadol â dŵr yr afon a oedd yn ddu gan lo o’r glofeydd ymhellach i fyny’r cwm. Buan iawn y creasant Lourdes Cymreig a enillodd enw am iacháu, ac ymwelai llond coetsis o bererinion o bob rhan o’r de, cynifer â 10,000 y flwyddyn.

Bu straeon, hefyd, am wyrthiau a briodolwyd i’n Harglwyddes, fel yr un a adroddwyd gan Gerald O’Shea 3 oed a drigai wrth yr eglwys. Un diwrnod aeth adref gyda dillad gwlybion â darnau o fwsogl yn sownd wrthynt, a dywedodd wrth ei fam ei fod wedi syrthio i’r dŵr, oedd yn 3 troedfedd o ddyfnder ar yr adeg honno. Fe’i hachubwyd gan wraig mewn gwisg las, y wraig y gellid ei gweld ar ei fedal. Teimlodd bachgen â pholio a ymwelodd â’r ffynnon symudiad ym mysedd ei draed, ac wedi naw ymweliad medrai Golwg agosach ar un o’r tarddellau gerdded. Iachawyd dyn oedd yn fud ac â golwg yn un llygad yn unig: a gwellhawyd anhwylderau croen llawer o bobl.  

Gyda’r blynyddoedd esgeuluswyd y gysegrfa, ac aeth yn anhygyrch oherwydd mieri, dail poethion a llysiau’r dial. Lansiwyd apêl adfer yn 2011, a bellach mae’r gwaith wedi’i gwblhau, a gellir ymweld â’r gysegrfa a’r ffynnon unwaith yn rhagor. Ni roddwyd enw i’r ffynnon erioed, ond y mae ei lleoliad yng nghysegr Ein Harglwyddes o Lourdes, ac achub Gerald 3 oed gan wraig mewn gwisg las (sef Ein Harglwyddes, yn amlwg) yn ei chymhwyso’n un o Ffynhonnau Mair Cymru, ac yn wir y ffynnon ddiweddaraf i’w chreu ymysg y 100 a rhagor a gysegrwyd yn enw’r Forwyn Fair yng Nghymru.

Ceir y groto a’r ffynnon ar dir Eglwys Gatholig Sant Thomas yn Abercynon, gerllaw’r B4275 ar ochr ddwyreiniol yr afon. O faes parcio’r eglwys, ewch i’r chwith o’r eglwys lle mae llwybr yn arwain i’r gysegrfa. Ewch i lawr y grisiau at lan yr afon, trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd y lan hyd oni chyrhaeddwch y ffynnon.   Cyfeirnod Arolwg Ordnans ST08399489.

 Janet Bord  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 42 Haf 201

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up