Home Up

LLANFAGLAN

 

FFYNHONNAU’R PERERINION

FFYNNON FAGLAN

Yn rhyfedd ddigon ni chyfeirir at Ffynnon Odliw na Ffynnon Penllech gan Myrddin Fardd na Francis Jones yn The Holy Wells of Wales. Oes yna ffynhonnau eraill sy’n gysylltiedig â’r pererinion? Os oedd y pererinion yn cychwyn o Fangor siawns na fyddai angen gorffwys arnynt cyn cyrraedd Glynllifon. Gwyddom fod dwy ffynnon i Sant Deiniol ym Mangor. Os oedd y pererinion yn mynd ar hyd y Fenai tybed a fyddent wedi aros wrth Ffynnon Fair yn Llanfair is Gaer, lle mae Plas Menai heddiw? A beth am Ffynnon Helen ar y ffordd allan o Gaernarfon i gyfeiriad Bontnewydd a Ffynnon Faglan yn Llanfaglan? A oed rhywun yn gwybod am draddodiadau sy’n cysylltu’r ffynhonnau hyn â’r pererinion? (GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DINISTRIO FFYNNON FAGLAN

 (SH 4601 6085)

Anfonodd Ifor Williams, Gwelfan, Llanfaglan newyddion atom yn dweud bod Ffynnon Faglan, Llanfaglan, ger Caernarfon wedi ei dinistrio. Meddai:

Rydym wedi cael newyddion drwg yma yn Llanfaglan. Fe dynwyd fy sylw ychydig yn ôl i’r ffaith bod safle Ffynnon Faglan wedi diflannu’n llwyr. Bum i lawr i’r safle i gael tystiolaeth a gwelais nad oedd dim i ddangos lle bu safle’r ffynnon heddiw, dim ond cae gwastad. Ymddiheuraf am ansawdd y llun.

Er mai ond pentwr o gerrig oedd ar safle’r ffynnon ar ôl i ffermwr ei chau i fyny yn y chwedegau oherwydd fod ei stoc yn syrthio i mewn iddi, o leiaf ‘roedd hi yno.

Mae’r mater yn nwylo ’r Cyngor Cymuned ac rwyf fi a’r clerc wrthi’n edrych i mewn i beth y gallem ei wneud i adfer y safle yn ôl i’r cyflwr ag y bu tan yn ddiweddar. Rydym hefyd yn cysidro cysylltu â’r CPRW. A yw’r Gymdeithas wedi cysidro creu e- betisiwn i Lywodraeth Cymru i gael deddfau i orfodi tir feddiannwyr i ail godi ffynhonnau ac henebion eraill yng Nghymru sy wedi eu dinistrio, yn ogystal a deddfu rhag iddynt gael eu chwalu?

(Rydym i gyd yn teimlo mor ddiymadferth yn wyneb dinistr fel hyn. Dyrna pam bod rhaid cael Ymddiriedolaeth fydd â dannedd a statws i weithredu a dylawnwad i argyhoeddi tirfeddiannwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol o bwysigrwydd ein ffynhonnau, nid yn unig yn y gorffennol ac fel rhan o’n hanes a’n traddodiadau, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gol)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAGLAN,

 (SH 46016085)

BEDYDDFAEN BAGLAN

Hwyrach y cofiwch i ni gofnodi yn Llygad y Ffynnon 32 fod Ffynnon Faglan, Llanfaglan Gwynedd wedi ei difrodi’n llwyr a bod y safle wedi ei cholli i bob pwrpas ymarferol. Yn wir roedd hwn yn rhifyn lle cofnodwyd difodiant mwy nag un ffynnon. Na ddigalonnwn! Rhyfedd fel mae’r consyrn a deimlwn wrth weld dinistr mor derfynol yn gallu ysgogi ymgais i ddiogeli’r wybodaeth sy gennym yn barod. Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael am Ffynnon Faglan gan iddi fod yn ffynnon o faint sylweddol ac yn un y bu cryn gyrchu ati yn ei dydd. Diolch am y wybodaeth ganlynol a dderbyniais drwy e-bost gan Robert Williams, Waunfawr:

Wedi gweld yr erthygl ar Ffynnon Faglan yn Llygad y Ffynnon, credaf mai ychydig iawn o bobl sy’n gwybod fod bedyddfaen yn gysylltiedig â’r ffynnon wedi ei leoli ychydig lathenni i ffwrdd yn y coed gerllaw. Fy nghartref tan 1959, pan yn saith oed, oedd Tŷ Eiddew, Llanfaglan - fferm sydd a’i chlawdd terfyn rhyw hanner can llath o safle’r ffynnon. Fy nhad, William Williams, fyddai’n sôn am y ffont uchod wedi ei naddu i mewn i’r graig yn agos at y ffynnon. Mae gennyf gof plentyn o fynd i lawr yna gyda ‘nhad ac yntau yn dangos y garreg i mi ond does gen i ddim cof o’r ffynnon ei hun yr adeg hynny. Dwi’n cofio fy nhad yn sôn fod pinnau ar waelod y ffynnon wedi eu taflu i mewn gan yr “hen bobl”. Ta waeth, aeth blynyddoedd heibio heb i mi ailymweld â’r safle tan ryw ddwy flynedd yn ôl pan dynnais y lluniau rwy’n eu hanfon i chi nawr.

Mae’r darn canlynol o dudalennau 291-292 o’r llyfr Celtic Folklore, Welsh and Manx gan John Rhys a gyhoeddwyd yn 1901: On the subject of pin-wells I had in 1893, from Mr T.E.Morris of Portmadoc, barrister-at-law, some account of Ffynnon Faglan in the parish of Llanfaglan, near Caernarvon. The well is situated in an open field to the right of the road leading towards the church and close to it. The church and churchyard form an enclosure in the middle of the same field, and the former has in its wall the old stone reading FILI LOVERNII ANATEMORI. My friend derived information from Mrs Roberts of Cefn y Coed, near Caernarvon as follows:

The old people who would be likely to know anything about Ffynnon Faglan have all died. The two oldest inhabitants, who have always lived in this parish of Llanfaglan, remember the well being used for healing purposes. One told me his mother used to take him to it when he was a child, for sore eyes, bathe them with the water, and then drop in a pin. The other man when he was young, bathed in it for rheumatism and until quite lately people used to fetch away the water for medicinal purposes. The latter, who lives near the well at Tan-y-Graig, said that he remembered it being cleaned out about fifty years ago, when two basinfuls of pins were taken out but no coin of any kind. The pins were all bent and I conclude the intention was to exorcise the evil spirit supposed to afflict the person who dropped them in, or as the Welsh say, dadwitsio. No doubt some ominous words were also used. The well is at present nearly dry, the field where it lies having been drained some years ago and the water, in consequence, withdrawn from it. It was much used for the cure of warts. The warts were washed, then pricked with a pin, which after being bent, was thrown into the well. There is a large and very well-known well of the kind at Clynnog, Ffynnon Beuno, which was considered to have miraculous healing powers; and even yet, I believe, some people have faith in it. Ffynnon Faglan is, in construction, an imitation, on a smaller scale of St. Beuno’s well at Clynnog.

Mae’n debyg mai Mrs Gwen Bodvel Roberts, Plas Cefnycoed, Llanfaglan (gwraig y cyfreithiwr) yw’r Mrs Roberts y mae yn cyfeirio ati yn y llyfr.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up