Home Up

LLOEGR

SWYDD DERBY

 

TISSINGTON

ADDURNO FFYNHONNAU

Eirlys Gruffydd

 

Dwy o ffynhonnau Tissington, Swydd Derby, wedi eu haddurno.

Mae rhannau o Loegr yn enwog am addurno’u ffynhonnau ac mae sawl un wedi gofyn imi a oedd yn arferiad gwneud hyn yng Nghymru hefyd. Mae peth tystiolaeth fod pobl yn taenu blodau a changhennau o goed, llwyni a cherrig o gwmpas ffynhonnau yn siroedd Morgannwg, Penfro a Maesyfed pan ymwelid â hwy ar adegau arbennig fel Dydd Calan, ar ddydd Llun y Pasg neu ar Galan Mai.

Dechreuwyd yr arferiad o addurno ffynhonnau yn Swydd Derby ym mhentref Tissington lle mae pump o ffynhonnau ond nid oes cytundeb ynglyn â phryd yn union y dechreuwyd gwneud hyn. Cred rhai mai yn 1350, fel diolchgarwch am ddihangfa wyrthiol y pentref yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn sgubo drwy’r wlad. Ni bu neb farw yn y pentref a phriodolid hyn i burdeb y dŵr yn y ffynhonnau. Dywed eraill mai yn 1615 y dechreuodd yr arferiad, eto mewn diolchgarwch. Yn y flwyddyn honno bu sychder mawr a fawr ddim glaw yn syrthio rhwng diwedd Mawrth a dechrau Awst, ond doedd dim prinder dŵr yn Tissington gan fod y ffynhonnau’n dal i lifo. Ar ôl hyn, meddir, dechreuwyd addurno’r ffynhonnau. Barn y mwyafrif yw fod yr arferiad wedi dechrau ar ôl y Pla Du, wedi dod i ben ac yna wedi ei ailgychwyn ar ol 1615. Ni fu’n draddodiad di-dor. Cafwyd adfywiad yn 1950 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

 

Gweithio ar addurn i ffynnon yn Tissington

Mae’r niferoedd sydd wedi ymweld ag ardaloedd lle mae’r arfer o addurno ffynhonnau yn dal mewn bri wedi cael eu cyfareddu gan harddwch yr addurniadau. Yn Swydd Derbyn, nid dim ond mater o gario brigau a blodau at y ffynnon yw’r weithred o addurno. Golyga oriau lawer o lafur caled, trefnu manwl a chydweithio clòs rhwng aelodau cymuned. Bydd y ffynnon yn cael ei haddurno â darlun cywrain wedi ei wneud o flodau. Gall rhai o’r darluniau fod cyfuwch â deuddeg troedfedd er mai chwe throedfedd yw’r maint arferol. Cyn dechrau rhaid cael darn gwastad o bren – tray, rhyw fodfedd o ddyfnder, gyda channoedd o hoelion wedi eu curo i maen i’r cefn fel bod pigau yn llanw’r tray ac yn sefyll i fyny rhyw chwarter modfedd. Mae angen yr hoelion i ddal y clai arbennig sy’n cael ei ddefnyddio i greu’r addurn. Rhaid i’r clai fod yn gwbl lân, heb ddim cerrig na brigau ynddo. Bydd yn cael ei weithir gan y dynion nes ei fod o ansawdd tebyg i fenyn yn barod i’w daenu ar fara. Ambell dro rhaid gwlychu’r clai a’i weithio â dwylo ac a thraed noeth i’w wneud yn ddigon meddal. Yr un clai sy’n cael ei ddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn, yn wir mewn ambell bentref honnir bod y clai wedi cael ei ddefnyddio ers canrif a mwy gyda pheth clai newydd yn cael ei ychwanegu ato’n achlysurol.

Wedi i’r clau gael ei wasgu i’w le dros yr hoelion, caiff ei lyfnhau, a’i gario i sied a’i osod i orwedd ar ei gefn ar dresl. Eisoes mae patrwm yr addurn wedi ei baratoi a’i ddylunio ar ddarnau o bapur wal. Gosodir y papur i orwedd ar y clai ac yna torrir drwy’r llinellau ar y papur ac i’r clai gan ddefnyddio cyllell. Wedi codi’r papurau bydd y patrwm yn glir ar y clai. Rhaid cadw’r papurau a’u hongian yn ofalus ar fur y sied fel bo modd cyfeirio atynt wrth fynd ymlaen â’r gwaith. Y cam nesaf yw i’r addurnwyr osod hadau o wahanol blanhigion yn y llinellau ar y clai er mwyn iddynt gael eu gweld yn glir. Fel arfer bydd hyn yn digwydd tua wythnos cyn amser penodedig addurno’r ffynnon ond ni fydd hynny prin yn ddigon i lanw’r gofod rhwng y llinellau ar y clai a phetalau blodau.

Y cam nesaf yw llanw darnau i gyfleu creigiau, muriau, llwybrau neu ffyrdd yn y darlun gan ddefnyddio mwsog, rhisgl neu foch coed. Erbyn hyn bydd pobl y pentref wedi bod yn casglu blodau o bob math ac ymhen dim gwelir y sied yn llawn o flodau wedi eu dosbarthu yn ôl eu lliw. Ambell dro defnyddir blodyn cyfan ond fel arfer petalau unigol a ddefnyddir. Gosodir pob petal yn ei le drwy ei wasgu i’r clai efo pen bys. Rhaid dechrau gweithio o waelod y llun i fyny fel bod pob petal yn gorgyffwrdd fel llechi ar do, ac i’r un diben, fel bo’r glaw yn gallu llifo i lawr y darlun heb amharu gormod arno. Anodd gwybod faint o betalau unigol a ddefnyddir ond ni fyddai dweud degau o filoedd yn ormodedd.

Mae’r gwaith o osod y petalau yn eu lle yn gofyn am lygad da ac amynedd di-ben-draw. Ar ôl cyfnod o weithio ar yr addurn bydd rhai pobl yn mynd yn petal blind, hynny yw ni all y gweithiwr farnu lleoliad a lliw y petalau yn gywir, a rhaid rhoi’r gorau iddi am y tro. Gall y gwaith achosi poen cefn difrifol hefyd gan na ellir pwyso na llaw na braich ar y bwrdd rhag i linellau’r llun gael eu dileu. Ni ddefnyddir unrhyw beth artiffisial yn yr addurn ac mae gwneud wyneb dynol, er enghraifft, yn eithriadol o anodd. Meddyliwch am wneud llygad gan ddefnyddio carreg fechan, petalau a mwsog. Gan fod y gwaith addurno yn araf ac yn cymryd cymaint o amser, rhaid cael tîm o bobl i gydweithio arno. Pan ddaw dydd addurno’r ffynnon rhaid cario’r addurn yn ofalus at ymyl y dŵr. Gall unrhyw esgeulustod ddifetha wythnos gyfan o waith. Wedi gosod yr addurn yn ei le gellir gwerthfawrogi cywreinrwydd campwaith artistig unigryw.

Does ryfedd fod y tyrfaoedd yn tyrru i Swydd Derby o gwmpas y Sulgwyn i weld y ffynhonnau adeg eu haddurno. Byddant hefyd yn taflu arian i’r ffynhonnau i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r gwaith artistig ac mae’r cyfraniadau yma yn cael eu rhannu rhwng elusennau lleol. Dyma enwau’r pentrefi ble addurnwyd ffynhonnau yn y gorffennol rhag ofn y bydd rhai o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon awydd mynd i weld y ffynhonnau drostynt eu hunain: Tissington, Wirksworth, Youlgrave, Tideswell, Buxton, Stoney Middleton, Bonsall, Eyam, Barlow, Derby, Belber, Ashford-in-the-water, Wormhill, Bradwell, Cutthorpe, Marsh Lane, Eckington a Hope. Tybed a oes gobaith i ninnau yng Nghymru wneud rhywbeth i dynnu sylw at gyfoeth pensaernïol a thraddodiadau meddyginiaethol ein ffynhonnau wrth inni gamu i fileniwm arall?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

YMWELD Â FFYNHONNAU SWYDD DERBY

Grace a Dennis Roberts

Ym mis Awst 2010 roedd pentre’ Wormhill yn Swydd Derby wedi dewis Dewi Sant fel ei thema i addurno ffynnon. Roedd merch yno yn gwerthu cardiau a chawsom sgwrs efo hi. Roedd hi’n hoff iawn o Dyddewi a bob amser yn treulio’i gwyliau yn Sir Benfro. I ni roedd yn arbennig iawn gweld mai ein nawdd Sant ni ein hunain oedd wedi ei ddewis, er eu bod nhw ( a ninnau ar y pryd) heb fod yn agos i Gymru. Eglurodd mai hi oedd un o’r ddwy oedd wedi creu’r gwaith. Edmwnd Tudur, tad Harri Tudur yw’r marchog ar yr ochr dde. Oddi tano mae wyneb dyn gwyrdd o gerflun ar y nenfwd. Ar yr ochr chwith mae angel sydd ar yr organ yn y gadeirlan ac oddi tano mae pen llew, sy’n cynrychioli Sant Marc, o gapel y Forwyn Fair yn yr eglwys. Palas yr Esgob a welir yn y gofod ar ffurf hanner lleuad uwchben y prif ddarlun. Defnyddiwyd pethau naturiol fel dail, petalau blodau ac ati i wneud y cyfan o’r addurniadau. Mae’r gwaith yn eithriadol o gelfydd ac anodd credu sut y gall petalau wedi eu gwasgu ar fwrdd wedi ei orchuddio â chlai ddangos adeilad mor fawreddog â chadeirlan Tyddewi mewn modd mor gywrain.

Ffynnon Wormhill, Swydd Derby.

Pentre’ ag iddo hanes diddorol yw Eyam. Daeth y pla i’r lle o Lundain yn 1665 mewn parsel o ddefnyddiau a anfonwyd at y teiliwr, George Vicars. Roedd yn llawn chwain oedd wedi eu heintio can y pla. Gan fod y defnyddiau yn wlyb fe’u rhodiwyd y tu allan i sychu a lledodd y chwain y pla drwy’r pentre’ . Y teiliwr oedd y cyntaf i farw. Ar gyngor y Rheithor, William Mompesson, torrodd y pentre’ bob cysylltiad â phentrefi eraill yr ardal. Gadawyd bwyd iddynt ger ffynnon ar y tir uchel uwchlaw Eyam. Bu farw llawer o’r trigolion, yn eu plith gwraig ifanc y Rheithor. Mae’r Sul olaf yn Awst bob blwyddyn yn cael ei alw yn Plague Sunday pryd y cofir am aberth y pentrefwyr. Buom yn Eyam ddwywaith, Y tro cynta’ dyma gyrraedd cwr y pentre’ a gweld arwydd bod y ffordd ar gau oherwydd y carnifal! Mi wnaethom wastraffu dipyn o amser yn mynd rownd yn y car i edrych be welem ni, a mynd yn ôl yno wedyn, ond roedd y carnifal yma’n glamp o ddigwyddiad a’r parêd yn dal heb orffen! Dangosodd rhywun i ni le o barcio, heb fod dan draed, a chawsom weld mymryn ar y pentre’, ond aethom yn ôl yno drannoeth i weld y lle yn iawn. Roedd y tywydd wedi amharu ar rai o’r addurniadau ar y ffynhonnau. Cawsom fynd i’r amgueddfa a gweld hanes y pentre’n ei ynysu ei hun rhag i neb o’r tu allan ddal y pla.

Ffynhonnau Eyam, Swydd Derby.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Home Up