Home Up

LLANGELYNNIN

 

FFYNNON GELYNNIN

(SH751738)
Straeon oddi ar Lafar Gwlad

FFYNNON GELYNNIN (SH751738)

Mae Ffynnon Gelynnin yn union y tu ôl i fur mynwent yr eglwys ar y chwith wrth fynd i mewn drwy’r giât o’r ffordd. Mae mewn man diarffordd ond arferai mamau gario’u plant gwan i fyny’r ffordd hir a serth at y ffynnon gan obeithio y byddai eu trochi yn y dŵr yn adfer eu hiechyd.

     Oddeutu 1898 roedd gŵr o ardal Llangelynnin yn mynd adref yn hwyr un noson a hithau’n ddu fel y fagddu. Wrth basio’r eglwys clywai sŵn o’r ochr arall i wal y fynwent yn y gornel ble mae’r ffynnon. Dychrynodd am ei fywyd a chuddio gan ofni fod bwgan yno. Yna aeth yn ddistaw bach ac edrych dros y mur. Yno gwelodd wraig ifanc yn magu ei baban yn ei breichiau gan sefyll yn y ffynnon a gweddïo’n uchel iddo wella. Aeth y dyn adref ar ei union gan gymaint ei fraw o weld y wraig druan yno yn y tywyllwch. Mae’r hanes hwn yn dangos yn glir cymaint y dibynnai’r werin ar y ffynhonnau a chymaint eu ffydd yn eu dyfroedd.

     Arferiad cyffredin arall gan famau oedd dod â dilledyn plentyn gwan a’i osod i arnofio ar wyneb y dŵr er mwyn darogan ei ffawd. Pe suddai nid oedd fawr o obaith am wellhad. Yn ystod yr ugeinfed ganrif aeth prifathro ysgol leol â chriw o blant i weld y ffynnon gan sôn wrthynt am yr hen draddodiadau. Cymerodd arno ei fod yn dad i blentyn gwael yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cariodd y bachgen lleiaf yn yr ysgol at y ffynnon a chymerodd gerpyn i gynrychioli dilledyn y baban gwan. Rhoddodd y cerpyn ar wyneb y dŵr ond suddodd hwnnw bron ar unwaith. Dechreuodd y bachgen feichio crio gan y credai’n siŵr ei fod am farw!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY A’R GLANNAU

gan Gareth Pritchard

(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy a’r glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg. Diolch iddo am y lluniau hefyd.)

FFYNNON GELYNNIN, LLANGELYNNIN 

(SH751737)

Mae Ffynnon Gelynnin yn union y tu ôl i fur mynwent yr eglwys ar y chwith wrth fynd i mewn drwy’r giât o’r ffordd. Mae mewn man diarffordd ond arferai mamau gario’u plant gwan i fyny’r ffordd hir a serth at y ffynnon gan obeithio y byddai eu trochi yn y dŵr yn adfer eu hiechyd. Yng nghwr de-orllewinol y fynwent ceir ffynnon gysegredig yn llawn o ddyfroedd rhinweddol. Diogelir hi gan waliau cerrig uchel, a gellid tybio y bu to uwch ei phen mewn rhyw oes. Arferid dod â chleifion a gweinion yr ardal a’r cwmpasoedd i ymolchi yn y dyfroedd hyn; ac ymddengys y byddai llawer yn cael “lles mawr trwy hynny”. Tua 1898 roedd gŵr o ardal Llangelynnin yn mynd adref yn hwyr un noson a hithau’n ddu fel y fagddu. Wrth basio’r eglwys clywai sŵn o’r ochr arall i wal y fynwent yn y gornel ble mae’r ffynnon. Dychrynodd am ei fywyd a chuddio gan ofni fod bwgan yno. Yna aeth yn ddistaw bach ac  edrych dros y mur. Yno gwelodd wraig ifanc yn magu ei baban yn ei breichiau gan sefyll yn y ffynnon a gweddïo’n uchel iddo wella. Aeth y dyn adref ar ei union gan gymaint ei fraw o weld y wraig druan yn y tywyllwch. Mae’r hanes hwn yn dangos yn glir cymaint y dibynnau’r werin ar y ffynhonnau a chymaint eu ffydd yn eu dyfroedd. Arferiad arall gan famau oedd dod â dilledyn plentyn gwan a’i osod i arnofio ar wyneb y dŵr er mwyn darogan ei ffawd. Pe suddai nid oedd fawr o obaith am wellhad. Yn ystod yr ugeinfed ganrif aeth prifathro lleol â chriw o blant i weld y ffynnon gan sôn wrthynt am yr hen draddodiadau. Cymerodd arno ei fod yn dad i blentyn gwael yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cariodd y bachgen lleiaf yn yr ysgol at y ffynnon a chymerodd gerpyn i gynrychioli dillad y plentyn gwan. Suddodd hwnnw bron ar unwaith. Dechreuodd y bachgen feichio crio gan y credai’n siŵr ei fod am farw!

Cyfarfyddodd Eirlys Gruffydd â dyn o Ro-Wen wrth ddod i lawr o’r fynwent, a sicrhaodd hi fod rinwedd mawr yn Ffynnon Gelynnin. Dywedodd am ryw wraig a adwaenai ef yn dda, a gymerodd blentyn egwan ac afiach, ac fe’i trochodd yn y ffynnon, a’r canlyniad fu iddo gryfhau o’r awr honno allan, ac y mae'r plentyn hwnnw yn fyw ac iach heddiw. Arferid cario’r plant a’r rhai gwan oedd wedi eu trochi rhyw ganllath i Gae Iol. Gellir gweld adfeilion yr adeilad hwnnw hyd heddiw.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY A’R GLANNAU

gan Gareth Pritchard

(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy a’r glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg. Diolch iddo am y lluniau hefyd.)

FFYNNON GWYNWY (SH754735)

Mae’r ffynnon hon rhyw chwarter milltir o eglwys Llangelynnin. Gellir dod o hyd iddi wrth gerdded i lawr lôn gul o’r eglwys i gyfeiriad Ro-wen. Mae’n gorwedd mewn tir gwlyb ar ochr chwith y lôn. Roedd yn enwog am ei gallu i wella defaid ar ddwylo. Rhaid oedd gollwng pin wedi ei blygu i’r ffynnon cyn golchi’r ddafad yn y dŵr. Pe na wneid hyn ni fyddai dŵr y ffynnon yn clirio’r ddafad, a dweud y gwir, byddai defaid cleifion eraill yn trosglwyddo eu hunain i ddwylo’r claf! Yn ôl Myrddin Fardd byddai cyffwrdd y pinnau a oedd eisoes wedi eu taflu i’r ffynnon yn cael yr un effaith yn union. Ffynnon fechan yw hon, rhyw droedfedd a hanner o hyd a throedfedd o led. Roedd yn boblogaidd iawn oddeutu canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gellid gweld bod gwaelod y ffynnon wedi ei orchuddio â phinnau. Ni fydd y ffynnon hon byth yn sychu, hyd yn oed yn y tywydd poethaf.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up