Home Up

CWM MOCH

 

NEWYDDION AM FFYNHONNAU

Daeth y Dr Rhian Parry o hyd i Ffynnon y Bywyd yn Cwm Moch, Ardudwy, ger hen lwybr o’r Oes Efydd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

AIL-DDARGANFOD FFYNNON BYWYD

Yn y cylchlythyr Adnabod Ardudwy, (Haf 2009) a gyhoeddir gan Gyngor Gwynedd, cafwyd hanes diddorol am y broses o chwilio ac ail-ddarganfod Ffynnon Bywyd yng Nghwm Moch, Uwch Artro. (23 6337) Dyma beth o’r hanes ar dudalen 8:

‘Mi fyddai’r diweddar Ieuan Jones, Stabl Mali gynt, yn falch iawn bod rhai o selogion Adnabod Ardudwy wedi dod o hyd i’r ffynnon fach ar ymyl llwybr Oes Efydd, Uwch Artro yng Nghwm Moch. Gwyddai mor werthfawr oedd hon i fugeiliaid ei blentyndod, i’r hen borthmyn a chyn hynny i’r masnachwyr cynnar a gludai greiriau cywrain o’r Iwerddon drwy Ardudwy. Ni wyddai am ei henw ond cofiai’n iawn am ei dŵr melys. Er bod yr enw wedi mynd ar goll ar lafar gwlad, mae cofnod dros ysgwyd at y ffynnon mewn hen hanes a gofnodwyd gan Morris Davies (Moi Plas) Trawsfynydd yn ei henwi - Ffynnon Bywyd.

Rhed y llwybr o Nant Pascan, Llandecwyn, dros y nant mae Edward Llwyd yn ei disgrifio o Foel Dinas i’r Glyn. Mae nifer o feini sylweddol eu maint yn ffurfio pontydd bychain drosti ar hyd ei thaith, pontydd sy’n tynnu sylw ac edmygedd o waith cywrain hen grefftwyr gwlad. Wedi croesi hon a dilyn y llwybr i fyny Cwm Moch dewch, yn y man, at yr hen ffynnon ar y chwith o’r llwybr. Gwelwyd hi gan lygad barcud Bob Tibbett ac aethom ati i’w harchwilio’n ofalus er gwaetha’r mwsogl trwchus. Tua throedfedd sgwâr yw ei mainta’r dyfnder hyd at benelin. Yn raddol cafwyd hyd i’w hymyl gwastad o gerrig a’i gwely o gerrig mân. Rhannwyd y gwaith o’i glanhau gan fod y dŵr yn annioddefol o oer! Gadawsom i’r dŵr yn y ffynnon glirio. Dim rhyfedd nad oedd yn hawdd i’w gweld. Mae’n ddisylw iawn a hawdd mynd heibio iddi pan fo’r mwsogl trwchus wedi cael pen rhyddid ac ychydig iawn o deithwyr heddiw sy’n manteisio ar ei rhin adfywiol.’

Mae cynlluniau ar droed i lanhau’r ffynnon. Os oes rhai ohonoch chi, aelodau selog a heini Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, yn barod i gynorthwyo gyda’r gwaith, ewch ar wefan Adnabod Ardudwy- www.adnabodardudwy.org.uk i wirfoddoli neu cysylltwch â ni ac fe wnawn i'ch cyfarwyddo at y rhai sy’n trefnu’r gwaith. Diolch i gyfeillion Adnabod Ardudwy am ganiatâd i gynnwys y wybodaeth uchod am Ffynnon Bywyd

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

Home Up