Home Up

DOLWYDDELAN

 

FFYNNON-YR-OFFEIRIAD 

(SH735525)

 O ysgrif ar 'Hanes Plwyf Dolyddelen' yn Gweithiau Gethin, &c (Llanrwst 1884), Golygydd E. Humphreys. tudalen 295.

…ger Llwyn Graienig, a gadawn ar y dde hen ffynnon rinweddol sydd wrth ochr y ffordd, a golwg lled ddiystyr arni yn awr, ond y mae ynddi gyflawnder o ddwfr bob amser, a hwnnw o'r fath bereiddiaf. Y mae ei gofer i'r de, ac felly ystyrid hi yn yr hen amser yn rhinweddol ac effeithiol i feddyginiaethau defaid a ddigwyddai godi ar ddwylaw dynion. Yn gyffredin gelwid hi "Ffynnon'r Offeiriad," ac islaw iddi y mae "Sarn yr Offeiriad." Mae amryw draddodiadau ar lafar gwlad am y ffynnon a'r sarn hon; dywed un dosbarth fod Offeiriad a fu yn gweinidogaethu yn Nolyddelan a Chapel Curig, wedi boddi wrth geisio croesi yr afon ar lif mawr. Dywedir hefyd fod hen sefydliad mawr yn Llwyn Graienig, ac fod yno Offeiriad Derwyddol yn byw, a'i fod yn arfer cyfarfod teithwyr ar y Sarn a'u taenellu gyda dwfr o'r ffynnon sydd gerllaw. Byddai yn gwneyd hynny yn neillduol gyda'r milwyr; oblegyd dyma y brif ffordd a mwyaf o deithio arni, o'r un roedd yn ein gwlad yn y canol oesoedd, canys yr oedd yn cysylltu Meirion, a Chantref y gwaelod, ac Eifionydd gyda rhannau gogleddol swydd Arfon…

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON ELAN

(SH736725)

Mae Bill Jones, Blaenau Ffestiniog yn gobeithio cloddio ac adfer Ffynnon Elan (SH736725) yn Nolwyddelan.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

BYGYTHIAD I FFYNNON BACH

Ysgrifennwyd at Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd i ofyn iddynt a oedd gwaith ar y A470 yn debygol o amharu ar Ffynnon Bach ar y Crimea rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog. Byddai dynion yn arfer dod at y ffynnon a cherfio eu henwau ar garreg gyfagos cyn mynd i ffwrdd i faes y gad.

Cafwyd llythyr gan David Hopewell, y Prif Archeolegydd, a oedd yn ein sicrhau fod yr Ymddiriedolaeth yn gwybod am fodolaeth y ffynnon. Mae’n dweud mai’r un yw Ffynnon Bach a Ffynnon Mihangel ac mae’n rhoi’r cyfeirnod SH70324954 iddi. Dywed fod carreg a channoedd o enwau wedi eu cerfio arni wedi syrthio i mewn i’r ffynnon. Dywed hefyd ei fod wedi gwneud datganiad swyddogol er mwyn ddiogelu’r safle rhag unrhyw niwed o ganlyniad i’r gwelliannau ar y ffordd. Er mai’r ochr draw i’r ffordd sy’n cael ei gwella mae wedi hysbysu’r contractwyr o bwysigrwydd y safle. Bydd yr holl waith ar y safle yn cael ei arolygu gan archeolegwr.

Tybed ai’r un yw Ffynnon Bach a Ffynnon Fihangel? A oes unrhyw un yn gwybod i sicrwydd ai un ffynnon sydd yma neu a yw’r archeolegydd yn sôn am ddwy ffynnon wahanol? Rwyf wedi bod ger Ffynnon Fihangel a doedd honno ddim ar y Crimea. A yw’n bosib mai Ffynnon Fihangel yw’r enw ar y ddwy ffynnon?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON HYWEL, 

Penamnen, Dolwyddelan. 

(SH 7364 5083)

Mae W.T. Jones wedi bod yn gwneud cloddfa archeolegol ym Mhenamnen ger Dolwyddelan am gryn amser. Darganfyddodd olion tai hynafol a dyma sydd ganddo i’w ddweud am y ffynnon oedd yn diwallu anghenion y trigolion am ddŵr:

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON ELAN DOLWYDDELAN: (SH7352) Mae perchennog newydd yr Elen Castle yn awyddus iawn i weld adfer y ffynnon sydd ar ei dir, a bydd y gwaith yn dechrau yn y dyfodol agos.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 23 Nadolig 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU  

FFYNNON OFFEIRIAD, 

(SH 733543)

Diolch i Steffan ab Owain am gynnwys gwybodaeth am y ffynnon hon yn ei erthygl ddiddorol Yr Hen Lwybrau Gynt yn rhifyn 99 o Llafar Gwlad. Dywed fod ar y bryniau rhwng Capel Curig a Dolwyddelan, gerllaw lle o’r enw Sarn yr Offeiriad, ffynnon  o’r enw Ffynnon yr Offeiriad. Yn ôl Owen Gethin yn ei gyfrol Hanes Plwyf Dolwyddelan a ysgrifennodd yn 1864: ‘Mae amryw o draddodiadau ar lafar gwlad am y ffynnon a’r sarn hon; dywed un dosbarth fod offeiriad a fu’n gweinidogaethu yn Nolwyddelan a Chapel Curig wedi boddi wrth groesi yr afon ar li mawr.’ Dywed Steffan, ‘Codwyd pont gerrig gywrain yno yn ddiweddarach, ond dinistriwyd hi rhywrdo yn yr 1960au gan y Comisiwn Coedwigaeth difeddwl, ac mae’r hen ffynnon wedi diflannu dan ddrysni a mangoed ers blynyddoedd lawer.’

FFYNNON BACH (SH 70324954)

Yn rhifyn 21 o Llygad y Ffynnon cafwyd sicrwydd gan archeolegwr nad oedd bygythiad i Ffynnon Bach wrth i waith lledu ar y ffordd dros Fwlch y Crimea fynd yn ei flaen. Nodwyd bod carreg a llawer o enwau a dyddiadau wedi eu cerfio ar garreg fawr ger y ffynnon a bod honno wedi syrthio i mewn iddi. Roedd yn arferiad gan fechgyn ifanc y fro gerfio eu henwau a’r dyddiad ar y garreg wrth adael cartref. Diolch i Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog, am anfon y lluniau yma i ni.

SAFLE  FFYNNON BACH  GER  Y  BRIFFORDD.

           

FFYNNON BACH  A’R  MAEN CAPAN  WEDI  LLITHRO  IDDI.

 

RHAN  O’R  MAEN CAPAN  A’R  LLYTHRENNAU  A’R  DYDDIADAU  ARNO .

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON HYWEL, 

Penamnen

(SH 7364 5083)

Mae W.T. Jones wedi bod yn gwneud cloddfa archeolegol ym Mhenamnen ger Dolwyddelan am gryn amser. Darganfyddodd olion tai hynafol a dyma sydd ganddo i’w ddweud am y ffynnon oedd yn diwallu anghenion y trigolion am ddŵr:

 

Rhoddwyd yr enw Ffynnon Hywel gennym ni ar y ffynnon hon oherwydd mai’r prawf dogfennol cyntaf sydd gennym am y sawl oedd yn byw ar y safle oedd Hywel ap Ieuan ap Rhys Gethin. Oedd ef yn ŵyr i Rhys Gethin, un o gadfridogion Owain Glyndŵr. Credwn fod y ffynnon yn bodoli cyn adeiladu’r tai a gallwn ei dyddio i gyfnod cyn dechrau’r bymthegfed ganrif. Mae’r dŵr yn codi o dan gornel gogledd-orllewinol y beudy ond mae hefyd yn cael ei bwydo gan ddŵr glaw sy’n llifo mewn cylfat bychan o dan y mur gorllewinol. Yna mae’r dŵr yn llifo i gyfeiriad y dwyrain tuag at graig, yna’n troi i’r gogledd ddwyrain o dan fur deheuol y tŷ gwreiddiol, yn mynd i’r adeilad ac yna i’r ffynnon. Mae’r dŵr yn goferu i’r dwyrain allan o dan y ffordd sydd o flaen yr adeilad. Mae’r dŵr wedyn yn ymddangos i’r de o’r tŷ gyferbyn a adeiladwyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ystod yr haf ychydig o ddŵr sy’n llifo oherwydd, mae’n debyg, am fod tirlithriad wedi newid amlinell y dirwedd i’r gorllewin o’r tŷ.’

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FACH 

(Ar y ffordd dros Fwlch y Crimea )

gan Ken Lloyd Gruffydd

Yn rhifynnau 21 a 24 cafwyd sylwadau (a lluniau) gan y diweddar Emrys Evans, Manod, am y ffynnon hon. Dyma bytiau ychwanegol wedi eu cymryd o arolwg yr archeolegydd David Hopewell yn Archeoleg yng Nghymru, rhif 48 (2008) tud. 57-58. Yno dywed i’r tarddiad dŵr, ar ochr yr A470 ym Mwlch y Gorddinan ( Y Crimea), fod wedi ei ddiogelu ar ôl lledu’r ffordd yn ddiweddar. Tybia i’r garreg a oedd unwaith wedi sefyll uwchlaw’r ffynnon i ddynodi’r fan, ond sydd bellach ar ei chefn, gael ei chodi oddeutu’r 1850au cynnar pan ffurfiwyd y ffordd dyrpeg, ond does dim tystiolaeth bendant am hyn. Credir hefyd bod pob un o’r llythrennau ar y garreg wedi eu naddu ar ôl i’r garreg ddod i orffwys yn wastad ar y ddaear, a hynny ychydig cyn 1887- y dyddiad cynharaf a geir arni. Prawf arall yw mai dim ond ar yr wyneb at i fyny o’r garreg y ceir ysgrifen. Yr unig ddyddiad pendant y gellir ei briodoli i’r ffynnon yw 1859 pan ddywedwyd i Fethodistiaid selog y diwygiad mawr y pryd hynny alw yno’n rheolaidd i dorri eu syched.Ni ddylid gadael i’r mater porffwys gan fod un pwynt yn parhau heb ei ddatrus, sef yt honiad fod Ffynnon Fihangel yn enw arall ar Ffynnon Fach. Hyd yma nid oes unrhyw dystiolaeth fod hyn yn gywir. Mae yna Ffynnon Fihangel, (SH747643) eisoes ym mhlwyf Ffestiniog. Gweler Llygad y Ffynnon rhif 5 (1998)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNHONNAU BRYN-Y-BEDD

Dyma luniau o ddwy ffynnon ar Fryn-y-Bedd Dolwyddelan,(SH 7352) gan Bill Jones. Mae un yn hen a’r llall yn fwy newydd. Gellir dyddio’r ffynhonnau yn ôl y modd y llifiwyd y cerrig ynddynt. Mae’r cerrig yn yr hen ffynnon wedi ei llifio â hwrdd, llif dywod. Nid yw’n hawdd dyddio'r math yma o lif am fod hwrdd yn cael ei ddefnyddio yn oes y pyramidiau ac yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.

YR HEN FFYNNON

Mae’r ffynnon newydd wedi ei hadeiladu ar ôl 1860 am fod y cerrig ynddi wedi eu llifio â Hunter, llif fawr a ddaeth i chwarel Tyn-y-Bryn tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y FFYNNON NEWYDD

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON ELAN, 

(SH737525)

Mae Bill Jones wedi llwyddo i gael grant i dorri i lawr y goeden sy’n tyfu ger y ffynnon. Mae hyn yn rhan o gynllun Menter Siabod i ddenu twristiaeth i’r fro. Da yw dweud bod perchennog y gwesty Elen’s Castle yn cefnogi’r fenter i adfer y ffynnon sydd ar dir y gwesty. Mae Bill wedi gweithio’n galed iawn i gael yr arian a bydd mwy o waith yn ei aros a’r criw o gloddwyr brwd fydd yn ei helpu gyda’r gwaith archeolegol o glirio ac ailadeiladu’r ffynnon. Edrychwn ymlaen at gael yr hanes i gyd yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON ELAN, 

(SH 73675252)

 

Yn dilyn nawdd gan CAE Parc Cenedlaethol Eryri, rydym wedi medru gwaredu'r goeden onnen o safle Ffynnon Elan ger gwesty Castell Elen. Roedd gwreiddiau’r goeden yn araf ddinistrio’r ffynnon. Yn ogystal â’r gwreiddiau gallai’r goeden ei hun fod wedi bygwth y safle gan ei bod yn bwdr, a gallasai ddisgyn a difetha popeth. Bill Jones a’i dîm o wirfoddolwyr gliriodd y safle yn barod ar gyfer torri’r goeden. Mae Menter Shiabod wedi gwneud cais am nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i hwyluso cam nesaf y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cloddio a chyfnerthu’r safle a’i gwneud yn ddiogel i’r cyhoedd gael ymweld â’r lle a chael esboniad am y safle. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y cais yn llwyddiannus fel y medrwn achub y ffynnon fel y caiff pawb ei mwynhau. Yr unig fynediad i’r ffynnon fydd drwy dir Gwesty Castell Elen. Mae cwmni Coed Alfa, (cwmni lleol) wedi cwblhau’r gwaith o dorri a dymchwel y goeden.

Helen Macnibbler McAteer, Dolwyddelan Menter Shiabod

 

TORRI'R GOEDEN AR SAFLE

FFYNNON ELAN, DOLWYDDELAN

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON ELAN

(SH7352)

O’r diwedd cafwyd dealltwriaeth a chytundeb i alluogi’r llwybr cyhoeddus at y ffynnon i gael ei ddefnyddio fel mynediad ati. Mae Bill Jones a chriw o wirfoddolwyr wedi bod wrthi dros y misoedd diwethaf yn clirio’r safle ac ail- adeiladu’r ffynnon. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael adroddiad llawn a lluniau yn y rhifyn nesaf o Llygad y Ffynnon.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc 

 

ADNEWYDDU FFYNNON GWYDDELAN SANT

 

Daeth nifer dda o bobl i Ddolwyddelan ar brynhawn Gwener, Mai 22ain i ddathlu’n swyddogol adnewyddiad Ffynnon Gwyddelan Sant.(SH73705248) Ym maes parcio gwesty’r Elen Castle croesawyd pawb gan Bill Jones a dadorchuddiwyd plac yn dweud hanes Gwyddelan Sant a’r ffynnon gan yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas. Mae’r ffynnon ar dir y gwesty. Yna cerddodd pawb ar y palmant gydag ochr mur gardd y gwesty cyn troi ar y dde ac i fyny’r llwybr cul at y ffynnon ei hun. Mae’r safle yn un hynod ddeniadol gyda chlychau’r gog a briallu yn tyfu ar y llethr o gwmpas y ffynnon. Yno hefyd dadorchuddiwyd plac yn union fel yr un yn y maes parcio. Maent wedi eu dylunio gan Falcon D. Hildred, artist enwog sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae nifer o unigolion a chymdeithasau wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau fod y ffynnon yn cael gweld golau ddydd unwaith eto. Diolch i Adam a Helen Hardy, perchnogion y safle, am fod mor barod i ganiatáu i Bill a Mary Jones  a Rhys Mwyn ac eraill i ddod yno i gloddio. Cafwyd cymorth ariannol gan Barc Cenedlaethol Eryri i dorri’r goeden oedd yn tyfu ger y ffynnon. Diolch am gefnogaeth Menter Siabod yn sicrhau ariannu gan y loteri er mwyn galluogi i’r gwaith fynd yn ei flaen. Diolch hefyd am gefnogaeth Cymdeithas Hanes Dolwyddelan. Roeddem ni fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn rhan o’r gefnogaeth hefyd. Bendithiwyd y ffynnon gan y Parchedig Gerwyn Roberts, Llanrwst. Mae trigolion Dolwyddelan yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y ffynnon a mawr obeithiwn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwarchod ac yn ei pharchu fel ffynnon sanctaidd arbennig iawn.

Yn y darlun o’r chwith i’r dde gwelir Yr Aelod Seneddol Guto Bebb, Yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas, Y Parchedig Gerwyn Roberts, Eirlys Gruffydd a Bill Jones o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru.

 Mae achub ac adnewyddu’r ffynnon arbennig yma yn gwireddu breuddwyd. Dyma pam y sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn y lle cyntaf er mwyn diogelu y rhan bwysig hon o’n treftadaeth bensaernïol, werinol ac ysbrydol. Pan fo ardal yn parchu ei ffynnon sanctaidd mae ei dyfodol, fel ei gorffennol mewn dwylo diogel. Diolch am gael bod yn rhan o’r broses a gallwn ymfalchïo yn y gamp o’i hadfer.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 38 Haf 2015

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up