Home Up

LLANDEGLA

 

CRWYDRO FFYNHONNAU SIR DDINBYCH

Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 ) mae'r diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir. Dyma ddyfyniadau o'r ddwy gyfrol sy'n sôn amdanynt:

Ffynnon Degla, Llandegla (tud 143)

Mewn cae o'r enw Cae'r Felin neu Gwern Degla y mae'r hen ffynnon a gysegrwyd i'r ferch ifanc honno a gafodd ei chamdrin mor arw am ei bod yn yn gyfeilles, medd y traddodiad, i'r Apostol Paul. Y mae rhinwedd y ffynnon hon, a'r seremonïau a'r taliadau yr oedd yn rhaid eu cyflawni gerllaw iddi, er mwyn cael gwellhad o'r epilepsi, wedi eu cofnodi llawer gwaith, ac nid oes angen eu hail-adrodd yma: yr oeddynt yn ddigon pwysig i Fraser eu cynnwys yn ei Golden Bough, ac y mae'n debyg mai gan Pennant a Lhuyd y cafodd ef ei ffeithiau. Y cyfan a ddywedaf i ydyw ei bod yn hen bryd i'r Cyngor Plwyf geisio tacluso ychydig ar y ffynnon, os ydynt am i ymwelwyr fynd yno i'w gweld. Yno mae ger glan yr afon yng nghanol cae a gwernen yn plygu drosti. Yn ôl adroddiad Pennant, y mae rhyw lythrennau wedi eu cerfio ar y meini o'i chwmpas, ond bu'n rhaid i mi dorri canghennau pigog draenen a dyfai yn ei cherrig cyn cael golwg hyd yn oed ar y dŵr sydd ynddi o hyd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Degla yn Llandegla, Sir Ddinbych 

(SH 194523).

Yn yr ail gyfrol o’i deithiau a gyhoeddwyd yn 1781 mae’n ymweld â nifer o ffynhonnau. Y cyntaf y sonia amdani yw Ffynnon Degla yn Llandegla, Sir Ddinbych (SH 194523). Meddai:

‘Tua dau gan llath o’r eglwys yng Ngwern Degla mae ffynnon fechan a’r llythrennau A.G. ac E.G.wedi eu cerfio ar y cerrig. Ffynnon sanctaidd yw hon a hyd heddiw mae’n hynod effeithiol i wella Clwyf Tecla neu’r salwch syrthio (falling sickness) Mae’r claf yn golchi ei gorff yn y ffynnon a thaflu pedair ceiniog iddi, yna’n cerdded o’i chwmpas dair gwaith gan adrodd Gweddi’r Arglwydd. Rhaid aros tan i’r haul fachlud cyn gwneud hyn er mwyn i’r sawl sy’n ceisio iachâd gael parchedig fraw. Os mai dyn ydyw bydd yn offrymu ceiliog ond iâr os mai gwraig yw’r claf. Bydd yr aderyn yn cael ei gario mewn basged o gwmpas y ffynnon dair gwaith cyn mynd at yr eglwys a cherdded o gwmpas yr adeilad dair gwaith gan gario’r aderyn ac adrodd Gweddi’r Arglwydd drachefn. Yna rhaid mynd i mewn i’r eglwys, mynd o dan y bwrdd Cymun a gorwedd gyda’r Beibl o dan y pen a charped neu liain dros y person a gorffwys yno tan doriad gwawr. Wrth fynd allan rhaid talu chwe cheiniog a gadael yr aderyn yn yr eglwys. Os bydd yr aderyn farw yna daw gwellhad gan fod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo.’

Yn ddiweddar gwnaed llwybr newydd i fynd at y ffynnon hon ac mae cloddfa archeolegol wedi bod o’i chwmpas.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, 13.7.2019.

 

Gwibdaith y pnawn.

Wedi’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn y bore, aeth yr aelodau ar wibdaith er mwyn ymweld â thair ffynnon:

a). Ffynnon Degla, Llandegla. Cafwyd fod y ffynnon yn weddol dda ei chyflwr, ond achubodd y Trysorydd (gan fod ganddo esgidiau priodol) y cyfle i dynnu brigau allan ohoni. Mae yno fwrdd gwybodaeth ynghylch defnydd y ffynnon ar gyfer defod iacháu’r “digwydd” neu “glwyf Tegla” (epilepsi), a chanfuwyd yno ddau geiliog plastig. Roedd yno hefyd garpia wedi’u clymu ar frigau’r goeden gerllaw.

b). Ffynnon Sara, Derwen. Cafwyd fod y ffynnon anghysbell ond sylweddol hon mewn cyflwr eithaf da, ond bod angen ei charthu. Anarferol fu canfod yno hen rybudd swyddogol nad yw’r dŵr yn addas i’w yfed.

c). Ffynnon Sulien, Corwen. Cafwyd nad oedd modd mynd at y safle (gw. uchod). Gan fod rhif teleffon y perchnogion yno, gadawyd neges ar eu peiriant ateb yn amlinellu cais y Gymdeithas am fynediad at y ffynnon.

Wedi hynny fe ohiriwyd i’r Rug am baned.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up