CAERNARFON
Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd
Ffynnon Helen (SH 480628) yn Llanbeblig
Wedi gadael Clynnog teithiodd Pennant i Gaernarfon ac mae’n cyfeirio at
Ffynnon Helen (SH 480628)yn Llanbeblig. Wrth sôn am y gaer Rufeinig Segontium, meddai:‘Roedd gan Helen gapel gerllaw a ffynnon sy’n dwyn enw’r dywysoges. Gellir gweld peth olion yno o hyd a dywedir i’r capel gael ei godi ar yr un safle a’r ffynnon.’
Mae’r ffynnon mewn gardd tŷ o’r enw Llys Helen lle mae’r dŵr yn cronni mewn baddon o lechfaen gyda grisiau yn arwain i lawr iddo. Ers talwm byddai pobl yn cario dŵr o’r ffynnon i wella amrywiol anhwylderau.
LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff