Home Up

LLANILAR  

 

GORSWGAN

(SN594737)

Yn ddiweddar bu Erwyd Howells, Ponterwyd yn brysur iawn yn glanhau ffynnon ar dir fferm Mr a Mrs Meirion Davies sef Gorswgan yn ardal Llanilar ger Aberystwyth. Roedd tipyn o waith glanhau arni gan ei bod wedi llenwi efo llaid. Torrwyd coes y rhaw yn y fargen! Tynnwyd sylw Erwyd at y ffynnon gan Mr Gareth Evans o Aberystwyth. Cofia ef ryw hen fodryb iddo (Bodo), yn gofyn am ddŵr o’r ffynnon hon i olchi ei llygaid. Tynnwyd llun y ffynnon gan Seiriol Dafydd. Ei chyfeirnod map yw SN594737

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up