DINEFWR

 

FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN

Dyma wybodaeth am FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN o gyfrol CASGLIAD O LÊN GWERIN SIR GAERFYRDDIN gan y Parch D.G. Williams. Cyhoeddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn 1895 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd copi argraffedig o’r gyfrol yn 1996 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Gwelir yr wybodaeth ganlynol ar dudalennau 83 i 85. (Cadwyd at y sillafu fel y’i ceir yn y gwreiddiol.)  

FFYNNON FIL FEIBION

CASTELL DINEFWR

(SN615225)

 Y mae traddodiadau hen am hon. Saif yn agos i Gastell Dinefwr. Lladdwyd yma fil o feibion amser mawr yn ôl, medd traddodiad, a dyna darddiad ei henw.

 

NANT Y RHIBO

CASTELL DINEFWR

(SN623233)

Dywed Giraldus fod yn ei amser ef Ffynnon ryfedd yn agos i Ddinefwr, ar yr ochr arall i’r Towi, yng Nghantref Bychan, ffynnon oedd fel llanw’r môr yn codi ac yn gostwng ddwy waith mewn 24 awr. Dywed Thomas Wright mewn nodiad, fod ffynnon yn agos i ochr ogleddol mur Parc Dinefwr, a elwir Nant y Rhibo (rheibio), ac mai at hon, efallai, y cyfeiriai Giraldus. Y mae y ffynnon honno’n adnabyddus ddigon.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU SIR GAR gan Saundra Storche

(Traddodwyd y sgwrs yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014)

  Saundra ac Eirlys ar faes yr Eisteddfod wedi’r ddarlith.

Gofynnir imi yn aml wrth roi sgyrsiau am Ffynhonnau Sanctaidd - Sut y trawsnewidiwyd ffynnon gyffredin i ffynnon sanctaidd? I’r Paganiaid Celtaidd roedd y rhain yn lleoedd dirgel ac yn fwy felly os oedd y dŵr yn cynnwys mwynau oedd yn rhoi blas gwahanol i'r dŵr.

Os oedd haearn yn y dŵr byddai’r cerrig o’i chwmpas a gwawr goch a’r dŵr yn blasu yn fetelaidd. Ar y llaw arall os oedd y dŵr wedi rhedeg drwy garreg galch ni fuasai yn rhewi yn y gaeaf. Gadawyd offrymau yn y mannau yma gan fod yr hen Gymry yn credu mai porth i’r byd arall oeddent, yn ddrws i Annwn, annedd ysbrydion a duwiau a mynedfeydd y bodau goruwchnaturiol i lynnoedd ac afonydd.

Y Pab Gregori Mawr sy’n cael y 'clod' o anfon a chynghori'r pererinion a glaniodd ar arfordir de Lloegr yn 601 ond anfonwyd rhai yn llawer cynt na hyn. Dywedir bod y Pab Eleutherius wedi anfon Dyfan, Fagan, Meudwy ac Elfan yn ail hanner yr ail ganrif i efengylu yn Sir Gâr. Felly, pan gyrhaeddodd y cenhadon Cristnogol cyntaf yr ynysoedd hyn, byddent yn bendithio'r ffynhonnau, ac yn annog y paganiaid i gynnig gweddïau i'r un Duw yn hytrach na chynnig offrymau i'r sawl un. Byddai offeiriad yn mynd o amgylch y pentrefi i fendithio'r ffynhonnau ar Nos Galan. A chredaf fod geiriau'r pennill poblogaidd (a ganwyd yng Nghwm Gwendraeth ar Ddydd Calan) yn cyfeirio at yr arfer hwn: “Codwch yn fore a chynnwch y tân, cerwch i’r ffynnon i hol dŵr glân.”

Trawsnewidiwyd y ffynhonnau yn rhai sanctaidd hefyd pan gynhaliwyd gwyrth yn y fan a'r lle. Ceir hanes Caradog yn torri pen Gwenffrewi i ffwrdd am iddi ei wrthod, a’i hewythr Beuno yn rhedeg allan o’r eglwys ac yn ei ail osod, a ffynnon yn tarddu o'r ddaear lle'r oedd ei phen wedi disgyn. Yn ôl un chwedl ymwelodd y Forwyn Fair a Chydweli mewn cwch, ond pan gafodd ei lladd gan ddyn wrth iddo ei hebrwng yn ôl at y cei, tarddodd Ffynnon Fair yr Alefed (SN 412073) yn y fan a'r lle. Byddai pobl yn ymweld â’r fan hyd at ddeunawfed ganrif ar y 25ain Mawrth ar ŵyl Fair y Cyhydedd. Ni cheir unrhyw olion o’r ffynnon heddiw ond yn ôl y diweddar Gadfridog Kemmis Buckley roedd cerrig sylfaen y ffynnon i’w gweld tan y 1970

Ac yn olaf, dry ffynnon yn sanctaidd pan ceir cysylltiad rhwng sant a’r safle. Gallai ef neu hi wedi defnyddio'r dŵr i fedyddio - Dewi Sant ym Mhistyll Dewi, Llanarthne (SN5396 719,302) , Teilo Sant yn Ffynnon Deilo, Llandeilo (SN62962224) a dyweder bod y Santes Non yn tynnu dŵr o Ffynnon Non (SN53710795) yn Llanon. Credai pobl (ac mae Catholigion yn dal i gredu) y byddai grym neu fendith sant yn ymdreiddio i unrhyw beth a gyffyrddai. Rydym i gyd yn gyfarwydd â hanes y fenyw sâl yn cyffwrdd ac ymyl dilledyn yr Iesu, dywedodd ar unwaith “ Pwy gyffyrddodd â mi, oherwydd synhwyrais i fod y nerth wedi mynd allan ohonof.” A cheir enghreifftiau eraill yn y Beibl megis cysgod Pedr (Actau 5:15) a chadachau Paul (Actau19: 12).

  FFYNNON DIOLCH I DDUW

 

Trwy gydol y canrifoedd byddai pobl yn ymweld â ffynhonnau sanctaidd am nifer o resymau - i weddïo am iachâd ar gyfer y corff ac enaid, fel penyd, i olchi ymaith eu pechodau, i yfed y dŵr, i gasglu'r dŵr sanctaidd mewn ffiolau ar gyfer y cleifion ac i weddïo am gynhaeaf da. Pan ysgubodd y frech wen drwy’r ardal cerddai trigolion Llanelli chwe milltir i Ffynnon Diolch i Dduw (SN53660645) ger Llanon i olchi eu darnau arian. Yr hyn a welwn yn y llun yw wal newydd i'r hen ffynnon a naddwyd pant yn y garreg i ddal llif y dŵr a godwyd ar orchymyn Rhys Goring Thomas ym 1883.

FFYNNON CAPEL ISAF

 

Erbyn hyn mae llawer o ffynhonnau sanctaidd wedi diflannu neu yn adfeilion. Dinistriwyd nifer fawr yn dilyn y ddeddf Gwahardd Pererindota a gyflwynwyd gan Thomas Cromwell. Byddai pererinion yn aml yn ymweld â ffynhonnau ar ddiwrnod gŵyl saint. Mae Capel Isaf (SN66012527 Maenordeilo) ar dir preifat a dywedodd y perchennog y byddai pererinion o Gaergaint yn galw yno ar eu ffordd i Dyddewi. Rydym yn cael ffeithiau diddorol am ffynhonnau gan berchnogion tir, gwybodaeth sydd wedi cael ei basio i lawr ar lafar ac nid ar gael mewn llyfrau ar y pwnc. Yn ôl perchennog Capel Isaf, roedd y ffynnon a’r tŷ yn gapel canoloesol ac yn rhan o abaty Talyllychau. Roedd yn bleser ymweld â’r safle ac mae'r dŵr yn cael ei bwmpio i mewn i'r tŷ a'i ddefnyddio heddiw.

 FFYNNON NON

 

Weithiau nid yw’r tirfeddianwyr yn gwybod bod y ffynnon sydd ar eu tir yn Ffynnon Sanctaidd, ac yn aml defnyddir y dŵr i ddyfrio’r gwartheg a pham lai? Mae perchnogion eraill, yn anffodus yn hollol ymwybodol am hanes y ffynnon ond yn eu dinistrio serch hynny. Yn ffodus tynnais lun o Ffynnon Santes Non yn Llanon flynyddoedd lawer yn ôl, dim ond twll syml, dinod yn y ddaear ydoedd, ond roedd perchennog y tŷ ar y pryd yn dweud bod niferoedd o bobl dros y blynyddoedd Wedi ymweld a'r man. Erbyn hyn mae’r tŷ yn gartref gofal i’r henoed a gosodwyd haenen o goncrid drosti am resymau diogelwch. Does dim olion i’w gweld, dim hyd yn oed plac i nodi ei bodolaeth

Ffynnon Antwn

Diolch byth bod  Ffynnon Antwn  (SN34600993) yn Llansteffan mewn cyflwr da. Soniais yn gynharach fod paganiaid yn cynnig offrwm i’r ffynhonnau ac mae'n ymddangos bod pobl dal a rhyw angen cynhenid i wneud hyn. Bob tro yr wyf Wedi ymweld a’r lle, gwelir cregyn, petalau, a darnau arian yn y dv”vr a charpiau wedi eu pinio i’r wal o’i hamgylch, gan fod y dv”vr yn gwella calon ddolurus yn 61 y chwedl. Roedd Antwn yn feudwy oedd yn dilyn ffyrdd Tadau a Mamau yr Anialwch drwy fyw bywyd o weddi ac ympryd, gyda’r pwyslais ar fwydo'r enaid yn hytrach na’r corff.

Ar y wal ger y ffynnon mae plac yn dangos y meudwy gyda dyfrgi ar ei dde ac ysgyfarnog ar ei chwith. Dywedwyd wrthyf fod yr ysgyfarnog yn symbol Cristnogol sy’n gysylltiedig a'r Forwyn Fair. Mae arddangosfa debyg o gadachau yn amgylchynu Ffynnon Deilo yn Llandeilo. Adeiladwyd hon yn hen wal yr abaty ac yn 61 yr hanes roedd y fedyddfa o fewn muriau'r abaty ac yma roedd Teilo yn bedyddio ei braidd

 

FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN

Yn 61 Gomer Roberts (awdur Hanes Plwyf Llandybie) adeiladwyd y fedyddfa ger eglwys Llandyfan gan y Bedyddwyr ym 1785 ar safle Ffynnon Sanctaidd Gwyddfaen (SN6416717121). Ysgrifennodd ‘mewn rhai hen fapiau adwaenir y ffynnon fel y Baddon Cymreig yn Llandyfan. Oedd yfed y dv”vr yma allan o benglog yn fantais i’r sal.

Ar ddechrau’r erthygl soniais am y cenhadon cynnar ddaeth i’r ynysoedd yma i droi'r paganiaid at Gristnogaeth. Dechreuais yr erthygl hon gyda'r Celtiaid ac maent yn ymddangos eto oherwydd cu bod yn credu bod yr enaid yn bodoli yn y benglog. Dyna pam y byddent yn torri pennau eu gelynion, heb y benglog ni fyddent yn gallu myned i fywyd tragwyddol. Felly byddai yfed dxivr sanctaidd o benglog rhywun sanctaidd yn cael ei ystyried fel bendith ddwbl ac yn gwella pob clwyf.

FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN

Rydym yn ddyledus i aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac eraill sy'n helpu i adfer a gofalu am y ffynhonnau yma yng Nghymru.

Yn bersonol rwyf yn ddiolchgar i berchnogion a groesawodd mi ar eu tir ac am rannu eu gwybodaeth am y Ffynhonnau Sanctaidd. Mae’n hanfodol bod ein ffynhonnau sanctaidd yn cael eu diogelu gan eu bod yn rhan o'n hanes, ein traddodiadau ac yn bwysicaf oll ein treftadaeth, boed eich bod yn Gristion neu beidio.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 37 Nadolig 2014  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc