Home Up

LLANFACHRETH

 

FFYNHONNAU ARDAL DOLGELLAU  

Eirlys Gruffydd  

 

FFYNNON LLAWR DOLSERAU / FFYNNON Y CAPEL 

                                                                                            (SH759199)                            (SH751225)

Mae ardal Dolgellau yn un gyfoethog ei ffynhonnau ac maent yn sicr yn haeddu ein sylw fel Cymdeithas. Braint i Ken a minnau oedd cael ymweld â dwy ohonynt ddechrau mis Mehefin yng nghwmni Rhys Gwyn, swyddog ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac Aled Thomas, warden i’r Comisiwn Coedwigaeth. Roedd y ddwy ffynnon ym mhlwyf Llanfachreth, sef Ffynnon Llawr Dolserau  a Ffynnon y Capel (SH751225). Heb arweiniad y ddau ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni ddod o hyd i’r ffynhonnau a mawr yw ein dyled iddynt am rhoi o’u hamser i’n tywys gerllaw y dyfroedd tawel.

GERLLAW FFYNNON LLAWR DOLSERAU

Rhaid oedd gadael y cerbydau ar ochr dde’r briffordd A494, rhyw ddwy filltir o Ddolgellau i gyfeiriad y Bala, ychydig wedi pasio’r arwydd i blasty Dolserau, a chroesi’r ffordd i ddilyn llwybr a oedd bron yn anweledig drwy dyfiant trwchus o lwyni. Enw’r goedwig lle mae’r ffynnon yw Coed Planfa Fawr. Rhaid oedd cerdded rhyw ganllath a hanner i’r gogledd cyn dod i dir mwy agored o dan gysgod y coed. Wedi dringo’r llethr am ychydig daethom at y ffynnon. Anodd oedd ei gweld yng nghanol yr holl dyfiant a dim ond llygaid cyfarwydd Rhys ac Aled a allai ei darganfod. Roedd wedi gorlifo gan fod dail a cherrig wedi cau’r gofer.

PENSAERNÏAETH FFYNNON LLAWR DOLSERAU

Amcangyfrir ei bod yn naw troedfedd o hyd wrth saith troedfedd o led ac mae chwech o risiau yn arwain i lawr at y dŵr. Wrth gwrs, am fod y ffynnon wedi gorlifo roedd y grisiau o dan lefel y dŵr. Rhyw dair troedfedd ddylai dyfnder y dŵr ynddi fod ond y diwrnod y buom yn ymweld â hi roedd y dyfnder yn nes at bum troedfedd. Gan fod gwaith yn y goedwig yn fygythiad i’r ffynnon, yn 1985 aeth dyn lleol o’r enw R.T. Wheeler ati i’w glanhau. Pan ymwelodd â’r ffynnon gyntaf ymddangosai ei bod yn wyth troedfedd sgwâr ac yn dair troedfedd o ddyfnder gyda thri gris i’w gweld uwchben y dŵr. Pan aeth ati i’w glanhau daeth y grisiau eraill i’r golwg. Wrth gerdded yn y ffynnon a tharo rhaw i lawr drwy’r mwd gallai deimlo’r cerrig mawr ar ei gwaelod. Wedi barrug caled rhewodd dŵr y ffynnon a llwyddwyd i’w dorri a’i godi oddi yno a gwagio’r ffynnon. Gwelwyd ei bod yn bum troedfedd o ddyfnder. Roedd y mur ar yr ochr ddwyreiniol wedi cael ei niweidio wrth i wreiddiau coeden helyg wthio drwyddo a syrthiodd darn o’r mur i’r ffynnon wrth iddynt geisio clirio’r mwd o’i gwaelod. Buan yr ailgodwyd y mur, fodd bynnag. Erbyn hyn maent angen peth gwaith i’w cryfhau a dyna obaith Rhys Gwyn, sef ei glanhau a’i hadfer gyda chymorth nawdd o dan gynllun gan y Parc Cenedlaethol.

Yn ôl un traddodiad fe ymddengys fod dyfroedd Ffynnon Llawr Dolserau yn feddyginiaethol ond cred eraill iddi gael ei hadeiladu ar gyfer diwallu angen cartrefi lleol. Dywed eraill iddi gael ei defnyddio i weithio swyngyfaredd. Credid hefyd fod boneddigion yr ardal yn arfer dod i ymdrochi ynddi. Roedd modd rheoli lefel y dŵr drwy ddefnyddio polyn pren fel plwg a’i osod mewn twll yng ngwaelod y ffynnon. O’i godi byddai’r dŵr yn llifo allan ohoni. 

 

 

  GER FFYNNON Y CAPEL, LLANFACHRETH

  Ar ôl bod yn ymweld â Ffynnon Llawr Dolserau ymlaen â ni i bentref Llanfachreth. Ar ôl cyrraedd canol y pentref troesom i lawr y ffordd ar y chwith a oedd yn mynd heibio i’r tai ac i lawr yr allt tua’r capel. Yno, ar ochr y ffordd ond mewn cae y tu ôl i wrych a choed uchel yr oedd y ffynnon. Yn ôl traddodiad cafodd ei henw am fod mynachod o Abaty Cymer wedi codi capel ar y safle. Yn ôl yr hanes daeth Gwynog Sant i ymweld â Machreth Sant ac ar yr achlysur hwnnw parodd Machreth i’r ffynnon darddu o’r ddaear. Mae’n glamp o ffynnon, yn mesur bron i ugain troedfedd sgwâr gyda phump o risiau yn mynd i lawr at y dŵr. Roedd yn enwog am wella llygaid poenus a bu cyrchu tuag ati tan yn gymharol ddiweddar. Cariwyd dŵr ohoni i fedyddio plant yn eglwys y plwyf. Erbyn heddiw mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion amaethyddol ac mae’r ffynnon wedi ei gorchuddio â tho sinc. Y bwriad yw gosod amgenach to drosti a fydd yn caniatáu i ymwelwyr weld y dŵr yn y ffynnon ond sydd ar yr un pryd yn eu diogelu rhag syrthio iddi. Edrychwn ymlaen at weld y cynlluniau arfaethedig a fydd yn adfer urddas y ffynnon ac yn bennod newydd yn ei hanes.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

  Home Up