Home Up

LLANDUDNO

 

FFYNNON DUDNO, LLANDUDNO.

Mae hon ger yr eglwys ar ben Y Gogarth ond nid oes arwydd yn dangos ei lleoliad. Rydym wedi cysylltu â Stad Mostyn ac wedi cael caniatâd i fynd yno i edrych ar y ffynnon. Ein gobaith yw y bydd mewn cyflwr gweddol dda ac y gallwn berswadio'r awdurdodau i'w hagor i'r cyhoedd gan ei bod mewn lleoliad delfrydol i ddenu ymwelwyr. Cewch wybod sut mae pethau'n datblygu. (GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON TUDNO A FFYNHONNAU'R GOGARTH

Eirlys Gruffydd

Yn y rhifyn cyntaf o Llygad y Ffynnon, soniwyd ein bod wedi cysylltu â Stad Mostyn gyda'r bwriad o ymweld â Ffynnon Dudno ar ben y Gogarth. Ein gobaith oedd y byddai'r ffynnon mewn cyflwr da ac y gellid ei hagor i'r cyhoedd gael ymweld â hi. Cafwyd caniatâd i edrych ar safle'r ffynnon ar yr amod ein hod yn cysylltu â Mrs Helen Jowett, Warden Parc Gwledig y Gogarth. Cafwyd ar ddeall ganddi fod y ffynnon ar dir preifat, ond wedi iddi hi a ninnau gysylltu â'r perchennog, cafwyd caniatâd i ni ymweld â'r ffynnon yng nghwmni Helen a Mr Tom Parry, hanesydd lleol ac awdur cyfrol ar hanes yr ymchwil am Lys Helgi a gwlad Tyno Helgi, y darn hwnnw o dir rhwng Penmaenmawr a Môn a foddwyd gan y môr yn y chweched ganrif.

Roedd prynhawn Sadwrn y Pasg yn heulog braf; tref Llandudno dan ei sang ac ymwelwyr yn crwydro'r Gogarth fel morgrug. Wedi i ni gyfarfod â'n gilydd yn y Ganolfan Ymwelwyr ar y copa, cafwyd ar ddeall bod amryw o ffynhonnau ar y Gogarth ac yn y dref ei hun ers talwm. Roedd Helen wedi casglu gwybodaeth amdanynt o hen rifynnau o bapur newydd y Llandudno Advertiser o ddechrau'r ganrif a oedd yn cyfeirio at y gwahanol ffynhonnau.

Yn rhifyn 13eg o Dachwedd 1909, ceir erthygl ddiddorol o dan y teitl 'Llandudno as it Was' gan Mr John Roberts, Bryn Celyn. Ynddi mae'n sôn am Ffynnon-yr-Odyn oedd ar safle Craigle, Church Walks. Bu llawer o losgi calch yn yr ardal yn y gorffennol. Rhwng y gwaith nwy a'r ffermdy ar ochr y bryn roedd Ffynnon-y-Cwm. Roedd hon yn hen ffynnon a chyfeirir ati ym mhroffwydoliaeth Robin Ddu yn y drydedd ganrif ar ddeg. Proffwydodd y byddai Ffynnon-y-Cwm yn dod yn harbwr i longau. Credai'r hen bobl nad oedd ffynnon debyg iddi i gael dŵr i wneud paned o de. Pan fyddai ymwelwyr arbennig yn galw, byddai'r gwragedd yn anfon eu gwŷr i'r ffynnon hon i nôl y dŵr, a gwae nhw pe ceisient eu twyllo drwy ddod â dŵr o unrhyw ffynnon arall, oherwydd ni fyddai hanner cystal blas ar y te! Hen ffynnon arall ar waelod allt Brynybia ger Trwyn y Fuwch oedd Ffynnon Sadwrn. Roedd y ffynnon hon bron â mynd â'i phen iddi'r adeg honno ac mae'r awdur yn gresynu at hyn. Yna mae'n mynd ymlaen i sôn am y duw Rhufeinig Saturn, ac yn methu deall pam mae ffynnon yn y fan hon wedi ei chysegru i'r duw estron yma. Tebyg nad oedd wedi clywed am Sant Sadwrn! Ar Marine Drive gwelir arwydd Ffynnon Gaseg. Nid oes fawr o wybodaeth am sut y cafodd y ffynnon yma ei henw ond credir ei bod yn cael ei defnyddio fel man addas i geffylau gael eu disychedu ers talwm. Mae nifer o ffynhonnau ar y Gogarth ei hun gan gynnwys Ffynnon y Gogarth, Ffynnon Llygaid, Ffynnon Penymynydd, Ffynnon Wen ger Croesonnen a Ffynnon y Dorlan ger pwll Tŷgwyn ar lan y môr. Ar un adeg, roedd y dref yn dibynnu ar y ffynhonnau hyn a byddai'r dŵr o rai ohonynt yn cael ei gario mewn pibellau i'r tai. Adeiladwyd argae ar y Gogarth ac fe lifai’r dŵr o Fynnon Powell iddo.

Gellir mynd at Ffynnon Powell wrth ddilyn y llwybr cyhoeddus sydd ger yr eglwys. Does fawr ddim i'w weld yma ar wahân i danc concrid go fawr a phibellau ond mae hanes digon diddorol i'r ffynnon. Flynyddoedd lawer yn ôl roedd teulu o'r enw Powell yn byw mewn ffermdy cyfagos. Pobl ddŵad oeddynt ac yn annerbyniol gan eu cymdogion. Cafwyd haf anarferol o sych ac roedd prinder dŵr yn llethu'r anifeiliaid, ond am nad oedd y teulu ar delerau da gyda'u cymdogion, doedd neb yn fodlon rhoi dŵr iddynt. Yn wir, aeth pethau cynddrwg nes bygwth eu lladd pe baent yn mynd yn agos at un o'r ffynhonnau ar y Gogarth. Pan oedd pethau wedi mynd i'r pen aeth y teulu i Eglwys Sant Tudno gerllaw a gweddïo ar Dduw i'w hachub o'u cyfyngder. Wrth gyrraedd adref o'r eglwys gwelwyd bod dŵr yn tarddu o'r ddaear ger y tŷ. Wedi hynny, cafwyd digon o ddŵr nid yn unig i'r anifeiliaid ond i drigolion tref Llandudno hefyd.

Ffynnon arall sydd â hanes diddorol yn perthyn iddi yw Ffynnon Galchog ger Wyddfyd. Un prynhawn yn y gaeaf, aeth bachgen ifanc a'i chwaer i nôl dŵr o'r ffynnon. Roedd y cyfnos yn cau amdanynt wrth i'r ddau adael y ffynnon. Wrth fynd am adref gwelodd y ddau ryw ddyn dieithr yn cerdded tuag atynt. Wrth edrych arno gwelsant fod y dyn yn troelli' n gyflym yn ei unfan, yna newidiodd i fwdwl mawr o wair cyn rholio i lawr dros ochr y mynydd ac i'r môr. Beth amser wedi hyn, daliwyd clamp o bysgodyn mawr yn y bae ac wedi ei agor gwelwyd mwdwl o wair yn ei berfedd. Credai pawb mai'r un mwdwl a'r un a welodd y bachgen a'i chwaer yn troelli i lawr i'r môr ydoedd!

Mae Ffynnon Rufeinig i'w gweld mewn ardal a elwir yn Llety Fidog ger fferm Dolfechan. Yma mae olion tebyg i'r hyn a elwir yn Gytiau Gwyddelod sy'n dangos bod dyn wedi byw ar y Gogarth filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae yna hefyd olion o aredig cynnar. Rhaid wrth ddŵr ac mae'n debyg mai oherwydd y ffynnon y sefydlwyd cartrefi yma. Er gwaethaf ei henw, does a wnelo'r Rhufeiniaid ddim oll â'r ffynnon. Fe'i gwelir mewn cilfach yn y wal fodern. Mae'r tŵr yn codi mewn cist o gerrig tua thair troedfedd wrth ddwy ac nid yw'n fawr mwy na chwe modfedd o ddyfnder. Uwchben y ffynnon mae cilfach yn y gwaith cerrig a chafwyd ar ddeall gan Tom Parry fod cwpan ar gadwyn yn cael ei gadw yno ers talwm er mwyn galluogi'r sawl a ddymunai i yfed o'r dŵr. Go brin y gallai neb wneud hynny heddiw gan ei fod yn ferddwr gwyrdd tywyll. Ar y mur uwchben y ffynnon mae maen sgwâr wedi ei osod yn y gwaith cerrig. Nid oes olion adysgrifiad arno ond mae'n edrych fel pe bai wedi ei osod yno er mwyn croniclo gwybodaeth am y ffynnon, ond ar wahân i'r enw wedi ei osod ar ddarn o fetel gwyrdd, nid oedd dim sy'n nodi hanes y ffynnon arbennig yma.

Ond beth am Ffynnon Dudno? Roeddem eisoes wedi gweld Ffynnon Rufeinig a Ffynnon Powell gan eu bod yn ymyl llwybrau cyhoeddus, ond doedd dim modd mynd at Ffynnon Dudno ond wrth gerdded ar draws tir preifat. Yn ôl y wybodaeth ddogfennol oedd gennym roedd y ffynnon ganllath o'r eglwys i'r de-ddwyrain. Yma mae'r tir yn serth a thyfiant trwchus o eithin a choed drain yn gorchuddio'r llechwedd. Roedd Ken a finnau wedi gweld lleoliad tebygol i'r ffynnon pan oeddem ar ymweliad Dlaenorol ond heb fedru mynd yn ddigon agos i fod yn sicr. Tyfiant o goed drain a nifer o gerrig oedd wedi' n denu at y fan, ond wedi cyrraedd ato nid oedd golwg o ddŵr, a'r graig naturiol yn dod i'r wyneb oedd y cerrig. Credai Tom fod y ffynnon yn agos i'r eglwys ond wedi edrych yn y fan honno doedd dim golwg ohoni. Aeth Helen ymlaen ar hyd ochr y llethr ymhellach oddi wrth yr eglwys. Yn sydyn, gwaeddodd, 'Mae pwll o ddŵr fan hyn'

Beth oedd yno ond dŵr budr mewn cafn o frics modern. Rhywbeth wedi ei adeiladu i wartheg gael yfed ohono oedd hwn! Roedd perchennog y tir, Mr John Jones, wedi dweud wrthyf dros y ffôn ei bod yn well gan ei wartheg yfed y dŵr o Ffynnon Dudno nag unrhyw ddŵr arall. Yn amlwg, roedd y dŵr yn llifo i'r cafn o'r graig ond roedd tyfiant yn gorchuddio pob man. Aeth Tom ati i glirio'r drain a'r mieri gyda'i gyllell boced ac yn raddol, daeth y ffynnon i'r golwg. Llwyddodd Ken i'w mesur a gwneud sgets ohoni. Mae wedi ei hadeiladu mewn cilfach yn y graig, yn mesur tair troedfedd o hyd a dwy droedfedd a chwe modfedd o led. Gosodwyd carreg fawr, tua thair troedfedd o uchder dros y ffynnon. Mae'r dŵr oddeutu troedfedd o ddyfnder.

Ffynnon Sant Tudno

Pen y Gogarth, 

Llandudno

SH 771838

  Rhyfeddodd Tom a Helen at y ffynnon. Doedd yr un o'r ddau wedi’i gweld o'r blaen ac roeddynt wedi dotio at ei phensaernïaeth. Yr wythnos cynt, roedd cymdeithas hanes lleol wedi ffonio Helen yn cynnig arian i adnewyddu ffynnon! (Tybed a oes cymdeithasau tebyg mewn ardaloedd eraill sy'n awyddus i wneud rhywbeth cyffelyb? Mae'n werth holi.) Roedd Tom yn llawn brwdfrydedd ac yn sicr y gallai lanhau'r ffynnon. Mae mewn cyflwr ardderchog. Yn aml, mae ffynhonnau mewn cilfachau yn cadw'n well na ffynhonnau mwy agored lle gall gwartheg gerdded dros y gwaith cerrig a'i falu. Awgrymais y byddai'n dda o beth medru adeiladu ffens o gwmpas y ffynnon a llwybr ati o'r ffordd ger yr eglwys. Doedd Helen ddim mor siŵr am hynny gan fod y ffynnon ar dir preifat.

Beth bynnag a ddigwydd yn y dyfodol, mae Ffynnon Dudno'n ddiogel a ninnau wedi cael y fraint o edrych ar waith cerrig na welodd neb, ar wahân i'r perchennog, mohono am yn agos i ganrif. Byddwn yn siŵr o gofnodi unrhyw ddatblygiad pellach yn Llygad y Ffynnon. Oes, mae gwefr arbennig i'w chael wrth chwilio a dod o hyd i ffynnon. Beth am fynd ati i chwilio am un yn eich ardal chi!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

FFYNNON DUDNO

Yn Llygad y Ffynnon rhif 2 cafwyd hanes ein hymweliad â Ffynnon Dudno. Erbyn hyn mae’n ymddangos fod mudiad hanes lleol yn bwriadu edrych ar yr holl ffynhonnau ar y Gogarth. Maent yn bwriadu diogelu’r ffynhonnau a sicrhau mynediad i’r cyhoedd iddynt. Byddwn yn cael gwybodaeth am y datblygiadau wrth iddynt fynd yn eu blaen.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

HANES DWY FFYNNON 

Gareth Pritchard

(Gweler hefyd Cyffordd Llandudno

am yr ail ffynnon)

FFYNNON YR ODYN

’Roedd Ffynnon yr Odyn (SH 774 823) ar safle tŷ o’r enw Creigle yn Church Walks, Llandudno. Gelwid hi hefyd gan rai yn Ffynnon Siafft yr Odyn. Tu ôl i Greigle, ers talwm, ’roedd chwarel galch a ddefnyddid y calchfaen ar gyfer adeiladu a’r calch ar gyfer trin y tir. Hefyd, ’roedd yna hen siafft gopr, ac wedi iddi orffen cael ei defnyddio ar gyfer y pwrpas hwnnw fel lanwodd â dŵr (tua 37 troedfedd o ddyfnder) a’i throi’n ffynnon! Cliriwyd y safle ac adeiladwyd ysgol newydd San Sior ar y safle ar ddechrau’r nawdegau. Y bwriad ar y pryd oedd diogelu’r ffynnon, ond oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch, bu’n rhaid clirio’r ffynnon yn ddiweddarach. Yn y llun rydw i wedi ceisio ail-greu’r ffynnon drwy osod pwmp yn yr ardd! Fel hyn yr ysgrifennodd gwr o’r enw Thomas Rowlands am ei atgofion am Landudno fel ag yr oedd tua 1840:

 

Yn agos i'r fan lle saif Plas Gogarth yn bresennol, yr oeddym yn troi i fyny y ffordd oedd yn arwain at Ffynnon yr Odyn, ac o’r ffynnon hon ’roedd llawer o’r trigolion yn cael dwfr at eu gwasanaeth. Ychydig yn uwch i fyny, ar ymyl yr un ffordd, yr oedd yr odyn, oddi ar ba un yr oedd y ffynnon yn cael ei galw. Odyn galch ydoedd wedi ei chodi at wasanaeth amaethdy y Tŷ Draw. Yn yr amaethdy yma y byddai gweinidogion phregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn gwneud eu cartref, ac yr oeddynt bob amser yn cael derbyniad croesawgar, Wyneb—siriol, a chartref llawn gan David a Margaret Jones.

Yn rhfiyn Tachwedd 13eg, 1909 o’r Llandudno Advertiser mae John Roberts, Bryn Celyn, yn ysgrrfennu.

This well formerly stood in the grounds of Creigle, Church Walks; its name is suggestive. In former timed much lime stone was burned, and in this vicinity a quarry to raise stones for this purpose was situated directly behind the mansion of Creigle. Years ago, and before Llandudno began to develop as a health resort, lime kilns were situated near this quarry. Most of the lime in those days was used for agricultural purposes in the district; the lime from these kilns were considered of very fine quality. Why this well was called by this name we are not in a position to decide but probably because of its close proximity to these lime kilns.

Tybed a oes Ffynnon yr Odyn arall ar gael rhywle yng Nhymru? Ni allaf weld un yn The Holy Wells of Wales. Hwyrach y gall un o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ein helpu i ddod o hyd i un. (Gol)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynhonnau’r Gogarth

Yng nghyfarfod y Gymdeithas ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni cafwyd cyflwyniad cyflwyniad ardderchog gan Gareth Pritchard, Llandudno ar destun “Ffynhonnau’r Gogarth”. Llawer o ddiolch iddo am rannu â cynifer ohonom ni’r fath wybodaeth ddiddorol, ac i’r Cadeirydd am gadw trefn arnom: edrychwn ymlaen at Dregaron y flwyddyn nesaf!

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up