Home Up

Magwyr/Llanfarthin

Ffynnon Chwilgrug  

(SO 880401)

Mae Ffynnon Chwilgrug,rhwng Magwyr a Llanfarthin, gyferbyn â Church Farm ac mae,n un ddiddorol ei phensaernïaeth. Mae to'r ffynnon fel capan drosti ac mae tair o risiau yn arwain i lawr at y dŵr sy tua throedfedd o ddyfnder. Mae'r bwa dros y ffynnon wedi ei adeiladu o frics ond bod cerrig dros y brics yn ffurfio bwa ychwanegol drosti. Mae'r bwa yn ddwy droedfedd o uchder a thair troedfedd ar draws. O flaen y ffynnon mae cwrbyn carreg sy'n cadw'r dŵr rhag llifo allan. Mae'r gofer ar yr ochr dde a'r dŵr yn dod allan drwy beipen haearn. Hyd y gwyddom nid oes traddodiadau amdani wedi goroesi ond mae'n ddigon agos i'r eglwys i fod unwaith yn ffynnon gysegredig a'r dŵr ohoni, o bosib, wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddio plant. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, i Fair Forwyn. Erbyn heddiw mae'n ffynnon ofuned.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up