Home Up

CRAI

(SN8924)

 

PYTIAU DIFYR

Dyma enw dwy ffynnon o sir Frycheiniog y gwelodd Erwyd Howells gyfeiriad atynt yn y gyfrol Cerddi'r Mynydd Du gan William Griffith a gyhoeddwyd yn 1913:

Ffynnon Y Brandi- ar ochr Bryn Llywel, Crai.

FFYNNON Y CWAR - sy'n llifo i lyn Cwar ac yn i afon Giedd uwchlaw Cwmgiedd.

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 12,  Haf  2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON Y BRANDI 

Ffynnon y Brandi  enw hynod ddiddorol ac un a barodd i mi ddechrau crafu fy mhen.

"-

Tybed ai dynodiad sydd wedi tarddu o'r enw EBRANDY (cyfuniad o EBRAN a TŶ) sydd yma? Cedwid porthiant i anifeiliaid mewn Ebrandy yn yr hen ddyddiau ar gyfer y ceffylau a ddefnyddid gan deithwyr ac, hyd yn oed, ar gyfer anghenion y fasnach borthmona.

Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am yr enw Ebrandy ...

Digwydda, yn y ffurf BRANDY ar lafar, yn enw fel enw ar dafarn e.e. yn y rhigwm ...

 

Wrecsam Fechan a Wrecsam Fawr, 

Pentre'r Felin ac Adwy'r Clawdd, 

Casgen Ditw a Thafarn-y-gath, 

Llety llygoden a Brandy Bach.

Roedd y Brandy Bach a gyfeirir ato uchod wedi ei leoli yn ardal Llandegla, a chredaf fod yr enw Brandy i'w ganfod hefyd yn ardaloedd Dolbenmaen a Mallwyd.

Gwn am lecyn yng ngorllewin Ynys Môn sy'n dwyn yr enw Pant-y-Brandi. Fodd bynnag, mae tarddiad y dynodiad hwn yn gwbl wahanol. Gan fod y llecyn yn weddol agos i Draethau Crugyll, mae'n bur debyg fod enw'r pant yn tarddu o'r cyfnod pan oedd smyglo yn arferiad poblogaidd yn yr ardal.

Gwilym T. Jones, Llangefni.

(Diolch am eich geiriau caredig a'ch sylwadau diddorol. Croesewir ymateb pellach i'r esboniad hwn a sylwadau tebyg am enwau ffynhonnau.)

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 13, Nadolig  2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up