LLANFAIR CAEREINION
FFYNNON FAIR,
(SJ1006)
Mae'r ffynnon arbennig hon wedi ei lleoli islaw'r eglwys, uwchlaw'r afon. Mae arwydd yn dangos ei lleoliad a grisiau yn arwain i lawr ati. Cafodd y safle ei adnewyddu yn 1990 ac mae'n amlwg yn brosiect a gostiodd gryn lawer i'w gwblhau. Ers talwm roedd y ffynnon yn enwog am wella'r crud cymalau ac anhwylderau ar y croen. Roedd hefyd yn ffynnon a allai amddiffyn pobl rhag cael eu rheibio a'u melltithio gan wrachod gan fod rhinwedd arbennig yn perthyn i'r dŵr. Fe'i defnyddid fel dŵr swyn. Cariwyd y dŵr o'r ffynnon i'r eglwys ar gyfer bedyddio plant. Mae pensaerniaeth y ffynnon yn diddorol gan ei bod ar siâp anarferol. Codwyd sedd gerllaw iddi ac mae'n amlwg fod angen cryn ofal i gadw'r lle yn ddestlus. Gan fod y ffynnon yn un ddofn rhoddwyd grid metal dros y dŵr ond nid yw hyn yn amharu at y mwynhad o eistedd gerllaw'r dyfroedd tawel a gwrando ar furmur yr afon yn y dyffryn islaw. Mae'n ffynnon ddiddorol sy'n hawdd dod o hyd iddi ac yn werth ymweld â hi.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Annwyl Olygydd
Byddwn yn mynd ar daith ffynhonnau Llanfair Caereinion ar Ebrill 23ain 2002 a fydd yn cynnwys FFYNNON FAIR sydd yn y pentref y tu ôl i'r eglwys a FFYNHONNAU MADOG (pedair ohonynt). Mae Jill a minnau wedi sgwrsio a pherchennog y tŷ Madog's Wells, Mrs Ann Reed, sy'n cadw gwely a brecwast, ac mae'n hapus i gydweithio â ni. Ar hyn o bryd mae cyrraedd dwy allan o'r pedair ffynnon braidd yn anodd, ond mae'r perchnogion yn barod iawn i wneud rhywfaint o waith clirio er mwyn hwyluso ymweliad cerddwyr. Cewch fwy o wybodaeth cyn bo hir.
Nia Rhosier, Pontrobert, Meifod.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Ffynhonnau Llanfair Caer Einion
(SJ1006)
gan CARWR LLES Y CYFFREDIN
O'r Eurgrawn Wesleyaidd, Hydref 1825, tudalennau 358 ac 359. Argraffwyd yn Argraff-dy y Methodistiaid Wesleyaidd Llanfair Caereinion, gan R. Jones dros W. Evans.
Mae effeithiau tra chanmoladwy yn perthynu i'r ffynhonnau hyn; ac wrth ystyried fod y fath luoedd yn cyrchu atynt bob borau, meddyliais mai nid anfuddiol fyddai rhoddi darluniad byr ohonynt. Eu harchwaeth sydd heliaidd a brwmstanaidd, eu harogliad sydd debyg i arogliad fflamlwch, a'u lliw (ar eu tarddiad cyntaf o'r graig) sydd debyg i eiddo llaeth. Y tymhor gorau i'w hyfed, ydyw, o ganol Ebrill hyd ddiwedd Hydref; ond gellir eu hyfed drwy'r gauaf. Ni ddylid yfed ohonynt (oddithyr ar rai achlysuron) fwy na galwyn. Dywedir, mai ychydig o feddyginiaethau sydd yn rhagori ar ddyfroedd o'r natur yma, i'r dyben i iawn-drefnu anhwylderau yn y cylla a'r ymasgaroedd. Y meant hefyd yn dra llesiol i wendid yn y geneuau, i refrwst (colic), i bruddglwyf, i anmhlantadrwydd, i wendid menywaidd, ac i hen ddoluriau: y mae hefyd yn fanteisiol i'r gewynst, y gymalwst a'r graianwst. Llawer, trwy yfed o'r dyfroedd rhinweddol hyn, a ryddhawyd oddiwrth amrywiol lynger, ac a iachawyd yn hollol. Gallwn ychwanegu, trwy henwi llawer ag sydd heddyw yn dystion byw eu bod wedi cael eu hiachau o amrywiol glefydau, trwy yfed o'r dyfroedd rhinweddol hyn; ond tawaf y tro hwn, rhag eich blino a meithder. Gobeithiaf y bydd i bawb a ddeuant i ymofyn meddyginiaeth i'w cyrph oddiwrth y dyfroedd hyn, gofio am ddyfroedd yr iachawdwriaeth, y rhai sydd yn meddyginiaethu yr enaid, a'u bod yn rhad i bawb, a chroesaw i bawb, yn ddiwahaniaeth, gyfranogi o honynt.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
FFYNNON FAIR
LLANFAIR CAEREINION
(SJ104065)
FFILMIO’R FFYNHONNAU
Eirlys
Gruffydd
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Ar daith dau ddiwrnod i’r de gan deithio drwy
Bowys a galw i weld Ffynnon Fair yn Llanfair Caereinion (SJ104065) . Mae’r
ffynnon islaw’r eglwys ac yn hawdd dod o hyd iddi am fod arwyddion yn dangos
ei lleoliad. Rhaid dringo i lawr nifer o risiau cyn dod at y ffynnon ei hun. Mae
ei ffurf yn anarferol, yn sgwar ar un pen lle mae’r grisiau’n mynd i lawr at
y dwr ond yn grwn yn y pen arall. Plannwyd blodau a llwyni ar y llethr uwchben y
ffynnon ac mae sedd garreg gerllaw iddi. Yn anffodus diflannodd y bwrdd
gwybodaeth oedd yn son amdami. Roedd hon yn ffynnon a allai wella anhwylderau
amrywiol ond gellid defnyddio’r dwr i felltithio hefyd! Mae hon yn ffynnon
sydd wedi cael sylw yn Llygad y Ffynnon
yn weddol ddiweddar ac yn un sy’n werth ymweld a hi os ydych yn digwydd
teithio drwy Llanfair Caereinion. Buom yn ffodus i gael tywydd sych ond cymylog
wrth ffilmio ac felly y parhaodd weddill y dydd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf