Home Up

LLANDDEINIOLEN

 

FFYNNON CEGIN ARTHUR

SH 554 649

Mae gan ddau o’n haelodau ddiddordeb arbennig yn y ffynnon hon. Ysgrifennodd John Ellis Williams, Llanrug, nifer o erthyglau amdani, yn wir mae’n gryn awdurdod ar y ffynnon. Hefyd derbyniais wybodaeth amdani gan Gwyn Edwards, Llanddeiniolen. Rwyf wedi pwyso’n drwm ar gynnwys eu herthyglau wrth gasglu’r wybodaeth a ganlyn. (Gol.):

John E. Williams yn Ffynnon Cegin Arthur Mai 1997.

Yn 1858 cyhoeddwyd llyfr yn Saesneg am y ffynnon yma gan y Dr. A. Wyn Williams, Caernarfon a Llundain. Mae’r ffynnon i’w gweld mewn planhigfa o goed pîn rhwng pentref Penisa’r-waun a Dinas Dinorwig. Y cyfeirnod map yw SH 554 649. Mae modd mynd at y ffynnon trwy ddilyn y ffordd sy’n arwain o’r Waun i gyfeiriad fferm y Gors ac yna troi i’r goedwig a cherdded ar hyd y ffordd las. Mae coed yn gorchuddio’r safle a does fawr ddim ar ôl bellach ond adfail a cist o gerrig a briciau yn y ddaear ar gwr y coed. Does dim dŵr yn y gist bellach.

Yn ôl llyfr y Dr Williams roedd y ffynnon wedi bod yn enwog iawn yn y gorffennol a’i bod yn ddigon mawr i rywun orwedd i lawr ynddo. Ar hyd ei dwy hochr ac ar y ddau ben roedd nifer o gerrig llyfn wedi eu gosod ar ben ei gilydd. Er nad oedd modd gweld y cerrig yr adeg yr ymwelodd â’r ffynnon credai eu bod yno o hyd. Roedd y dŵr brown-goch yn dod i’r ffynnon drwy’r graean ar ei gwaelod.

Roedd y mwynau yn y dŵr yn llesol iawn, yn wir credai eu bod yn gryfach nag unrhyw ffynnon chalybeate neu spa yn y wlad hon neu yn yr Almaen. Yn ôl un traddodiad roedd mochyn oedd yn wael wedi gwella ar ôl i’w berchennog rhoi diod o’r dŵr iddo i’w yfed. Dadansoddodd y meddyg gynnwys y dŵr a nododd fod llawer o proto-carbonate of iron ynddo yn ogystal a chalch, magnesiwm, sodiwm, silica, soda a nitrogen. Credai fod y dŵr yn tarddu yn y Gors Goch, rhyw filltir i’r de o Gegin Arthur. Roedd yn dod o wely o fwyn haearn, yn gorwedd o dan dir corsiog ac oedd yn treiddio drwy haen o raean. Gan fod y tir corsiog yn cynnwys llysiau pydredig roedd y dŵr yn cynnwys asid carbonig. 

Roedd wedi ei defnyddio i wella nifer o’i gleifion. Wrth ei yfed roedd y dŵr yn cael ei gymryd i mewn yn uniongyrchol i’r cyfansoddiad. Yn yr un modd wrth ymdrochi ynddo byddai’r haearn yn treiddio i’r cymalau a’r gewynnau a’r claf yn cael rhyddhad o’i boen ar unwaith. Ymhlith yr afiechydon oedd yn cael eu gwella gan y dŵr oedd iselder a gwendid gwaed, yn enwedig mewn pobl ifanc. Hefyd câi pobl wellhad sydyn o anhwylderau fel y cricymalau a’r manwyn, afiechydon y fynwes, gwayw a’r peils wrth yfed neu ymdrochi yn y dŵr. Fodd bynnag, ni ddylid ei ddefnyddio i wneud te gan fod y tanin yn adweithio gyda’r carbonad ac yn ei wneud yn ddieffaith. Rhaid oedd yfed y dŵr yn rheolaidd drwy’r dydd gan ddechrau ben bore. Y dos arferol oedd hanner peint.

Mae’r ffynnon mewn man corsiog a gwlyb a chred rhai fod yr ardal yn tynnu mellt a stormydd trydannol. Yn y gorffennol lladdwyd anifeiliaid o ganlyniad i fellt ar diroedd cyfagos. Yn wir, wrth gofio am y nifer helaeth o henebion yn y fro o gwmpas y ffynnon credodd rhai bod y fan yn lle cysegredig i’r Derwyddon. Roedd coedwig o dderi yn tyfu o’i chwmpas a’r ffynnon yn ganolbwynt i’w defodau meddyginiaethol. Yn anffodus dinistriwyd llawer o greiriau hanesyddol cyn iddynt ddod i sylw’r archaeolegwyr. Ar dir y Glascoed safai allor garreg ac ugain o feini o’i chwmpas mewn cylch. Fe’i cariwyd o’r fan a’u defnyddio i adeiladu plasty’r Glasgoed.

Mae enw’r ffynnon yma wedi bod yn destun trafodaeth hefyd. Cred rhai fod cysylltiad rhwng hanes y Brenin Arthur â Dinas Dinorwig. Roedd y ffynnon yn llifo i’r afon Cegin sy’n mynd i’r mor ym Mhorth Penrhyn. Ond mae un esboniad ysgolheigaidd yn dadlau fod y gair cegin wedi ei gamddehongli ac mai ystyr y gair cegin yn y cyswllt yma yw cefnen neu esgair. Roedd y meddyg wedi gobeithio y byddai’r ffynnon yn dod yn fyd enwog gan fod ganddo cynlluniau i adeiladu spa o’i chwmpas, tebyg i’r hyn a geir mewn trefi fel Llandrindod, ond ni wireddwyd ei uchelgais.

Yn yr erthygl ‘Ffynhonnau Cymru’ gan T. Glasfryn Hughes yn Cymru, (Cyfrol VIII, 1895) ceir y wybodaeth yma am Ffynnon Cegin Arthur:

            Rhyw ddeg mlynedd ar hugain yn ôl bu twrw mawr gyda ffynnon a elwir ffynnon Cegin
            Arthur ger Llanddeiniolen. Dywedai ei hedmygwyr fod ei dŵr maethol yn cryfhau 
            oddimewn ac yn ireiddio oddiallan, a lles deilliaw, pa un bynnag ai dychymyg ai
            gwirioneddol a fyddai’r dolur, a channai un o feirdd y dyddiau hynny fel hyn,-

            Mae ffynnon Cegin Arthur yn gosod imi gysur,

            A’i dyfroedd pur dan pob rhyw boen

            Yn gwella poen a dolur;

            Ei dyfroedd tra iachusol a ennill glod yn hollol,

            Trwy iachau pob llesg a gwael

            Hwy haeddent gael eu canmol.

            Bydd Buxton, Cheltnham hefyd, a’r Bath a’i dyfroedd hyfryd,

            A Malvern Wells yn ddim i hon

            Er adfer llon yr iechyd;

            Am hon mae sôn yn rhyfedd trwy Gymru yn gyfannedd,

            Dos yno, yf ei dŵr yn rhad,

            Os gelli, gwad ei rhinwedd.

Tybed ai dim ond gorffennol sydd i Ffynnon Cegin Arthur, neu a ddaw rhyw rym gwyrthiol i’w hadfer hithau i’w llawn iechyd a rhoi iddi ddyfodol diogel.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Cegin Arthur  

ANNWYL OLYGYDD…

Diolch am Rif 3 o Llygad y Ffynnon. Yn y darn am Ffynnon Cegin Arthur sylwais ar gamgymeriad dybryd. Doedd yna erioed fodd i rywun orwedd yn y ffynnon, fel y gwelir yn glir yn y llun. Ar gyfer ymdrochi roedd yno bedwar baddon ar wahân wedi eu suddo yn y ddaear. Credaf y dylid cywiro’r gwall i’r darllenwyr.

Yn ffyddlon,

John E. Williams, Llanrug.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR… PYTIAU DIFYR… PYTIAU DIFYR

Sylwodd Ken Lloyd Gruffydd ar y llwybr canlynol wrth ddarllen Y Brython, Cyfrol I, 2 (1897), tud. 59: (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol.)

FFYNONAU CYMRU

MR. GOLYGYDD: - Ni bu dim ers talwm a dynodd fwy o sylw a diddordeb yn yr ardal hon nag ymddangosiad Y BRYTHON; yr oeddym yn dechrau teimlo yr hen waed Cymreig yn poethi yn ein gwythienau; ac yn dywedyd, dyma bapyr newydd Cymreig i Gymru - ym mhlith pethau erill yng Nghymru y mae y ffynonau hen a diweddar yn werth eu trafod a'u holrain; mae'n debyg fod ym mhlith ysgrifenwyr galluog eich cyhoeddiad, wŷr a all roddi i ni hanes y prif ffynonau a'u rinweddau; megis ffynonau Cybi, Beuno, Aelhaiarn, Cadfan, Gwenfrewi &c., &c. Y mae yn ddiweddar sylw mawr wedi cael ei dynu at rinwedd dyfroedd. Y mae Ffynon Cegin Arthur (fel ei gelwir) ger Llanddeiniolen, tua phedair milltir o Gaernarfon, yn tynu y lliaws iddi, a llawer yn tybied eu bod yn cael eu gwellhau; a diameu fod ynddi rinwedd mewnol cryf, ac yr effeithia ei dwfr nodedig yng nghyd a newidiada awyr les i laweroedd. Gadewch i ni glywed hanes hen ffynonydd i ddechreu, gan eich gohebwyr, y Parch J, Jones, Llanllyfni; Ellis Owen, Ysw, Cefnmeusydd, &c. A pha rai ddyddordeb i ni yn yr ardal hon.

Deiniol.

Gerllaw'r Ffynon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

GOHEBIAETH

Annwyl Gyfeillion,

Caniatewch i mi ddweud mai yma yn lleol mae Ffynnon Ddeiniol, ym Mhant Tan Dinas yn union islaw Dinas Dinorwig ar yr ochr orllewinol ac yng ngheg Lôn Bach y Gof lle byddai ceffylau pwn yn cario llechi i’r Felinheli cyn sefydlu Lein Smith i Lanberis. Mae ’na ffrwd yn rhedeg drwy’r ffynnon ac ar draws gwlad i arllwys yng Nghaernarfon. Tros y ffordd mae hen ffermdy Tan Dinas, gynt a oedd yn gapel Rhyd Fawr. Mae fframwaith y drws o hyd yn bigfain. Yma y deuai fy hynafiaid tros yr esgair o’r Gors i’r cyrddau cyn adeiladu Capel y Glasgoed, felly mae lleoli’r ffynnon ym Mhentir yn anghywir. Byddem yn mynd heibio i’r fan ar Suliau i Landdeiniolen.

Cofion Gorau,

John E. Williams, Allt Riwth, Llanrug.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU  DIFYR  

FFYNNON CEGIN ARTHUR

 Dyfyniad o Y BRYTHON Gorffennaf 30ain, 1858.  (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

Newyddion Cymreig  - GWYNEDD

 LLANDDEINIOLEN – FFYNON CEGIN ARTHUR

gan deiniol bach

Yr ydoedd hyd yn nod enw y ffynnon hon dan gudd hyd yn ddiweddar, ond yn awr wele y “byd wedi myned ar ei hol” a holl Gymry a lluaws o Loegr yn cyrchu at ei dyfroedd a’i rhinweddau yn fwy amlwg, a’r cleifion yn cael eu hadferu wrth y degau. Ei dwfr harianaidd a maethol; yn cryfhau oddi mewn, ac yn ireiddio oddi allan; a lles yn deilliaw, pa un bynag a’i dychymyg, a’i gwirioneddol a fyddo’r dolur.

Y mae yn y dwfr hwn rinwedd mwnol cryfhaol, nid oes dal. Y mae amryw brofiadau fferyllaidd wedi ei wneud arno . Hyd yn nod i ddyn cyffredin heb fod yn fferyllydd, ymddengys gosodiad y ffynnon, lliw a blad y dwfr, y lava neu brasder ar ei wyneb, ei fod yn rhywbeth. Wrth ei yfed ceir blas cryf glynedig ar y genau, a theimlad syfrdanllyd yn y pen. Y mae rhai yn gysglyd ac ymrous ar ol ei yfed, ereill yn teimlo cynnesrwydd a bywioccad. Mae yn ymddangos mai ar ddioddefwyr o dan y gewynwst, ac mewn gwaeledd, a gwendid ar ol clefydau yr efeithia’r dwfr iachusaf, eithr y mae rhai o bob anhwylderau yn derbyn lles. Wrth ddyfod i fyny o’r gors lle mae’r ffynnon, wedi drachtio o’r dyfroedd, ac i hwn gyffwrdd ag un o dannau yr awen, dywedais,

                                                      Mae Ffynnon Cegin Arthur

                                                      Yn gosod i mi gysur,  
                                                      A’i dyfroedd pur dan bob rhyw boen  
                                                      Yn gwella poen a dolur;  
                                                      Ei dyfroedd tra iachusol  
                                                      A ennill glod yn hollol,  
                                                      Drwy iachau pob llesg a gwael  
                                                      Hwy haeddant gael eu canmol.  
                                                      Bydd Buxton, Chelt’nam hefyd  
                                                      A’r Bath a’i dyfroedd hyfryd,  
                                                       A Malvern Wells yn ddim i hon  
                                                      Er adfer llon ar iechyd.  
                                                       Am hon mae son yn rhyfedd  
                                                      Dros Gymru yn gyfannedd,  
                                                      Dos yno, yf ei dwr yn rhad  
                                                      Os gelli, gwad ei rhinwedd.  

  (Diolch i  Geraint Jones, Trefor am sylwi ar y wybodaeth uchod a’i anfon at y Golygydd)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Ddeiniolen, Llanddeiniolen (SH 5469585)

‘Yn yr haf gellir gweld rhai yn y dŵr mewn defosiwn yn gweddïo’n ddi-baid ac yn cerdded nifer o weithiau o gwmpas y ffynnon. Heb amheuaeth mae rhinwedd arbennig yn y dŵr oer a llaweroedd wedi derbyn bendith ohono. Yn sicr dyma’r ffynnon orau yn y deyrnas gan fod un dunnell ar hugain o ddŵr yn llifo ohoni bob munud. Nid yw byth yn rhewi. Ger y ffynnon mae mwsogl ag arogl melys yn tyfu ac mae’r un peth i’w weld ger Ffynnon Llanddeiniolen yn Sir Gaernarfon.

Mae’n bosib mai Ffynnon Ddeiniolen, Llanddeiniolen (SH 5469585), yw hon. Gallwn dystio bod llawer o bobl yn dal i ymweld â’r ffynnon o hyd. Yn ystod yr haf eleni buom yno a gweld nifer yn gweddïo o flaen delw Gwenfrewi yn y ffynnon a’r mwyafrif ohonynt yn Wyddelod Catholig ifanc ar eu ffordd i ag o Loegr.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

RHAGOR AM FFYNNON CEGIN ARTHUR  

(SH 55486488)

Dewi Ensyl Lewis

Yn ddiweddar, mewn siop ail-law prynais bamffled yn dwyn y teitl mawreddog Ffynon Cegin Arthur sef Ffynon Ddurlyd yn Llanddeiniolen ger Caernarfon; yn gosod allan natur a Rhinwedd Iachaol ei dyfroedd yn nghyda chyfarwyddiadau pa fodd i’w defnyddio…a.y.y.b.. Pamffled yw, wedi ei gyhoeddi gan A. Wynn Williams MD, MRCS, LSA,.Ni cheir dyddiad arno ond cyhoeddwyd fersiwn Saesneg o’r gwaith yn 1858.Mae’n bamffled diddorol, yn wir bron y gellir dweud ei fod yn darllen fel hysbyseb ar gyfer denu ymwelwyr i’r ardal. Eisoes, yn Llygad y Ffynnon, cafwyd gwybodaeth am Ffynnon Cegin Arthur (gweler rhif 3 a 4).Teimlais mai da o beth fyddai rhannu rhywfaint o wybodaeth ehangach fel y mae’n cael ei adrodd gan A. Wynn Williams. Ar ddechrau’r pamffled ceir cyfarwyddiadau buddiol i’r rhai sydd am ymweld â’r safle:

‘Cynghorwn bleidiau o Gaernarfon a ddymunent ymweld â’r Ffynon i yrru i fyny Pen’rallt, myned trwy Bethel,a dilyn yn mlaen hyd at hen Eglwys Llanddeiniolen; rhoddi eu ceffylau i fyny yn y Tafarndy a elwir Gors bach yna cerdded i Rhydfawr. Oddi yno gellir cymeryd naill ai y ffordd i’r de nei i’r aswy, gan fod y naill a’r llall yn arwain i dop Dinas Dinorwig ac o fewn llwybr byr i’r Ffynon.y mae i’r ffordd yma amryw fanteision-arbedwch yr holl elltydd serth; y mae hefyd yn llawer agosach ac hefyd arbedwch y tollbyrth - ystyriaeth bwysig yn y wlad yma, gan y gellwch gael cynifer a thair tollborth.’

Ac ymhellach

‘Dylai cwmnïon yn dyfod o Lanberis gymeryd cwch a myned hyd y llyn i Benllyn ac yna cerdded at y ffynnon yr hon sydd oddeutu milldir a hanner pellach ymlaen; gallant, os dewisant, farchogaeth yno ar ferlynnod neu mewn cerbyd, digonedd o ba rai a gedwir yn y gwestai.’

Caed peth anghytuno a oedd baddon neu beidio yma. (Gweler Llygad y Ffynnon 3 a 4).Dyma ddywed yr awdur am hyn:

‘…..nid oes gennyf amheuaeth nad oedd y ffynnon mewn bri gynt, a thra thebyg fel bath, oherwydd, cyn y gosodwyd y ddyfrgist-lech bresennol drosti, y mae olion amlwg o hen fath digon o faint i ddyn orwedd ynddo ar ei hyd. Ar hyd ochrau ac ymhob pen, gosodwyd dwy neu dair o feini gwastad, y naill ar y llall; nid yw y meini hyn wedi eu symud, ond nid ydynt i’w gweled yn awr. I’r bath yma y mae y dyfroedd yn tarddu i fyny trwy wely grafelog; y mae gwely y ffynnon yn rafel ei hun hefyd.’

Tua diwedd y pamffled fe gyfeirir at gyfnod mwy diweddar yn hanes y ffynnon :

‘Y mae y cyhoedd yn ddyledus iawn i’r diweddar Mr Asshton Smith am ei garedigrwydd yn taflu y Ffynon yn agored iddynt; ac am archu i ddau fwthyn prydferth gael eu hadeiladu yng nghyda dau fath.’

Dywed yr awdur ei fod wedi cynnal dadansoddiad o’r dŵr dwy flynedd cyn cyhoeddi y pamffled. Nodwyd eisoes bod dŵr y ffynnon yn tarddu trwy wely o raean a gwely o fwyn haearn ac nid syndod oedd gweld fod y dŵr yn cynnwys lefelau uchel o haearn. Tymheredd y dŵr yn y ffynnon oedd 56f (neu mewn pres newydd 13c) fe’i hystyrir felly yn ffynnon ‘oer’.Dadansoddwyd y dŵr yn ddiweddarach gan Dr Sheridan Muspratt o Lerpwl. Y mae’r awdur yn disgrifio gyda manylder y modd y casglodd y samplau ar gyfer y dadansoddi

‘Cefais ddwy gostrel wydr gyda stopper iddynt yn ffitio yn gywir, a llenwais hwynt yn y ffynnon fy hun, gan osod y costreli yn y ffynon,a gadael i’r dŵr redeg iddynt, ac, wedi eu llenwi, rhoddais y stoppers ynddynt pan yn y dwfr, a gorchuddiais y stoppers gyda chymysgedd o ystor, cwyr gwenyn ac olew.’

Mae’n amlwg o’r disgrifiad nad oedd eisiau unrhyw lygredd ar y samplau. Yn ôl dadansoddiad y samplau, ’roedd galwyn o ddŵr o’r ffynnon yn cynnwys yr elfennau canlynol:

       Grains

Carbonate of Protoxide of Iron               3.621

Carbonate of Lime                                  3.634

Carbonate of Magnesia                           0.167

Chloride of Sodium                                 2.000

Sulphate of Lime                                     1.153

Silica (soluble)                                         1.892

Soda combined with Silica                       0.963

Organic Mater                                         0.071

Total 13.501

Yn ychwanegol at y dadansoddiad nodwyd mai yr ‘unig nwyon a ganfyddid yn y dwfr oeddynt carbonic acid a nitrogen’(“trengnwy”).Aeth yr awdur ati i gymharu Ffynnon Cegin Arthur â ffynhonnau eraill ar gyfandir Ewrop a Phrydain a daeth i’r casgliad:

‘Mewn perthynas i’r Ffynonau Meddygol Prydeinig, sydd yn cynnwys haearnaidd, nid oes un a ddeil gydmariaeth â Ffynon Cegin Arthur.’

Yn wir gystal yw safon y dŵr nes cynghorir pwyll wrth ei yfed.

‘Er nad yw yn cynnwys cymaint o carbonate of iron, cynnwys ddigon i ddal yr haiarn mewn toddiant ac i achosi ei lynciad buan i’r mân wythenau. Yr wyf yn gwybod am amryw enghreifftiau o wahanol bartïon a ddarfu braidd feddwi, (neu fyned yn hurt) am ychydig amser, wedi yfed gwydriad neu ddau o’r dwfr ar gylla gwag. Y mae yn ffaith nad ellir ei gwadu fod tuedd mewn carbonic acid mewn uniant â haiarn achosi meddwod.’

Mae’r awdur yn awgrymu bod yfed dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn llesol ar gyfer nifer o anhwylderau. Y prif anhwylder y cyfeirir ato yw’r manwyn neu glwy’r brenin. Trafodir yn helaeth effaith yfed y dŵr ar yr afiechyd ‘yn holl amrywiaeth ei ffurfiau a’i enwau’ h.y. ei effaith yn ystod gwahanol gyfnodau bywyd neu oedran y cleifion. Nodir y

‘Dylai plant a thuedd ynddynt at yr afiechyd hwn ac yn wir bob plant, fyned allan i’r awyr agored, ac i oleuni pur y nefoedd, gymaint ag sydd modd. Bydded i bob gorchudd, heblaw gyda babanod ieuainc iawn, bonet haul a pharasol, a phob rhyw ffoledd cyffelyb, gael eu taflu i’r tân.’

Rhybuddid cleifion i beidio a chymeryd dogn rheolaidd o foddion at afiechyd ond yn hytrach yfed dŵr haearnaidd yn enwedig

‘.dwfr Ffynon Cegin Arthur, mewn cysylltiad â, neu i’w ddylyn gan, olew afu y penfras (cod liver oil).’

Fe awgrymir mwy nag unwaith bod cael digon o awyr iach yn llesol iawn i’r claf ac i helpu trin salwch. Nid yn unig yr oedd dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn llesol ond awgrymir bod amgylchedd yr ardal yn gallu bod o gymorth.

‘Y mae newid golygfeydd ac awyr yn wasanaethgar iawn megys gwibdaith yn mysg y mynyddau Cymreig, a phreswylio yn achlysurol ar lan y môr. Yn y cyfnod hwn byddai cwrs o ddyfroedd Ffynon Cegin Arthur o werth anghydmarol i feibion a merched…..’

Awgrymir bod ymdrochi yn y dŵr yn iachus iawn at wahanol salwch yn enwedig ‘cryd y cymalau’ -

‘Yr wyf yn gwybod am ryw enghreifftiau o rai yn myned i’r Ffynon yn hollol ddiymadferth, ac ar ôl yfed y dwfr a throchi rhannau poenus (nid oedd bàths y pryd hynny wedi eu cwblhau),yn dychwelyd adref wedi cwbl iachau.’

Ceir rhestr hir o’r gwahanol salwch yr oedd dŵr y ffynnon yn ddefnyddiol ar eu cyfer sef,

‘anhwylder benywol’, ‘hysteria yn nawns St Vitus’, ‘i luddias cenhedliad llyngyr’, ‘neuralgia’, ‘y glunwst’, ‘y llesmeirglwst’, ‘y parlys’, ‘hen ddolur gwddf neu beswch’, ‘diffyg anadl’, ‘colli llawer o waed’, ‘mewn gollyngdod a rhyddhad o’r llws-bilen’ neu ‘hen ddolur rhydd’, ‘pan y mae tuedd i erthylu’, ‘mewn anhiledd neu ddiffrwythlondeb’, ‘hen ddoluriau yn y llygaid, yn enwedig mewn tywyllni oherwydd gwendid’, ‘diffyg treuliad a chyfogi’, ‘diffyg tôn yn y cylla’ ac ychwanegir y rhybudd oesol ‘Bydded i mi wasgu hyn ar fy narllenwyr, na ddylai neb yfed y dyfroedd hyn heb gyngor meddygol.’

Rhan olaf y pamffled yw cyngor ar y modd o gymryd y dŵr a sylwadau eraill. Pwysleisir na ddylid cymryd y dŵr am gyfnod ‘llai na thair wythnos’ yn ddyddiol. Cyfeirir yn aml at gymryd ‘Cwrs o ddyfroedd y Ffynon.’ Awgrymir y dylid yfed un neu ddau tumbler neu ‘hanner peint’ gyda chyfnod o ddeng munud rhyngddynt i’w hyfed cyn brecwast. Y mae’n awgrymu hefyd na ddylid yfed te cyn nac ar ôl yfed y dŵr. Cynghorir gadael cyfnod o awr neu ddwy cyn yfed te gan fod y tannin yn amharu ar ei effeithiolrwydd. Mae’r awdur yn awgrymu y gellir yfed y dŵr ymhell o gyffiniau’r ffynnon a dal i gael effeithiau’r dŵr. Mewn sawl ardal y traddodiad yw, y dylid yfed y dŵr o lygad y ffynnon er mwyn cael y lleshad. Mae’r awdur yn cynnig cyngor i’r darllenwyr ynglŷn â photelu’r dŵr a’i yfed yn ddiweddarach. Ceir disgrifiad manwl o’r modd i storio’r dŵr. Brony gellir dweud ei fod yn disgrifio'r grefft o gadw potelaid o win da !

‘I rwystro ei ddadansoddi - gellir gwybod os bydd hyn yn cymeryd lle, trwy fod gwaelodiad coch yn cael ei ffurfio - y mae yn hollol angenrheidiol cadw allan oxygen yr awyr rhag cyffwrdd ag ef. Gellir sicrhau hyn oreu trwy roddi y dwfr mewn costrelau ag iddynt stoppers a fydd yn cau yn dynn. Dylid gorchuddio stoppers y costrelau â rhyw ddefnydd ireidlyd megys menyn neu lard. Hon ydyw y ffordd oreu, a phan yn cael ei wneyd yn ofalus y mae y dwfr yn cadw am hir amser; ceidw y dwfr am ysbaid lled hir mewn costrel wedi ei chorcio yn dda, ond gofalu na fydd y dwfr yn cyffwrdd â’r corcyn er y rhaid iddo fod mor agos iddo ag sydd bosibl heb gyffwrdd. Dylai y corcyn gael ei dorri wedi hynny yn llyfn â phen y gostrel ,a’i selio drosto. Tueddir fi i feddwl y gwnâi plŷg gutta percha wedi ei orchuddio â tinfoil ateb y dyben yn dda.’

I gwblhau’r pamffled mae’r awdur yn awgrymu nad yw’r cyfleusterau o gwmpas y ffynnon yn ddigon da.

‘Ond cyn y daw y ffynnon feddygol hon yn gyrchfa gysurus i ddosbarth penodol o bobl, yr hyn yr wyf yn hyderus fydd, yn gynt neu hwyrach, rhaid adeiladu yno letŷ-dai, neu westdŷ. Pa le y ceid llannerch mwy iachus neu fwy swynol nag ar lethr Dinas Dinorddwig? Yma y cawn yr olygfa fwyaf hyfrydlon yn yr holl Dywysogaeth. Yma y gallwn anadlu awyr y mynydd neu y môr wrth ein pleser……’

Oes ’na wers i’w dysgu yma?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU  

FFYNNON CEGIN ARTHUR 

(SH 55486485)

gan Gareth Roberts

 Mae’n syndod fod cyn lleied o wybodaeth ar gael am Ffynnion Cegin Arthur sy’n sefyll tua hanner milltir i’r gogledd o bentref Penisa’r-waun. Yn ystod y l850au byddai’n denu cymaint â 200 o ymwelwyr i ‘gymryd y dyfroedd’ bob dydd, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr. Potelwyd y dŵr a’i werthu’n fasnachol. Lleolir adfeilion sba Ffynnon Cegin Arthur ymysg Coed Blaen y Cae ac er ei holl bwysigrwydd ganrif a hanner yn ôl, mae gweddillion rhai o adfeilion yr Oes Haearn yn y fro mewn gwell cyflwr. Adeiladwyd y sba ger y ffynnon gan Y Faenol ar ddechrau’r l850au i gymryd mantais ar y diwydiant twristiaeth newydd a’r diddordeb mewn materion iechyd. Dim ond un ffynnon yn Ewrop, a honno yn yr Almaen, oedd a chymaint o haearn yn y dŵr. Dros y canrifoedd cydnabuwyd rhinweddau iachusol y dwr gan fod y ffynnon ei hun wedi ei defnyddio i wella anifeiliaid oedd yn wael. Erbyn 1860 daeth cyfnod euraidd y ffynnon i ben pan agorwyd sba ger Llanrwst. Roedd yn haws mynd yno a daeth Ffynnon Cegin Arthur fel busnes i ben er i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel tŷ am sawl blwyddyn wedi hynny. Diddorol yw nodi i ddŵr y ffynnon gael ei boteli a’i werthu mewn siop yng Nghwm y Glo tan tua 1914. Cymaint oedd dylanwad Ffynnon Cegin Arthur yn ei hanterth nes i feddyg lleol oedd yn gweithio yn Llundain, Arthur Wynn Williams, ysgrifennu cyfrol amdani. Serch hynny ni wyddai neb rhyw lawer am yr adeilad oedd yno’n wreiddiol. Mae’r ffynnon a’r sba yn ymddangos yn fach iawn mewn hen lithograff o’r cyfnod, a hyd y gwyddom, mae un darlun ohoni ar gerdyn post lle mae prif ffocws y llun ar y crawiau neu’r darnau o lechi o flaen y tŷ yn hytrach nag ar y sba ei hun.

Blwyddyn yn ôl aeth Cynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen yno i lanhau ychydig o gwmpas y lle a chlirio’r tyfiant gwyllt. Credir iddynt ddarganfod lleoliad y drws. Roedd digon o wrthrychau yn y pridd o gwmpas y fynedfa nes eu galluogi i ail-greu ymddangosiad y drws ei hun. Yn ddiweddarach aeth y grŵp i archwilio ychydig yn fwy o’r ffynnon ei hun. Brics yw ei hadeiladwaith nawr ond yn amlwg roedd y ffynnon wedi ei hamgylchynu â cherrig yn wreiddiol. O bosib fod yna le i bobl eistedd o’i chwmpas. Darganfuwyd ffos fechan o’r ffynnon i fynd a dŵr i adeilad arall sef plunge pool neu bwll trochi a lle i nifer o bobl fynd iddo. Yn anffodus, oherwydd bod coedwig fasnachol wedi tyfu o amgylch y ffynnon, mae hyn wedi newid cwrs y dyfroedd ac mae’r ffynnon nawr yn sych. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r sba pan blannwyd y goedwig ond mae yno ddigon ar ôl i’w weld o hyd o gwmpas Ffynnon Cegin Arthur ac mae ganddi stori anhygoel i’w hadrodd.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Ddeiniol

 

Yn Rhifyn 21 (Nadolig 2006) “Llygad y Ffynnon” cawsom wybod gan y diweddar John E. Williams, Allt Riwth, Llanrug fod “Ffynnon Ddeiniol, ym Mhant Tan Dinas yn union islaw Dinas Dinorwig ar yr ochr orllewinol ac yng ngheg Lôn Bach y Gof lle byddai ceffylau pwn yn cario llechi i’r Felinheli cyn sefydlu Lein Smith i Lanberis. Mae ’na ffrwd yn rhedeg drwy’r ffynnon ac ar draws gwlad i arllwys yng Nghaernarfon. Tros y ffordd mae hen ffermdy Tan Dinas, gynt a oedd yn gapel Rhyd Fawr…Yma y deuai fy hynafiaid tros yr esgair o’r Gors i’r cyrddau cyn adeiladu Capel y Glasgoed, felly mae lleoli’r ffynnon ym Mhentir yn anghywir. Byddem yn mynd heibio i’r fan ar Suliau i Landdeiniolen.”

Ddechrau mis Medi eleni bu Seiriol Owen o Fethel mor garedig â dangos y ffynnon hon imi. Y mae yn y man a ddisgrifiwyd gan J. E. Williams, ar ochr y ffordd rhwng eglwys Llanddeiniolen a Phont Rhythallt, gyferbyn â, ac ychydig uwchlaw, Tan Dinas. Y cyfeirnod Arolwg Ordnans yw SH548655. Mae’r dŵr yn gollwng o’r darddell i ffrwd fechan sy’n llifo heibio iddi.

 

Mae ceg Lôn Bach y Gof (llwybr troed, bellach) hefyd gyferbyn â Than Dinas, ond ychydig yn is i lawr. Rhoddodd Mr Owen wybod imi bod ffynnon arall yn yr ardd o flaen Tan Dinas, ond bod honno’n llawn planhigion, bellach. Byddai honno’n wir “yng ngheg Lôn Bach y Gof”, ond nid dros y ffordd i Dan Dinas, ac nid yw’n llifo i unrhyw ffrwd.

                                                                                                                                                                             HH.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up