LLANGYBI, EIFIONYDD
FFYNNON GYBI
(SN 427412)
Diolci i Twm Elias am dynnu ein sylw at y darn yma ar
dudalen 117 o lyfr Francis H. Glazebrook, Anglesey
and the North Wales Coast a gyhoeddwyd yn 1964:
Smugglers. a certain amount of smuggling was done at Porth Dinllaen in
the 18th century, and parties of smugglers would set out from quite
distant villages to meet cargoes of spirits and other contraband landed in the
bay. One such party was returning home with a number of casks containing spirits
when they were stopped by the excise officer. On being questioned they replied
that the casks contained water from Saint Cybi’s Well and that they were on
their way to the consignee. So common was the practice in those times for people
to carry the health-giving waters of the well to their homes that no suspicion
appears to have been roused and the party was allowed to proceed on its way.
Mae’r darn difyr yma yn rhoi darlun clir i ni o bwysigrwydd ffynnon fel Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd, i bobl yr ardal yn y gorffennol. Diolch i ddyfeisgarwch y smyglwyr cadwyd y cofnod diddorol hwn, i ni gael ei werthfawrogi heddiw.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFILMIO’R FFYNHONNAU
Eirlys
Gruffydd
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Ar ol ddilyn y ffordd i Bwllheli am rhai milltiroedd rhaid oedd troi oddi
arni a dilyn yr arwyddion at Ffynnon
Gybi, (SH428414) Llangybi. Y peth cyntaf sy’n taro rhywun wrth gerdded at y
fynnon yw adfeilion yr adeilad a godwyd dros faddon y ffynnon a’r hyn sy’n
weddill o dy ceidwad y ffynnon. Mae maint y cerrig a ddefnyddiwyd yn syfrdanol.
Bu cymaint yn ymweld a’r ffynnon hon i geisio iachad nes y codwyd ty bach
pwrpasol iddynt a’r dwr o’r gofer yn llifo drwyddo heb fod ym mhell iawn
o’r ffynnon. Mae llygad y ffynnon y tu ol i’r adeilad a grisiau’n disgyn
at y dwr. Yn y fan yma yr yfid y dwr i geisio cael gwellhad ac oddi yma y
cariwyd galwyni ohono i gleifion drwy siroedd y gogledd a thu hwnt. Credid bod y
dwr yn llesol at wella golwg gwan a defaid ar y dwylo. Llifa’r
dwr o
lygad y
ffynnon drwy
agen yn
y mur i mewn
i faddon sgwar
o faint sylweddol ac ynddo byddai pobl a ddioddefai o grydcymalau a chloffni yn
gorwedd yn yr ymgais i gael gwellhad.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Cyfeiriadau at
FFYNHONNAU
yn y cylchgrawn
CYMRU
(Casglwyd
gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)
Yng Ngwlad Eben Fardd CYMRU,
IV (1893), tudalen 215:
LLYGAD Y FFYNNON RHIF 18, HAF 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Yn rhifyn 18 o Llygad y
Ffynnon gofynnwyd am wybodaeth am ffynhonnau lle mae’r dŵr yn dal i
gael ei ddefnyddio i fedyddio babanod. Daeth ymateb gan Gwen Evans, Rhuthun.
Defnyddiwyd dŵr Ffynnon Gybi,
Llangybi, Eifionydd mewn bedydd yn ystod yr haf. Ar Orffennaf 10fed yng Nghapel
Moreia, Llanystumdwy, bedyddiwyd Dyddgu Mari Morys a chanwyd emyn o waith ei
thad, y Prifardd Twm Morys. Diolch am gael ei ganiatâd i gyhoeddi’r emyn yn Llygad
y Ffynnon.
Ffynnon Gybi, Eifionydd
Yng nghysgod Garn Bentyrch ym mhlwyf Llangybi mae Ffynnon Gybi. Yno yng
nghanol coed derw, a’r mynydd yn gwmpeini, y cododd Cybi Sant ei gell,
fileniwm a hanner yn ôl. A dŵr o’i ffynnon o ydi dŵr y bedydd yn y
gwasanaeth yma.
FFYNNON GYBI
ar y dôn Lausanne
Bûm yn eistedd wrth y Ffynnon
Ac yn syllu i’r dŵr glân,
Ac yn meddwl am Greawdwr
Derw mawr ac adar mân.
Gwrando twrw bach y Ffynnon
A fu’n torri syched sant:
Tybio weithiau imi glywed
Yn ei bwrlwm chwerthin plant.
Megis sŵn y dail yn tyfu,
Megis sŵn adenydd bach,
Megis sŵn traed mân yn cerdded,
Felly sŵn y Ffynnon iach.
Dyma ddafn o ddŵr y Ffynnon
Ar dy dalcen di yn Groes:
Boed Creawdwr coed ac adar
Gyda thi ar hyd dy oes.
LLYGAD Y FFYNNON RHIF 19 NADOLIG 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan o'r PYTIAU DIFYR
Ffynnon Cybi.( SH 42744126)
Ofergoelion yr Hen Gymry
gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol.
FFYNNON-DDEWINIATH‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i
Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.Dweud ansawdd calon cariadau y merched oedd gwaith
Ffynnon Cybi.(SH 42744126) Pan y byddai merched yn yr hen amser mewn pryder mawr yn nghylch cywirdeb eu cariadau, ac eisiau gwybod amdanynt pa un a wnaent ai priodi ai peidio, dywedai Ffynnon Cybi wrthynt yn lled fuan. Byddai raid i’r ferch fyned at y ffynnon, a thaenu ei chadach poced yn berffaith gywir dros wyneb y ffynnon; ac i ba gongl bynnag o’r ffynnon y gweithiai tarddiad y ffynnon y cadach, yn ôl hynny y byddai'r dynged i fod. Os i gongl y De y gweithiau y cadach, byddai pob peth yn dda; ond os i gongl y Gogledd y gweithiau hi, yn y gwrthwyneb y byddai pethau i fod. Beth bynnag a ddywedai y ffynnon ai y ferch adref ac ymddygai at ei chariad yn ôl y dystiolaeth a dderbyniasai. Peth naturiol, ar ôl i’r ferch dderbyn rhywbeth fel hyn i’w mynwes, oedd iddo ddyfod allan trwy ei hwyneb a’i thafod ac felly ddylanwadu ar feddwl y llanc.LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
YNG
NGWLAD EBEN FARDDallan o CYMRU Cyfrol IV Ebrill 15fed 1833 tud. 215
Cychwynasom o bentref Llangybi (SH 4241) drwy’r fynwent at droed y Garn. Yno ar fin y coed sydd ar y llethr, y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu mewn i’r mur. Yn ymyl y mae tŷ, - a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo – lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Crybwyllir
Ffynnon Gybi, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitlFFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU
Linc
30 Haf 2011LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc