Home Up

FFYNHONNAU PERYGLUS SIR GAERNARFON

YN Y DDEUNAWFED GANRIF!

gan Ken Lloyd Gruffydd

 Yn ei astudiaeth fanwl o dref Pwllheli (SH3735), dengys Lloyd Hughes [1] fod corfforaeth y fwrdeistref wedi sylweddoli, cyn belled yn ôl ag 1742, fod diogelu purdeb dŵr ei ffynhonnau yn hanfodol bwysig ac ymhen tair blynedd roedd ganddynt bedair i'w goruchwylio. Yng nghwrt y Llys Chwarter am dymor y gaeaf 1756 dyfarnwyd bod y tarddiad dŵr ger y 'Gors' a elwid Ffynnon-yr-onnen yn berygl i'r cyhoedd ac mai cyfrifoldeb trigolion y dref oedd ei hatgyweirio [2], ond ni osodwyd pwmp arni am ddegawd arall [3]. Mae'n amlwg fod cafn o waith cerrig sylweddol ynghlwm â hi hefyd oherwydd yn 1797 soniwyd am wragedd lleol a oedd yn 'golchi clytiau, mopiau a bareli' ynddi [4].

 Ym mhapurau Cwrt y Sesiwn Fawr am dymor yr haf 1782 down ar draws y crwner a'i reithgor yn arwyddo tystysgrif i'r perwyl fod Robert William, bachgen bach tair oed, wedi boddi mewn pistyll o'r enw Ffynnon Llywarch a safai yng nghanol pentref Trefriw (SH7863). Yn iaith swyddogol yr ymchwiliad dywedid 'nid oedd marc wedi ei achosi gan drais ar ei berson.' Datgelwyd hefyd fod y bychan yn chwarae gyda phlentyn arall o'r un oed pan ddigwyddodd y drychineb [5].

 Cynhelid cwest ynglŷn â phob marwolaeth amheus neu ddi-dyst. Fel arfer gelwid ar ddwsin o'r plwyfolion  i wasanaethu fel aelodau o'r rheithgor. Wedi clywed y dystiolaeth (weithiau dim ond sylwadau'r meddyg yn unig oedd ar gael), byddent yn mynegi eu barn ar sut y daeth yr unigolyn anffodus i golli ei fywyd. Ar adegau cynhelid yr ymchwiliad hwn allan yn yr awyr agored yn y fan ble darganfuwyd y corff, er mwyn cael pwyso a mesur pa mor ymarferol fyddai eu damcaniaethau. Ar yr achlysur uchod, ac ar ddau achlysur arall yn y 1790au, dedfrydwyd mai damweiniol oedd y marwolaethau.

 Yn ddi-eithriad, babanod oedd y rhai a foddwyd yn y modd yma. Dwy flynedd a naw mis oedd Jane Jones, merch John Abraham [6] pan gollodd ei bywyd mewn ffynnon gerllaw Goelasbach, plwyf Eglwys-bach (SH8070), Dyffryn Conwy yn 1790. Dywedir iddi ddisgyn ar ei phen i'r dŵr a boddi.[7]

Yn y flwyddyn ganlynol disgyn wysg ei chefn i ffynnon wnaeth Lowri Evans, geneth ddwy a hanner oed, ger y Berth-lwyd ym mhlwyf Botwnnog (SH2631) [9]. Mae dwy ffynnon o fewn tafliad carreg i'r ffermdy hwn, un i'r dwyrain ohoni a'r llall i'r gorllewin.

 Tybed faint o drigolion sir Gaernarfon - a Chymru benbaladr o ran hynny - a wenwynwyd wrth iddynt dorri eu syched gyda dŵr o ffynnon lygredig? Nid oedd meicrobau na cholera yng ngeirfa'r werin bryd hynny!

 Ffynonellau:

            1.     D.G. Lloyd Hughes, Hanes Tref Pwllheli (Llandysul 1986), 46.

2.     Gwasanaeth Archifau Gwynedd, XQS/1756/5.

3.     Lloyd Hughes, op. cit.,48.

4.     Ibidem, 48.

5.     Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymru 4/276/2/34.

G. A.G., Cofrestr Plwyf Trefriw.

6.     Archifdy Sir Ddinbych Cofrestr Plwyf Eglwys-bach.

Roedd Trefaenan yn sir Gaernarfon ond ym mhlwyf Eglwys-bach, Esgobaeth Llanelwy.

7.     Ll.G.C., Cymru 4/277/2/31.

8.     G. A.G., Cofrestr Plwyf Botwnnog.

9.     Ll.G.C., Cymru 4/277/3/5.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up