Home Up

LLANFAIR-IS GAER

ger Caernarfon

 

FFYNHONNAU’R PERERINION

FFYNNON FAIR

 Os oedd y pererinion yn cychwyn o Fangor siawns na fyddai angen gorffwys arnynt cyn cyrraedd Glynllifon. Gwyddom fod dwy ffynnon i Sant Deiniol ym Mangor. Os oedd y pererinion yn mynd ar hyd y Fenai tybed a fyddent wedi aros wrth Ffynnon Fair yn Llanfair is Gaer, lle mae Plas Menai heddiw? A beth am Ffynnon Helen ar y ffordd allan o Gaernarfon i gyfeiriad Bontnewydd a Ffynnon Faglan yn Llanfaglan? A oed rhywun yn gwybod am draddodiadau sy’n cysylltu’r ffynhonnau hyn â’r pererinion? (GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAIR

ANNWYL OLYGYDD

Ysgrifennaf atoch ynglun â chyflwr truenus Ffynnon Fair, Allt Ffynnon Fair, sy’n arwain at Groeslon y Llanfair, hanner ffordd rhwng pentref y Felinheli, plwyf Llanfair-is-gaer, a chaernarfon.

Rwyf yn enedigol o bentref Bethel, rhyw bedair milltir o Gaaernarfon at y ffordd i Bentir. Ers talwm roedd tynfa arbennig i’r trigolion oll i dreulio peth o’u hamser hamdden gyda’u plant ar lan y môr, o fewn cyrraedd i eglwys hynafol Llanfair. Roedd traddodiad oesol eu bod yn cludo digonedd o ddŵr grisialaidd o Ffynnon Fair, cynnay tân wedi cyrraedd glan y môr, cael prydo fwyd ysgafn a phaned o de. Fe atgyfnerthodd Cwmni’r Rheilffordd fur syml y ffynnon er mwyn trefnu cyflenwad o ddŵr i orsaf-feistr Griffiths Crossing a’i deulu. Pedair wal oedd iddi, tair wal isel a’r bedwaredd yn is fyth. Roedd to syml drosti, a rhoddwyd drws dur ar geg y ffynnon. Cododd hyn wrychyn trigolion y broydd. Roedd dichon cael cyflenwad o ddŵr ond doedd pethau ddim mor hwylus. Erbyn hyn mae’r ffynnon wedi diflannu ers i’r Cyngor Sir ledu’r ffordd. Mae hi bellach o dan y briffordd a’i dŵr yn treiglo i’r ffos.

Mae’n fwy na thebyg fod Ffynnon Fair ar Allt Ffynnon Fair ar daith y pererinion i Enlli. Yn ôl traddodiad, i fyny o Fangor i Bentir oedd y daith i Gaernarfon ac wedyn am Benrhyn Llŷn. Byddai’r daith o Fangor i Gaernarfon trwy Llanfair yn boblogaidd, a’r seintiau’n torri eu syched yn y ffynnon ar yr allt. Roedd hefyd yn arferiad i’r sawl oedd â gofal am y canu yn eglwys Llanfair-is-gaer flynyddoedd lawer yn ôl, alw heibio’r ffynnon ar ei ffordd adref i Gefn Cynrig a golchi’r bîb a roddai’r nodyn iddo yn nwr y ffynnon, yn barod at y gwasanaeth nesaf.

Hoffwn yn arw pe buasech yn gallu fy nghynghori pa gamrau sy’n agored i mi eu cymryd. Hoffwn ddod i gysylltiad ag awdurdod sy’n meddu ar ddigon o allu i orfodi cywiro’r difwyno sydd wedi digwydd, ac adfer y ffynnon sanctaidd i’w gogoniant cynnar. Mae’n fwy na thebyg fod rhywun mewn awdurdod, na wyddai ddim am ein traddodiadau, wedi rhoi gorchymyn i wneud i ffwrdd â’r ffynnon.

Cledwyn Williams, Llanrug.

[Gallwn uniaethu â rhwystredigaeth Cledwyn Williams o weld ffynnon sanctaidd yn cael ei hamharchu. Tybed a oes modd, rhywsut, i ailadeiladu’r ffynnon wrth ochr y ffordd fel bo dŵr o’i gofer yn gallu cronni eto a ffurfio ffynnon? Cysylltodd Mr Williams â’r Cyngor a diddorol fydd cael gwybod beth fydd hanes Ffynnon Fair.]

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAIR

Mae Cledwyn Williams, Llanrug, a chyfaill iddo, Cyril Williams, wedi dangos union safle'r ffynnon i syrfewr Cyngor Gwynedd a mawr obeithiwn y bydd modd ail-greu'r ffynnon a gafodd ei dinistrio pan adeiladwyd ffordd osgoi y Felinheli.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAIR

Ers peth amser mae Cledwyn Williams, Llanrug, wedi bod yn ceisio adfer y ffynnon arbennig hon. Cafodd ei chladdu wrth i ffordd osgoi'r Felinheli gael ei hadeiladu. Mae Cledwyn wedi cysylltu â Mr Daimond, Syrfwr Cyngor Sir Gwynedd, er mwyn trafod y trefniadau i ymweld â'r safle ac i'r awdurdodau wybod lle yn union roedd y ffynnon wreiddiol. Mawr obeithir wedyn y gellir adeiladu ffynnon newydd i gronni gofer y dŵr sy'n dal i lifo o Ffynnon Fair. Diolch i Cledwyn am ei frwdfrydedd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DIFRODI FFYNNON FAIR 

 

Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer, fel y bu (uchod) ac fel y mae (isod).

Wedi mynd â swyddogion Jones Bros (Ruthin), contractwyr ffordd osgoi Caernarfon, i safle Ffynnon Fair fisoedd yn ôl, a dangos y ffynnon iddynt, syndod fu canfod ddechrau mis Mai fod tunelli o bridd a cherrig wedi’u gwthio ar ei phen hi. Mae dŵr y ffynnon yn awr yn llifo i’w nant blaenorol trwy beipen blastig, a’r safle’n un llanastr. Llwyddais i dynnu lluniau o’r man, er gwaethaf gwrthwynebiad rhyw Siôn-mewn-swydd o giaffar safle: ond ’does a ŵyr sut lun fydd ar y lle erbyn i’r gwaith ddarfod.

Rhoddwyd gwybod am hyn i Gyngor Gwynedd, ond yn ôl yr Adran Briffyrdd yno, mater i Lywodraeth Cymru yw’r ffordd osgoi. Ysgrifennwyd ar ran y Gymdeithas at Ken Skates AC (Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth) er mwyn protestio ynghylch y difrod, gyda chopïau at Lesley Griffiths AC, Siân Gwenllian AC, Hywel Williams AS, Y Comisiwn Henebion a Cadw. Gofalwyd hysbysu’r cyfryngau hefyd, ac o ganlyniad fe gafodd y digwyddiad – a gwrthwynebiad y Gymdeithas Ffynhonnau – gryn sylw: ond hyd yn hyn, nid yw neb wedi cynnig ceisio adfer y safle.

Er gwybodaeth, dyma gopi o’r neges a yrrwyd at Ken Skates:

Par: Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer

Ysgrifennaf atoch er mwyn rhoi gwybod i chi fy nheimladau ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd i Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer, o ganlyniad i waith adeiladu ffordd osgoi Caernarfon. Fisoedd yn ôl, ymatebais i’r ymgynghoriad ynghylch cynllun y ffordd osgoi trwy roi gwybod bod y ffynnon hon, a gofnodwyd gyntaf ym 1458, yng nghyffiniau’r gwaith arfaethedig, ac y dylid gofalu nad amherid arni. Euthum â Swyddog Cyswllt y Cyhoedd yr ymgymerwyr, Jones Bros Ruthin,  i’r safle ei hun, ac fe’i dangosais iddo. Cefais sicrwydd yr ystyrid y ffynnon wrth gynllunio’r gwaith adeiladu. 

 

Erbyn yr ail o’r mis hwn, yr oedd yn amlwg imi fod y gwaith ar y safle yn peryglu’r ffynnon: prin y gellid peidio â sylwi ar y chwydfa fawr o bridd a cherrig yn y cae cyfagos, ac at lanastr y coed diwreiddiedig. Er gwaethaf hynny, a serch bod boncyffion coed oedd wedi eu taflu o’i chwmpas, yr oedd y ffynnon yn dal i lifo’n ddirwystr; felly tybiais (yn ddigon gwirion) fod y Llywodraeth a’r contractwyr – Jones Bros a’r gweddill – wedi hidio’r wybodaeth a roddais iddynt, ac y byddai’r safle yn cael ei ddiogelu a’i dwtio wedi i’r gwaith ddarfod. 

 

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach yr oedd y darddell wedi’i gorchuddio gan dunelli o gerrig a phridd coch, a’r unig weddill oedd mymryn o lif allan o diwb plastig wedi’i orchuddio, i bob golwg, â bag bin. Alla’i ddim mynegi i chi pa mor drist, pa mor siomedig, ac ie, pa mor ddig (os caniateir dicter cyfiawn) yr wyf o ganlyniad i’r hyn sydd wedi’i wneud. Rhoddwyd yr wybodaeth i Swyddog Cyswllt y Cyhoedd, ac am a wn i, bu iddo yntau ei rhoi i’r sawl sy’n ei gyflogi, ac ymlaen i’r Llywodraeth. Fe’i hanwybyddwyd. 

 

Teg gofyn, felly, pam yr ymgynghorwyd â’r cyhoedd o gwbl. Pa ddiben sydd i hynny, pan anwybyddir y canlyniadau? Ai fel math o ymarferiad cysylltiadau cyhoeddus yn unig? Mae’n edrych i mi fel petai’r cyfan eisoes wedi’i benderfynu, waeth beth fu barn y cyhoedd, ac mai dipyn o “addurno ffenestr” yn unig fu gyrru’r Swyddog i holi am y ffynnon. 

 

Gallaf glywed y gwadu a’r ymesgusodi wrth imi ysgrifennu’r geiriau hyn. Fe ddywedwch, debyg, y cynhaliwyd ‘arolwg’, ac y gwnaed ‘asesiad ystyrlon’, ac y bu ‘ymgysylltu ac ymgynghori trwyadl’; ac y mae llefarydd ar ran eich Llywodraeth wedi datgan ei bod ‘wedi ystyried presenoldeb Ffynnon Fair trwy “bob cam o'r broses” ddatblygu’.

 

Wir? Beth, felly, fu canlyniad eich ‘ystyried’? Penderfynu y dylid gollwng ar Ffynnon Fair hynny o fudreddi ag y gallai tarw dur ei wthio. Ni fu eich ‘ystyried’ yn ddim ond  ymarferiad ticio blychau. Yr oedd y ffynnon hon yn hynafol, yn sanctaidd, yn rhan fechan iawn ond gwerthfawr o’n treftadaeth ni fel cenedl: ond y mae’n amlwg nad yw geiriau fel ‘hynafol’, ‘sanctaidd’ a ‘treftadaeth’ yng ngeirfa’r Llywodraeth, nac yn golygu dim i bwy bynnag arall benderfynodd gyflawni’r weithred ddrwg hon. Ni allwch amgyffred y fath bethau, mae’n amlwg. 

 

Pe bai’n ddinistr oherwydd anwybodaeth neu dwpdra, gellid ei hanner ei esgusodi: ond yr oeddech yn gwybod, ac nid ydych yn dwp. Y mae hyn wedi digwydd oherwydd difaterwch ymwybodol, oeraidd, sy’n fwy na fandaliaeth ddifeddwl: y mae’n fwriadol wrth-hynafol, gwrth-ysbrydol, gwrth-ddiwylliannol, yn yr un ysbryd ag y chwalwyd cymuned Epynt ac y boddwyd Capel Celyn. Dyna ansawdd ein Llywodraeth. 

 

Dwi’n sicr y dywed rhywun y gwnaed ymchwil trwyadl, ac y cyflogwyd archeolegydd i archwilio’r safle o flaen llaw, ac na chanfu yntau ddim yno a deilyngai ei ddiogelu. Wrth gwrs ni chanfu. Y mae a wnelo archeoleg â gwrthrychau materol, a hyd y gwn i ni fu erioed  unrhyw olion materol yno i’w canfod. Ar un adeg, bu dŵr yn llifo o agen naturiol. Enw’r allt uwchlaw iddi oedd (ac yw) Allt Ffynnon Fair. I’r gorllewin o’r ffynnon ceir eglwys Llanfair-is-gaer, ac eithaf cyffredin yw bod ffynnon sanctaidd yn ymyl eglwys ac (fel yn yr achos hwn) ar ffin y plwyf. Pan adeiladwyd ffordd osgoi’r Felinheli, caewyd y ffynnon o dan y lôn (Lôn Ffynnon Fair) sy’n arwain o gylchfan Griffith’s Crossing i fyny i gyfeiriad y B4366, ac yr oeddwn i fy hun yn tybio, ar un adeg, y collwyd y ffynnon yn llwyr yr adeg honno: ond na, gofalwyd y gallai’r dŵr barhau i lifo allan. Nid olion materol oedd yn diffinio presenoldeb ac arwyddocâd y ffynnon, ond traddodiad llafar, sydd yr un mor bwysig yng nghyfanrwydd ein treftadaeth ni. Meddyliwch am y Mabinogi, fel y maent wedi’u lleoli’n fanwl yn nhirwedd Cymru. Ni all archeolegydd ddweud fawr ddim wrthych am hynny. 

 

Yn wir, nid yw o wahaniaeth mawr gan archeolegwyr a yw safleoedd yn cael eu dinistrio ai peidio. Mae gwaith archeolegwyr, y cloddio a’r datgymalu, yn aml yn dinistrio’r union beth y maent yn ymchwilio iddo: ond cyn belled a bo ganddynt gofnod cywir o’r manylion a’r mesuriadau, maent yn fodlon. Mae’r gwrthrych yn parhau i ‘fodoli’, fel petai, yng nghrombil cyfrifiadur. Nid peth felly yw traddodiad llafar, yn enwedig yng Nghymru. Yma mae’n rhaid angori hanes wrth lecyn, wrth fan penodol, er mwyn i’r hanesyddol fod ag arwyddocâd ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Yr wyf fi’n gweld Ffynnon Fair yn dystiolaeth i barch tuag at y Forwyn Fair, a thuag at ffynonellau dŵr glân, dibynadwy eu llif. Y mae Jones Bros, neu Lywodraeth Cymru, neu bwy bynnag arall fu’n gyfrifol am yr anfadwaith, yn gweld twll yn y ddaear â dŵr yn llifo ohoni, dim gwahanol i gannoedd o rai tebyg, niwsans yn ffordd y gwaith mewn llaw: dinistrier hi, rhag oedi dim ar gyflawni’r cytundeb. 

 

Mae’n debyg gennyf y bu i’r ymarferiad ticio blychau gynnwys ymgynghori â Cadw, ac efallai’r Comisiwn Henebion, hefyd. Gellid tybio, yn sicr, y byddai cyrff cadwraethol o’r fath ym mlaen y gad wrth ddiogelu henebion: ond nage, nid yn achos ffynhonnau sanctaidd. Am nad oes yno olion materol, nid yw’r cyrff hyn, hyd y gellir gweld, ag unrhyw ddiddordeb mewn pethau o’r fath. Er mwyn i safle gael ei gofrestru’n heneb, a chael ei ddiogelu gan y gyfraith, rhaid iddo fodloni meini prawf niferus a llym: ac nid yw traddodiad llafar o fawr werth yn y broses honno. 

 

Dylai cyrff cenedlaethol fel hyn fod wedi cynnal arolwg o ffynhonnau sanctaidd ein gwlad, eu cofnodi a’u diogelu, ymhell cyn hyn: nhw yw’r unig gyrff sydd â’r gallu i wneud hynny. Ond ni wnânt, gan bledio ‘diffyg adnoddau’: sy’n ffordd  o ddatgan nad yw ffynhonnau sanctaidd ar restr eu blaenoriaethau. Mentrwn ddweud, pe bai dichon i Ffynnon Fair ddenu ymwelwyr, neu pe bai Edward I wedi codi llathen o wal o’i blaen, y byddai swyddogion Cadw a’r Comisiwn Henebion oll yno am y gorau, ac yn fuan iawn yn canfod yr adnoddau angenrheidiol i’w diogelu. Y mae nad ydynt ar ei chyfyl, ac nad oes ganddynt ddim i’w ddweud yn ei chylch, yn rhoi lle i rywun amau diben y cyrff hyn, a holi: ‘Pa beth yr aethoch allan i’w achub?’

 

A ellir achub dim o Ffynnon Fair? Wn i ddim. Ar hyn o bryd nid oes yno ond pibell blastig hyll yn gollwng ychydig o’r llif a fu yno cyn y gwaith diweddar: mae’r gweddill, debyg yn llifo i’r ddaear rhywle o dan y llanastr. Y lleiaf y gellid ei wneud yw datgloddio yn ôl at y tarddiad fel yr oedd cyn y gwaith diweddar, a gosod, os oes modd, bibell gadarn i gludo’r holl lif allan i fan lle gellid ei weld unwaith yn rhagor. Gallai hynny fod yn gyfle i greu tarddle newydd a theilyngach ohoni, fel y gwnaed yn ddiweddar yn Ffynnon Wyddelan, Dolwyddelan, a Ffynnon Fyw, Mynytho: ond o weld eich gwaith hyd yn hyn, amheuaf a oes gennych chi, yr awdurdodau, unrhyw awydd gwneud dim o’r fath. ’Does dim cydymdeimlad lle ni fo cydwybod. 

 

Fy mwriad wrth ysgrifennu atoch yw rhoi gwybod i chi, y gŵr sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru, fy marn ynghylch yr hyn sydd wedi’i wneud, yr hyn y bu i chi ran ynddo. Gallwch faddau imi dybio na ddigwydd dim o ganlyniad i hynny, ond os daw i’ch meddwl y gellid ceisio adfer y ffynnon, croeso i chi gysylltu â mi i’r perwyl hwnnw. Yn unig, da chi, peidiwch ag ysgrifennu’n ôl ataf gan geisio cyfiawnhau’r difrodi. 

 

Yn gywir, 

Howard Huws

Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru”

Pe hoffech ychwanegu eich llais at y brotest, gan ofyn am adfer y safle, croeso i chi gysylltu â’r canlynol:

Gohebiaeth.Ken.Skates@llyw.cymru

Gohebiaeth.Lesley.Griffiths@llyw.cymru

Gohebiaeth.Sian.Gwenllian@llyw.cymru

hywel.williams.mp@parliament.uk

nmr.wales@rcahmw.gov.uk

cadw@gov.wales

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 46 Haf 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Fair

Daeth pwt bach ychwanegol o dystiolaeth ynghylch y ffynnon hon i’n sylw yn ddiweddar, sef brawddeg o lythyr a ysgrifennodd Richard Griffith, Plas Llanfair, o Ddulyn at ei wraig gartref ym 1649, yn cyfarwyddo ynghylch gwaith amaethyddol:

               “…cause them to cutt all the freshe ground that cannot be plowed within the two

                 Broome fields between pen/y/brin and finnon vaire, for to be burntt for Rie…”

HH.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, 13.7.2019.

Cofnodion

 

4. Adroddiad yr Ysgrifennydd

a). Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer. Adeg yr ymgynghoriad ynghylch adeiladu ffordd osgoi Caernarfon, aethpwyd â swyddogion y contractwyr (Jones Bros., Rhuthun) i’r safle, dangoswyd y ffynnon iddynt, a chafwyd addewid y nodid hynny’n ofalus wrth gynllunio’r gwaith. Ddiwedd Ebrill gwelwyd fod y gwaith cloddio wedi dod yn beryglus o agos at y ffynnon, a gyrrwyd neges at Bryn Williams, swyddog Jones Bros, yn mynegi pryder. Cysylltwyd â Chyngor Gwynedd ar yr un pryd.

Erbyn dechrau Mai roedd y ffynnon yn y cyflwr y mae heddiw. Gyrrwyd at yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol, at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac at y wasg a’r cyfryngau. Ni chafwyd unrhyw ymateb swyddogol, namyn datganiad bod y Llywodraeth “wedi ystyried presenoldeb Ffynnon Fair trwy ‘bob cam o'r broses ddatblygu”.

Os dim arall, darfu i’r gohebu a’r datgan dynnu sylw at y ffynnon hon yn neilltuol, a phwnc ffynhonnau sanctaidd yn gyffredinol. Mae dŵr y ffynnon yn dal i lifo trwy bibell blastig, a bydd rhaid disgwyl i’r gwaith ddarfod cyn y gellir gweld a oes modd adfer y safle.

LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 47, Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up