Home Up

FFYNHONNAU THOMAS PENNANT

Eirlys Gruffydd

 

Darlun Moses Griffith o Ffynnon Wenfrewi yng nghyfrol gyntaf y Tours of Wales

Ar ddechrau 1778 cyhoeddwyd y gyntaf o dair cyfrol Tours in Wales, gan Thomas Pennant (1726-1798) o Downing ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint. Gan fod ei gartref yn y plwyf agosaf at Dreffynnon does dim syndod i Ffynnon Wenfrewi (SJ185763) yno gael gryn sylw ganddo. Meddai:

‘Mae’r ffynnon wrth droed gallt serth islaw Treffynnon a’r dŵr yn berwi allan o graig i ffynnon hardd ar ffurf amlochrog (polygon) gyda bwa o garreg hardd drosti sy’n cael ei chynnal gan bileri. Mae’r to wedi ei gerfio’n gywrain. Dros y ffynnon mae capel o bensaernïaeth othig.’

Yna mae’n olrhain hanes Gwenfrewi a’r modd y daeth y ffynnon i fodolaeth. Mae’n sôn hefyd am y llu o bobl a gafodd iachâd yn y ffynnon dros y canrifoedd, yn cynnwys Pabyddion a Phrotestaniaid fel ei gilydd. Bu’r lle yn fan i bererinion ymweld ag ef ond mae’n nodi bod y niferoedd wedi lleihau yn ddiweddar, serch hynny roedd pobl yn dal i gyrchu at y ffynnon.

‘Yn yr haf gellir gweld rhai yn y dŵr mewn defosiwn yn gweddïo’n ddi-baid ac yn cerdded nifer o weithiau o gwmpas y ffynnon. Heb amheuaeth mae rhinwedd arbennig yn y dŵr oer a llaweroedd wedi derbyn bendith ohono. Yn sicr dyma’r ffynnon orau yn y deyrnas gan fod un dunnell ar hugain o ddŵr yn llifo ohoni bob munud. Nid yw byth yn rhewi. Ger y ffynnon mae mwsogl ag arogl melys yn tyfu ac mae’r un peth i’w weld ger Ffynnon Llanddeiniolen yn Sir Gaernarfon.’

Mae’n bosib mai Ffynnon Ddeiniolen, Llanddeiniolen (SH 5469585), yw hon. Gallwn dystio bod llawer o bobl yn dal i ymweld â’r ffynnon o hyd. Yn ystod yr haf eleni buom yno a gweld nifer yn gweddïo o flaen delw Gwenfrewi yn y ffynnon a’r mwyafrif ohonynt yn Wyddelod Catholig ifanc ar eu ffordd i ag o Loegr.

Yn yr ail gyfrol o’i deithiau a gyhoeddwyd yn 1781 mae’n ymweld â nifer o ffynhonnau. Y cyntaf y sonia amdani yw Ffynnon Degla yn Llandegla, Sir Ddinbych (SH 194523). Meddai:

‘Tua dau gan llath o’r eglwys yng Ngwern Degla mae ffynnon fechan a’r llythrennau A.G. ac E.G.wedi eu cerfio ar y cerrig. Ffynnon sanctaidd yw hon a hyd heddiw mae’n hynod effeithiol i wella Clwyf Tecla neu’r salwch syrthio (falling sickness) Mae’r claf yn golchi ei gorff yn y ffynnon a thaflu pedair ceiniog iddi, yna’n cerdded o’i chwmpas dair gwaith gan adrodd Gweddi’r Arglwydd. Rhaid aros tan i’r haul fachlud cyn gwneud hyn er mwyn i’r sawl sy’n ceisio iachâd gael parchedig fraw. Os mai dyn ydyw bydd yn offrymu ceiliog ond iâr os mai gwraig yw’r claf. Bydd yr aderyn yn cael ei gario mewn basged o gwmpas y ffynnon dair gwaith cyn mynd at yr eglwys a cherdded o gwmpas yr adeilad dair gwaith gan gario’r aderyn ac adrodd Gweddi’r Arglwydd drachefn. Yna rhaid mynd i mewn i’r eglwys, mynd o dan y bwrdd Cymun a gorwedd gyda’r Beibl o dan y pen a charped neu liain dros y person a gorffwys yno tan doriad gwawr. Wrth fynd allan rhaid talu chwe cheiniog a gadael yr aderyn yn yr eglwys. Os bydd yr aderyn farw yna daw gwellhad gan fod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo.’

Yn ddiweddar gwnaed llwybr newydd i fynd at y ffynnon hon ac mae cloddfa archeolegol wedi bod o’i chwmpas. Mae’r ffynnon nesaf y sonia amdani, Ffynnon Leinw (SJ 187677) yn Hendre ym mhlwyf Cilcain, Sir y Fflint. Meddai:

‘Yn y plwyf hwn, ar ochr y ffordd dyrpeg, heb fod ymhell o Neuadd Cilcain, mae’r enwog Ffynnon Leinw neu’r ffynnon sy’n llifo. Mae’n ffynnon fawr hirsgwar gyda dau fur o’i chwmpas. Mae’n nodedig am ei bod yn gwagio ac yn llanw bob yn ail.’

Mae bwriad gan Gyngor cymuned Rhyd-y-mwyn i adfer y ffynnon hon a glanhau o’i chwmpas ond nad oes arian ar gael i wneud hynny ar hyn o bryd.

At ffynhonnau halwynog Caergwrle (SJ3057) mae’n cyfeirio nesaf. Meddai

‘ Ar dir Rhyddyn, ger glannau’r afon Alun, mae dwy ffynnon a llawer o halen yn eu dyfroedd. Mewn tywydd sych arferai colomennod ddod at y ffynhonnau i bigo’r halen. Yn y gorffennol roedd y ddwy ffynnon yn enwog am eu gallu i wella’r afiechydon scorobutic. Rhaid oedd i’r claf yfed chwart neu ddau bob dydd. Byddai rhai yn berwi’r dŵr nes bod ei hanner wedi ei wastraffu, cyn iddynt ei yfed. Yr effaith oedd carthu a phoenau mawr yn y stumog a thaflu fyny am rhai dyddiau. Yna byddai archwaeth at fwyd yn dychwelyd. Ceir hanes am wraig oedd yn dioddef yn ofnadwy o’r llwg neu’r clefri poeth (scurvy) a gafodd wellhad llwyr wrth ymweld â’r ffynhonnau hyn.’

Cafwyd hanes y ddwy ffynnon yn rhifyn 23 o Llygad y Ffynnon.

Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon Asa (SJ 065775) ym mhlwyf Diserth. Meddai:

‘Rhyw filltir o eglwys Diserth mae llifeiriant cryf sy’n cymharu’n ffafriol â’r dyfroedd yn Nhreffynnon. Mewn coedlan yn Cwm mae dŵr yn llifo o Ffynnon Asa. Mae cerrig o gwmpas y ffynnon ac mae ar yr un ffurf sef polygon, a Ffynnon Wenfrewi. Byddai cleifion yn cyrchu at y ffynnon hon ers talwm.’

Erbyn heddiw mae’r ffynnon yn cyflenwi dŵr i Brestatyn a’r pentrefi cyfagos.

Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon Fair, Wigfair, ger Llanelwy (SJ028711) Meddai:

‘Mae Ffynnon Fair yn ffrwd gref wedi ei amgylchynu gan waliau onglog. Roedd to drosti ers talwm. Gerllaw mae adfeilion capel ar ffurf croes ond bod yr adeilad yn adfail ag eiddew yn tyfu drosto. Yn nyddiau’r pererindota byddai llawer yn cyrchu ati.’

Nid yw’n sôn bod ei ffurf yr un a Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon na bod pobl yn priodi’n gyfrinachol yn yr eglwys gerllaw gan ddefnyddio’r gwasanaeth Pabyddol a hynny ymhell ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Wrth ymweld â Dyffryn Clwyd mae’n nodi bod Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr (SJ 082635) yn fan lle’r arferai pererinion ddod yn y gorffennol. Meddai:

‘Mae mur onglog o gwmpas y ffynnon ac mae delwau bychain ar ffurf pobl yn addurno’r mur ac o’i blaen mae’r ffynnon ei hun i’w defnyddio gan yr ymdrochwyr duwiol.’

Bellach mai’r mur a’r delwau wedi diflannu ond mae’r ‘Ffenest Jesse’ enwog a godwyd drwy gyfraniadau’r pererinion yn tystio i’w nifer a natur eu duwioldeb.

Ffynnon arall yr ymwelodd Pennant â hi oedd Ffynnon Beris, Nant Peris, Gwynedd. (SH 60855836).

 

FFYNNON BERIS, Nant Peris

Nododd fod y tai yn yr ardal yn dlodaidd a bod ffynnon ger yr eglwys wedi ei chysegru i Beris Sant. Meddai:

‘Yma y gwelir ffynnon y sant wedi ei hamgylchynu â mur. Mae offeiriades y lle yn dweud eich ffortiwn drwy edrych ar y modd mae pysgodyn bach yn ymddangos, neu ddim yn ymddangos o’r tyllau bach yn y muriau o gwmpas y ffynnon.’

Mae Tyn Ffynnon, y tŷ mae’r ffynnon ar ei dir, wedi newid dwylo dair gwaith yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd un perchennog wedi taflu pob math o sbwriel i’r ffynnon gan gynnwys bagiau o hen sment. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae wedi ei glanhau a pherchnogion y tŷ yn sylweddoli fod ganddynt drysor yn ei gardd. Cynhaliwyd bedydd plentyn yn y ffynnon rhyw ddwy flynedd yn ôl. Yn yr wythdegau roedd cerrig gwynion mawr mewn cilfachau ym muriau’r ffynnon ond maent wedi diflannu erbyn hyn. Wrth roi darlith ar y ffynhonnau i Gymdeithas Hanes Edeirnion yng Nghynwyd yn ddiweddar dywedodd dynes wrthyf fod ei gŵr yn byw yn Nhyn Ffynnon, Nant Peris, pan yn fachgen. Byddai’n arfer codi’r pysgodyn o’r dŵr - pysgodyn mawr sylweddol ydoedd.

Er iddo ymweld â Chlynnog Fawr nid yw’n disgrifio Ffynnon Beuno (SH 41324945) yno ond mae’n cyfeirio at yr arfer o gario cleifion i’r eglwys ar ôl eu trochi yn y ffynnon a’u gosod i orwedd ar fedd y sant i gael gwellhad. Meddai:

‘Yng nghanol yr eglwys mae bedd y sant, o garreg blaen ac ar ffurf allor. Byddai gan yr addolwyr ffydd gadarn yn y sant ac yn sicr bod cysgu’r noson ar ei fedd yn siŵr o wella pob anhwylder. Roedd yn arferiad i osod brwyn ar y bedd a gadael plant gwan eu hiechyd arno dros nos ar ôl iddynt gael eu trochi yn y ffynnon sanctaidd gyfagos. Gwelais wely plu ar y bedd ac arno gorweddodd un o Sir Feirionydd oedd wedi ei barlysu wedi iddo yn gyntaf gael ei olchi yn y ffynnon.’

Mae nodyn golygyddol ar waelod y dudalen gan Syr John Rhys yn dweud fod y bedd wedi ei ddinistrio mewn ymdrech aflwyddiannus i ddod o hyd i gorff y sant. Wedi gadael Clynnog teithiodd Pennant i Gaernarfon ac mae’n cyfeirio at Ffynnon Helen (SH 480628)yn Llanbeblig. Wrth sôn am y gaer Rufeinig Segontium, meddai:

‘Roedd gan Helen gapel gerllaw a ffynnon sy’n dwyn enw’r dywysoges. Gellir gweld peth olion yno o hyd a dywedir i’r capel gael ei godi ar yr un safle a’r ffynnon.’

Mae’r ffynnon mewn gardd tŷ o’r enw Llys Helen lle mae’r dŵr yn cronni mewn baddon o lechfaen gyda grisiau yn arwain i lawr iddo. Ers talwm byddai pobl yn cario dŵr o’r ffynnon i wella amrywiol anhwylderau.

Yn y drydedd gyfrol mae’n ymweld â Llandrillo- yn- Rhos. Dyma sydd ganddo i’w ddweud am gapel Sant Trillo ar lan y môr:

‘Des i lawr o Glodddaeth am ddwy filltir i lan y môr. Yno, ger y lan, gwelais adeilad bach unigryw sy’n cael ei alw yn Gapel Trillo Sant. Mae’n hirsgwar gyda dwy ffenest ar bob ochr a drws ar y pen. Mae’r to yn gromennog (vaulted) gyda cherrig crynion yn hytrach na llechi arno. Oddi fewn mae ffynnon. O gwmpas yr adeilad mae mur o gerrig.’

Mae’n siŵr y byddai’n synnu fod y capel bach a’r ffynnon heddiw yn gyrchfan i dwristiaid sy’n gadael gweddïau ar bapur i’r sant ac yn taflu arian i Ffynnon Drillo. (SH 842813 )

Wedi teithio trwy Abergele mae Pennant yn cyrraedd Llan San Siôr ac yn nodi bod gan y lle ei ffynnon sanctaidd. Meddai:

‘Roedd gan San Siôr, yn y plwyf hwn, ei ffynnon sanctaidd lle y byddai ceffylau yn cael eu hoffrymu. Byddai’r cyfoethogion yn offrymu un er mwyn sicrhau bendith ar y gweddill. San Siôr oedd nawddsant yr anifeiliaid hyn. Byddai pob anifail afiach yn cael eu cymryd at y ffynnon a’u taenelli â dŵr ac yna’n cael eu bendithio gyda’r geiriau “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.’

Yr enw ar y ffynnon gref hon heddiw yw Ffynnon Gemig(SH977757) ar ôl yr afon a’r fferm gyfagos ac ar y tir o’i chwmpas mae ceffylau’n cael eu cadw o hyd. Yn union wedi ei ymweliad â Llan San Siôr mae’n disgrifio Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-rhos (SH 866774). Meddai:

‘Mae ffynnon Elian Sant wedi bod yn enwog am wella afiechydon o bob math drwy gyfrwng y sant. Byddai’r bobl yn mynd i’r eglwys yn gyntaf ac yn gweddïo’n daer arno am waredigaeth. Ond roedd y sant hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod lladron a dod o hyd i nwyddau a ladratawyd. Mae rhai yn mynd ato i ofyn iddo ddial ar eu cymdogion a gwneud iddynt farw yn sydyn neu i anffawd ddigwydd i’r sawl oedd wedi eu digio. Mae’r gred yn hyn o beth yn dal yn gryf. Does dim tair blynedd wedi mynd heibio ers i mi gael fy mygwth gan ryw ddyn, ( a gredai i mi wneud drwg iddo) gyda dial Elian Sant, ac y byddai’n mynd i’r ffynnon i’m rheibio yno.’

Tybed beth a feddyliai Pennant pe gwyddai fod y ffynnon wedi ei dinistrio’n llwyr ond bod perchennog Cefn Ffynnon, lle mae safle’r ffynnon, wedi gwneud ymchwil manwl i’w hanes ac yn bwriadu ei hadfer yn y dyfodol.

Mae’n sôn am un arferiad diddorol na welais gyfeiriad ato o’r blaen. Meddai:

‘Os oes Ffynnon Fair neu ffynnon wedi ei henwi ar ôl sant mewn ardal, bydd y dŵr ar gyfer bedydd yn cael ei gario oddi yno i’r eglwys ar gyfer yr achlysur yn ddi-ffael. Wedi’r sacrament byddai hen wragedd yn hoff iawn o olchi eu llygaid yn y dŵr o’r fedyddfan.’

Gwyddwn am yr arferiad o gario dŵr o ffynnon sanctaidd ar gyfer bedydd ond dyma’r tro cyntaf i mi glywed fod y dŵr yn llesol wedi hynny ar gyfer llygaid poenus. Diolch o Tomos Pennant am ei waith yn croniclo gwybodaeth eang a diddorol i ni ond pity na fyddai wedi manylu mwy am y ffynhonnau.

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up