Home Up

GWEITHGAREDD WELLSPRINGS

 

Yn ne Cymru mae cymdeithas Wellsprings wedi bod yn weithgar iawn yn ddiweddar. Rydym yn anfon ein cylchlythyron at ein gilydd ac mae gennym unigolion sy’n aelodau o’r ddwy gymdeithas. Maent wedi mynd ati gyda chaib a rhaw – yn llythrennol – i adfer ffynhonnau. Rydym ninnau’n ceisio cael pobl i weithredu yn eu cymunedau gan ein bod yn credu fod hon yn ffordd fwy effeithiol a pharhaol o warchod ein ffynhonnau – ac nid oes gennym lawer o aelodau ifanc, brwdfrydig sy’n barod i gloddio a glanhau ffynhonnau! Beth bynnag yw’r dull a ddefnyddir mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth a gwarchod yr agwedd hon o’n treftadaeth yn bwysig eithriadol.

     Yng nghylchlythyr Wellsprings The Eye in the Landscape – ceir gwybodaeth am nifer o ffynhonnau. Mae sawl cymdeithas wedi dod at ei gilydd i warchod a datblygu safle Ffynnon y Santes Anne, neu’r Ffynnon Rinweddol yn Nhrelech, Mynwy. Yno mae nifer o ffrydiau’n tarddu oddi mewn i furiau ar siâp pedol ac yn llifo i faddon y ffynnon. Mae’r ffynnon wedi bodoli ar ei ffurf bresennol er 1689. Yn ffodus mae’r gymuned leol wedi sylweddoli gwerth y ffynnon ac maent wedi creu llwybr o ganol y pentref gan godi pont dros nant i hwyluso’r ffordd ati. Gosodwyd peipiau er mwyn sychu’r safle ac i gario’r dŵr oedd yn goferu o’r ffynnon i greu dau lyn a fydd yn denu bywyd gwyllt.

FFYNNON TRELECH (SO503051)

Nodwyd gyda thristwch fod Ffynnon y Priordy, Aberhonddu wedi cael ei fandaleiddio. Rhoddai’r ffynnon hon ddŵr i’r priordy gerllaw am ganrifoedd. Hawdd oedd llenwi piser o dan y pistyll ers talwm. Gwelwyd fod cerrig wedi eu tynnu o dan y pistyll a hynny wedi peri i’r dŵr lifo i waelod y baddon.

FFYNNON Y PRIORDY, ABERHONDDU (SO 040290)

  Bu’r gymdeithas yn brysur yn glanhau Ffynnon Maen Du ar gyrion Aberhonddu ym mis Rhagfyr, a hynny ar ddiwrnod gwyntog a glawog. Cliriwyd sbwriel ohoni a glanhawyd y sianel a’r pwll ble mae dŵr y ffynnon yn cronni.

     

FFYNNON MAEN DU, ABERHONDDU (SO 037297)

  Da iawn yw clywed bod grŵp wedi dechrau gweithio yn ardal Llangeler, sir Gaerfyrddin, i chwilio am naw o ffynhonnau yn yr ardal. Eleni mae cymdeithas Wellsprings yn dathlu ei degfed pen-blwydd. Sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru rhyw flwyddyn ynghynt yn 1996. Fel ag a nodwyd eisoes, mae rhai o’n haelodau yn perthyn i’r ddwy gymdeithas ac mae un aelod, Christopher Naish, yn cyfieithu Llygad y Ffynnon ar gyfer aelodau Wellsprings. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn Ffynnon Capel Begewdin a Ffynnon Capel Herbach yn ardal Porth-y-rhyd, nid nepell o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne. Da yw gweld fod gan y cyhoedd lawer mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y ffynhonnau erbyn hyn ac felly mae mwy o obaith i’w diogelu a’u hadfer.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

GWEITHGAREDD WELLSPRINGS

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas yn Aberhonddi ar Fawrth 9fed. Trefnwyd nifer o deithiau o gwmpas ffynhonnau’r fro a’r dref yn fisol drwy’r flwyddyn a gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ymuno yn y daith a thalu £2 y pen am gael gwneud hynny. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adfer Ffynnon y Priordy yn y dref. Maent hefyd yn casglu cerrig ar gyfer adfer Ffynnon Fair ym Mhenrhys ac yn gweithio ar ffynhonnau yn Sir Benfro.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up