FFYNNON FARCHELL
Mae maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r       
Cyffiniau, 2001 ger yr Eglwys Wen a gysegrwyd i Farchell Sant. Nid nepell o'r       
eglwys roedd unwaith ffynnon a gysegrwyd i Farchell. Roedd yn gwella amrywiaeth       
o afiechydon. Arferid hefyd daflu arian iddi. Cyfeirir ati fel a ganlyn yn y       
gyfrol sy'n cofnodi gwaith y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Sir Ddinbych a       
gyhoeddwyd yn 1914: 
Cyfeiriwyd at y ffynnon gan       
Edward Lhuyd yn 1698 fel ffynnon y sant. Roedd yn arfer bod ar ochr y ffordd       
fawr tua 450 llath o'r Eglwys Wen neu Lanfarchell. Nid oes unrhyw arwydd o       
bresenoldeb y ffynnon erbyn hyn, dim ond y sianel a gariai'r dŵr gofer       
ohoni. Pan adeiladwyd y rheilffordd rhwng Rhuthun a Dinbych torrwyd drwy'r       
tarddiad oedd yn bwydo'r ffynnon, ail-gyfeiriwyd y dŵr a sychodd hithau.       
Adroddai un o hen drigolion yr ardal fel yr arferai fynd i'r ffynnon yn gynnar       
yn y bore drannoeth ffair fawr Dinbych a byddai'n siŵr o ddod o hyd i       
ddarnau o arian ynddi a daflwyd gan deithwyr wrth fynd heibio iddi. Roedd wedi       
dod o hyd i hanner coron unwaith. Roedd  Ffynnon Farchell tua 50 llath i'r       
gorllewin o'r drofa tua'r Eglwys Wen ac ar yr ochr ogleddol i'r ffordd rhwng       
Dinbych a Rhuthun.
Mae hanesydd lleol yn chwilio am safle'r ffynnon ar hyn o bryd a chewch wybod beth fydd canlyniad ei ymchwil yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CRWYDRO FFYNHONNAU SIR DDINBYCH
Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 ) mae'r diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir. Dyma ddyfyniadau o'r ddwy gyfrol sy'n sôn amdanynt:
Ffynnon Hen Ddinbych (tud 79)
Dilyn Llwybr Elen a wnaethom o fuarth Hafoty Sion Llwyd draw tua Llech Daniel…ac yna draw ar draws y Llech gwelem Maen Cledde. Rhaid oedd cerdded draw at hwn, wrth gwrs, a galw heibio i Ffynnon Hen Ddinbych wrth fynd. Prif rinwedd y ffynnon fach hon, yn ôl Dafydd Pierce, ydyw bod ei thymheredd yn gyson iawn, a hyd yn oed yng nghanol gaeaf, 'pan fyddai winthrew yn y'ch dwylo' gallech eu trochi yn nŵr y ffynnon, a byddech yn iawn drachefn.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
ARWYDDOCÂD  
FFYNHONNAU FEL MANNAU I NODI FFINIAU PLWYFI
(Codwyd yr wybodaeth ganlynol o erthygl gan Tristan  
Grey Hulse yn y cylchgrawn Living Springs,  
Tachwedd 2002)
     Mae cofnod wedi goroesi sy’n disgrifo  
llwybr y daith o gwmpas ffiniau bwrdeistref Dinbych. Dechreuwyd cerdded ger  
ffynnon a elwid yn Ffynnon Ddu  
ym mhlwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch,(SJ0863) i afon Clwyd, ar hyd nant Aberham  
(SJ090658) sy’n croesi’r ffordd dyrpeg o Ddinbych i Ruthun. Yna aed ar hyd  
afon Clwyd tua’r gogledd i’r man ble llifa nant o Ffynnon  
y Cneifiwr(SJ149685)  
i’r afon cyn dilyn y nant i’w tharddiad yn y ffynnon. Oddi yno aed i Blas  
Heaton a fferm o’r enw Hen Blas Heaton, heibio i Garn House i gae oedd gynt yn  
dir comin yn union y tu ôl i ficerdy Henllan. O’r fan honno aed i felin  
Henllan  (SJ0268)ac oddi yno ar hyd  
glan afonig Abermeirchion i’w tharddiad yn Ffynnon  
Meirchion  
. Yna aed i dŷ o’r enw Leger, ymlaen at dŷ a elwid Fach, i Bandy Ucha a  
Phandy Isa,( SJ035682) i dŷ o’r enw Pen-y-bryn, oddi yno i hen garreg ffin ar  
y ffordd o Ddinbych i Nantglyn yn Waen Twm Pi, ac oddi yno i Ffynnon  
Ddu o’r  
lle y cychwynnwyd y daith. Gwelwn mai dŵr oedd yn diffinio tua hanner  
ffiniau’r fwrdeistref.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc