Home Up

ABERHONDDU 

Ffynnon y Priordy

(SO 040290)

Yn ddiweddar bu cymdeithas Wellsprings yn clirio’r baw a’r llanast o’r ffynnon hon sydd ger yr Eglwys gadeiriol yn Aberhonddu. Maent wedi cael caniatâd i wneud hynny gan y perchnogion, sef Cyngor Sir Powys.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

GWEITHGAREDD WELLSPRINGS

Ffynnon y Priordy

Yn ne Cymru mae cymdeithas Wellsprings wedi bod yn weithgar iawn yn ddiweddar. Rydym yn anfon ein cylchlythyron at ein gilydd ac mae gennym unigolion sy’n aelodau o’r ddwy gymdeithas. Maent wedi mynd ati gyda chaib a rhaw – yn llythrennol – i adfer ffynhonnau. Rydym ninnau’n ceisio cael pobl i weithredu yn eu cymunedau gan ein bod yn credu fod hon yn ffordd fwy effeithiol a pharhaol o warchod ein ffynhonnau – ac nid oes gennym lawer o aelodau ifanc, brwdfrydig sy’n barod i gloddio a glanhau ffynhonnau! Beth bynnag yw’r dull a ddefnyddir mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth a gwarchod yr agwedd hon o’n treftadaeth yn bwysig eithriadol.

Yng nghylchlythyr Wellsprings The Eye in the Landscape – ceir gwybodaeth am nifer o ffynhonnau. 

Nodwyd gyda thristwch fod , Aberhonddu wedi cael ei fandaleiddio. Rhoddai’r ffynnon hon ddŵr i’r priordy gerllaw am ganrifoedd. Hawdd oedd llenwi piser o dan y pistyll ers talwm. Gwelwyd fod cerrig wedi eu tynnu o dan y pistyll a hynny wedi peri i’r dŵr lifo i waelod y baddon.

FFYNNON Y PRIORDY, ABERHONDDU (SO 040290)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

GWEITHGAREDD WELLSPRINGS

FFYNNON MAEN DU

 (SO 037297)

Yn ne Cymru mae cymdeithas Wellsprings wedi bod yn weithgar iawn yn ddiweddar. Rydym yn anfon ein cylchlythyron at ein gilydd ac mae gennym unigolion sy’n aelodau o’r ddwy gymdeithas. Maent wedi mynd ati gyda chaib a rhaw – yn llythrennol – i adfer ffynhonnau. Rydym ninnau’n ceisio cael pobl i weithredu yn eu cymunedau gan ein bod yn credu fod hon yn ffordd fwy effeithiol a pharhaol o warchod ein ffynhonnau – ac nid oes gennym lawer o aelodau ifanc, brwdfrydig sy’n barod i gloddio a glanhau ffynhonnau! Beth bynnag yw’r dull a ddefnyddir mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth a gwarchod yr agwedd hon o’n treftadaeth yn bwysig eithriadol.

     Yng nghylchlythyr Wellsprings The Eye in the Landscape – ceir gwybodaeth am nifer o ffynhonnau. 

Bu’r gymdeithas yn brysur yn glanhau Ffynnon Maen Du ar gyrion Aberhonddu ym mis Rhagfyr, a hynny ar ddiwrnod gwyntog a glawog. Cliriwyd sbwriel ohoni a glanhawyd y sianel a’r pwll ble mae dŵr y ffynnon yn cronni.