Home Up

LLANALLGO

 

FFYNNON ALLGO 

SH 497 848

Anfonwyd at Gyngor Cymuned Moelfre i holi ynglŷn â chyflwr Ffynnon Allgo. Mae hon yn hen ffynnon sydd â chysylltiadau paganaidd iddi. Os na wneir rhywbeth i’w diogelu cyn hir bydd wedi ei cholli’n llwyr.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc 

 

ANNWYL OLYGYDD

Mae Ffynnon Allgo yng nghanol Maes Carafannau Glanrafon y drws nesaf i Faes Carafannau Home Farm, tua chwarter milltir y tu draw i Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo, ar A5025. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon rhwng dwy garafan statig.

 

 

Mae’n anodd iawn tynnu llun da ohoni. Mae’r glaswellt o gwmpas y ffynnon yn dwt ond mae’r pwll ble mae’r ffynnon yn gorwedd yn llawn tyfiant sy’n cuddio llygad y ffynnon. Mae’r gwaith cerrig yn parhau ond mae’r nant sy’n rhedeg i afon Llanallgo yn llifo’n araf iawn.

Y Parch. Dr. Graham D. Loveluck, Marian-glas, Môn.

Mae hon yn ffynnon arbennig iawn a rhaid gwneud ymgais i’w hadfer. Da o beth fyddai cael nifer o bobl leol at ei gilydd i ymddiddori yn y ffynnon. (Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFILMIO’R FFYNHONNAU  

 Eirlys Gruffydd

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Ar ol gadael Penrhosllugwy aethom i Lanallgo a dod o hyd i Ffynnon Allgo (SH497848) ar faes carafanau nid nepell o’r eglwys. Y tro cyntaf i ni ymweld a’r lle, rhyw bymtheg mlynydd yn ol, roeddem yn ddigalon oherwydd fod tyfiant gwyllt yn gorchuddio’r ffynnon a dwy garafan fawr y naill ochr a’r llall iddi.  Bu cryn bryder am ei chyflwr yn y gorffennol ond da gennym ddweud ei bod bellach wedi ei glanhau ac mae ei phensaerniaeth yn fwy eglur. Gwelwyd bod sianel o gerrig yn dal y dwr sy’n goferu o’r ffynnon a’i bod yn llawer dyfnach nag oeddem wedi ei feddwl i ddechrau. Byddai’n dda o beth pe gellid rhoi enw’r ffynnon gerllaw iddi er mwyn i ymwelwyr fedru gwerthfawrogi’r ffaith fod yma grair hanesyddol o bwys. Darganfyddwyd cerflun carreg o ben dynol gerllaw’r ffynnon yn 1982 a heb amheuaeth roedd y fan yn lle cysegredig i’r hen dduwiau Celtaidd cyn dyfodiad Cristnogaeth i Gymru.  

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up