Home Up

DOLGELLAU

 

Dwy ffynnon o'r ardal 

Annwyl Olygydd

Dyma hanes dwy ffynnon o ardal Dolgellau. Roeddn Ffynnon y Cwpan Haearn ar dir ystad Nannau. Yn ôl hanes roedd yr hen syr wedi rhoi cwpan a tsiaen wrtho ger y ffynnon er mwyn i'r bobl gael yfed y dŵr. Ffynnon rinweddol o'r un ardal yw Ffynnon Gwenhydiw. Bydd ei dŵr yn cadw'r cymalau yn ystwyth. Tywysoges neu foneddiges oedd Gwenhydiw a oedd yn arfer mynd â'i geifr yno bob dydd i yfed gan gredu bod y rhinwedd yn dod allan yn y llaeth. Flynyddoedd lawer wedyn aeth rhywun i gloddio am y ffynnon gan obeithio gwneud lle i ymdrochi ynddi. Digiodd y ffynnon ac ymddangosodd dros ffin y perchennog ar dir rhywun arall. Mae Ffynnon Cnydiw gerllaw.

Erwyd Howells, Capel Madog, Aberystwyth.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

FFYNHONNAU ARDAL DOLGELLAU  

Eirlys Gruffydd  

 

FFYNNON LLAWR DOLSERAU / FFYNNON Y CAPEL 

                                                                                            (SH759199)                            (SH751225)

 

GWELER LLANFACHRAETH 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Ffynnon Gwenhidiw

Gwelodd Erwyd Howells, Ponterwyd, y cyfeiriad isod at Ffynnon Gwenhidiw yn Cymru (1896). Gofynnodd tybed a oes mwy o wybodaeth amdani gan aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru?

Gwyddis lle mae ffynnon Gwenhidiw. Y mae, neu yr oedd yng nghlawdd gardd amaethdy Ty Isa’r Blaenau, fry ar ochr y mynydd ar y dde wrth i chi fynd o Ddolgellau i ben y Garnedd Wen. Yn ei hymyl y mae Ucha’r Blaenau, hen gartref Rhys Jones. Yr wyf yn deall fod y ffynnon wedi ei chau yn awr; feallai fod ei rhin yn denu rhai i ddifrodi’r caeau. Byddai clod mawr iddi am atal loesau y crydcymalau, ac yn esmwytho gofid esgyrn toredig y mae rhai’n fyw heddyw sydd yn tystio eu bod wedi cael gwellhad rhyfeddol trwy ei rhin. Byddai muriau o’i chwmpas unwaith, ond mae y rheini wedi eu tynnu.

(Tybed a oes rhywun a all rhoi cyfeirnod map i’r ffynnon hon? Byddwn yn ddiolchgar o gael clywed gennych. – GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Ffynnon Fair

Dolgellau

 (SH727175) 

Mae cynlluniau ar droed i adfer Ffynnon Fair (SH727175) yn Nolgellau. Gobeithiwn gael rhagor o wybodaeth am y ffynnon hon yn y dyfodol. Diolch i Griff Jones, Blaenau Ffestiniog am y llun hwn ohoni.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FAIR, DOLGELLAU 

(SH727175)

Aeth aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru i Ddolgellau ar Awst 24ain i gyfarfod â chriw brwdfrydig sy’n awyddus i lanhau ac adfer Ffynnon Fair. Maent wedi casglu gwybodaeth hanesyddol am y ffynnon ac wedi darganfod bod to drosti ar un adeg. Adeiladwyd waliau o’i chwmpas tua 1837 ac fe’i hatgyweiriwyd yn 1850. Roedd wedi cael ei hesgeuluso erbyn 1890 fodd bynnag. Mae hyn yn dangos yn glir bod angen gofal a chynnal a chadw cyson ar ffynnon, fel pob adeilad arall. Ni ddylsem ofni mynd ati i adfer ffynnon. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y bydd yn goroesi ein cyfnod ni. Daethpwyd o hyd i ddarnau arian o gyfnod y Rhufeiniaid yn y ffynnon rai blynyddoedd yn ôl. Bellach mae cynlluniau ar y gweill i geisio cael arian i adfer y ffynnon arbennig hon a oedd yn enwog am ei gallu i wella’r crydcymalau.

 

Mae gwaith cloddio a glanhau sylweddol wedi digwydd ar safle’r ffynnon yn ddiweddar ac edrychwn ymlaen at gael adroddiad llawn ar y gweithgareddau yn Llygad y Ffynnon yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU  

FFYNNON FAIR DOLGELLAU: (SH727175) 

Mae’r cyfeillion wedi cael arian i ailadeiladu’r ffynnon, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 23 Nadolig 2007 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

ADFER FFYNNON FAIR DOLGELLAU

Ken Lloyd Gruffydd

 EDRYCH  I  LAWR  AR  Y  FFYNNON

Bu cyfeillion Ffynnon Fair yn nhref Dolgellau (SH727175) wrthi’n brysur yn adfer y ffynnon a bellach mae’r gwaith wedi ei gwblhau. Gallwch ddod o hyd i’r ffynnon drwy ddilyn Ffordd Cader Idris allan o Sgwâr Eldon. Cyn dod at gapel Salem gwelwch lôn gul a serth ar eich chwith o’r enw Tylai Mair.Wedi dringo am ychydig gwelwch arwyddbost ar eich llaw dde yn cyfeirio cerddwyr at y ffynnon.  Y peth cyntaf a welwch wrth gyrraedd y ffynnon yw fod y waliau wedi eu hailbwyntio’n gelfydd. O flaen y ffynnon ei hun mae railings haearn sy’n galluogi’r cyhoedd i weld adeiladwaith y ffynnon tra’n cadw pawb yn ddiogel rhag syrthio i’r dŵr. Mae wedi bod yn frwydr hir a chaled i sicrhau bod y ffynnnon yn cael ei hadfer a dymunwn longyfarch cyfeillion Dolgellau ar eu llwyddiant.

Yn 1907 disgrifiwyd Ffynnon Fair gan hanesydd lleol fel adfeilion, ac roedd yn annog  y dylid mynd ati i gymryd diddordeb ynddi a’i thacluso. ‘Mae yn sicr gyda ychydig  o ymdrech a gwelliantau y gallesid gwneud y lle hwn yn atyniadol iawn.’

Aeth canrif heibio cyn i’r freuddwyd gael ei gwireddu ac yn 2007 cymerodd Cymdeithas Treftadaeth Dolgellau y cyfrifoldeb o’i hatgyweirio a’i glanhau. Mae’n werth ei gweld unwaith eto. Credir bod hon yn ffynnon hen iawn oherwydd bod bathodynnau o gyfnod y Rhufeiniaid wedi cael eu darganfod ar y llwybr sy’n rhedeg heibio iddi. Perthyn un ohonynt i gyfnod yr Ymerawdwr Trajan (O.C. 98-117) a’r llall i gyfnod ei olynydd Hadrian (O.C.117-138). Yn ystod y cyfnod yma gwyddom i filwyr breswylio’n barhaol yn y caerau cyfagos megis Caer Gai, Brithdir, Tomen-y-mur ac o bosib Llanfor ger Y Bala.

 

  GERLLAW’R  FFYNNON

Daeth y ffynnon yn fan cysegredig yn y Canol Oesoedd. Defnyddid y dŵr ohoni i’w yfed, i fedyddio ac i wella amrywiol anhwylderau yn enwedig y crudcymalau.  Awgryma’r ffaith iddi gael ei chysegru i’r Forwyn Fair mai yn ystod cyfnod y Normaniaid y cafodd ei sefydlu ond mae’n bosib bod enw sant Celtaidd arni cyn hynny. Yn y cyfnod Modern Cynnar dywedir iddi gael ei hatgyweirio yn 1838 ac wedyn tua 1850 pan godwyd wal o’i chwmpas a tho drosti. Erbyn heddiw dim ond un wal uchel sydd iddi gyda gât haearn wedi ei chloi yn arwain at y grisiau sy’n mynd i lawr at y dŵr. Dywedir iddi fod mewn bri mawr oddeutu 1875 ond erbyn diwedd y bedwareddd ganrif ar bymtheg roedd wedi ei hesgeuluso’n arw. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn 1928 fei disgrifiwyd fel hyn:  

                                 ‘Mae’n awr  yn ddi-ddefnydd  ac wedi  ei hanner tagu  
                                           â sbwriel. Ei defnydd mwyaf pwrpasol yn ddiweddar  
                                            oedd  diwallu anghenion dŵr y dref.  Daeth hwnnw i  
                                            ben pan drefnwyd i gael cyflenwad o Lyn Cynwch.’

Os cewch gyfle ewch i ymweld â’r ffynnon . Mae’n werth yr ymdrech i gyrraedd ati. Mae’n bosib mynd mewn car hefyd gan bod amryw o dai gerllaw iddi.

Heb fod yn bell o Ffynnon Fair mae Ffynnon Llygaid y dywedir bod ei dŵr yn cryfhau’r golwg . Tybed nad oes modd ystyried a ellid gwella’r amgylchedd o gwmpas y ffynnon hon hefyd?  Mae nifer o ffynhonnau diddorol eraill yn ardal Dolgellau megis Ffynnon Llawr Dolserau (SH759199) a Ffynnon y Capel, Llanfachraeth.(SH751225) Mae cynlluniau ar y gweill i’w hadfer hwythau hefyd. Ymhlith ffynhonnau eraill yr ardal nad yw eu lleoliad yn hollol wybyddus i ni ar hyn o bryd mae Ffynnon y Gaer, oedd yn iachusol i lygaid poenus. Dywedir bod hon rhwng Llwyn Cleini a Ffynnon Cnidw neu Ffynnon Gwenhudw. Mae’r  ffynnon olaf  hon ger Tŷ Blaenau rhwng Dolgellau a’r Garnedd Wen ac roedd yn enwog am wella’r crudcymalau. Ffynhonnau meddyginiaethol oedd Ffynnon Cleini a Ffynnon y Gro ger yr afon Wnion.

 DYLUNIAD  O  SAFLE  FFYNNON FAIR  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FAIR, DOLGELLAU

Yn Y Cymro ar Fedi 26ain  2008  cyhoeddwyd fod y gofal am Ffynnon Fair, Dolgellau wedi ei chyflwyno i Gyngor y Dref. Cafwyd cymorth ariannol gan Cyncoed, Cynllun y Comisiwn Coedwigaeth a llwyddodd Partneriaeth Dolgellau i brynu Coedlan Ffynnon Fair ar ochr ddeheuol y dref. Cafodd y ffynnon ei hatgyweirio ac mewn seremoni Ddydd Sul, Med 21ain rhoddwyd hi i ofal y cyngor.

Gwelwn yma enghraifft wych o gymdeithas hanes leol yn mynd ati i geisio nawdd i adfer ffynnon fendigedig a oedd mewn cyflwr truenus. Bellach, a’r ffynnon yng ngofal y Cyngor, dylai gael gofal a gwaith cynnal a chadw cyson. Llwyddwyd i ddenu nawdd ariannol am fod y ffynnon yn rhan o goedlan ddymunol iawn. Tybed a oes yma neges i bentrefi a threfi eraill? Os gellir cyplysu ffynnon gyda phrosiect llwybrau neu goedlan mae’n haws denu nawdd ar gyfer ei hadfer.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Home Up