Home Up

CLYNNOG FAWR

 

GLYNLLIFON

FFYNHONNAU’R PERERINION

Hwyrach i chi gofio i mi grybwyll yn Llygad y Ffynnon Rhif 3 fod cynlluniau ar droed  i greu teithiau sy’n dilyn llwybrau’r pererinion i Enlli. Dywedais y byddai’n beth da i gynnwys y ffynhonnau yn y teithiau hyn. Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr wrth ba ffynhonnau y byddai’r pererinion yn debygol o aros, ond diolch i lyfr H.D Williams ar Enlli, cefais fy ngoleuo. Ar dudalen pump mae’n rhestru nifer o ffynhonnau lle’r arferai’r pererinion wersylla a gorffwys am ychydig ar eu taith i Fangor tuag Enlli: Ffynnon Odliw, Glynllifon: Ffynnon Beuno, Clynnog: Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn: Ffynnon Fair, Nefyn: Ffynnon Penllech, Tudweiliog a Ffynnon Fair, Aberdaron.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON BEUNO

(SH 414494)

  FFILMIO’R FFYNHONNAU

 Eirlys Gruffydd

  Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Roedd y tywydd yn dipyn mwy caredig yr wythnos ganlynol pan aethom ar ymweliad ag Arfon, Eifionydd a Llyn. Dechreuasom y daith yng Nghlynnog Fawr a cherdded ar hyd y ffordd brysur o’r eglwys at Ffynnon Beuno (SH 414494) Mae hon yn grair hanesyddol Graddfa II ac felly wedi ei ddiogelu. Erbyn heddiw nid yw’n lle braf iawn i orffwyso fel yn y dyddiau gynt oherwydd prysurdeb y ffordd a swn y drafnidiaeth. Byddai cryn gyrchu at Ffynnon Beuno ers talwm am fod ei dwr yn gwella plant oedd a ddioddefai o epilepsi. Byddai cleifion na allent gerdded yn cael eu cario at y ffynnon cyn cael eu gollwng i’r dwr. Yna rhaid oedd iddynt orwedd dros nos ar fedd Beuno oddi mewn i’r eglwys. Pe gallent gysgu yna byddent yn siwr o wella. Credid hefyd bod crafu llwch o’r colofnau yng nghapel Beuno yn yr eglwys a’i gymysgu gyda dwr o’r ffynnon yn effeithiol iawn at wella llygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnau lle gorffwysai’r pererinion ar eu ffordd i Enlli.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O AMGYLCH Y FFYNHONNAU

FFYNNON BEUNO, CLYNNOG-FAWR, ARFON  - SH 423498

Caiff y ffynnon gryn sylw pan agorir canolfan yn Hen Ysgol, Clynnog.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DŴR, FFYNNON A PHENGLOG.

Ken Lloyd Gruffydd.

Ffynnon Beuno

  Down ar draws parhad o’r hen ffydd yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg pan oedd hi’n arferiad gan ffermwyr Llŷn i hebrwng eu heffrod at Ffynnon Beuno yng Nghlynnog Fawr, Arfon, er mwyn cael dŵr wedi ei ysgeintio drostynt gyda’r gobaith y byddent yn esgor ar lo.

Cyfeirwyd eisoes at Santes Gwenfrewi a gollodd ei phen drwy gael ei dienyddio. Dylwn ychwanegu i’w hewythr Beuno (wedi hynny ei gwarchodwr ) lwyddo, drwy wyrth, i osod ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau. Cawn stori gyffelyb am Santes Ddigwg a’i ffynnon ger Clynnog Fawr.  Diddorol sylwi mai Beuno a gyflawnodd y gorchwyl yma hefyd.  Ef oedd nawddsant y plwy

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 NADOLIG 2008

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Beuno (SH 41324945) Clynnog Fawr

Er iddo ymweld â Chlynnog Fawr nid yw’n disgrifio Ffynnon Beuno (SH 41324945) yno ond mae’n cyfeirio at yr arfer o gario cleifion i’r eglwys ar ôl eu trochi yn y ffynnon a’u gosod i orwedd ar fedd y sant i gael gwellhad. Meddai:

‘Yng nghanol yr eglwys mae bedd y sant, o garreg blaen ac ar ffurf allor. Byddai gan yr addolwyr ffydd gadarn yn y sant ac yn sicr bod cysgu’r noson ar ei fedd yn siŵr o wella pob anhwylder. Roedd yn arferiad i osod brwyn ar y bedd a gadael plant gwan eu hiechyd arno dros nos ar ôl iddynt gael eu trochi yn y ffynnon sanctaidd gyfagos. Gwelais wely plu ar y bedd ac arno gorweddodd un o Sir Feirionydd oedd wedi ei barlysu wedi iddo yn gyntaf gael ei olchi yn y ffynnon.’

Mae nodyn golygyddol ar waelod y dudalen gan Syr John Rhys yn dweud fod y bedd wedi ei ddinistrio mewn ymdrech aflwyddiannus i ddod o hyd i gorff y sant.

+

PYTIAU DIFYR

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

Rhinwedd Ffynnon Beuno ( SH 41324945)oedd gweinyddu bendith ar y gwartheg.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON BEUNO CLYNNOG FAWR 

(SH 4132 4945)

Daeth i’n sylw drwy garedigrwydd Helga Martin, Ysbyty Ifan, fod cyflwr y ffynnon yn dirywio gyda thyfiant o gwmpas y fynedfa. Credir bod y Cyngor Cymuned yn mynd i drafod y mater yn fuan. Mae’r ffynnon wedi ei chofiestru gan CADW.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR 

(SH41324945)

Bu cryn ofid am gyflwr Ffynnon Beuno, yng Nghlynnog gan fod hon yn ffynnon gofrestredig gan CADW ac un nodedig. Diolch i ddwy o’n haelodau, Helga Martin a Marian Elias am gadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd. Dyma lun a dynnodd Helga o gyflwr truenus y ffynnon ddiwedd mis Gorffennaf 2012.

Bu Helga’n cysylltu â’r Cyngor Cymuned fwy nag unwaith a chynnig cyfrannu o’i phoced ei hun tuag at y gwaith. Dyma’r ymateb a gafodd gan Ken Williams, Clerc y Cyngor:

“Mae’r Cyngor Cymuned wrthi’n cael prisiau gan wahanol gontractwyr am wneud y gwaith atgyweirio ar y ffynnon yn unol â dymuniadau a chynlluniau CADW. ...Rwyf yn cydweld â chwi ei bod yn drueni gweld y ffynnon yn y fath gyflwr, ond gallaf eich sicrhau fy mod innau, fel y Cyngor, yn awyddus i symud ymlaen gyda’r gwaith cyn gynted â phosibl.”

Fel y gwelwn wrth y lluniau isod, a dynnwyd gan Marian Elias, mae’r gwaith wedi dechrau a’r ffynnon yn edrych yn llawer iawn gwell erbyn hyn.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

ADFER FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR 

(SH41324945)

 

O’r diwedd mae un o ffynhonnau pwysicaf Cymru wedi cael ei harbed rhag mynd yn adfail llwyr. Bellach gallwn weld y gofer sy’n cario dŵr o’r ffynnon a’r gwaith cerrig arbennig sy’n rhan mor bwysig o adeiladwaith y ffynnon. Beuno yw un o brif saint Cymru a’r dŵr o’r ffynnon yn arbennig o dda at wella gwendid neu gloffi mewn pobl a phlant. Wedi cario’r cleifion a’u gosod yn y ffynnon arferid eu cludo i’r eglwys gerllaw a’u gadael i gysgu ar wely o frwyn ar garreg fedd drwy’r nos. Pe byddent yn cysgu byddai iachâd yn sicr o ddilyn. Roedd hefyd yn arferiad i grafu’r colofnau cerrig yn y capel a chymysgu’r llwch gyda dŵr o’r ffynnon. Byddai’r hylif hwn yn effeithiol iawn at wella llygaid poenus. Diolch i’r Cyngor Cymuned, Mrs Marian Elias Roberts, Clynnog, a Helga Martin, Ysbyty Ifan, aelodau selog o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, sy wedi bod yn brwydro i’w hachub ac yn cadw llygad ar y gwaith. Diolch i Helga am anfon lluniau o’r gwaith ar Ffynnon Beuno i ni. Meddai “Dyma’r olygfa heddiw ar ôl i CADW adnewyddu Ffynnon Beuno yn wych. Roeddwn wrth fy modd gweld y gwelliant.” Da yw gwybod fod CADW yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb i warchod ein ffynhonnau sanctaidd.

Oddi fewn i Ffynnon Beuno

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR

Allan o Sul, Gŵyl a Gwaith gan Catrin Parri Huws (Tudalen 15) 

Yn ardal Clynnog mae Fferm Tŷ Isa, sydd a’i safiad ar ochr Allt Mur Sant ond mae hefyd yn ffinio â Bryscyni Uchaf. Ar un adeg bu Tŷ Isa yn rhan o fferm hynafol Maes Glas, a berthynai yn yr hen amser i’r hen fynachlog cyn i Beuno Sant ei throi’n eglwys yn y flwyddyn 616 O.C. Dyna’r pryd y cafodd yr hen ffynnon sydd ar ochr y ffordd fawr ar dir Maes Glas ei galw yn Ffynnon Beuno. Mor loyw a chlir oedd ei dŵr yn yr haf ar adeg ymwelwyr, a byddai arian yn frith ar ei gwaelod. Credid y byddai raid cerdded tair gwaith gyda’ch cefn at y dŵr a thaflu arian neu geiniogau dros ysgwydd i gael dymuniad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 37 Nadolig 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFARFOD CYFFREDINOL CLYNNOG

Yn y prynhawn aeth aelodau’r Gymdeithas i ymweld â Ffynnon Beuno, Clynnog (SH41324945)

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 39 Nadolig 2015.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 Rhan o

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd

Janet Bord

Ychydig iawn o ffynhonnau sanctaidd oedd ar lwybr ymwelwyr y 18fed ganrif a’r 19eg, heblaw am y rhai enwog am ryw reswm penodol, megis ffynnon fwyaf adnabyddus a thrawiadol Cymru, Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint, sy’n parhau i ddenu’r afiach yn y gobaith o gael gwellhad, yn ogystal â llawer o bererinion Catholig ac ymwelwyr anghrefyddol. Ymwelid, hefyd, â ffynnon a ddaeth yn ddrwg-enwog oherwydd ei henw fel ffynnon felltithio, sef Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-Rhos yn Sir Ddinbych, gan lawer o dwristiaid y 19eg ganrif yn ogystal â chan bobl leol a gredent yn ddiffuant y gallai gelyn eu melltithio a’u “rhoi yn y ffynnon”.

Ysgrifennodd twristiaid hefyd am ffynhonnau hynafol ar lwybrau pererinion awgrymedig neu’n agos at gysegrfannau saint pwysig, megis Ffynnon Feuno yng Nghlynnog Fawr yn Sir Gaernarfon: ond ni ddenodd y mwyafrif o ffynhonnau lleol bychain fawr o sylw’r byd mawr y tu allan. Yn y de cynhwyswyd un ffynnon fechan a dinod yr olwg yn nheithiau twristiaid, yn bennaf oherwydd ei lleoliad dramatig, ac o ganlyniad mae disgrifiadau o’r hyn a ganfu teithwyr yno wedi rhoi inni olwg ar sut y gall hanes ffynnon sanctaidd ddatblygu a newid gyda’r blynyddoedd. Darganfûm hyn pan osodais yn nhrefn amser yr holl ddisgrifiadau y gallwn eu canfod o’r hon a elwir yn awr yn Saint Govan’s Well, ym mhlwyf Bosherston nid nepell o Ddinbych-y-pysgod yn ne Sir Benfro.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 42 Haf 2017

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up