Home Up

FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY AR GLANNAU

gan Gareth Pritchard

(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy ar glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg.  Diolch iddo am y lluniau hefyd.

 FFYNNON GELYNNIN, LLANGELYNNIN   (SH751737)

Mae Ffynnon Gelynnin yn union y tu l i fur mynwent yr eglwys ar y chwith wrth fynd i mewn drwyr git or ffordd. Mae mewn man diarffordd ond arferai mamau gariou plant gwan i fynyr ffordd hir a serth at y ffynnon gan obeithio y byddai eu trochi yn y dŵr yn adfer eu hiechyd. Yng nghwr de-orllewinol y fynwent ceir ffynnon gysegredig yn llawn o ddyfroedd rhinweddol. Diogelir hi gan waliau cerrig uchel, a gellid tybio y bu to uwch ei phen mewn rhyw oes. Arferid dod chleifion a gweinion yr ardal ar cwmpasoedd i ymolchi yn y dyfroedd hyn; ac ymddengys y byddai llawer yn cael lles mawr trwy hynny. Tua 1898 roedd gŵr o ardal Llangelynnin yn mynd adref yn hwyr un noson a hithaun ddu fel y fagddu. Wrth basior eglwys clywai sŵn or ochr arall i wal y fynwent yn y gornel ble maer ffynnon. Dychrynodd am ei fywyd  a chuddio gan ofni fod bwgan yno. Yna aeth yn ddistaw bach ac edrych dros y mur. Yno gwelodd wraig ifanc yn magu ei baban  yn ei breichiau gan sefyll yn y ffynnon a gweddon uchel iddo wella. Aeth y dyn adref ar ei union gan gymaint ei fraw o weld y wraig druan yn y tywyllwch. Maer hanes hwn yn dangos yn glir cymaint y dibynnaur werin ar y ffynhonnau a chymaint eu ffydd yn eu dyfroedd. Arferiad arall gan famau oedd dod dilledyn plentyn gwan ai osod i arnofio ar wyneb y dŵr er mwyn darogan ei ffawd. Pe suddai nid oedd fawr o obaith am wellhad. Yn  ystod yr ugeinfed ganrif aeth prifathro lleol chriw o blant i weld y ffynnon gan sn wrthynt am yr hen draddodiadau. Cymerodd arno ei fod yn dad i blentyn gwael yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cariodd y bachgen lleiaf yn yr ysgol at y ffynnon a chymerodd gerpyn i gynrychioli dillad y plentyn gwan. Suddodd hwnnw bron ar unwaith. Dechreuodd y bachgen feichio crio gan y credain siŵr ei fod am farw!

Cyfarfyddodd Eirlys Gruffydd dyn o Ro-Wen wrth ddod i lawr or fynwent, a sicrhaodd hi fod rinwedd mawr yn Ffynnon Gelynnin. Dywedodd am ryw wraig a adwaenai ef yn dda, a gymerodd blentyn egwan ac afiach, ac fei trochodd  yn y ffynnon, ar canlyniad fu iddo gryfhau or awr honno allan, ac y mae'r plentyn hwnnw yn fyw ac iach heddiw. Arferid carior plant ar rhai gwan oedd wedi eu trochi rhyw ganllath i Gae Iol. Gellir gweld adfeilion yr adeilad hwnnw hyd heddiw.

           

FFYNNON GWYNWY  (SH754735)

Maer ffynnon hon rhyw chwarter milltir  o eglwys Llangelynnin. Gellir dod o hyd iddi wrth gerdded i lawr ln gul or eglwys i gyfeiriad Ro-wen. Maen gorwedd mewn tir gwlyb ar ochr chwith y ln. Roedd yn enwog am ei gallu i wella defaid ar ddwylo. Rhaid oedd gollwng pin wedi ei blygu ir ffynnon cyn golchir ddafad yn y dŵr. Pe na wneid hyn ni fyddai dŵr y ffynnon yn clirior ddafad, a dweud y gwir, byddai defaid cleifion eraill yn trosglwyddo eu hunain i ddwylor claf! Yn l Myrddin Fardd byddai cyffwrdd y pinnau a oedd eisoes wedi eu taflu ir ffynnon yn cael yr un effaith yn union. Ffynnon fechan yw hon, rhyw droedfedd a hanner o hyd a throedfedd o led. Roedd yn boblogaidd iawn oddeutu canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gellid gweld bod gwaelod y ffynnon wedi ei orchuddio phinnau. Ni fydd y ffynnon hon  byth yn sychu, hyd yn oed yn y tywydd poethaf.

 

FFYNNON GYNFRAN, Llysfaen (SH893775)

 

Yn Llysfaen, ger Bae Colwyn, mae Ffynnon Gynfran, rhyw ganllath ir gogledd o Eglwys Sant Cynfran. Mae hi ryw dair milltir o Fae Colwyn ar un pellter o dref Abergele. Dywedir fod Cynfran yn fab i Brychan, tad  Dwynwen a Ceinwen sy ag eglwysi a ffynhonnau  ar Ynys Mn. Honnir fod Brychan yn dad i chwe deg pump o blant! Mae haneswyr yn dweud bod eglwys ar y safle yn yr wythfed ganrif gan awgrymur flwyddyn 777 fel dyddiad tebygol. Buasai hynnyn ei gwneud yn rhy hwyr iddi gael ei sefydlu gan un o feibion Brychan. Bu dadlau ynglŷn lleoliad y ffynnon gyda Chymdeithas Ffynhonnau Cymry  (yn ystod y 1990) yn credu ei bod o fewn terfynau tir yr eglwys. Bu cymdeithas Wellhoppers yn chwilio tua 2002 a dymar un syn fwyaf tebygol o fod yn iawn. Ar un ochr ir safle mae gwrych o ddraenen wen ac ar yr ochr arall llwyn o ddanadl poethion. O fynd heibio rhain, maer sefyllfa yn llawer gwell nag a fu pan ymwelodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymry yn y flwyddyn 2002. Maer ffynnon yn y cae ir gogledd or fynwent gyda chamdda i fynd ati or fynwent. Mae ar ochr banc gydar gwrych o ddrain uwch ei ben. Hanner cylch o gerrig sydd ir ffynnon, fel y gwelir or llun gydar danadl poethion ar yr och isaf. Roedd y dŵr yn glir. Dethlir dydd Sant Cynfran ar y 12fed o Dachwedd bob blwyddyn, ac ar noson 11eg o Dachwedd a hefyd ar y Sul canlynol bun arferiad gan bobl leol i ofyn am fendith ar eu hanifeiliaid gydar weddi, Boed bendith Duw a Chynfran Sanctaidd ar ein hanifeiliaid.

 

FFYNNON HENDRE CREUDDYN (SH809781)

Mae Ffynnon Hendre Creuddyn ar gyrion Cyffordd Llandudno, oddi ar Ln Pabo, yng ngardd hen ffermdy syn dwyn yr enw, Deellir bod yr hen ffermdy yn dyddion l i 1750. Cafodd yr adeilad ei drawsnewid gan Vince ac Anwen Lloyd Hughes yn nechrau saithdegaur ganrif ddiwethaf. Maer perchnogion hefyd wedi adfer y ffynnon yn chwaethus iawn gyda gwaith cerrig graenus a tho o lechi gleision. Mae tshaen a lifar, gyda bwced, i godir dŵr o grombil y ddaear. Fel arfer, mae dyfnder y dŵr yn ddeunaw troedfedd. Credir bod yna ffynnon yn ogystal, ar un adeg, yn llawr cegin yr hen ffermdy, a bod y ddwy wedi eu cyplysu mewn rhyw ffordd neui gilydd.

 

FFYNHONNAU CAE COCH, TREFRIW (SH 7786530)

Y Rhufeiniaid, maen debyg, a ddarganfur ffynhonnau yn Nhrefriw rhwng 100 a 250 OC pan oeddynt yn Conovium (Caerhun). Mae rhai yn honni mai gŵr bonheddig a daeth o hyd iddynt pan oedd allan yn hela a thorrodd ei syched drwy yfed o ffrwd fechan. Bu ond y dim iddo farw o ganlyniad i hynny. Hanes arall am eu darganfod ywr un  am adeiladu ffordd newydd i fferm Cae Coch tua 1820. Torrwyd i mewn i hen lefelau a darganfuwyd tarddler ffynhonnau.

Mewn taflen wybodaeth am y ffynhonnau nodir mai dymar ffynnon haearnol fwyaf cyfoethog yn y byd a bod y dŵr wedi cael ei gofrestru fel moddion yng ngorllewin yr Almaen. Nid y dŵr yn unig sydd o ddiddordeb ond hefyd pensaernaeth y baddondy a ddisgrifir fel cyclopean (am fod cerrig mawr wedi eu defnyddio iw adeiladu), gydar gorau syn bodoli. Credir mai'r Arglwydd Willoughby de Eresbur ai hadeiladodd yn 1763. Mae llechi anferth ar dor adeilad ac oddi mewn iddo mae baddon o lechen Gymreig. Gydag adeiladur baddonau daeth pentref Trefriw yn le poblogaidd i dreulio gwyliau. Addaswyd adeiladau yn y pentref ar gyfer ymwelwyr a chodwyd gwesty pwrpasol ar eu cyfer. Deuai gweithwyr o ardal y chwareli yn ogystal boneddigion cefnog i geisio gwellhad yn nyfroedd Ffynhonnau cae Coch.

Yn 1872 cyhoeddwyd cyfeirlyfr i bentref Trefriw gyda manylion ar sut y dylid defnyddior dŵr. Rhaid oedd eu dilyn yn ofalus gan fod yfed gormod or dŵr yn gallu bod yn niweidiol. Dylid ei yfed yn syth or graig ac aros am awr cyn bwyta. Llond gwydraid gwin y dydd  y dylid ei yfed ar y dechrau. Wedi hynny gellid dyblu cyfaint y dŵr. Arferair ymwelwyr fynd ir ffynhonnau yn y bore i flasur dŵr ac yn y prynhawn byddent yn ymdrochi yn y dŵr yn y baddon. Gydar nos cynhelid cyngherddau i ddiddanur ymwelwyr. Ceiniog y dydd oedd y gost am fynediad ir ffynhonnau ond ceid gwydraid o ddŵr yn y pris. Ar adegau byddai cymaint thri chant o ymwelwyr yn aros yn y pentref. Erbyn 1874 daeth y ffynhonnau i ddwylo preifat am y tro cyntaf. Rhwng 1875 a 1959 fe gair dŵr ei roi mewn poteli ai werthu ar draws y byd ar gyfandiroedd fel Awstralia, Canolbarth Affrica, De America yn ogystal ag ar draws Ewrop.

Yn 1908 teulu Adamson o ardal Lerpwl oedd yn gofalu am y ffynhonnau ac adeiladwyd baddonau newydd mewn adeilad urddasol ar fin y ffordd. Cludid pobl yma o Drefriw mewn cart a cheffyl ar gost o dair ceiniog. Wedir Ail Ryfel Byd gwerthwyd y ffynhonnau i ŵr or enw Cyrnol Cockroft ac roedd y dŵr yn dal i gael ei botelu ai werthu. Yn anffodus collodd y ffynhonnau iachusol eu hygrededd am na chawsant eu cynnwys eu cynnwys yng nghynlluniaur awdurdodau iechyd swyddogol. I bob ymddangosiad roedd oes aur Ffynhonnau Cae Coch wedi mynd heibio. Tua 1970 prynwyd y lle gan Alf Ineson, perchennog cwmni moduron o ogledd Lloegr  ac ail agorwyd ym 1972. Byddai ymwelwyr yn dal i alw heibio a chaent weld y baddonau am ugain ceiniog. Gwerthid y dŵr mewn poteli plastig ac roedd cleifion yn dal i gael iachd wedi iddynt yfed y dŵr. Maer ffynnon gyntaf yn gryf iawn mewn haearn. Mae ynddi hefyd silica, sylffwr, magnesia, soda, calsiwm, alwminiwm, sodiwm a mangans. Mae tymheredd y dŵr yn sefydlog tua 48 i 50 gradd ffarenheit. Byddair dŵr  yn y baddon yn gymysgedd o ddŵr y ddwy ffynnon ac yn cael ei gynhesu i tua 100 gradd ffarenheit. Yn yr wythdegau daeth y ffynhonnau yn eiddo i Toni Rowlands a fagwyd yn Llandudno. Fe fuddsoddodd filiwm o bunnau yn y fenter a gwerthid cynnyrch y ffynhonnau mewn siopau drwy Brydain, Ewrop ac Affrica. Nid ywr corff dynol yn gallu storio haearn ac felly mae angen cyflenwad cyson ohono i gadwn iach. Nid mewn poteli y gwerthir y dŵr bellach ond mewn pacedi. Daeth tro ar fyd. Nid ywn bosibl ymweld r ffynhonnau nar baddondy, ond yn l ffigyraur cwmni (Nelson) , yn 2009 cynhyrchwyd a gwerthwyd dros 12 miliwn o bacedi or dŵr o dan yr enw Spatone ar draws y byd.

 

 

FFYNNON NEWYDD, LLANRWST

Bu ceisio cael hanes Ffynnon Newydd yn ardal Llanrwst yn dipyn o her, yn enwedig ar l gweld fod cymdeithas fel Wellhoppers, syn arbenigo mewn hanes ffynhonnau wedi methu, ac nad oedd gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru fawr ddim gwybodaeth chwaeth! Ar gyrion Llanrwst, ar y ffordd i Landdoged mae Ffynnon Newydd, ond maen rhaid pwysleisio ei bod ar dir preifat. Yn l pob tebyg cafodd y ffynnon ei chodi yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg gan un o deuluoedd cyfoethog yr ardal. Mae sn amdani yn Faunula Crustensis -An Outline of the Natural Contents of Llanrwst a gyhoeddwyd yn 1830 gan John Williams, Pyll, Trefriw (1801-1859.  Roedd y meddyg ar naturiaethwr yn fab ir melinydd Cadwaladr Williams ac wedi ei eni ym Mhentrefelin, Llansanffraid Glan Conwy.  Yn Saesneg yr ysgrifennwyd am Ffynnon Newydd. Dyma gyfieithiad:

 

Ger Tyddyn Fadog, i gyfeiriad Llanddoged, mae tŷ go arbennig or enw Ffynnon Newydd, sydd ar enw am fod yna ffynnon sylweddol yn yr ardd gyda muriau trwchus o gerrig a tho o lechi uwch ei phen. Mae digonedd o le y tu mewn gyda rheiliau o haearn, ac yn amlwg maer ffynnon wedi ei chodi ar gyfer ymdrochi. Cafodd y ffynnon lawer o glod am fod y dŵr wedi llwyddo i iachau cleifion oedd gyda phob math o anhwylderau, rhai oedd meddygon ac eraill wedi methu eu concro. Ni chredaf fod iddi drwythiad mwynol, ond yn hytrach fod yr effeithiau llesol ir corff yn dod oherwydd bod oernir dŵr yn cyflymu cylchrediad y gwaed. Rwyf yn sicr ei bod mor effeithiol Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon neu  unrhyw ffynnon arall sydd heb rinweddau haearnol na halenog wrth geisio gwella anhwylderau syn anodd eu concro.

 

Mae cyfeiriad at y ffynnon yn An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. Vol  4 Denbishire. Royal Commission on Ancient and Historical Monuments 1914. Yn l y disgrifiad ( yn Saesneg) ym 1914 roedd y ffynnon yn sgwar o faint pymtheg troedfedd gyda waliau o ddeuddeg troedfedd o uchder a tho o lechi, ond bod y to mewn cyflwr gwael. Roedd saith o risiau i fynd i lawr at y dŵr  oedd yn bedair troedfedd o ddyfnder. Yn cydredeg ar ffynnon roedd ystafell wisgo/dadwisgo or un hyd ond yn naw troedfedd o led. Erbyn heddiw maer ystafell newid wedi diflannu. Does dim golwg or to ac maer grisiau mewn cyflwr gwael. Mae Peter Higson, perchennog Ffynnon Newydd, yn credu bod llawr y ffynnon wedi ei wneud o farmor. Mae ein diolch yhn fawr iddo am ei gyd-weithrediad parod yn caniatau ir Pentan gael tynnu lluniau or ffynnon ac am ei gymorth gydar hanes. Diolch hefyd i Rob Davies am dynnur lluniau a thrednur cyfan. Heb gymoprth amrhisiadwy y ddau ni fyddai wedi bod yn bosibl ir wybodaeth yma gael ei gasglu ai gyhoeddi.

 

Buom ar drywydd anghywir i ddechrau wrth geisio cael hanes y ffynnon gan ymweld Ffynnon Newydd arall, sef cartref Aelwen ar diweddar Thomas John Williams yn ardal Tan Lan. Roedd yna ffynnon yno hefyd wedi ei lleoli mewn cae. Mae wedi cael ei chapio gyda chaead crwn o goncrit. Hyd y gwyddom does yna ddim byd arbennig am hon ar wahn ei bod wedi ei defnyddio i ddisychedu cenedlaethau yn y gorffennol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf

 

Home Up