Home Up

COFIWCH DDOD  I 

GYFARFOD BLYNYDDOL CYNTAF Y GYMDEITHAS

AR FAES YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

PABELL Y CYMDEITHASAU

DYDD LLUN, AWST 4ydd am 2.00 o'r gloch.

Byddwn yn trafod cyfansoddiad y Gymdeithas. Dyma gyfle i chi leisio barn. Cyfle hefyd i dalu eich tâl aelodaeth tan Awst 1998. Bydd siaradwyr yn annerch. Croeso cynnes i bawb.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O’R CYFARFOD CYFFREDINOL

Cynhaliwyd cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala, brynhawn Llun, Awst 4ydd 1997. Dyma ddarlun o’r criw ddaeth ynghyd. Diolch i Emrys Evans am ddod a’i gamera ac i Grace Roberts, Nefyn am dynnu’r llun.

 

 

Y rhes flaen (o’r chwith i’r dde) Dennis Roberts, Nefyn (Archwiliwr Mygedol) Iorwerth Hughes, Llanelwy (Is-Gadeirydd), Eluned Mai Porter, Llangadfan, Pat Jones, Swyddffynnon, Jane Hughes, Bethel, Y Bala, Eirlys Gruffydd, Yr Wyddgrug (Ysgrifennydd) Liz Saville, Morfa Nefyn. Rhes ol: Alun Jones, Llandyssul, Esyllt Nest Roberts (Is-Olygydd Llygad y Ffynnon), Meurig Jones, Swyddffynnon, Howard Hughes, Bangor, Ken Lloyd Gruffydd (Trysorydd), Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog.

Yn y cyfarfod derbyniwyd y cyfansoddiad ac felly gallwn symud ymlaen i gael ein cofrestru fel elusen. Derbyniwyd fod cyfrifon ariannol y Gymdeithas yn gywir. Cafwyd darlith ddiddorol gan Liz Saville am ei gwaith yn gwneud arolwg o ffynhonnau fel rhan o’i gwaith gyda myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU BRO OGWR

PABELL Y CYMDEITHASAU  

DYDD LLUN, AWST 3ydd 1998 12.30 – 1.30

ac yn dilyn DARLITH gan TECWYN VAUGHAN JONES ar

FFYNHONNAU A’R BYD CELTAIDD

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU – MÔN 1999

CYFARFOD CYFFREDINOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

DYDD MERCHER, 4 AWST 12.30-1.30 PABELL Y CYMDEITHASAU

Darlithir ar

FFYNHONNAU MÔN A’U TRADDODIADAU

gan

Gwilym T. Jones

Llangefni

Mawr obeithiwn weld nifer dda o aelodau’r Gymdeithas yn y cyfarfod arbennig yma.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU LLANELLI A'R CYLCH 2000

CYFARFOD CYFFREDINOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

DYDD LLUN   7 AWST   11.30 -12.30   PABELL Y CYMDEITHASAU

Darlith am

FEIRDD YR OESOEDD CANOL A'N FFYNHONNAU

gan

Dr IESTYN DANIEL, Aberystwyth

CROESO CYNNES I BAWB

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU - DINBYCH A'R CYFFINIAU 2001

CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU

DYDD SADWRN, 11 AWST, 2.30 -3.30 

ac i ddilyn darlith 

FFYNHONNAU A'U PENSAERNÏAETH

gan

EIRLYS GRUFFYDD

CROESO CYNNES IAWN I BAWB

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU - SIR BENFRO, TYDDEWI

CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU

DYDD MERCHER, AWST 7ed, 2002 o 12.00 - 1.00.

ac i ddilyn darlith 

gan Eirlys Gruffydd

FFYNHONNAU A'U DEFODAU

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

MAES EISTEDDFOD MALDWYN A’R GORORAU   - 

Pabell y cymdeithasau

Dydd Mercher, 6 awst AM 12.00 O’R GLOCH

CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

a

SGWRS  AR  FFYNHONNAU MALDWYN

GAN

Nia Rhosier ac Arfon Hughes 

Croeso cynnes i bawb

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CASNEWYDD A’R CYLCH

DYDD MERCHER, AWST 4ydd am 12.00, PABELL Y CYMDEITHASAU

CYFARFOD BLYNYDDOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

a sgwrs am

FFYNHONNAU’R DE 

gan

EIRLYS GRUFFYDD

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ERYRI A’R CYFFINIAU

DYDD MERCHER, AWST 3ydd am 12.00 ym MHABELL Y CYMDEITHASAU

CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

a sgwrs am

FFYNHONNAU LLŶN

gan

  ELFED GRUFFYD, Pwllheli

CROESO CYNNES IAWN I BAWB. DEWCH YN LLU I GEFNOGI’R GYMDEITHAS.  

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU ABERTAWE A’R CYLCH

PABELL Y CYMDEITHASAU

 DYDD MERCHER, AWST 9ed

am 3.00 o’r gloch

 CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

ac i ddilyn

 SGWRS AM FFYNHONNAU BRO’R EISTEDDFOD

 gan DEWI ENSYL LEWIS

 Croeso cynnes i bawb

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

GYFARFOD BLYNYDDOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

  YM MHABELL Y CYMDEITHASAU  

AR FAES YR EISTEDDFOD

  PRYNHAWN DYDD MERCHER, AWST  8fed 

AM 3 O’R GLOCH

  a sgwrs am FFYNHONNAU SIR Y FFLINT  

gan Eirlys Gruffydd  

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PAPBELL Y CYMDEITHASAU AR FAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU

CAERDYDD A’R CYLCH

CYNHELIR

  CYFARFOD CYFFREDINOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU

ar

          DDYDD GWENER, AWST 8 fed am 1.00 o’r gloch y prynhawn

ac i ddilyn

  SGWRS GAN  DR. ROBIN GWYNDAF

FFYNHONNAU BRO’R EISTEDDFOD

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Y CYFARFOD CYFFREDINOL

Yn y Cyfarfod Cyffredinol ym mis Awst cadarnhawyd penderfyniad y Cyngor i godi tâl aelodaeth blynyddol i £5.00 i aelod unigol, £8.00 i deulu, £10.00 i gorfforaeth a £50.00 am oes. Bydd hyn yn dod i rym o fis Awst 2009 ymlaen. Nid yw tâl aelodaeth wedi codi ers ffurfio’r gymdeithas yn 1996 ac mae costau argraffu Llygad y Ffynnon a chludiant y post wedi cynydddu yn ddiweddar. 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU

MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MEIRION A’R CYFFINIAU

DYDD MERCHER AWST 5ed rhwng 12.00 ac 1.00

 

Ceir darlith gan

YR HYBARCH ABAD DAD DEINIOL, BLAENAU FFESTINIOG

ar

SEINTIAU A FFYNHONNAU CYMRU

CROESO CYNNES I GYFEILLION HEN A NEWYDD

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFAFOD CYFFREDINOL I’W GOFIO

Y GYNULLEIDFA

Daeth nifer arbennig o dda i Babell y Gymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau am hanner dydd ar Ddydd Mercher 5ed o Awst 2009 i Gyfarfod Cyffredinol y gymdeithas. Llywyddwyd gan Howard Huws ac ar derfyn y cyfarfod busnes byr eisteddodd pawb yn ôl i wrando ar yr Hybarch Abad Dad Deiniol yn traddodi darlith ar Seintiau a Ffynhonnau Cymry.

YR HYBARCH ABAD DAD DEINIOL

Mae’n ymddangos bod llawer o’n ffynhonnau sanctaidd yn bodoli yn y cyfnod Celtaidd, cyn-Gristnogol a bod y seintiau cynnar wedi newid eu defnydd, a’r arferion o’u cwpmas yn cael eu troi yn rhai Cristnogol. Roedd iddynt felly, arwyddocad newydd. Fel hyn trodd llawer o’r canolfannau paganaidd yn rhai Cristnogol wrth i sant sefydlu ei gartref a’i eglwys ger ffynnon. Roedd angen y dŵr ar gyfer dibennion bob dydd ond roedd hefyd ei angen i fedyddio. Credir bod tua dau gant o fffynhonnau yng Ngymru sy’n dwyn enw sant. Ar adegai byddai ffynnon yn tarddu o’r ddaear yn y man y bedyddiwyd sant fel yn achos Cadog a Dewi, neu wrth ei dienyddio fel yn hanes Gwenfrewi. Yn y Canol Oesoedd roedd crefydd yn rhan hanfodol o fywyd a ffynhonnau’r saint yn cynnig iachad. Daeth yr eglwysi yn fannau pererindod a chreiriau’r saint yn derbyn parch ac anrhydedd gan y bobl. Ambell dro, fel yn Llandeilo, Llywdiarth y sir Benfro rhaid oedd yfed y dŵr o’r ffynnon allan o benglog y sant. Wedi’r Canol Oesoedd daeth newid pwyslais a gwelwyd ei bod yn llai allweddol i Dduw weithio drwy bethau materol ond roedd pobl yn dal i gyrchu at y ffynhonnau a’r arferion o’u cwmpas yn parhau. Daeth yr arfer o daflu pinnau a darnau o arian i’r ffynhonnau yn fwy cyffredin a daeth y ffynnon a fu’n sanctaidd gynt yn agosach i fyd hud a lledrith a’r ffynhonnau sanctaidd yn cael eu troi yn ffynhonnau lle y gellid gofyn am i ddymuniadau gael eu gwireddu.

Diolchodd Howard yn gynnes iawn i’r Tad Deiniol am ei ddarlith ddiddorol ac i bawb a ddaeth yno i wrando arno.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 Nadolig 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL 

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU 1

MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BLAENAU GWENT A BLAENAU’R CYMOEDD

DYDD MERCHER, 4 AWST am 1.00 o’r gloch

 

Wedi Cyfarfod Cyffredinol byr o dan gadeiryddiaeth Howard Huws ceir darlith gan

ANGELA GRAHAM, Caerdydd

cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm a theledu ar

FFYNNON FAIR PEN-RHYS - PORTH Y NEFOEDD

CROESO CYNNES I AELODAU HEN A NEWYDD

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM A’R FRO

CYFARFOD O GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU 2

DYDD MERCHER 3 AWST 2011 AM 1.00 o’r gloch

darlith gan JANE BECKERMAN M.A. ar

FFYNNON ELIAN: FFYNNON FELLTITHIO - FFAITH NEU FFUGLEN

Bydd Cyfarfod Cyffredinol byr yn dilyn. Dewch yn lli.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Yn ein cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau ar ddydd Mercher Awst 6ed cafwyd darlith ddiddorol iawn gan Jane Beckerman ar y testun Ffynnon Elian- ‘Ffynnon Felltithio’: Ffaith Neu Ffuglen. Daeth nifer dda i’r cyfarfod a phawb wedi mwynhau’r ddarlith gafodd ei chyflwyno mewn arddull fywiog a hwyliog. Dyma lun o Jane yn traethu.

 

Eleni bu’r Gymdeithas yn rhan o stondin Fforwm Hanes Cymru ar y maes a daeth llawer i edrych a thrafod a rhannu ein diddordeb yn y ffynhonnau.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BRO MORGANNWG

DYDD MAWRTH AWST 7ed
PABELL Y CYMDEITHASAU 2 AM UN O’R GLOCH

darlith gan

ANGELA GRAHAM

FFYNNON FAIR PENRHYS- PORTH Y NEFOEDD

a Chyfarfod Cyffredinol byr i ddilyn

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Cafwyd darlith arbennig iawn gan Angela Graham ar y testun Ffynnon Fair, Pen-rhys-Porth y Nefoedd. Disgrifiodd beth sy i’w weld ym Mhen-rhys. Mae’r cerflun carreg o Fair o Ben-rhys yn amlwg i’w weld gerllaw’r ffynnon (ST4987) a’r adeilad carreg ddiaddurn sy drosti. Yn y Canol Oesoedd roedd y ffynnon yn fan pwysig iawn a llawer o gyrchu ati. Cofnodwyd ei hanes mewn corff o farddoniaeth sy wedi goroesi. Daeth y fan i enwogrwydd ar ôl i ddelw bren o Fair yn dal y plentyn Iesu ymddangos yn wyrthiol yng nghanghennau derwen ac nid oedd modd ei symud oddi yno. Adeiladwyd capel ar ei chyfer. Bu gwyrthiau’n digwydd ar ôl ymdrochi yn y ffynnon- y deillion, y mud a’r byddar, rhai wedi eu parlysu a’r rhai a chornwydon arnynt i gyd yn cael iachâd .Yna rhoddwyd y gorchymyn yn 1538, gan Harri’r Wythfed, i ddinistrio’r gysegrfa fel man lle'r oedd arferion ofergoelus yn cael eu harfer. Aed a’r ddelw i Lundain i’w llosgi ynghyd â delwau eraill o brif gysegrleoedd Mair ym meili tŷ Thomas Cromwell yn Chelsea. Bu’r safle mewn dinodedd tan 1953 pryd y codwyd y cerflun Ein Harglwyddes o Ben-rhys, sy’n ddwy ar bymtheg troedfedd o uchder. Daeth miloedd ar bererindod i weld y cerflun a daeth yn fan sanctaidd unwaith eto. Adferwyd tŷ’r ffynnon gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1977. Agorwyd eglwys rhyngenwadol Llanfair ym 1989. Gerllaw’r ffynnon a’r cerflun mae stad enfawr o dai cyngor. Bu yma broblemau cymdeithasol dyrys, ond bellach, wrth i Ben-rhys ddatblygu yn safle o bwys ysbrydol unwaith eto magwyd hyder a hunan barch yn y trigolion. Gall Pen-rhys fod yn borth i’r dwyfol ac i’r gwirioneddol ddynol ar yr un pryd. Daeth y pererinion yn dwristiaid . Ym mis Mai 2010 cyhoeddwyd adroddiad gan Bartneriaid Pen-rhys ac mae’n argymell gwella’r mynediad at adeilad y ffynnon. Bydd hyn yn adfer y safle i'w briod le megis man iachau, man heddwch a man gwerth pererindota ato, man i’w drysori gan bobl o bob ffydd a rhai di-gred. Daw’r ffynnon felly yn Borth y Nefoedd unwaith eto.

Yn dilyn y ddarlith cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas o dan arweiniad y Cadeirydd, Howard Huws. Da oedd gweld Llywydd y Gymdeithas, Dr Robin Gwyndaf yn bresennol. Ail etholwyd y swyddogion fel a ganlyn: Is-gadeirydd- Dr Ann Williams, Ysgrifennydd- Eirlys Gruffydd, Trysorydd- Ken Lloyd Gruffydd. Isod mae mantolen y Trysorydd . Archwiliwyd y cyfrifon a’u cael yn gywir gan Dennis Roberts.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL SIR DDINBYCH

PABELL Y CYMDEITHASAU 1

DYDD MERCHER, AWST 7fed am 1.00 o’r gloch

 

sgwrs gan EIRLYS GRUFFYDD

 FFYNHONNAU SIR DDINBYCH – DDOE A HEDDIW

a CHYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL i ddilyn

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANELLI, SIR GAR

 

DYDD MERCHER, AWST Y 6ed am 11.30 ym Mhabell y Cymdeithasau 2  

Darlith gan SAUNDRA STORCH, Pontyberem  

FFYNHONNAU SANCTAIDD  

 

Cyfarfod Cyffredinol byr i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MALDWYN A’R GORORAU

DYDD MERCHER  AWST 5ed

    PABELL Y CYMDEITHASAU 1  AM 1.00 o’r gloch  

Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi trefnu cyfarfod arbennig i ddathlu

ADFER FFYNNON GWEDDELAN SANT, DOLWYDDELAN

    Darlith gan Bill Jones a Rhys Mwyn.

Dewch yn llu i wrando ar yr hanes gan ddau arbenigwr dawnus.  

CYNHELIR

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

     YNG NGHANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI

CLYNNOG FAWR LL54 5BT

AR DDYDD SADWRN MEDI 19eg  2015    

10.30 y.b         Ymgynnull yn yr Ysgoldy

                                 10.45.y.b         Darlith ar Ffynhonnau Llŷn gan Elfed Gruffydd

           11.45.y.b         Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

                                            12.30.y.p         Cinio – Pawb i ddod â’i fwyd ei hun. Darperir paned.

                   1.30.y.p           Ymweld â rhai o ffynhonnau’r ardal.

Bydd arddangosfa ar Glynnog yn yr hen oes i’w gweld yn yr Ysgoldy.

Rhif cyswllt Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yw 01286  660853/655

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 38 Haf 2015

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFARFOD CYFFREDINOL CLYNNOG  

Na, nid yn Ffynnon Beuno y cynhaliwyd y cyfarfod ar Fedi19 eg ond yng Nghanolfan Uwchgwyrfai a diolch i Marian Elias am drefnu i ni gael defnydd o’r adeilad ac am ein croesawi ni i’r ganolfan. Cafwyd darlith diddorol iawn gan Elfed Gruffydd ar ffynhonnau’r ardal a diolch iddo am ei waith ymchwil a’i barodrwydd i rhannu ei wybodaeth a’i arbenigedd ag eraill. Wedi’r ddarlith cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol o dan lywyddiaeth y Dr. Robin Gwyndaf yn absenoldeb anorfod ein Cadeirydd,  Howard Huws.

Wedi marwolaeth sydyn ein Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd enwyd Gwyn Edwards fel Trysorydd newydd. Diolch iddo am ymgymryd â’r  gwaith. Hefyd dywedodd Eirlys ei bod yn dymuno rhoi’r gorau i fod yn Ysgrifennydd y Gymdeithas yn y Cyfarfod Cyffredinol  nesaf. Hi fu’n gyfrifol am sefydlu’r gymdeithas  ugain mlynedd yn ôl a bellach mae’n teimlo ei bod yn amser i rhywun arall gymryd  yr awenau. Roedd hefyd yn dymuno rhoi’r gorau i fod yn olygydd  Llygad y Ffynnon  wedi i Rhifyn 40 ddod o’r wasg. Dywedodd Dennis Roberts fod pob rhifyn o’r cylchgrawn ar y wefan. Yn y dyfodol y gobaith fydd i anfon y cylchlythyr allan ar y we a dim ond argraffu ychydig o gopïau i’r aelodau na allant ei dderbyn ac i sefydliadau megis y Llyfrgell Genedlaethol.

Cytunwyd  i godi’r tâl aelodaeth blynyddol i £10 ar gyfer aelod unigol, £15 i deulu a £20 i gorfforaeth. Hefyd bydd y flwyddyn aelodaeth yn cychwyn ar y 1af o Orffennaf o hyn allan yn hytrach nag ar 1af oAwst. Byddwn yn annog pawb i adnewyddu eu haelodaeth trwy ddefnyddio archeb banc os yn bosib a gwneur cais arbennig i Aelodau am Oes i wneud cyfraniad pe dymunent.

( Mae’r ffurflen Archeb Banc i’w chael ar dudaen olaf y rhifyn yma o Llygad y Ffynnon.)

Diolchwyd i Bill Jones a Rhys Mwyn am ddarlith ddifyr iawn yn yr Eisteddfod ar eu gwaith yn adfer Ffynnon Gwyddelan, Dolwyddelan.(SH 73705248)

Yn y prynhawn aeth aelodau’r Gymdeithas i ymweld â Ffynnon Beuno, Clynnog (SH41324945) ac yna ymlaen i Ffynnon Gybi, Llangybi.(SH4241)  

Cafwyd prynhawn o fwynhad pur ac edrychwn ymlaen at ein Cyfarfod Cyffredinol nesaf yng Nghlynnog ar Orffennaf 16eg 2016.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 39 Nadolig 2015

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DYDDIADAU PWYSIG I’W COFIO  

    EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU SIR FYNWY

 DYDD MERCHER AWST 3ydd

PABELL Y CYMDEITHASAU 2

12.30 – 1.30

 

CYFARFOD DAN NAWDD CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

SGWRS YNG NGWMNI

DR ROBIN GWYNDAF, CAERDYDD

 CYFOETH  FFYNHONNAU  CYMRU  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

 

 Cynhelir yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfa, Clynnog Fawr

 Dydd Sadwrn Gorffennaf 16eg  2016  

 

10.30 am. Ymgynnull yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgyrfai.

10.45 am. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

11.45. am Cinio. Pawb i ddod â’i becyn bwyd ei hun. Darperir paned.

12.45 ymlaen am Ymweld â Ffynnon Fyw, Mynytho, Ffynnon Engan, Llanengan  a  Ffynnon Aelrhiw, Rhiw.

Croeso i aelodau hen a newydd.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

CYNHELIR CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL Y GYMDEITHAS

YM MHLAS TAN-Y-BWLCH, MAENTWROG,

DDYDD SADWRN YR 21AIN O ORFFENNAF 2018.

COFIWCH DDOD DRAW! GORAU PO FWYAF!

Bydd gennym ystafell o 10:00 hyd 12:00 y bore hwnnw.

Yn y prynhawn bwriedir ymweld â ffynhonnau lleol

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 44 Haf 2018

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cofiwch ddod i’r cyfarfodydd pwysig canlynol!

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Bore Sadwrn y 13eg o Orffennaf 2019, am 10.30 o’r gloch

Cwrdd yn Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd,

Yr Wyddgrug CH7 1NZ.

Paned ar gael, ond dewch â chinio gyda chwi.

Yna ymweliad â thair ffynnon:

Ffynnon Degla, Llandegla

Ffynnon Sara, Derwen

Ffynnon Sulien, Corwen

O dan arweiniad Eirlys Gruffydd-Evans

 

Cyfarfod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

Pnawn Mercher y 7fed o Awst 2019, 1 o’r gloch

Gareth Pritchard, Llandudno: “Ffynhonnau’r Gogarth”

Pabell y Cymdeithasau 1.

 

Croeso cynnes iawn i’r ddau gyfarfod.

 LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 46 Haf 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynhonnau’r Gogarth

Yng nghyfarfod y Gymdeithas ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni cafwyd cyflwyniad cyflwyniad ardderchog gan Gareth Pritchard, Llandudno ar destun “Ffynhonnau’r Gogarth”. Llawer o ddiolch iddo am rannu â cynifer ohonom ni’r fath wybodaeth ddiddorol, ac i’r Cadeirydd am gadw trefn arnom: edrychwn ymlaen at Dregaron y flwyddyn nesaf!

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 48 Haf 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Bu’n fwriad gan y Gymdeithas gynnal cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020, gyda Mike Farnworth yn traddodi cyflwyniad ynghylch “ "Paganiaeth dan y Wyneb: Ffynhonnau Sanctaidd Cymru" am 5 o’r gloch pnawn dydd Mawrth y 4ydd o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1.

Yn anffodus, fel y gwyddom, bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod tan y flwyddyn nesaf, Awst 2021. Er gwaethaf hynny mae’r Gymdeithas wedi sicrhau ein bod ein cadw ein lle yn amserlen Pabell y Cymdeithasau 1, felly oni ddaw dim arall i’n llesteirio, bwriadwn gynnal y cyfarfod, gyda’r un cyflwyniad, am 5 o’r gloch ddydd Mawrth y 3ydd o Awst y flwyddyn nesaf. Gobeithio y gwelwn ni bob un ohonch yno!

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 48 Haf 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 50 Haf 2021

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up