FFYNHONNAU ARDUDWY
Codwyd y wybodaeth ganlynol o Gyfrol David Davies, (Dewi
Eden) Harlech ARDUDWY A’I GWRON a
gyhoeddwyd yn 1914 ac a argraffwyd dros
y cyhoedddwr gan J. D.Davies and
Co., Swyddfa’r “Rhedegydd”, Blaenau Ffestiniog. Dyma a ddywedir am
ffynhonnau Ardudwy ar dudalennau 21a22. (Cadwyd y sillafu gwreiddiol)
Gall aml i
ardal yng Nhymru ymffrostio yn eu ffynhonnau hynafol, y rhai gynt a ystyrid yn
gysegredig. Yn yr oes hygoelus, tybid fod y ffynhonnau hyn wedi eu gwaddoli gan
y seintiau â rhin ysbrydol. Ceir nifer o’r ffynhonnau hyn yn cael eu
hystyried felly heddyw gan lu o bobl. Tebygol
fod yr uwchafiaeth hon a briodolir i’r ffynhonnau yn gwreiddio yn yr
amseroedd cyn y cyfnod Cristionogol, oblegid, fel y gwyddys, yr oedd afonydd a
ffynhonnau yn cael lle dwfn yn y gyfyundrefn dderwyddol, mewn canlyniad, yn
ddiamheuol, i’r traddodiadau adgofiannol yng nghylch y Diluw – yr amgylchiad
mawr hwnnw, a ddinistriodd, ac a gadwodd yn fyw. Yr oedd y parch i’r
ffynhonnau yn cael ei gario mor bell, fel yn Llydaw a Ffrainge, y dirywiodd y
parch i eulunaddoliaeth ronc, oblegid yr oedd parchedigaeth ddwyfol yno yn
weithredol, yn cael ei dalu i Onvana
neu Divona, fel y dduwies oedd yn llywyddu dros y dyfroedd,&c. (Ceir
ysgrif ddiddorol ar y pwnge hwn gan Ap Ithel yn yr “Archaeologia Cambrensis”
(1846), p.50).
Nodwn rai
ffynhonnau o hynodrwydd geir yn Ardudwy.
FFYNNON
BADRIG (SH59982455)
Ceir
hon ar dir Caerffynnon , yn Nyffryn Ardudwy. Cafodd ei henw oddiwrth Sant
Badrig, yr hwn a annogodd Osborn Wyddel, a drigai ar y pryd yn y Byrllysg, neu
yn fwy priodol Osber-lys. Yr hwn wedi hyny a briododd aeres Gorsygedol, - i
ymolchi yn ei dyfroedd ac iddo wedi hynny gael gwared oddiwrth anhwyldeb pwysig
oedd yn ei flino.
FFYNNONAU
Y TYDDYN MAWR A GHORS DDOLGAU
Ceir y rhai
hyn yn Nyffryn Aedudwy. Dywed traddodiad mai Gwyddno Garanhir, Tywysog Cantref y
Gwaelod, a gafodd allan gyntaf erioed fod rhinweddau yn perthyn i ddyfroedd y
ffynhonnau hyn. Dywedir mai un o Phylipiaid Awenyddol Mochras a ddywedodd am
ddyfroedd Ffynnon Cors Ddolgau:
“Diliau geir wrth Gors Dolgau
Na wyddys eu rhinweddau.”
FFYNNON ENDDWYN (SH61372552)
Tardda Ffynnon Enddwyn ar fridd Talwrn Fawr, oddeutu dwy
filltir o Llanenddwyn, yn Ardudwy. Dywed traddodiad i’r Santes Enddwyn, yr hon
a sefydlodd Eglwys Llanenddwyn, gael ei blino gan ryw afiechyd poenus, ac
iddi un prynhawngwaith tesog o haf hir felyn, a hi yn ymdaith i
Drawsfynydd trwy Gwm Nantcol, droi at ffynnon fechan yng ngwaelod y Cwm, ac yfed
ohonni ac ymolchi er dadluddedu, ac iddi yn y fan ddyfod yn holliach; a gelwid y
ffynnon ohynny allan yn “Ffynnon Enddwyn.”
FFYNNON ERWDDWFR (SH612338)
FFYNHONNAU’R YNYS, GER TALSARNAU
(Diolch i Dafydd Jones,Bryn Offeren, Blaenau Ffestiniog am
gael golwg ar y ddogfen sy’n cynnwys y wybodaeth yma a gasglwyd
beth amser yn ôl o atgofion pobl leol. Mae’n dangos pa mor ddibynnol
oedd pawb ar ffynhonnau ers talwm)
Cyn 1935 roedd y dŵr yn Edrin yn dod o ffynnon ac
roedd pwmp yno ar safle’r ffynnon. Os oeddech am gael bath roedd rhaid
pwmpio’r dŵr trideg pump o weithiau. Roedd y ffynnon rhwng Clogwyn Melyn
a Cefn Gwyn a’r dŵr
yn cael ei bwmpio i danc mawr yn y to.
Roedd fynnon ar ochr y ffordd wedi mynd heibio Rhyd Goch
ond roedd y perchennog wedi gosod
clo arni. Mae ffynnon Ael y Bryn wedi diflannu o dan y tyfiant erbyn hyn.
Cafodd ei chau pan ledwyd y ffordd . Pan oedd
y peipiau i gyd wedi rhewi yn 1963 a dim dŵr ar gael, agorwyd y
ffynnon unwaith eto. Roedd carreg fawr dros y ffynnon ac yng nghyfnod ei
defnyddioldeb, unwaith yr wythnos cai’r ffynnon ei gwagio a’i glanhau a
llifai dŵr glân i mewn iddi.
Ffynnon gref arall oedd ffynnon Bron Ynys. Cafodd hithau ei defnyddio yn 1963 i
gael dŵr yfed. Ffynnon rhyfeddol yw Ffynnon Traeth, rhyw dri chan
llath o’r Clogwyn Melyn islaw Edrin. Mae llanw’r môr yn llifo drosti ond
pan ddaw’r trai mae’r dŵr yn gwbl glir unwaith eto heb unrhyw flas
halen arno. Byddai pobl yn mynd at y ffynnon i gael picnic ers talwm, yn yfed y
dŵr ac yn llanw tegell ohoni i’w ferwi a chael te. Byddai blas arbennig
ar ddŵr y ffynnon ac ar y te hefyd!
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016
cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf