Home Up

PYTIAU DIFYR

HEN  FFYNHONNAU  TREF  ABERYSTWYTH

Casglwyd y wybodaeth ganlynol gan David Samuel, prifathro cyntaf Ysgol Ardwyn. Gwnaeth nodiadau ar gyfer erthyglau a ddyddiwyd Gorffennaf 27ain, 1892. Maer dogfennau iw gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o dan y cyfeirnod NLW MS 2832B. Diolch i Jane Lloyd Francis. Abercregir ger Machynlleth, am anfon y wybodaeth ar gyfer Llygad y Ffynnon (Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

Meddai David Samuel Cefais yr hanesion canlynol oddi wrth Mr John Evans, Cabinet maker, un o hen ddinasyddion Aberystwyth, yr hwn syn gyfoethog o lawer hanes cysylltiedig n tref.

FFYNNON TWLC YR HWCH

Flynyddodd yn l nid oedd rhwng adeilad y Coleg ar castell yr un wal yn y byd peth cymharol ddiweddar ywr ffordd syn arwain heibio ir coleg at y castell, ac yn ddiweddar, wrth wneud y ffordd yr adeiladwyd y mur- y sea wall. Yr oedd yn y fan hon, rhwng y mr ar Eglwys, gae bychan, yr hwn a elwid Cae Judith . Hen housekeeper-ni-charge it tŷ a adweinid y pryd hwnnw ac am flynyddoedd wedyn, ac a adwaenir eto gan hen bobl y dref wrth yr enw Castle House, sef y darn canol  or Coleg a thŷ y Prifathraw. Ystyrid yr hen Judith yn ddoctores o gryn fri yn enwog fel meddyg. Mae Judith wedi marw bellach ers 60 mlynedd. Ymddengys fod Cae Judith yn terfynu ar ochr y mr mewn dibyn serth, ac yng nghesail y dibyn llochesai Ffynnon Twlc yr Hwch. Elent at y ffynnon o Pier Street, drwy King Street (neu College Street fel y myn rhai ei galw yn awr) ac wedi myned heibio ir Castle House, yr oedd yno lwybr yn arwain ir traeth ac at y ffynnon. Yn y fan hon rhwng Craig y Castell a Chraig y Wig yr oedd yno draeth bychan yr hwn a elwid yn gyffredim wrth yr enw Glan Mr Ladis am y reswm mai yn y fan hon yr arferai merched drochi yn yr amser gynt. Ymolchent ac ymdrochent yn y fan hon yn y drefn fwyaf cyntefig, yn hanner noethion neu yn gwbl noethion. Yn y traeth hwn hefyd y mae Pwll Padarn yr hwn y gellir ei weled yn ein hamser ni pan y bydd y trai ymhell allan. Arferai yr hen bobl drochi yn aml,aml ynddo. Pan adeiladwyd Eglwys Mihangel Sant ( y drydedd or enw hwnnw) cauwud y llwybr a arweiniai efor wal i fyny , a gwnaethpwyd y sea-wall presennol. Yr adeg honno dinistriwyd yr hen ffynnon hefyd. Yr oedd ynddi ddigon o ddwfr bob amser, digon o ddwfr ar math ragora, yr hwn oedd yn hynod ddymunol oblegid ei oerni adfywiol ym misoedd tesog yr haf. Ond ar brydiau, ai y ffynnon yn hollol ddi-fudd, yn enwedig yn amser y spring tides mawrion, pan y byddair mr yn codi ir lan yn uchel, ar llanw yn ddigon cyflawn I ddod at y ffynnon ai llenwi heli. Tybir mai llysenw o ryw fath oedd yr enw roed ar y ffynnon.

FFYNNON GRAIG GOCH

Ffynnon rinweddol iawn oedd hon-arferai pobl y dref fynd at ei dyfroedd bob bore i olchi eu llygaid os bydd ryw wst arnynt. Yr oedd y ffynnon yng nghardd Graig Coch, wrth gefn y tŷ, rhyngddo ar mr. Yr oedd tua 10 troedfedd mewn dyfnder. Deuair dŵr ir ffynnon o graig yn bistyll neu raeadr bach tlws iawn. Nid oedd y wal sy nawr yn rhedeg o gylch yr ardd wedi ei hadeiladu y pryd hwnnw. Or pistyll bach byddai y rhai oeddynt am yfed y dwfr yn arfer ei sugno i mewn trwy welltyn tenau.

FFYNNON GYMMYRCH

Yr oedd y ffynnon hon hanner ffordd rhwng Trefechan a Felin y Mr, ac yr wyf yn lled hyderu mai hon ywr ffynnon syn awr iw gweled ar ymyl y ffordd sydd rhwng Trefechan ar felin. Nid wyf yn gwybod fod dim neullduol wedi digwydd yn dwyn perthynas r ffynnon hon. Nid wyf yn sicr fy mod wedi sillebu ei henw yn iawn ac nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw meddwl ac ystyr y gair.

FFYNNON YR ANCR

Nid wyf yn berffaith sicr fy mod yn sillebur gair hwn yn gywir. Yn gyffredin ysgrifennir ef fel gair Saesneg anchor ond nid angor ywr enw priodol ar y ffynnon ond ancr neu meudwy- hermits well. Ceir hefyd yn Pen anchor- hermits peak. Ymddengys fod gynt ddwy Ffynnon yr Ancr- yr oeddynt yn llochesi dan y geulan ar y ffordd yr eloch o Ben yr Ancr  yng nghyfeiriad y pier cerrig. Yr oedd y ddwy yn agos iawn lle y gosodir y lamp  i fyny gyferbyn r fynedfaa ir porthladd, i ddangos ir llongau y modd i iawn gyfeirio eu cwrs pan yn gwneud eu ffordd i mewn drwy fynedfa gul ym mhen y bar. Maer ddwy ffynnon wedi eu cau i fyny ers 40 neu 50 mlynedd yn l. Cauwyd hwynt pan y cynlluniwyd y ffordd sydd yno i fyned yn l a blaen at y pier. Yn ymyl y fan ller oedd y ffynnon mae yno, fel y gwyddys, graig wedi ei thorri trwodd - l y ffordd yn awr drwy fwlch yn y graig. Gwnaethpwyd hyn tuar un adeg a phan y llanwyd y ffynhonnau. Gelwid y lle hwn yn Pen Huwcyn. Arferair hen forwyr ddweud am yr Huwcyn hwn, mae dyn ydoedd heb fod yn ei lawn synhwyrau, ac yn arfer mynychu fel gwallgofddyn ar ei ben ei hun ir man unig neillduedig hwn. Ac yn y ffaith hon, yn y bywyd meudwyol yn ddiau y treuiliasai Huwcyn ei hoedl, y gwelaf esboniad ar y geiriau uchod,Ffynnon yr Ancra Phen yr Ancr.

(Nid oes sicrwydd o leoliad y ffynhonnau hyn erbyn heddiw felly maen amhosibl rhoi cyfeirnod map cywir iddynt. Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 39 Nadolig 2015.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

Home Up