Home Up

HANMER, MAELOR SAESNEG

 

FFYNNON CHAD 

SJ 4539

Mae hon yn ffynnon enwog sydd wedi ei chau ers blynyddoedd. Bellach mae gobaith ei hailagor gan fod y perchennog tir yn fodlon gwneud hynny.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON CHAD

(SJ4539)

 Ceir cofnod ychwanegol ynglŷn â’r ffynnon hon yn llyfr John, Arglwydd Hanmer, A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire (argraffiad preifat yn Llundain yn 1877) tudalen 141:

 The dedication of the church was to St. Chad... who is a frequent patron of holy wells, and has kept one for himself in a meadow close by, though it has rather suffered, but without intention, at my hands, from drainage near the mill-pool, and a large volume of water could easily be collected there again.

 Nid yw’n rhyfedd, felly, fod arferiad addurno’r ffynnon wedi peidio erbyn 1879. (Gweler Ffynhonnau Cymru 2, Eirlys a Ken Gruffydd, Llanrwst 1999, tud. 75.) Cyn yr ad-drefnu yn sgîl y Diwygiad Protestannaidd yr oedd Hamner yn rhan o esgobaeth Caerlwytgoed, a Chad yw nawddsant y gadeirlan honno.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

  

Crybwyllir Ffynnon Chad, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, collwyd rhagor o ffynhonnau trwy esgeulustod a diystyrwch nag a ddilëwyd gan ddelwddryllwyr. O golli eu harwyddocâd ysbrydol, gadawyd iddynt lenwi â llaid, sychwyd neu llanwyd hwy am ryw reswm neu’i gilydd, dinistriwyd hwy yn enw rhyw welliant honedig, neu fe'u hanghofiwyd hwy. Peidiodd Ffynnon Chad yn Hanmer â llifo wedi gwaith draenio lleol; mae Ffynnon Ddeiniol ym Mangor o dan domen rwbel; adeiladwyd pont am ben Ffynnon Gybi yng Nghlorach, ac nid yw Ffynnon Redifael ym Mhenmynydd ond yn bant budr. Mae’r rhestr yn rhy faith o lawer, ac yn sicr bu i ddylanwad Calfiniaeth greu awyrgylch lle gellid goddef, onid cyfiawnhau’r fath halogi: ond hyd yn oed wedi cilio o’r athrawiaeth honno, mae anwybodaeth a difaterwch yn parhau i fygwth gweddillion ein hetifeddiaeth sanctaidd. Rhaid bod ar wyliadwriaeth barhaus rhag y cynllun lledu ffordd nesaf, neu’r newydd-ddyfodiad a benderfyno mai da fyddai claddu’r hen darddell yn ei ardd â choncrit, er mwyn hwyluso parcio’i gar.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DIWEDD FFYNHONNAU SANCTAIDD MAELOR SAESNEG?
Howard Huws

 

FFYNNON CHAD

Tynnwyd sylw at Ffynnon Chad, Hanmer yn rhifyn 20 (Haf 2006) o Llygad y Ffynnon, ac at Ffynhonnau Mair, Is-coed (Whitewell) yn rhifyn 25 (Nadolig 2008) o’r cylchgrawn hwn.

 

FFYNNON CHAD, HANMER (SJ 45319 40380)

"Drain ac ysgall mall a'i medd...” 

Safle Ffynnon Chad gyda thŵr eglwys Hanmer yn y cefndir, tua’r de.

Yn ôl llyfiau nodiadau’r Canon M.H.Lee (Llyfr Nodiadau 2, Archifdy Clwyd, Penarlag):

Chadwell, which is just off the footpath between the village and Hanmer Mill, used to be highly valued in the neighbourhood. There was a custom of dressing it with flowers on Hanmer Wake Sunday — the first after Chad ’s Day ”

Dywed yr Arglwydd John Hanmer, yn ei lyfr A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire, (Llundain 1877), fod Ffynnon Chad wedi’i lled-ddifetha ganddo, yn anfwriadol, o ganlyniad i waith sychu tir wrth y felin: ond tybiai y gellid ei hadfer yn rhwydd. Yn ôl erthygl gan y Canon Lee yn Archaeologia Cambrensis 1879, fodd bynnag,

“St Chad ’s Well, a few hundred yards north of this village, is not now dressed annually as it was within memory. It is in one of the War (Wern) meadows.”

Ymddengys felly. Fod dathlu gŵyl Sant Chad wrth y ffynnon wedi darfod erbyn 1879: ac oni chyfrannodd difrodi’r ffynnon at hynny, gallwn dybio na fu o ddim cymorth i gynnal yr arfer.

Ymwelais â’r lle’r haf diwethaf. Fe’i ceir i’r gogledd - ddwyrain o Brook Lane Farm, yng Nghyfeirnod Grid Ordnans SJ 45319 40380. Mae dŵr yn llifo mewn ffosydd heibio i’r man, ond nid oes lle bu’r ffynnon ond twll dail poethion breision. Yn ôl un o drigolion y pentref bu peth cloddio ar safle’r ffynnon ar un adeg, a chafwyd hyd i jwg arian fechan, ond ni ŵyr beth ddigwyddodd i honno.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012   

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up